Agenda item

Alldro Cyllideb Refeniw 2020-21

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad i roi'r newyddion diweddaraf ynghylch perfformiad ariannol y Cyngor o safbwynt refeniw ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021.

 

Fel cefndir, roedd yr adroddiad yn atgoffa'r Aelodau fod y Cyngor, ar 26 Chwefror 2020, wedi cymeradwyo cyllideb refeniw net o £286.885 miliwn ar gyfer 2020-21. Yn rhan o'r Fframwaith Rheoli Perfformiad, caiff amcanestyniadau o'r gyllideb eu hadolygu'n rheolaidd a'u hadrodd gerbron y Cabinet ar sail chwarterol. Bydd y broses o weithredu gostyngiadau cytunedig i'r gyllideb hefyd yn cael ei hadolygu, ac adroddir am hynny gerbron y Cabinet yn rhan o'r broses hon.

 

Esboniodd fod blwyddyn ariannol 2020-21 wedi bod yn flwyddyn unigryw a chymhleth wrth reoli sefyllfa ariannol y Cyngor, a hynny'n bennaf o ganlyniad i bandemig Covid-19. Cafwyd newidiadau sylweddol drwy gydol y flwyddyn wrth i amgylchiadau newid, ac wrth gefnogi gwasanaethau mewn gwahanol ffyrdd i greu'r dulliau gorau posib o sicrhau canlyniadau. Sefydlwyd Cronfa Galedi Covid-19 gwerth £188.5m yn fuan gan Lywodraeth Cymru, ac roedd modd i'r Cyngor dderbyn cymorth ariannol o'r gronfa honno.

 

Roedd y Cyngor wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus wrth sicrhau cefnogaeth ar gyfer y costau ychwanegol a ysgwyddwyd, ynghyd â cheisiadau am incwm a gollwyd. Gwnaethom gyflwyno ceisiadau am gyfanswm o £21.5 miliwn o Gronfa Galedi LlC, a dim ond ceisiadau gwerth £882,000 a wrthodwyd.

 

Yn ogystal â'r cymorth a'r gefnogaeth o Gronfa Galedi LlC, cafwyd grantiau penodol er mwyn helpu i glustogi effeithiau COVID ar ddarpariaeth gwasanaethau. Roedd y rhain yn cynnwys TGCh i ddysgwyr wedi'u heithrio'n ddigidol, ad-dalu ffioedd consesiwn a seiberddiogelwch yr awdurdod lleol, ynghyd â chymorth penodol i ysgolion ar gyfer gwasanaethau cwnsela yn yr ysgol, masgiau wyneb a chymorth ar gyfer costau glanhau ychwanegol. Ar ben hynny, cafwyd grantiau penodol yn chwarter olaf y flwyddyn ariannol.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid, mai'r newid sylweddol arall rhwng chwarter 3 a chwarter 4 oedd y £1.261 miliwn o gyfraniad gan LlC ym mis Chwefror 2021, i gydnabod y gostyngiad i'r dreth gyngor a gasglwyd gan Gynghorau yn 2020-21 o ganlyniad i bandemig Covid-19. Roedd meysydd buddsoddi allweddol wedi'u hamlinellu yn yr adroddiad a'u dangos yn fanylach yn Atodiad 1.

 

Roedd cyllideb refeniw net ac alldro terfynol y Cyngor ar gyfer 2020-21 wedi'u dangos yn Nhabl 1 yr adroddiad.

 

Yr alldro cyffredinol ar 31 Mawrth 2021, oedd tanwariant net o    £432,000 sydd wedi'i drosglwyddo i Gronfa'r Cyngor, gan godi cyfanswm balans y Gronfa i £9.771 miliwn yn unol ag Egwyddor 9 y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC).

 

Tynnai Tabl 1 sylw at y newidiadau y cyfeiriwyd atynt o £6.6 miliwn ers chwarter 3 yng Nghyllidebau'r Cyfarwyddiaethau, a newid o £4.549 miliwn yng nghyfanswm y cyllidebau ar gyfer y Cyngor Cyfan. Yn Nhabl 2 yr adroddiad, amlygwyd y prif resymau dros y newid, a'r cyllid ychwanegol a dderbyniwyd gan y Cyngor ers chwarter 3 a oedd yn cefnogi'r sefyllfa alldro newydd.

 

Ers chwarter 3, cadarnhaodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod yr awdurdod wedi hawlio £2.144 miliwn o gyllid Caledi yn llwyddiannus, ynghyd ag £1.066 miliwn am incwm a gollwyd gan yr awdurdod o ganlyniad i bandemig Covid-19. Roedd paragraff 4.3 yn yr adroddiad yn cynnwys mwy o fanylion am y symudiadau ers chwarter 3 ar lefel Cyfarwyddiaeth unigol ac yng nghyllidebau'r Cyngor cyfan.

 

Mae'r prif bwysau ariannol ym meysydd gwasanaeth Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol a Gofal Cymdeithasol i Oedolion. Roedd pwysau sylfaenol o £1.864 miliwn ar y meysydd gwasanaeth hynny yn unig. Ychwanegodd fod angen cofio bod y meysydd cyllideb hyn yn gallu bod yn anwadal, ac y gall mân newidiadau yn y galw achosi costau cymharol uchel.

 

Pennwyd y gyllideb net ar gyfer y flwyddyn ariannol gan dybio y byddai'r gostyngiadau cyllidebol gofynnol ar gyfer y flwyddyn gyfredol yn cael eu bodloni'n llawn ar draws cyllideb y Cyngor, sef cyfanswm o £2.413 miliwn. Lle bo cynigion i fodloni'r gofyniad hwn wedi'u oedi neu nad oedd modd eu cyflawni, gofynnwyd i gyfarwyddiaethau nodi cynigion eraill i fodloni eu gofynion, fel rheoli swyddi gwag, neu gyflwyno cynigion eraill i ostwng y gyllideb. Roedd y rhain wedi'u nodi ym mharagraff 4.2.4 yr adroddiad.

 

Roedd rhan nesaf yr adroddiad yn tynnu sylw at effaith pandemig Covid-19 ar ymateb y Cyngor a'r Awdurdod at hyn. Roedd yr wybodaeth yn Nhabl 3 a Thabl 4 yn rhoi manylion pellach am hyn.

 

Roedd Tabl 5 yr adroddiad wedyn yn manylu ar y Ostyngiadau a oedd yn weddill o Gyllideb y Flwyddyn Flaenorol, ac ym mharagraff 4.2.2 yr adroddiad cafwyd manylion ariannol y cynigion hynny a oedd yn dal heb eu cyflawni.

 

Roedd Tabl 6 wedyn yn cynnwys gwybodaeth am fonitro Gostyngiadau Cyllidebol ar gyfer 2020-21. Roedd y cynigion mwyaf sylweddol am ostyngiadau cyllidebol nad oeddent wedi'u cyflawni'n llawn, ac yr oedd angen gweithredu i'w cyflawni yn 2021-22 wedi'u hamlinellu yn Nhabl 7 yr adroddiad.

 

Roedd crynodeb o sefyllfa ariannol pob prif faes gwasanaeth wedi'i gynnwys yn Atodiad 4 yr adroddiad, a sylwadau ar yr amrywiadau mwyaf sylweddol wedi'u cynnwys ym mharagraff 4.3 (fesul Cyfarwyddiaeth).

 

Daeth y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid â'r adroddiad i ben drwy roi gwybodaeth fanwl am Gyllidebau'r Cyngor Cyfan a Chronfeydd wedi'u Clustnodi.

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid am ofalu am faterion ariannol yr Awdurdod yn ystod cyfnod mor anodd dros y 14 mis diwethaf, a chyn hynny. Cymeradwyodd Gronfa Galedi Llywodraeth Cymru, oherwydd heb y  £21.5m o gyllid a dderbyniwyd drwy'r Gronfa honno, byddai'r Cyngor mewn sefyllfa wahanol iawn. Ychwanegodd hefyd y byddai Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn parhau i helpu etholwyr a oedd yn byw ar eu pen eu hunain, neu a oedd ar incwm isel. Byddai'n sicrhau bod pwysau ariannol a oedd o fewn Cyfarwyddiaethau yn parhau i gael eu targedu fel gostyngiadau i gyllidebau yn y dyfodol.

 

Holodd Aelod, pe bai'r Awdurdod yn gwybod ei fod mewn sefyllfa ariannol mor ffafriol, oherwydd y cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru drwy'r Gronfa uchod, a oedd yn cynnwys cynorthwyo'r Cyngor i adennill costau, a fyddai'r Weinyddiaeth yn dal wedi penderfynu cyflwyno cynnydd o 3.9% i'r Dreth Gyngor eleni. Gofynnodd hefyd am esboniad ynghylch pam bod pwysau penodol i'w cael ym maes Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol a Gofal Cymdeithasol i Oedolion.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod y cwestiwn hwn a ofynnai inni edrych am yn ôl oedd, ac ei bod hi'n bosibl y byddai'r ymdriniaeth â'r uchod wedi bod yn wahanol o wybod yr hyn yr oeddem yn ei wybod bellach. Fodd bynnag, nid felly yr oedd ar y pryd, ac fe gymeradwywyd y SATC gan y Cyngor yn gynharach eleni, ar adeg pan oedd yr awdurdod lleol wedi'i gael ei hun mewn sefyllfa ariannol anodd iawn.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar ei bod hi'n ofni'r pwysau a oedd eisoes ar y Gwasanaethau Cymdeithasol, ac yn anffodus roedd hi'n rhagweld y byddai'r pwysau hynny'n parhau yn y dyfodol. Roedd a wnelo'r rhain â Covid-19 a phwysau'n gysylltiedig â Covid Hir, a'r ffaith y byddai unigolion yn parhau i fod angen cymorth drwy'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ac i Blant. Ychwanegodd fod yn rhaid i'r Cyngor a'i bartneriaid ofalu am y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio fod pwysau o hyd ar y gyllideb Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, a hynny'n oherwydd mesurau cynni yn fwy na dim arall. Roedd y cynnig i dorri'r gyllideb Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol yn dal wedi'i gynnwys yn y SATC fel gostyngiad a dargedir. Atgoffodd yr Aelodau y dylid nodi bod y Cyngor yn parhau i ddarparu'r gwasanaeth hwn ar gyfradd a oedd yn fwy hael na'r hyn yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei argymell.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod tri rheswm sylfaenol wrth wraidd y gorwariant parhaus mewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion.  Y rheswm cyntaf oedd demograffeg - bod y boblogaeth yn heneiddio a phobl yn byw'n hirach. Yn ail, o ganlyniad i'r pandemig a'r pwysau a achosodd ar wasanaethau. Y rheswm olaf oedd cost gofal, yn benodol am y gweithlu ac am wasanaethau a gomisiynir, a fyddai'n bwysau a fyddai'n parhau i'r tymor hwy.

 

PENDERFYNWYD:                  Bod y Cyngor yn nodi'r sefyllfa Alldro Refeniw ar gyfer 2020-21.

 

Dogfennau ategol: