Agenda item

Rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu Cwm Taf Morgannwg - Rhaglen Partneriaeth

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad er mwyn cyflwyno Cynllun Atal ac Ymateb Profi, Olrhain a Diogelu Rhanbarth Cwm Taf Morgannwg 2021/2022, i nodi ac amlinellu cyfraniad y Cydwasanaethau Rheoleiddio at gyflawni'r Cynllun.

 

Cyflwynodd Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus ac Arweinydd YaD er mwyn Arloesi a Dave Holland, Pennaeth y Cydwasanaethau Rheoleiddio, i'r aelodau, a fyddai'n rhoi cyflwyniad ar y cyd ynghylch y rhaglen uchod.

 

Yn ôl yr adroddiad, roedd Llywodraeth Cymru wedi llunio ei Strategaeth "Profi, Olrhain, Diogelu" ar 13 Mai 2020 a oedd yn seiliedig ar gyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC). Roedd yn ofynnol i bob rhanbarth ddatblygu cynllun ymateb yn amlinellu sut y byddai nodau'r Strategaeth yn cael eu cyflawni. Mae cynllun ymateb Cwm Taf Morgannwg, a elwir yn Rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu CTM yn cael ei reoli ar sail ôl-troed ranbarthol (CTM) o dan arweinyddiaeth y Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus. Mae Gr?p Goruchwylio Strategol Rhanbarthol aml-asiantaeth a oedd yn cynnwys aelodau o'r Bwrdd Iechyd, o'r Tîm Iechyd Cyhoeddus Lleol a'r tri awdurdod lleol wedi cael ei sefydlu i weithredu'r cynllun ymateb o fewn ardal CTM.

 

Cafodd Cynllun Atal ac Ymateb COVID-19 Cwm Taf Morgannwg ar gyfer 2021/2022, sydd wedi'i gynnwys yn Atodiad 1 yr adroddiad, ei gyflwyno i Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru ym mis Awst 2020.

 

Arweiniodd cynllun 2020/2021 nifer o gamau o bwys, a gyflawnwyd mewn partneriaeth ac yn aml o fewn graddfeydd amser byr, a'r cyfan yn anelu i atal ac ymateb i'r pandemig i leihau'r effaith ar ein cymunedau hyd y gellir. Cafodd y rhain eu cynnwys ar ffurf bwledi, ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.

 

Cafodd y cynllun ei osod yng nghyd-destun 'trem yn ôl' ar ddigwyddiadau yn 2020/2021 a'r gwersi a ddysgwyd. Roedd y cynllun yn rhoi rhywfaint o'r cefndir epidemiolegol, ynghyd â statws cyfredol COVID-19 yn CTM, a'r senarios posibl y mae angen i gymunedau fod yn barod i ymateb iddynt wrth inni symud i mewn i 2021/2022.

 

Ym mis Mawrth 2021, lluniodd Archwilio Cymru adroddiad "Profi, Olrhain, Diogelu yng Nghymru: Trosolwg o'r Cynnydd Hyd Yma "(wedi'i gynnwys yn Atodiad 2 o'r adroddiad).  Dyma'r negeseuon allweddol ar raddfa genedlaethol:

 

           Drwy'r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu, mae gwahanol rannau o sector cyhoeddus a thrydydd sector Cymru wedi cydweithio'n dda, mewn partneriaethau cryf ac effeithiol, i fynd ati'n gyflym i adeiladu rhaglen o weithgareddau sy'n gwneud cyfraniad pwysig at reoli COVID-19 yng Nghymru.

 

           Ceir nifer o gryfderau yn gysylltiedig â chyfluniad y system Profi, Olrhain, Diogelu yng Nghymru, gan gyfuno goruchwyliaeth genedlaethol ag arbenigedd technegol â pherchnogaeth ranbarthol ar y rhaglen, a'r gallu i ddefnyddio dealltwriaeth a gwybodaeth leol i lywio ymatebion.

 

           Bydd y rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu yn parhau i fod yn offeryn allweddol ym mrwydr Cymru â'r firws am gryn amser.

 

Roedd adroddiad Archwilio Cymru yn amlygu nifer o heriau sy'n effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau. Rhoddwyd ystyriaeth i'r rhain wrth ddatblygu cynllun eleni. Rhestrwyd y rhain ym mharagraff 4.5 yr adroddiad.

 

Er cydnabod cynnydd cadarnhaol y rhaglen frechu, ceir ansicrwydd o hyd ynghylch amrywiolion COVID-19 sy'n destun pryder, ac mae angen parhau i fonitro a bod yn ystwyth ac yn hyblyg, er mwyn ymateb i fygythiadau sydd ar ddod.

 

Cyflwynir y gwaith adfer Profi, Olrhain, Diogelu fel darn o waith galluogol a fydd yn sail i'r rhaglen, wrth inni symud, gyda gobaith, o bandemig iechyd i sefyllfa endemig. 

 

Roedd y Cydwasanaethau Rheoleiddio (CRh) hefyd ar flaen y gad wrth i fusnesau gau ar ddechrau'r pandemig, gan roi cymorth a chyngor i nifer o fusnesau. Wrth i'r ddeddfwriaeth esblygu, parhawyd i roi cyngor, gan newid y cyngor yn gyflym yn unol â chyfyngiadau cyfredol. Rhoddodd swyddogion gyngor wedi'i gynllunio'n arbennig i gynorthwyo busnesau â'u cynlluniau i ailagor.

 

Wedyn, gofynnodd yr aelodau nifer o gwestiynau i'r gwahoddedigion.

 

Cyfeiriodd aelod at baragraff 4.10 yr adroddiad a'i gyfeiriad at y Cyd Dîm Gweithredol, hy,  oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Heddlu De Cymru a'r Cydwasanaethau Rheoleiddio. Roedd yn ymwybodol o'r ffaith y gallai hysbysiadau cosb benodedig gael eu rhoi i unigolion a gweithrediadau busnes, am fethu â chydymffurfio â rheolau a rheoliadau sy'n ymwneud â phandemig Covid-19. Gofynnodd a oedd cyfle hefyd i newid ymddygiad pobl fel eu bod yn cael eu haddysgu sut i gydymffurfio â'r rhain, yn lle gorfod wynebu camau gorfodi. O ran y rhai a wynebai ddirwyon cosb benodedig, gofynnodd lle'r oedd yr arian o'r taliadau hynny'n mynd.

 

Cadarnhaodd cynrychiolydd y Cydwasanaethau Rheoleiddio fod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyngor eang ynghylch y rhagofalon angenrheidiol oherwydd y pandemig, ac atgyfnerthwyd hyn yn nhermau busnesau gan dîm y Cydwasanaethau Rheoleiddio. Os nad oedd pobl yn cydymffurfio â'r rhain, yn anffodus byddai angen cymryd camau gorfodi wedyn. Roedd 121 o Hysbysiadau Gwella wedi cael eu cyflwyno i fusnesau hyd yma, am eu bod wedi methu cydymffurfio â chanllawiau rheoleiddio a oedd wedi'u cyflwyno er mwyn gwella arferion diogelwch Covid mewn busnesau. Caewyd 7 busnes o blith y rhain, yn sgil diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hynny. Ychwanegodd fod yr arian a gymerir drwy ddirwyon hysbysiadau cosb benodedig wedyn yn cael ei gyfrannu at y cyllid a ddefnyddir gan y Cydwasanaethau Rheoleiddio a CBSPO i ariannu'r gwasanaeth hwnnw.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 83 yr adroddiad, ac at fap a ddangosai fannau problemus o ran firws Covid. Teimlai fod goruchwyliaeth epidemiolegol yn allweddol i'r rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu yn y dyfodol. Gan mai amrywiolyn Delta oedd y prif straen bellach a'i fod yn achosi rhywfaint o fygythiad i bobl, gofynnodd a oedd unrhyw ddata ar lefel Wardiau, lle'r oedd yr amrywiolyn yn fwyaf cyffredin ar hyn o bryd, yn y Fwrdeistref Sirol. Teimlai fod angen data o'r fath, rhag ofn y ceir trydedd ton o'r salwch yn yr hydref. Byddai'n fuddiol cipio rhywfaint o'r data hyn ar gyfer yr Aelodau, er mwyn gallu hysbysu aelodau eu ward ym mha ardaloedd yr oedd y salwch ar ei uchaf, o gymharu ag ardaloedd eraill.

 

Cadarnhaodd cynrychiolydd y Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus, yn nhermau'r ffigurau cenedlaethol, mai amrywiolyn Delta oedd 70-80% o'r heintiau Covid-19, felly dyna oedd y prif straen a oedd yn bresennol drwy'r wlad ar hyn o bryd. O ran ardal Cwm Taf Morgannwg (CTM), amrywiolyn Delta oedd 100% o'r holl samplau a gymerwyd hyd yma. Yn bendant felly, amrywiolyn Delta oedd y prif amrywiolyn ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd yr amrywiolyn hwn 40% yn fwy heintus nag amrywiolyn Alffa (Caint), ac roedd pobl a oedd yn dal y straen hwn ddwy waith a hanner yn fwy tebygol o orfod mynd i'r ysbyty na phobl oedd yn dal amrywiolyn Alffa. Fodd bynnag, y newydd da oedd nad oedd cynnydd anghyffredin yn nifer yr achosion o hyn, nac yn yr achosion a oedd yn cyrraedd yr ysbyty, ar hyn o bryd yn ardal CTM, yn enwedig ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Yn dilyn hyn, dywedodd yr Aelod, pe bai cynnydd sydyn yn yr achosion Delta yn un neu ddwy o ardaloedd y Fwrdeistref Sirol, byddai'n fanteisiol pe bai modd i Aelodau'r Ward berthnasol gael gwybod hynny, i rannu'r wybodaeth â'u hetholwyr.

 

Gofynnodd Aelod a oedd aelodau'r cyhoedd yn cydymffurfio â'r protocolau fel rheol, hy, yn hunanynysu am y cyfnod gofynnol, os oeddent wedi cael diagnosis o Covid-19. Gofynnodd hefyd os oedd rhai aelodau'r cyhoedd wedi gwrthod brechlyn ar ôl cael y cynnig, a allent newid eu meddwl a'i gael yn ddiweddarach.

 

O ran yr ail bwynt, dywedodd cynrychiolydd y Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus fod ail gyfle o hyd i gael y brechlyn, er enghraifft drwy'r sesiynau clirio/galw heibio.

 

O ran cydymffurfio â'r rheoliadau ac a oedd pobl a oedd yn dioddef y salwch yn hunanynysu, ychwanegodd fod y cyfraddau wedi bod yn uchel drwy gydol y pandemig. Ychwanegodd cynrychiolydd y Cydwasanaethau Rheoleiddio fod y cyfnod hunanynysu hwn yn cael ei fonitro drwy ffonio'r unigolyn yn rheolaidd, a chydymffurfiaeth hefyd yn cael ei orfodi drwy Heddlu De Cymru/y Cydwasanaethau Rheoleiddio. Cafodd busnesau hefyd eu herio a'u cymell yn gryf i anfon unrhyw aelodau o staff adref i hunanynysu, os oeddent yn gwybod eu bod wedi dal y feirws.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd nad oedd hi fyth yn rhy hwyr i unrhyw un gael y brechlyn. Roedd y brechlyn yn ddiogel a'i ganran lwyddo yn uchel, yn nhermau atal pobl naill ai rhag dal y clefyd, neu os oeddent yn ei ddal, eu hatal rhag bod yn ddifrifol wael o ganlyniad i hynny.

 

Yn nhermau data ar lefel y Ward, bu pryderon yn y gorffennol, lle cafwyd cynnydd sydyn yn y salwch yn rhai rhannau o'r Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys Cwm Garw a Phorthcawl er enghraifft. Roedd sefydliadau busnes yn dal i dderbyn gwybodaeth a chyngor, yn enwedig wrth i'r salwch newid ac esblygu, ac roedd angen addasu gwybodaeth a chanllawiau atodol i gyd-fynd â hyn. Canmolodd waith Iechyd, Cydwasanaethau Rheoleiddio a Heddlu De Cymru yn nhermau'r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu, a gweithredu mesurau gorfodi a oedd yn helpu i gadw'r cyhoedd yn iach a diogel.

 

Adleisiodd cynrychiolydd y Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus y sylwadau hyn, ac annog y cyhoedd i gael y brechlyn, gan fod effeithiau'r salwch ar bobl nad oeddent wedi'i gael yn llawer gwaeth nag unrhyw effeithiau niweidiol yn gysylltiedig a'r brechlyn ei hun.

 

Gofynnodd Aelod a fyddai unigolion yn cael eu dwyn gerbron Llys am fethu talu unrhyw Hysbysiadau Cosb Benodedig am dorri rheoliadau Covid-19.

 

Cadarnhaodd cynrychiolydd y Cydwasanaethau Rheoleiddio fod hynny'n digwydd. Fodd bynnag, oherwydd y pandemig roedd ôl-groniad o achosion yn disgwyl gwrandawiad, gan gynnwys yr uchod, a oedd yn droseddau llai difrifol na rhai o'r troseddau o bwys a oedd yn dod gerbron y llys, a oedd felly'n derbyn blaenoriaeth.

 

Cyfeiriodd Aelod at y pwynt bod CTM wedi llunio ffurflen ganslo ar-lein i rai nad oeddent yn gallu dod i'r apwyntiad brechlyn ar eu gwahoddiad, ac roedd y ffurflen honno'n cynnwys cyfle i aildrefnu apwyntiad ar ddyddiad arall. Fodd bynnag, nid oedd hyn wedi'i nodi ar y llythyr gwreiddiol a oedd yn gwahodd pobl i gael brechlyn. Gofynnodd beth oedd yn cael ei wneud o ran ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau bod y ddau lythyr canllaw yn gyson â'i gilydd.

 

Cadarnhaodd cynrychiolydd y Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus y byddai'n mynd ar drywydd hyn ymhellach â'r timau brechu ac yn cysylltu eto i roi ymateb priodol i'r Aelod, y tu allan i'r cyfarfod.

 

Roedd Aelod yn awyddus i barhau i atgoffa'r cyhoedd yn gyffredinol ynghylch darpariaethau'r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu, er mwyn codi ymwybyddiaeth yn barhaus ynghylch y salwch a'i effeithiau, wrth i gymdeithas ailagor, yn enwedig yn sgil amrywiolyn Delta.

 

Cydnabu cynrychiolydd y Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus hyn, ond ychwanegodd pe bai'r rhaglen frechu'n parhau ar ei chyflymder presennol, a bod y wlad yn cyrraedd sefyllfa imiwnedd torfol, hy 80-90% o bobl wedi'u brechu, ni fyddai angen cymaint o gyhoeddusrwydd ar gyfer yr ymgyrch Profi, Olrhain, Diogelu flaenorol gan y byddai gan gymdeithas fwy o reolaeth ar y clefyd. Er y gellid ailystyried hyn yn y dyfodol pe bai angen, hy gweithredu'r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu yn llawn unwaith eto pe bai angen. Ar hyn o bryd, serch hynny, nid oedd yn meddwl y byddai angen hynny.

 

Dywedodd Aelod y byddai angen edrych yn fanwl ar apwyntiadau i roi brechlynnau gartref, i'r bobl hynny a oedd yn gaeth i'w gwely neu bobl â namau corfforol. Roedd yn rhaid gwneud trefniadau eraill i rai a oedd yn derbyn apwyntiad i gael brechlyn yn eu practis meddyg teulu ac ati, ond nad oeddent yn gallu mynd i'r apwyntiad am resymau felly. Ychwanegodd fod angen monitro rheoliadau hefyd yng nghyswllt elfennau diogelwch ar gyfer y clefyd, yn achos y bobl hynny a ddefnyddiai gludiant cyhoeddus, hy cadw at y cynllun seddau a glanhau'r bysus yn rheolaidd rhwng llwybrau gwasanaeth.

 

Cadarnhaodd cynrychiolydd y Cydwasanaethau Rheoleiddio fod y rheoliadau'n cynnwys darpariaethau ar gyfer hyn, ond mai Heddlu De Cymru oedd yn gyfrifol am eu monitro, er bod hynny'n digwydd drwy'r Cyd-Dîm Gorfodi.

 

Yn eu tro, daeth y Prif Weithredwr a'r Arweinydd â'r drafodaeth ar y bwnc pwysig hwn i ben, drwy ddiolch i gynrychiolwyr y Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus a'r Cydwasanaethau Rheoleiddio am fod yn bresennol heddiw i ymateb i gwestiynau'r Aelodau. Diolchwyd hefyd am eu gwaith caled a'u hymroddiad yn ystod cyfnod anodd iawn y pandemig - a hynny'n ychwanegol at waith arall y maent yn ei gyflawni o ddydd i ddydd.

 

PENDERFYNWYD:              Bod y Cyngor yn nodi Rhanbarth Cwm Taf Morgannwg - Cynllun Atal ac Ymateb Profi, Olrhain, Diogelu COVID-19 2021/22, a gwaith parhaus y Cydwasanaeth Rheoleiddio wrth gyflawni'r cynllun.

 

 

Dogfennau ategol: