Agenda item

Alldro Cyllideb Refeniw 2020-21

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am berfformiad ariannol refeniw'r Cyngor ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021. Ar 26 Chwefror 2020, cymeradwyodd y Cyngor gyllideb refeniw net o £286.885 miliwn ar gyfer 2020-21. Fel rhan o'r Fframwaith Rheoli Perfformiad, cafodd yr amcanestyniadau cyllideb eu hadolygu'n rheolaidd a'u hadrodd i'r Cabinet bob chwarter. Cafodd y cyflawniad o’r gostyngiadau cyllideb a gytunwyd arnynt ei hadolygu hefyd a'i hadrodd i'r Cabinet fel rhan o'r broses hon.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid fod blwyddyn ariannol 2020-21 wedi bod yn flwyddyn unigryw a chymhleth o ran rheoli sefyllfa ariannol y Cyngor yn bennaf o ganlyniad i bandemig Covid-19. Roedd newidiadau sylweddol wedi digwydd drwy gydol y flwyddyn wrth i amgylchiadau newid, ac i wasanaethau dderbyn cefnogaeth mewn gwahanol ffyrdd i gyflawni canlyniadau yn y ffordd orau bosibl. Sefydlwyd cronfa Caledi Covid-19 o £188.5 miliwn yn gynnar gan Lywodraeth Cymru, ac roedd y Cyngor wedi gallu ei defnyddio ar gyfer cymorth ariannol. Bu’r Cyngor yn hynod lwyddiannus o ran sicrhau cefnogaeth i lawer o'r costau ychwanegol ynghyd â cholledion hawliadau incwm. Daeth rhai o ganlyniadau'r llwyddiant hwn i'r amlwg yn ystod chwarter olaf y flwyddyn ariannol gan roi sefyllfa fwy ffafriol i'r Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn na'r disgwyl. Cyfanswm yr hawliadau yn erbyn cronfa Caledi Llywodraeth Cymru oedd £21.5 miliwn, a dim ond £882,000 a wrthodwyd. Y newid sylweddol arall rhwng chwarter 3 a chwarter 4 oedd y cyfraniad o £1.261 miliwn gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2021 i gydnabod y cyfraddau casglu treth gyngor is a gafwyd gan Gynghorau yn 2020-21 o ganlyniad i bandemig Covid-19. Llwyddodd y Cyngor ddefnyddio rhywfaint o'r arian hwn i fuddsoddi i helpu i gyflymu adferiad y Fwrdeistref Sirol yn sgil COVID ac i gefnogi ei thrigolion. Amlinellwyd y meysydd buddsoddi allweddol yn Atodiad 1 i'r adroddiad a dangoswyd cyllideb refeniw net y Cyngor a'r alldro terfynol ar gyfer 2020-21 yn Nhabl 1 yr adroddiad.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod yr alldro cyffredinol ar 31 Mawrth 2021 yn danwariant net o £432,000 a drosglwyddwyd i Gronfa'r Cyngor, gan ddod â chyfanswm balans y Gronfa i £9.771 miliwn yn unol ag Egwyddor 9 y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS). Darparodd cyfanswm cyllidebau'r Gyfarwyddiaeth danwariant net o £5.479 miliwn, a chyllidebau'r Cyngor Cyfan danwariant net o £11.726 miliwn. Roedd y Cyngor mewn sefyllfa i ddefnyddio'r arian ar gyfer 2020-21 i ariannu amrywiaeth o fentrau i alluogi'r Cyngor i liniaru risgiau ac ymrwymiadau gwariant yn awr ac yn y dyfodol er mwyn talu costau penodol fel ym mharagraff 4.1.1 ac Atodiad 1. Roedd y sefyllfa net hefyd yn ystyried tanwariant net o £1.702 miliwn ar incwm y dreth gyngor yn ystod y flwyddyn ariannol. Roedd y sefyllfa alldro hefyd wedi'i effeithio gan gyllid grant annisgwyl a chynyddu ffrydiau ariannu grantiau i'r eithaf ers chwarter 3 yng nghyllidebau'r Gyfarwyddiaeth o dros £2.361 miliwn a £2.393 miliwn mewn Cyllidebau ar draws y Cyngor - cyfanswm o £4.754 miliwn.Pwysleisiodd na fyddai'r Awdurdod wedi bod yn ymwybodol o'r ffrydiau ariannu hyn wrth bennu a chymeradwyo ei gyllideb ar gyfer 2020-21 a bod y rhan fwyaf o'r grantiau ychwanegol yn rhai untro o ganlyniad i bandemig Covid-19.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid y ffyrdd yr oedd Covid 19 wedi cael effaith ar sefyllfa ariannol y cyngor fel yn nhabl 4.1.12 yr adroddiad. Dangosodd Tablau 3 a 4 yr hawliadau a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru yn 2020-21 a chanlyniad yr hawliadau.  Dangosodd Tabl 5 y gostyngiadau eithriadol yng nghyllideb y flwyddyn flaenorol a thabl 6 oedd monitro gostyngiadau yn y gyllideb. Roedd Tabl 7, Gostyngiadau Eithriadol yn y Gyllideb yn cynnwys manylion ynghylch pam nad oedd rhai wedi'u cyflawni.  Cafodd crynodeb o'r sefyllfa ariannol ar gyfer pob prif faes gwasanaeth ei gynnwys yn Atodiad 4 i'r adroddiad a darparwyd sylwadau ar yr amrywiannau mwyaf arwyddocaol.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid fod y tanwariant o'r arian ychwanegol yn ffactor sylweddol a oedd yn cuddio’r hyn a oedd yn dal i fod yn sefyllfa ddiffygiol sylfaenol mewn llawer o'r Cyfarwyddiaethau ac mewn llawer o'r ysgolion. Roedd gan Gludiant o'r Cartref i'r Ysgol a Gofal Cymdeithasol i Oedolion orwariant cyfunol o £2 filiwn. 

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid at yr ysgolion a'r newid sylweddol ym malansau ysgolion, o ragweld cyfanswm o £108k o warged i £8.4 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn, a'r rhesymau pam y cawsant eu derbyn. Byddent yn cael eu rheoli yn unol â phrotocolau ariannol a'u gwario yn unol â'r telerau ac amodau. Dangosodd Tabl 8 y cyllid a dynnwyd, dangosodd Tabl 9 safle diwedd y flwyddyn a dangosodd Tabl 10 safle Cyfanswm y Gronfa.   

 

Esboniodd yr Arweinydd fod adroddiadau rheolaidd yn cael eu gwneud a'r prif newid yn y chwarter diwethaf oedd y tâl a gafwyd gan Lywodraeth Cymru a grantiau ychwanegol. Roedd yr adroddiad wedi'i gyhoeddi a gallai'r aelodau gysylltu â'r swyddogion os oedd ganddynt unrhyw gwestiynau. 

 

Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd fod y ffigurau yn yr adroddiad yn afreal ac na ellid bod wedi'u rhagweld pan bennwyd y gyllideb flynyddol. Diolchodd i'r Tîm Cyllid am y cymorth yr oeddent wedi'i roi i fusnesau lleol ac am yr ymdrech anhygoel yr oeddent wedi'i wneud. Diolchodd hefyd i Lywodraeth Cymru, gan y byddai'r awdurdod mewn sefyllfa wahanol iawn oni bai am eu cefnogaeth.

 

PENDERFYNIAD:                 Fod y Cabinet wedi nodi’r sefyllfa alldro refeniw ar gyfer 2020-21.

   

Dogfennau ategol: