Agenda item

Rhaglen Sefydlu Aelodau 2022

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gr?p – Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd adroddiad a oedd yn rhoi gwybod i'r Pwyllgor am bynciau arfaethedig ac amserlen y Rhaglen Sefydlu Aelodau Etholedig yn sgil yr Etholiadau Llywodraeth Leol yn 2022.

 

Dywedodd fod y Pwyllgor wedi ystyried y Strategaeth Dysgu a Datblygu Aelodau Etholedig yn ei gyfarfod ar 25 Mawrth 2021 a bydd y Strategaeth derfynol yn cael ei chyflwyno i'r Cyngor i'w chymeradwyo ym mis Gorffennaf. Nododd y Strategaeth 5 Cyfnod Dysgu a Datblygu ar gyfer Aelodau Etholedig. Roedd tri o'r camau'n cwmpasu gweithgareddau dysgu craidd yn dilyn etholiad fel Cynghorydd, amlygwyd y rhain yn adran 4 o'r adroddiad.

 

Dywedodd Rheolwr y Gr?p – Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd fod CLlLC wedi paratoi Fframwaith Datblygu ar gyfer Cynghorwyr yng Nghymru 2021 sy'n amlinellu'r wybodaeth a'r ymddygiadau a ddisgwylir gan Gynghorwyr yng Nghymru. Gan ddefnyddio'r Fframwaith hwn, roeddent hefyd wedi cydymffurfio â'r "Cwricwlwm Sefydlu Fframwaith ar gyfer Ymgeiswyr ac Aelodau Newydd yng Nghymru ar gyfer Etholiadau Lleol 2022" fel y nodir yn Atodiad 1. Ychwanegodd y bydd pecyn gwybodaeth yn cael ei ddarparu i'r Aelodau pan fyddan nhw’n llofnodi’r ddogfen i Dderbyn y Swydd er mwyn cefnogi'r Rhaglen Sefydlu. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol fel polisïau a gweithdrefnau craidd, amserlen cyfarfodydd, a rhifau cyswllt defnyddiol.

 

Ychwanegodd Rheolwr y Gr?p – Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y bydd Holiadur Dadansoddi Anghenion Hyfforddi yn cael ei lunio a'i ddosbarthu rhwng mis Rhagfyr 2022 a mis Ionawr 2023. Bydd holl ymatebion yr Aelodau yn cael eu dadansoddi ac, o hyn ymlaen, bydd y Rhaglen barhaus yn cael ei datblygu a'i chyflwyno i'r Pwyllgor.

 

Gofynnwyd i'r Pwyllgor nodi unrhyw themâu, pynciau, polisïau neu weithgareddau ychwanegol y dylid eu cynnwys yn y Rhaglen Sefydlu. Ar ôl derbyn cyfarwyddyd y Pwyllgor, gofynnir i Gyfarwyddwyr Corfforaethol hefyd nodi unrhyw bynciau ychwanegol i'w cynnwys.

 

Soniodd Aelod am ddiffyg cefnogaeth ar ôl iddi gael ei hethol, a braf oedd gweld bod mwy o bwyslais wedi'i roi bellach ar gefnogi Aelodau newydd eu hethol. Ychwanegodd nad oedd hi fel Cynghorydd newydd yn si?r pa bethau yr oedd rhaid eu mynychu a pha bethau a gynigir yn wirfoddol, yn enwedig gyda sesiynau hyfforddi.

 

Dywedodd Rheolwr y Gr?p – Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd fod presenoldeb Aelodau wedi cynyddu'n sylweddol ers darparu hyfforddiant rhithwir gan eu bod yn gallu cael gafael arno'n haws heb amharu ar eu hymrwymiadau eraill. Roedd hyn yn rhywbeth a fyddai'n cael ei ystyried yn y dyfodol mewn perthynas â hyfforddiant.  

 

Soniodd Aelod fod llawer o'r Cynghorwyr wedi cael trafferth, ac yn dal i gael trafferth, gyda'r offer TGCh y maen nhw’n ei ddefnyddio. Dywedodd nad oedd unrhyw sôn am hyfforddiant ar hyn ac awgrymodd y dylid cynnal archwiliadau pan gaiff Aelodau newydd eu hethol i weld a oes ganddynt sgiliau TGCh sylfaenol i ddefnyddio'r offer. Os na, gellid darparu hyfforddiant yn gynnar yn eu tymor.

 

Eglurodd Rheolwr y Gr?p – Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, pan fydd Aelodau newydd yn derbyn eu hoffer TGCh, y byddant yn derbyn gwybodaeth a chymorth gan yr adran TGCh fel rhan o'u cyfnod ymsefydlu.  Gofynnodd yr Aelod a ellid sicrhau bod canllaw ar gael ar wefan y Cyngor i ganiatáu i’r Aelodau ei ddarllen er mwyn gwella eu dealltwriaeth o'r materion.

 

PENDERFYNIAD: Bod y Pwyllgor wedi:

 

  • Rhoi ei farn ar "Gwricwlwm Sefydlu Fframwaith ar gyfer Ymgeiswyr ac Aelodau Newydd yng Nghymru ar gyfer Etholiadau Lleol 2022";

 

  • Nodi unrhyw weithgareddau, themâu, polisïau allweddol neu bynciau eraill ychwanegol y dylid eu cynnwys yn y Rhaglen Sefydlu.

 

Dogfennau ategol: