Agenda item

Y Rhaglen Strategol ar gyfer Pobl ym Mhen-y-bont ar Ogwr - Gwella canlyniadau i'r Jonesiaid

Gwahoddwyr:

 

Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Cynghorydd Nicole Burnett - Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Cynghorydd Dhanisha Patel - Aelod Cabinet - Lles a Chenedlaethau Dyfodol

Jackie Davies - Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Laura Kinsey - Pennaeth Gofal Cymdeithasol I Blant

Andrew Thomas - Rheolwr Grwp - Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol

Pete Tyson - Rheolwr Grwp - Comisiynu

Cofnodion:

Cafwyd cyflwyniad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles o’r enw 'Ailosod Rhaglen Strategol Busnes Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (SSWB)', ac eglurodd y byddai'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion, y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant a’r Rheolwr Gr?p - Atal a Lles oll yn fodlon i ateb cwestiynau gan yr Aelodau yn dilyn y cyflwyniad.

 

Wedi i’r adroddiad gael ei gyflwyno, gofynnodd Aelodau'r Pwyllgor y cwestiynau canlynol:

 

Cyfeiriodd Aelod at yr ymrwymiad i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i bob gofalwr, a gofynnodd sut y byddai hyn yn cael ei gyflawni yn y gwasanaethau a gomisiynwyd. Roedd hi'n hoff o ddulliau sy'n ffocysu ar yr unigolyn, ond gofynnodd sut byddai hynny’n edrych unwaith y bydd wedi’i gyflawni. Roedd yr Aelod yn ymwybodol o'r problemau o ran recriwtio a chadw gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol, yn enwedig o ran taliadau atodol ar sail y farchnad, ac roedd yn cydnabod fod hyn yn broblem enfawr. Gofynnodd hefyd sut y byddai sefyllfa sero net a charbon niwtral yn cael ei gyflawni mewn perthynas â’r SSWB a sut y byddai Iechyd yn cyfrannu at hynny.

 

Gofynnodd Aelod hefyd, mewn perthynas â recriwtio, a oedd yr awdurdod lleol yn ddibynnol ar asiantaethau, a faint yn fwy y byddai staff asiantaeth yn ei dderbyn fel tâl.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod ymrwymiad wedi'i wneud, a bod adroddiad wedi’i gyflwyno i'r Cabinet ynghylch sut y gosodwyd y cyflog byw gwirioneddol ymlaen llaw fel rhan o'r broses a gomisiynwyd. Felly, roedd y ffordd yr oedd yr awdurdod lleol yn comisiynu wedi newid, ac roedd adroddiad ar ei ffordd i'r Cabinet ar sut y byddai'r broses yn cael ei newid o ran gofal seibiant. Yn hytrach na mynd allan a chomisiynu a chreu ras i'r gwaelod o ran pris a thâl, yr awdurdod lleol fydd yn pennu'r gyfradd gyflog ddisgwyliedig ac yna byddai gweddill y tendr yn cael ei farcio ar ansawdd. Yr adborth oedd y byddai hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i weithwyr ac y byddai'n gymorth mawr wrth gadw staff yn y sector gofal. Yn dilyn cyfarfod gyda'r Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol roedd wedi gofyn am amserlen o ran pryd y byddai cyllid ar gyfer cyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol yn cyrraedd, a chafodd gadarnhad y byddai'n sicrhau y byddai'n cael ei flaenoriaethu ac y byddai'n cael ei gyflwyno. Dywedodd yr Aelod Cabinet mai hanfod y peth, yn ei barn hi, oedd gwobrwyo'r rhai sydd yn gofalu am bobl. Roedd yr awdurdod lleol yn gwneud cymaint ag y gallai ond roedd hwn yn bwysau cyllidebol enfawr y byddai angen ei gario i’r dyfodol.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod ganddi gyfrifoldeb dros y gweithlu ar draws y sector cyfan ac mai hynny oedd ei chyfrifoldeb pennaf, felly roedd yn hynod galonogol cael cefnogaeth Craffu ynghylch rhai o'r pethau yr oeddent yn ceisio eu datblygu. O ran y dulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, roedd llawer o'r targedau a'r mesurau yn dargedau ansoddol, gydag adolygiad ar y gweill o'r fframwaith sicrhau ansawdd a'r ffordd y cynhelir archwiliadau ffeiliau achos, yn ogystal â gwrando ar leisiau pobl a'u profiadau. Pan fo’r archwiliadau ffeiliau achos hynny'n digwydd, os nad yw llais y person / person ifanc / plentyn / oedolyn yn atseinio neu i’w glywed yn gryf o fewn yr asesiad neu'r cynllun gofal, yna byddai angen gweithio ar hynny a mynd i'r afael ag ef. Mae'n un o'r pethau yr oedd ymarferwyr yn cael ychydig o drafferth ag ef o ran cofnodi, ac roedd cofnodi yn cael ei flaenoriaethu yn rhaglen hyfforddi. Gyda thargedau rhifol, gallai dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn gael ei adlewyrchu ar ffurf nifer y bobl sy'n defnyddio gwahanol fathau o wasanaethau oherwydd eu bod am fod yn annibynnol, a gallai llai o ddibyniaeth ar ofal neu gyfleoedd dydd fod yn ddangosydd rhifol.

 

Eglurodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant ei bod ar fin dweud rhywbeth tebyg, gan y byddai modd gweld 'sgyrsiau am yr hyn sy'n bwysig' yn cael eu cofnodi ar gofnodion dinasyddion. Dylai Gweithwyr Cymdeithasol fod yn cael y sgyrsiau hynny gyda’r bobl sydd wedi derbyn gwasanaethau, gan ofyn pa bethau sy'n bwysig iddynt, a dyna fyddai'r gwasanaeth eisiau ei weld mewn gweithgarwch archwilio ffeiliau achos ac mewn adborth blynyddol. Gyda dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, o ran plant, drwy adeiladu ar gryfderau pobl ceir gwell tebygolrwydd o dderbyn beth yw’r problemau, gan ganolbwyntio ar eu cryfderau, ac felly'n cant eu grymuso i oresgyn yr anawsterau hynny. O ran mesurau meintiol, y gobaith yw y bydd y gwasanaeth yn gweld llai o blant mewn sefyllfaoedd peryglus e.e. llai o blant ar y gofrestr amddiffyn plant. Y targed meintiol arall fyddai cael llai o blant â phrofiad o ofal ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gan fod y gwasanaeth wedi grymuso teuluoedd i oresgyn eu hanawsterau ac i ganiatáu i bobl ddod i helpu'r plant hynny i fyw'n ddiogel gydag aelodau o'r teulu.  Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod Rheoleiddwyr hefyd yn edrych ar y gwasanaeth.

 

Eglurodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod dull sy’n seiliedig ar gryfder a chyda ffocws ar ganlyniadau wedi'i hen sefydlu mewn rhai rhannau o'r gwasanaeth e.e., y gwasanaeth ail-leoli. Bellach, y gwaith yw ehangu hynny ar draws y gwasanaeth cyfan, yn fewnol yn ogystal ag yn y gwasanaethau a gomisiynwyd yn annibynnol. Mae’n golygu treulio amser yn datblygu'r berthynas er budd y nodau hirdymor, gan weithio gyda'r person hwnnw i gyflawni'r canlyniadau hynny, a thrwy hynny roi gwydnwch iddynt. Byddai hyn yn cael ei ystyried yn yr hyn y mae'r person yn ei ddweud wrth y gwasanaeth, ac yn cael ei gofnodi gan ddefnyddio astudiaethau achos, drwy ddysgu, a thrwy ymgorffori'r diwylliant hwnnw ar draws ein gweithlu cyfan, o fewn y cyngor ac yn y sector annibynnol.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod yr awdurdod lleol ymhell ar y blaen i awdurdodau eraill ar hyn. Fel gwasanaeth, mae'r dull blaengar o ymdrin â'r model sy'n seiliedig ar ganlyniadau yn caniatáu i arbedion effeithlonrwydd gael eu gwneud heb unrhyw effeithiau negyddol ar breswylwyr. Yr hyn sy'n anffodus yw na ellir ail-fuddsoddi'r arbedion hyn yn ôl yn y gwasanaeth er mwyn caniatáu gwneud mwy o arbedion effeithlonrwydd ar sail canlyniadau, ond eu bod yn hytrach yn gorfod cael eu cynnig fel rhan o broses dorri costau.  Pe bai buddsoddiad mewn atal y rheng flaen, byddai costau'n gostwng.

 

Nododd Aelod nad oedd ei chwestiwn wedi'i ateb mewn perthynas â bod yn garbon niwtral net sero. Yn ogystal, nododd fod Blaenau Gwent wedi rhoi lwfans o £26 y mis i staff weithio o gartref. Er ei bod yn gwerthfawrogi bod hyn yn fwy o drafodaeth gorfforaethol, roedd dal angen ystyried costau ychwanegol pobl yn gweithio o gartref, yn enwedig y rhai nad oeddent yn cyrraedd trothwy treth.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, o ran gweithio o gartref, ei fod yn ddarn o waith corfforaethol a oedd yn perthyn i lefel y Bwrdd Rheoli Corfforaethol (CMB). Roedd arolwg wedi’i ddanfon i bob Rheolwr Gr?p i edrych ar ofynion busnes wrth symud ymlaen gyda gofyniad Llywodraeth Cymru. Yn ogystal, roedd arolwg staff ar y gweill. Bydd model gweithredu'r Cyngor yn y dyfodol cael ei lunio o hyn, ac roedd yn debygol o fod yn ddull cyfunol parhaus. Bu cyfle, felly, i edrych ar y model Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles tra bod y gwaith corfforaethol yn digwydd, ac i gyflwyno achosion busnes ar gyfer grwpiau penodol o staff. Oherwydd natur timau gwaith cymdeithasol, roedd rhai o'r achosion busnes hynny wedi’u cyflwyno ac wedi'u cymeradwyo yn y canolfannau, sydd wir yn fodel cyfunol. O ran yr agenda carbon niwtral, roedd Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yn rhan o grwpiau ar draws y Cyngor sydd yn edrych ar y cyfleusterau a redir, er bod hyn mewn cyfnod cynnar iawn.

 

Eglurodd Rheolwr y Gr?p - Atal a Lles fod ystod eang mewn ffocws, yn enwedig gyda'r partneriaethau Halo ac Awen, a hynny oherwydd costau ynni. O ran Life Centre Pen-y-bont ar Ogwr, y bwriad oedd cael rhwydwaith gwres integredig, gyda'r ddwy bartneriaeth yn canolbwyntio ar adenillion clyfar sy'n ailgylchu’r ynni a grëir gan yr adeilad er mwyn cefnogi asedau eraill, gan gynnwys y Swyddfeydd Dinesig o bosibl. Yn y ddwy bartneriaeth, canolbwyntiwyd hefyd ar fuddsoddi mewn adenillion clyfar e.e. mae goleuadau LED a blancedi pwll wedi'u cynnwys yn y rheolaeth flynyddol o gontractau ac o fewn cynllunio contractau, er bod y ddau beth oddi ar y llyfrau o ran cyflawni targedau’r awdurdod lleol a’n cael eu hystyried fel cyfraniad y bartneriaeth.  Roedd cynlluniau i edrych ar safleoedd sy’n cynnig cyfleoedd, gwasanaethau a chyngor ar y cyd, gan leihau nifer yr asedau sydd eu hangen yn y dyfodol, gyda Landlordiaid Corfforaethol yn edrych ar amrywiaeth o fuddsoddiadau clyfar ar draws rhwydwaith Canolfannau Cymunedol ac mewn asedau cymunedol y cyngor, gan gefnogi Sefydliadau Trydydd Sector a oedd yn cyflawni mewn partneriaeth â'r awdurdod lleol, a hynny er mwyn bod mor gynaliadwy â phosibl.

 

Nododd yr Aelod nad oedd y GIG wedi cael ei grybwyll fel partner. Cydnabu’r Rheolwr Gr?p efallai nad oeddent am gymryd rhan eu hunain, ond roedd yn teimlo y dylent gan fod ganddynt ddyletswydd a chyfrifoldeb hefyd.

 

Eglurodd Rheolwr y Gr?p - Atal a Lles y bu llawer o drafodaethau ar sut i ehangu'r cydberthnasau hynny, gan fod ymgyrch i gael mwy o bethau ar gael yn y gymuned e.e., rhaglenni gofal cymalau a chanser newydd mewn lleoliadau hamdden. Nid oedd cystal ag y gallai fod, ond roedd y trafodaethau cywir yn cael eu cynnal.

 

Dywedodd Aelod nad oedd effaith Covid hir yn hysbys ar hyn o bryd, er ei fod yn effeithio ar lawer mwy o bobl iau, a bod goblygiadau iechyd yn dod yn ei sgil, a gofynnwyd a oedd unrhyw waith wedi'i wneud mewn perthynas â hyn.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod llawer o waith yn cael ei wneud ar y mater hwn o safbwynt Gofal Cymdeithasol. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fframwaith adsefydlu ac wedi nodi cynnydd yn yr angen am wasanaethau adsefydlu o ganlyniad i nifer o ffactorau, ac yn amlwg roedd Covid-19 hir yn un o'r rhesymau pam fod mwy o alw am adsefydlu a gofal cymdeithasol mwy hirdymor. Roedd hwn yn fater mawr o ran modelu ar gyfer y dyfodol, i weithio gyda'r GIG i edrych ar sut y cefnogwyd adsefydliad pobl. Yn ogystal â hyn, roedd yn bwysig hefyd i ddeall yr effaith ar y gweithlu o ran salwch tymor hwy a'r gallu i weithio.

 

Eglurodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion eu bod yn hynod ymwybodol, yn ystod y 6 mis diwethaf, bod lefel cymhlethdod yr unigolion a oedd yn dod drwy wasanaethau yn y gymuned gydag anghenion uwch nag yr oedd chyn Covid-19. Roedd rhywfaint o hynny'n ymwneud â'r fframwaith adsefydlu, ond roedd rhywfaint oherwydd unigolion â Covid hir hefyd.  Mae’n golygu gweithio ar y cynllun adfer gyda chydweithwyr yn y Bwrdd Iechyd i geisio mynd i'r afael â rhai o anghenion iechyd y boblogaeth. Roedd rhwydweithiau wedi'u hehangu o ran gweithwyr proffesiynol, a lle’r oeddent gynt yn cynnwys nyrsys ardal, gweithwyr cymdeithasol a therapyddion galwedigaethol, erbyn hyn roeddent yn cynnwys nyrsys seiciatrig cymunedol a therapyddion eraill a oedd yn gweithio yn y timau hynny hefyd. Yr oedd yn ymwneud â chefnogi’r bobl hynny i barhau i fyw, a'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw, a byddai hyn yn cael ei wneud am gryn amser mewn cymunedau ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Gofynnodd Aelod, mewn perthynas â gofal oedolion, sut y mae’r awdurdod lleol ymdrin â’r mater sensitif o symud person i ofal cartref, a’r awdurdod lleol yn dechrau talu, ond pan fo’r person hwnnw ag eiddo ac adnoddau eraill y byddai angen eu hystyried wrth dalu am y gwasanaeth parhaus.

 

Roedd gan Aelod gwestiwn pellach hefyd mewn perthynas â thaliadau am ofal, a gofynnodd beth oedd yn digwydd o ran taliadau pan fo person a fyddai wedi bod mewn ysbyty wedi gorfod cael gofal diwedd oes yn y cartref oherwydd Covid-19. A yw'r awdurdod lleol yn talu’r bil, ac a welwyd cynnydd enfawr.

 

Eglurodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod y broses codi tâl yn cael ei theilwra i’r unigolyn ac yn seiliedig ar brawf modd. Pan fo rhywun yn mynd i gartref gofal mae meini prawf penodol yn y ddeddfwriaeth ynghylch yr hyn y gellid ei ystyried, gan gynnwys eiddo a chynilion pobl, yn ogystal â'u hincwm wythnosol, ac mae’r trothwyon yn newid o bryd i'w gilydd. Er enghraifft, gallai rhywun gael pecyn gofal sy’n costio £50 neu £400 yr wythnos, ond byddai'r gost iddyn nhw yn dal i fod yn seiliedig ar eu hincwm. Bydd rhai’n gorfod talu’r swm cyfan, ac eraill ddim yn gorfod cyfrannu o gwbl. O ran ein strategaeth, mae’n ymwneud â chadw pobl yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain ac i ehangu gwasanaethau yn y gymuned. Ar hyn o bryd, roedd y gwasanaeth yn delio â chynnydd mawr yn lefel y pecynnau a gefnogir yn ogystal ag ym maint y pecynnau hynny, a hynny oherwydd Covid-19 yn uniongyrchol.

 

Roedd yr Aelod â dealltwriaeth o’r gwaith o gefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain, ond gofynnodd am eglurhad o’r hyn fyddai’n digwydd, o ran y cyfraniad, pan wneir asesiad ond bod yr unigolyn neu’r teulu yn gwrthod talu.

 

Cydnabu Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod hyn yn digwydd o bryd i’w gilydd. O ran cyllid, byddai pobl yn cael eu hasesu ac yna byddai cydweithwyr cyllid ynghyd â'r gweithwyr cymdeithasol yn ceisio penderfyniad gyda'r teulu. Roedd mecanweithiau ar gael drwy brosesau cyfreithiol, er mai anaml y defnyddir y llwybr hwn.

 

Gofynnodd Aelod pa brosesau oedd ar waith i wirio canlyniadau ac i weld a oedd y cynllun newydd yn llwyddiannus.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod nifer o ffyrdd o fesur effaith, ac y byddent yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Aelodau. Yn gyntaf, gellid dilyn sut y mae'r cynnydd yn mynd rhagddo yn y fframwaith perfformiad a'r mesurau perfformiad a adroddir arnynt drwy'r broses asesu perfformiad corfforaethol (CPA). Yn ail, roedd gwaith gwerthuso allanol mawr hefyd e.e. ynghylch uchelgeisiau trawsnewid ac o ran integreiddio a chymunedau gwydn, er mwyn deall effaith yr uchelgeisiau hynny. Yn drydydd, o fewn y Gyfarwyddiaeth, roedd cyfarfodydd ansawdd a pherfformiad chwarterol sy'n edrych ar y materion ansoddol e.e. cwynion, canmoliaeth, archwiliadau ffeiliau achos, gwaith sicrhau ansawdd arall, gwaith arolygu; yn ogystal â'r darnau meintiol e.e. cyllid, gweithlu ac ati; gyda'r cyfan yn cael ei gynnwys unwaith y flwyddyn yn yr adroddiad blynyddol.

 

Gofynnodd Aelod am yr effaith brechiadau dwbl ar y gwasanaeth, a'r rheolau gan Lywodraeth Cymru sy’n dweud na fyddai angen i unigolion o'r fath ynysu pe baent wedi bod mewn cysylltiad â pherson a oedd wedi cael canlyniad prawf cadarnhaol.

 

Cyfeiriodd yr Aelod hefyd at ddychwelyd at wasanaethau mewn cartrefi gofal a chartrefi plant, a gofynnodd faint o gapasiti oedd yno, gan ei bod ar ddeall bod cleifion yn dal i fod yn Ysbyty Seren er ei bod i fod i gau ddiwedd y flwyddyn, felly gofynnwyd a fyddai digon o leoedd mewn cartrefi gofal.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, o safbwynt gofal cymdeithasol, mai staff iechyd a gofal cymdeithasol oedd y flaenoriaeth uchaf un o ran y rhaglen frechu. Gwelwyd niferoedd da yn derbyn y brechiad a chafodd hyn effaith wirioneddol ar arafu cyfraddau heintio mewn cartrefi gofal yn ddiweddar. Roedd trefn gadarn o ran profi'n rheolaidd ar gyfer staff a phreswylwyr cartrefi gofal hefyd. Eglurodd y byddai angen iddi ddarllen manylion cyhoeddiad Llywodraeth Cymru er mwyn deall yr hyn a ddywedwyd ynghylch hunan-ynysu yn llwyr. Byddai unrhyw benderfyniad a wneir o ran cartrefi gofal mewn ymgynghoriad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dod â mesurau lliniaru risg cryf, a byddai'r gwasanaeth yn cydweithio â meysydd diogelu'r cyhoedd, iechyd y cyhoedd, y bwrdd Iechyd, a darparwyr cartrefi gofal eu hunain i sicrhau ei fod yn cael ei weithredu.  O ran y sector cartrefi gofal, roedd rhai swyddi yn dal i fod yn wag ac roedd y system gyfan dan bwysau sylweddol.

 

O ran Ysbyty Seren, yr oedd y mater yn gysylltiedig â'r ffaith bod gwaith sylweddol yn cael ei wneud yn Ysbyty Maesteg, felly nid oedd gwelyau cleifion mewnol yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd. Roedd y gwaith cyfalaf hwnnw i fod i gael ei gwblhau yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a chyda meini prawf yr ysbyty bellach wedi newid roedd y capasiti gwelyau bellach yn gwneud iawn am Ysbyty Maesteg. Rhagwelwyd y byddai'r Bwrdd Iechyd yn ceisio cysylltu’r newidiadau yn Ysbyty Seren ag ailagor gwelyau cleifion mewnol Ysbyty Maesteg.

 

Atebodd yr Aelod trwy ddweud y gallai capasiti mewn cartrefi fod o ganlyniad i reolau ymweld, ac unwaith y byddai'r rheolau hynny'n cael eu llacio efallai y bydd mewnlifiad o dderbyniadau i gartrefi gofal.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles mai symud rhywun i gartref gofal oedd un o'r penderfyniadau anoddaf i unrhyw deulu, ac roedd y profiad yn ystod Covid-19 yn anodd iawn. Mae’r gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd o amgylch sefydlogrwydd y farchnad i geisio deall yn union pa mor fawr y dylai’r sector cartrefi gofal fod wrth barhau. Cytunwyd ar gontract i gael rhywfaint o gymorth arbenigol i helpu i ddarparu strategaeth gofal a chymorth llety i bobl h?n, ac y byddai'n edrych ar gyfraniad tai, cynlluniau gofal ychwanegol, cynlluniau gwarchod a chymorth arall o ran llety i gadw pobl gartref. Byddai hyn yn helpu i gyflwyno tystiolaeth a data am faint a pha fath o gapasiti y bydd cartrefi preswyl a nyrsio eu hangen wrth symud ymlaen.

 

Gofynnodd Aelod sut yr oedd oedi wrth drosglwyddo gofal yn gweithio mewn ysbytai, ac a oedd cyfyngiadau ar ddewis o ba gartref gofal wedi dod i ben.

 

Eglurodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod y broses honno, , o ran oedi wrth drosglwyddo gofal, wedi dod i ben ar ddechrau Covid-19. Gwnaed gwaith monitro wythnosol ar yr unigolion hynny sydd yn yr ysbyty ac am ddod allan. O ran llif o’r ysbyty i leoliadau cartrefi gofal, parhaodd hynny, ac isel iawn oedd y niferoedd a fu’n gorfod aros mewn ysbytai am nad oedd lleoliad ar gael.  Os buont yn aros, byddai hynny oherwydd eu bod cael asesiad neu'n gweithio gyda'r teulu o ddewis, er bod rhai pobl yn aros yn yr ysbyty oherwydd yr anawsterau wrth gomisiynu pecynnau gofal. Dywedodd fod y Polisi Dewis yn cael ei ddefnyddio ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Gofynnodd Aelod, gan nad oedd yr Aelodau'n cynnal ymweliadau rota i gartrefi gofal a chartrefi plant ar hyn o bryd, beth oedd yn cael ei wneud i sicrhau bod preswylwyr yn hapus a’n cael gofal.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar ei bod, yn rhinwedd ei swydd, wedi gallu ymweld â staff, oedolion a phlant mewn gofal preswyl yn ogystal â rhai sy’n byw â chymorth. Nid oedd cystal â chynnal ymweliadau rota, ond roedd y rheini wedi dechrau eto ar ryw lefel.

 

Eglurodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol y Plant fod mathau eraill o ymweliadau. Roedd pob un o'r lleoliadau yn cael ei redeg gan reolwr preswyl, a chyda uwch reolwr hefyd â chyfrifoldeb dros oruchwylio'r cyfleusterau hynny, ac roedd y rheolwr gr?p wedi parhau i ymweld â’r gwasanaethau hynny yn ôl yr angen ac wedi treulio cryn dipyn o amser yn y gwasanaethau hynny. Fel unigolion cyfrifol, roedd yn ofynnol i Bennaeth Gofal Cymdeithasol Plant a Phennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion gynnal ymweliadau â'r lleoliadau hynny o leiaf unwaith bob 3 mis, a gwnaed hynny o bell ar ddechrau'r pandemig. Yn fwy diweddar, roedd y ddau wedi dechrau ymweld â’r lleoliadau eto.

 

Yna ailadroddodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion y sefyllfa o ran lleoliadau oedolion.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ei fod wedi bod yn heriol iawn, ond roedd llacio’r cyfyngiadau wedi caniatáu i'r gwasanaeth ddychwelyd at ddulliau gwaith, gan gynnwys adolygiadau gwaith cymdeithasol, ymweliadau ac ymweliadau ynghylch asesiadau Amddifadu o Ryddid (DOLs), diogelu a buddiant gorau, pethau nad fu’n digwydd yn gorfforol o fewn cartrefi gofal. Roedd yn gobeithio adfer ymweliadau rota Aelodau â'r canllawiau manwl.

Ar ôl ystyried yr adroddiad ar y Rhaglen Strategol ar gyfer Pobl ym Mhen-y-bont ar Ogwr – Gwella Canlyniadau i'r Jonesiaid, gwnaeth y Pwyllgor yr argymhellion canlynol:

 

Dylid trefnu sesiwn friffio i Aelodau'r Pwyllgor ar Asesiadau Ariannol ar gyfer pob pecyn gofal cymdeithasol, i gynnwys yr hyn sy'n digwydd pan nad oes gan y person gapasiti nac ychwaith gyllid Bwrdd Iechyd ar gyfer gofal a gofal nyrsio.

Dogfennau ategol: