Agenda item

Ymateb i Newid Hinsawdd a Charbon Sero-Net erbyn 2030

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd Huw David - Arweinydd

Cynghorydd Stuart Baldwin - Aelod Cabinet Cymunedau

Councillor Richard Young - Cadeirydd - Bwrdd Rhaglen Datgarboneiddio Pen-y-bont ar Ogwr 2030

Janine Nightingale - Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cymunedau

Zak Shell - Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol

Ieuan Sherwood - Rheolwr y Gr?p - Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd

Gareth Clubb - Rheolwr Ymateb Newid Hinsawdd

 

Sam Wright-Green - Ymgynghorydd - Ymddiriedolaeth Garbon

David Powlesland - Prif Rheolwr - Ymddiriedolaeth Garbon

Cofnodion:

I ddechrau, eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau rywfaint o’r naratif mewn perthynas ag Agenda 2030, cyn gwahodd cydweithwyr o'r Ymddiriedolaeth Garbon i wneud cyflwyniad. Ar ôl y cyflwyniad, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ei bod yn ymwybodol bod y Pwyllgor wedi anfon rhai cwestiynau yngl?n â'r adroddiad, ond eu bod wedi cyrraedd yn rhy hwyr i’r cydweithwyr o'r Ymddiriedolaeth Garbon eu cynnwys yn eu cyflwyniad, ond y byddent yn cael eu hateb. Rhoddodd Rheolwr y Gr?p - Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu y wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am waith yr Awdurdod ar Gerbydau Allyriadau Isel Iawn yn y depos.

 

Wedi cyflwyno'r adroddiad, gofynnodd Aelodau'r Pwyllgor y cwestiynau canlynol:

 

Roedd Aelod yn pryderu bod trafodaethau wedi canolbwyntio ar yr Awdurdod Lleol, ac unwaith eto â ffocws ar sut y gallai'r cyhoedd chwarae eu rhan, ond pa ran fyddai diwydiant yn ei chwarae a hwythau’n gynhyrchwyr carbon enfawr.  Holodd yr Ymddiriedolaeth Garbon am y farn hirdymor ar allyriadau carbon gan ddiwydiannau mawr a'r fyddin.

 

Eglurodd Uwch Reolwr - Yr Ymddiriedolaeth Garbon fod Llywodraeth Cymru (LlC) wedi gosod targed 2030 ar y sector cyhoeddus oherwydd eu bod yn awyddus i'r sector arwain drwy esiampl. Mae allyriadau'r Sector Cyhoeddus yng Nghymru rhwng 1% a 3%, felly roedd gwirionedd yn yr hyn yr oedd yr Aelod wedi'i ddweud am y cyhoedd a'r diwydiant a’r angen i ddylanwadu a gosod targedau arnynt, a hynny gan fod 90% o allyriadau yn deillio oddi yno.  Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn cael ei ariannu'n gyhoeddus ac mae cyfrifoldeb i arwain drwy esiampl, gan gynnwys dylanwadu ar gadwyn gyflenwi'r Cyngor er mwyn sbarduno newid yn y diwydiant, gan mai caffael sy’n gyfrifol am oddeutu 75% o allyriadau'r Cyngor, a nhw yw’r rhai a fydd angen buddsoddi ac ymgymryd â'r her o ddangos i’r Cyngor fod hyn yn derbyn sylw.

Roedd allyriadau diwydiant trwm wedi disgyn yn y gorffennol o dan gyfarwyddeb effeithlonrwydd ynni'r UE, a bu'n rhaid gwario cryn dipyn o arian ar gynnal archwiliadau arbed ynni.  Roedd cyrff sector cyhoeddus mwy wedi bod yn rhan o Gynllun Effeithlonrwydd Ynni blaenorol yr Ymrwymiad Lleihau Carbon (CRC), ond roedd Llywodraeth y DU wedi penderfynu peidio â chynnwys cyrff sector cyhoeddus yn y Cynllun Adrodd Ynni a Charbon Syml a ddilynodd. Fodd bynnag, bu'n rhaid i ddiwydiant trwm a SMEs mawr roi adroddiad ar eu hallyriadau o dan y cynllun hwnnw. Felly roedd llawer o waith rheoleiddio diweddar yn ymwneud â cheisio ysgogi gweithgarwch mewn diwydiant, ond yn amlwg mae angen gosod gofyniad ar y sector cyhoeddus, gyda thargedau sy’n cael eu hystyried fel cyfrifoldebau’r Awdurdodau Lleol yn eu rôl arweiniol a dylanwadol.

 

Dywedodd Aelod nad oedd yr adroddiad wedi sôn am effaith gweithgynhyrchu yn y fwrdeistref sirol a'r cyffiniau, ond ei fod yn nodi y dylai 75% o'r arbedion ddeillio o waith caffael. Gofynnodd a ddylai'r Awdurdod fod yn prynu gan ddarparwyr lleol a oedd yn allyrru nwyon carbon, a sut y byddai caffael o'r fath yn gweithredu.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau fod adolygiad o'r strategaeth gaffael yn cael ei gynnal ar hyn o bryd, gan weithio gyda WRAP Cymru a'r Adran Gaffael.  Roeddent yn ceisio cynghori'r ffordd orau o gyfeirio gwariant yn yr economi leol, sut i wario'n fwy cynaliadwy gan feithrin a chefnogi busnesau lleol, rhywbeth a fyddai hefyd yn lleihau costau milltiroedd ac allyriadau carbon.  Roedd yn cydnabod fod y Rheolau Caffael Corfforaethol yn rhan allweddol o hyn a’u bod yn dangos i’r Awdurdod Lleol beth oedd yn gynaliadwy e.e. cynnyrch o ffynonellau cynaliadwy, er y gallai'r rhain fod ychydig yn ddrytach, ac roedd hynny'n rhywbeth i'w ystyried fel rhan o'r gwaith caffael, yn ogystal ag effeithiolrwydd y cwmnïau.  Drafftiwyd y strategaeth i ganiatáu i'r Awdurdod Lleol gael y rhyddid i wneud y dewisiadau hynny, ond eglurodd y gallai proses gaffael gynaliadwy arwain at gostau ychydig yn uwch.

 

Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr - Yr Ymddiriedolaeth Garbon mai ffiniau’r Cyngor ei hun a ddefnyddiwyd ar gyfer y darn o waith, yn hytrach nag unrhyw ardal ranbarthol neu ôl troed neu strategaeth ardal gyfan. Dywedodd fod gwaith dinas-ranbarth a gwaith cynllunio ynni rhanbarthol yn cael ei wneud a fyddai'n edrych ar ddylanwadu'n uniongyrchol ar ddiwydiant. Un o'r heriau a fyddai’n wynebu’r Awdurdod Lleol yw'r hyn y gellid ei wneud wrth gydymffurfio â’r rheoliadau caffael cyhoeddus.  Roedd Llywodraeth Cymru yn edrych ar hynny ar ôl BREXIT i geisio deall pa ddiwygiadau oedd yn angenrheidiol o ran caffael cyhoeddus, er mwyn helpu i gefnogi perchnogaeth leol, i gadw gwerth yng Nghymru, ac i brynu gan gyflenwyr lleol.  Roedd ychydig o offer y gellid eu defnyddio yn y strategaeth, a ffyrdd o weithio i ddylanwadu ac i fandadu caffael carbon isel mewn gweithgareddau ac i gefnogi cyflenwyr i leihau eu hallyriadau.

 

Nododd Cadeirydd Bwrdd Rhaglen Datgarboneiddio Pen-y-bont ar Ogwr 2030 fod hwn yn gwestiwn da gan fod synergedd rhwng gweithrediadau cyhoeddus a phreifat. Er bod gan awdurdodau lleol y gallu i gynorthwyo diwydiant preifat i symud tuag at ddatgarboneiddio, mae'n debyg bod gan ddiwydiant preifat ei yrwyr ei hun hefyd, gan fod 75% o gostau'r ddau ddiwydiant trwm yn y Fwrdeistref Sirol yn gostau ynni.  Roedd hwn yn ei hun sbardun a byddent ar flaen y gad o ran edrych ar ffyrdd o gael ynni rhatach h.y. datgarboneiddio gan ddefnyddio grantiau amrywiol y llywodraeth, gan wneud eu cynhyrchu'n fwy effeithlon.  Credai hefyd fod barn y cyhoedd yn symud tuag at yr agenda datgarboneiddio. Yn ogystal â hyn, roedd deddfwriaeth gynllunio yn symud i gyfeiriad lle byddai'n rhaid i gwmnïau ystyried unrhyw newidiadau a wneir yng ngwaith cynhyrchu’r diwydiant, neu os ydynt am agor gweithfeydd newydd byddai cyfyngiadau cynllunio yn cael eu gosod arnynt i sicrhau eu bod yn lleihau carbon.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at raglen Llywodraeth Cymru i ddiddymu'r defnydd o blastigau untro trwy gyflwyno cynllun cyfrifoldeb estynedig ar gynhyrchwyr i gymell busnesau i leihau gwastraff.  Roedd ymrwymiad hefyd i ddeddfu i foderneiddio'r sector cerbydau er bod llawer o'r pwerau a'r cyfrifoldebau hynny yn nwylo Llywodraeth y DU.  Roedd achos cryf o blaid defnydd yr Awdurdod o ddur a phapur a gynhyrchir yn lleol. Mae’r Awdurdod yn awyddus i leihau ei ôl troed carbon yn gyffredinol, ond am y tro, mae’n well o lawer i'r amgylchedd i ddefnyddio dur a gynhyrchir yn lleol, ac mae diwydiant Prydain yn meddu ar rai o'r safonau amgylcheddol uchaf yn y byd. Yn ogystal â hyn, roedd Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu'r diwydiant pren yng Nghymru, gan helpu o ran swyddi a chynaliadwyedd ond hefyd o ran dal carbon, bioamrywiaeth, ac atal llifogydd. Byddai'r hyn y gellid ei wneud ar dir yr Awdurdod Lleol yn cael ei ystyried yn ofalus hefyd, gan weithio gyda phartneriaid i ehangu mentrau plannu coed a choedwigaeth.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 19, paragraff 4.4, sy’n trafod ymgysylltu'n uniongyrchol â Chynulliad Dinasyddion, unwaith y bydd wedi’i sefydlu, a chael Gr?p Llywio o bartneriaid cyflenwi sydd â diddordeb, a gofynnodd am amserlen ar gyfer hyn. Roedd yn cydnabod hefyd fod llawer o waith wedi'i wneud yn y gorffennol o ran plannu coed, ond roedd angen gwneud llawer mwy yn y dyfodol ar gyfer gwrthbwyso carbon.  Teimlai fod angen ymrwymiad i blannu coed, ar ben yr hyn yr oedd yr Awdurdod Lleol wedi ymrwymo iddo yn barod, yn enwedig o ystyried fod Canopi Gwyrdd Jiwbilî Platinwm y Frenhines y flwyddyn nesaf.  Nododd fod Coleg Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo i blannu 60,000 o goed erbyn 2025 a theimlai, er mwyn gwneud i hynny weithio, fod angen llawer mwy o adnoddau, roedd angen iddo ddechrau'n fuan, ac angen iddo ddigwydd yn gyflymach.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau y byddai'r Awdurdod Lleol yn plannu 15 mil o goed eleni, gan ddechrau yn yr hydref. Roedd y cynlluniau hynny i ddigwydd mewn chwe ardal wahanol ar draws y Fwrdeistref ar dir y Cyngor, sy’n bwysig gan mai dim ond os plannir y coed ar dir a reolir gan y Cyngor y caiff ei ystyried fel gwaith dal a storio carbon. Roedd y Cyngor wedi ymrwymo i Ddiwrnod Gwyrdd, gan weithio gyda Choleg Pen-y-bont ar Ogwr, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, Aelodau'r Bwrdd Iechyd a'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (PSB) i hyrwyddo diwrnod yn yr hydref lle gwahoddir cymunedau, plant ysgol ac ati i ddod i gynorthwyo gyda'r cynllun plannu coed.  Eglurodd ran arall o fenter y Diwrnod Gwyrdd hefyd, sef bod y Bwrdd Iechyd yn awyddus i bobl weld manteision bod yn yr awyr agored, o arddio, ac o fioamrywiaeth a choedyddiaeth, felly roedd yr agenda'n llawer ehangach na phlannu coed yn unig.  Y darn arall o waith oedd Canopi Gwyrdd y Frenhines, ymgyrch genedlaethol i blannu coed i ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines, rhywbeth yr oedd y Cyngor yn awyddus iawn i fod yn rhan ohono, ac sydd ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Yn ogystal, roedd y Cyngor yn cael sgyrsiau gyda Choed Cadw, sy’n darparu grantiau, ynghylch cynnig cynllun plannu cymunedol y flwyddyn nesaf, lle gallai pobl wneud cais i gael cyllid ar gyfer prynu rhywogaeth o goed neu wrych.  Cydnabuwyd bod y Cyngor â sefyllfaoedd cyllidebol anodd, ond roedd Agenda 2030 yn eithriadol o bwysig felly roedd angen dod o hyd i ffynonellau cyllid eraill i helpu'r Cyngor ar y daith.

 

O ran y fforwm Rhanddeiliaid, byddai’n cynnwys y Bwrdd Iechyd, yr Heddlu, y Gwasanaethau Tân ac Achub, y Gwasanaeth Ambiwlans, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, lleoliadau Addysg eraill, a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac ati, partïon a ystyrir yn bartneriaid yn Agenda 2030. Y bwriad oedd sefydlu cyfarfodydd rheolaidd gyda hwy lle gellid rhannu arfer gorau a sicrhau bod pawb yn gwneud pethau tebyg gyda gweledigaeth gyson e.e. plannu coed, strategaeth gwefru ULEV gyda'r Bwrdd Iechyd, fflyd drydan gyda'r Heddlu, ac ar gerbydau cynnal a chadw Cymoedd i'r Arfordir. Gwaith partneriaeth yw’r gr?p rhanddeiliaid, gan chwilio am gyfleoedd a rennir. O ran Rhwydwaith Gwres Ardal Pen-y-bont ar Ogwr, roedd yr Awdurdod Lleol yn awyddus i gysylltu cymaint o bobl â chamau dau a thri.

 

O ran y fforwm dinasyddion, roedd yn bwysig iawn i'r Awdurdod Lleol gynnig cyfle i ystod eang o bobl yn y gymuned i eistedd ar y fforwm hwn ac i helpu i lunio'r agenda. Roedd y gwaith hwn yn cael ei arwain gan y Rheolwr Ymateb i Newid Hinsawdd, a oedd newydd gael ei benodi. Fel rhan o hyn, bu’n meincnodi a’n siarad ag awdurdodau eraill ledled y DU i ddarganfod y ffordd orau o sefydlu’r fforwm, pwy oedd y bobl orau i wahodd, a pha bartïon fyddai â diddordeb. Yr adborth a gafwyd oedd bod angen demograffeg eang ar draws y fwrdeistref, gyda chymaint o bobl o blaid agenda 2030 ag sydd yn ei erbyn, gan y byddai hyn yn herio meddylfryd y cyfranogwyr.  Ni allai'r gr?p fod yn rhy fawr, oddeutu 20 i 30 o bobl fyddai'r maint cywir.  Gallai pobl gynnig syniadau drwy ddolen / gwefan ar y we, gyda'r gr?p yn cael ei gadeirio gan berson allanol i sicrhau bod yr agenda'n cael ei llywio gan ddinasyddion.

 

Rhoddodd yr Arweinydd sicrwydd i'r Aelod fod gweithredu'n digwydd yn awr. Roedd y gwaith diweddaraf ar deithio llesol yn dechrau ym Mhencoed y diwrnod hwnnw, a chyfeiriodd at y Rhaglen Gyfalaf sy’n mynd i'r Cabinet a'r Cyngor ac sy’n cynnwys cynnig i fuddsoddi £2.85m yn fwy mewn teithio llesol, cynnig ar gyfer buddsoddiad o £178k yn Nepo Bryncethin ar gyfer datblygu'r capasiti p?er solar yno, a buddsoddiad o £2.89M yn Rhwydwaith Gwres Pen-y-bont ar Ogwr. Yn ogystal â hyn, roedd y gwaith o blannu coed yn cael ei archwilio, er mai un ffrwd oedd hon ac roedd llawer o ffrydiau gwaith yn cael eu gwneud ar hyn o bryd, ac roedd angen cyflawni mewn partneriaeth hefyd, gan mai un o'r tirfeddianwyr mwyaf oedd Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Holodd Aelod beth y gallai'r Awdurdod ei wneud i addysgu pobl i roi'r gorau i dorri coed sydd â dim o’i le arnynt.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau fod y ddarpariaeth statudol yn caniatáu rhoi Gorchymyn Cadw Coed (TPO) ar y coed sydd â mwyaf o angen eu gwarchod, ond roedd yn rhaid cydnabod bod rhaid iddynt feddu ar nodwedd benodol sy’n golygu dylid eu diogelu.  Pe bai coeden â Gorchymyn Cadw Coed yn cael ei thorri, roedd dirwy o hyd at £2k a byddai’n rhaid rhoi coeden arall yn ei lle, a byddai hyn yn cael ei orfodi.  Fodd bynnag, roedd angen mynd ymhellach oherwydd, fel rhan o agenda 2030, roedd addysg a chynllun cyfathrebu yn allweddol. Mae’n anodd iawn atal pobl rhag torri coed, felly mae angen mynd ati yn awr i addysgu ac i apelio at synnwyr a chalonnau pobl, a dangos pa mor fuddiol ydynt i'r amgylchedd.

 

Gofynnodd Aelod a oedd cynlluniau i annog gweithio cyfunol, neu i werthu neu uwchraddio adeiladau cyngor sy'n aneffeithlon o ran ynni, efallai gellid defnyddio ond un ym Mhen-y-bont ar Ogwr a gwerthu'r lleill, neu efallai gellid eu hadnewyddu fel eu bod yn effeithlon o ran ynni, neu eu defnyddio fel fflatiau, yn hytrach nag adeiladu mwy o dai ar dir a allai fod yn fannau gwyrdd.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod gweithio gartref, lle bynnag y bo modd, yn parhau i gael ei annog, a’r adborth gan y rhan fwyaf o'r staff oedd eu bod yn ei ffafrio, felly roedd arbedion o ran costau ac roedd yn well i'r amgylchedd oherwydd bod llai yn teithio i'r gwaith.  Roedd lefelau salwch hefyd wedi gostwng, felly roedd yr Awdurdod Lleol wedi gweld budd o hynny. Fel rhan o adolygiad ehangach a oedd yn cael ei gynnal, roedd anghenion llety'r swyddfa yn cael eu hystyried, ac yn y dyfodol byddai'r Awdurdod yn ceisio gwneud arbedion pellach, er bod costau eisoes wedi gostwng yn sylweddol, ac mae ôl troed cyffredinol yr ystâd wedi gostwng hefyd ers datgomisiynu Sunnyside House.  Roedd y Prif Weithredwr yn paratoi adroddiad ar anghenion Llety Swyddfa ac roedd adnoddau ychwanegol wedi'u neilltuo.  Roedd datganiadau o ddiddordeb yn cael eu harchwilio yn rhai rhannau o'r ystâd, felly roedd nifer o opsiynau i'w hystyried.

 

Holodd Aelod, gan nad oedd llinell sylfaen wedi'i sefydlu, sut y gwyddys bod digon o adnoddau dynol ac ariannol wedi'u dyrannu i'r ymdrech i leihau allyriadau carbon, gan nad oes sicrwydd y bydd cyllid allanol ychwanegol i’w gael dros yr wyth mlynedd nesaf.  Gofynnodd sut y daethpwyd i'r casgliad y byddai £215k yn cael ei ddyrannu gan y Cyngor, ac a fyddai dangosyddion perfformiad allweddol i fonitro cynnydd ar dargedau yn flynyddol er mwyn sicrhau bod yr Awdurdod Lleol ar y trywydd iawn.  Gofynnodd hefyd a fyddai unrhyw gosbau pe na bai’r Awdurdod yn cyrraedd y targed carbon niwtral net erbyn 2030.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau fod £215k o’r gyllideb wedi’i ddyrannu ar gyfer costau staffio'r Rheolwr Ymateb i Newid Hinsawdd, Rheolwr y Rhaglen a chyflwyno'r Ymddiriedolaeth Garbon yn unig.  Ar hyn o bryd, nid oedd cyfalaf na refeniw wedi'i ddyrannu ar gyfer y cynllun gweithredu, er mai'r gobaith erbyn yr hydref oedd i'r cynllun gweithredu gael ei orffen gyda llinell amser.  Byddai costau'n gysylltiedig â'r cynllun gweithredu, a nododd fod Cyngor Sir Ddinbych wedi dweud y byddai angen £10m o gyllid arnynt i ymgymryd â chynlluniau ychwanegol er mwyn cyrraedd 2030.  Roedd 80% o'r cyllid wedi dod o grantiau, gyda'r Prifddinas-Ranbarth, Llywodraeth Cymru a CLlLC yn cynnig grantiau ac arian ar gyfer gwahanol rannau o'r agenda datgarboneiddio. Roedd yn ansicr beth fyddai ar gael yn y dyfodol, ond yn amlwg ni fyddai'r Awdurdod Lleol yn gallu ei gyflawni ar ei ben ei hun a byddai'n rhaid iddo chwilio am ffynonellau cyllid allanol ar gyfer y rhaglen hon.  Wrth symud ymlaen, y bwriad oedd cwblhau'r llinell sylfaen, llunio'r cynllun gweithredu, gwneud y dadansoddiad bwlch, gwneud y gwaith costio cystal ag y gellid ei wneud, ac yna ymgynghori ar y strategaeth a'r cynllun gweithredu yn yr hydref.  Wedi hynny, byddai adroddiad yn cael ei wneud i'r Cabinet a'r Cyngor am benderfyniad i gymeradwyo parhau â’r cynllun gweithredu a'r strategaeth honno.

 

Eglurodd yr Uwch Reolwr - Yr Ymddiriedolaeth Garbon, o ran cyllidebau cyfalaf, fod angen i'r agenda carbon isel gael ei gynnwys ym mhob penderfyniad e.e. peidio â gwario arian cynnal a chadw ar osod boeleri newydd ond yn hytrach i edrych ar ddatrysiadau gwres carbon isel. Nid oedd Llywodraeth Cymru wedi diffinio eto beth allai ddigwydd pe na bai targedau'n cael eu cyrraedd, gan eu bod yn dal i lunio adroddiadau monitro Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd, fodd bynnag, roedd cwmnïau cyfreithiol a fyddai'n mynd ar drywydd cyrff corfforaethol, a chyrff cyhoeddus mae'n debyg, am beidio â chyflawni eu hymrwymiadau.

 

Eglurodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol, mewn perthynas â Dangosyddion Perfformiad Allweddol, fod yr Ymddiriedolaeth Garbon yn gwneud y gwaith o osod llinell sylfaen ar gyfer yr Awdurdod, ac y byddent yn gadael y feddalwedd a ddefnyddir fel bo modd parhau i fonitro'r allbwn carbon yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru i olrhain perfformiad yn flynyddol.  Er nad oedd cyfundrefn gorfodi cosbau ddiffiniedig ar gyfer yr agenda hyd yma, roedd y broses ailgylchu gwastraff wedi dechrau yn yr un modd, gyda thargedau a gosod cwysi, a chyn hir roedd Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd pwynt lle'r oedd methu â chyrraedd y targedau hynny yn arwain at gosbau, ac roedd yr un peth yn debygol o ddigwydd gyda hyn hefyd.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 22 yr adroddiad, a oedd yn sôn am y chwe thacsi ULEV, a'n crybwyll pwynt gwefru cyflym ym Maes Parcio Hillsborough Place ym Mhorthcawl, a gofynnodd pam y dewiswyd y maes parcio penodol hwnnw.  Holodd hefyd a oedd hi’n bosibl i oleuadau stryd gael eu defnyddio fel mannau gwefru, fel yr oedd wedi digwydd mewn rhai Bwrdeistrefi yn Llundain.

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau y byddai cyswllt Metro ar gyfer bysiau yn rhan o Gynllun Metro Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac roedd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi cynnig y pwyntiau gwefru cyflym ar gyfer y tacsis yno ac am dalu am y ddarpariaeth.  Cynllun peilot oedd hwn ar gyfer y chwe thacsi, ac os bydd yn llwyddiant yna byddai'r Awdurdod yn eu cyflwyno yn ehangach ar draws y Fwrdeistref, ynghyd â phwyntiau gwefru cyflym ar eu cyfer.

 

Eglurodd Rheolwr y Gr?p - Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu fod dyraniad tacsis pob Awdurdod o fewn y Fargen Ddinesig yn seiliedig ar nifer y trwyddedau tacsis.  Roedd y pecyn o dacsis yn cynnwys y gwefrwyr cyflym ac fe'i gyrrwyd gan y Fargen Ddinesig ac mae wedi’i glymu i'r potensial ar gyfer cyfleuster bws cludo ym Mhorthcawl.  Dylai'r cyfleuster gwefru cyflym fod ar waith erbyn i'r tacsis fod yn weithredol, felly byddent yn gweld defnydd gweithredol drwy'r amser. Byddai cyfleusterau gwefru eraill hefyd yn cael eu cyflwyno mewn meysydd parcio eraill.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol at y cwestiwn ynghylch y posibilrwydd o ddefnyddio goleuadau stryd fel pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan a dywedodd, er y gallai rhai o'r goleuadau stryd mewn ystadau tai newydd fod â'r gallu trydanol i wneud hynny, ni fyddai'r mwyafrif llethol o oleuadau stryd h?n yn bodloni'r gofynion heb gryn dipyn o fuddsoddiad. Er y gallent fod yn rhan o'r strategaeth, nid gosod pwynt gwefru ar bob golau stryd oedd yr ateb.

Holodd yr Aelod beth oedd ystyr 'cyflym' e.e. pa mor hir i wefru tacsi, e.e.  20 neu 30 munud.

 

Eglurodd Rheolwr y Gr?p - Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu ei fod yn ymwneud â foltedd a watedd. Mae gwefrydd cyflym yn caniatáu mwy o lif p?er i'r batri, gan olygu y gellir eu gwefru o fewn 30 munud, lle byddai gwefrydd mwy confensiynol angen mwy o amser.  Roedd hefyd yn dibynnu ar dechnoleg y batris hefyd, gan na ellid cynyddu'r p?er yn rhy bell heb wneud difrod i’r pecyn batri.

 

Diolchwyd i’r swyddogion a phartneriaid o'r Ymddiriedolaeth Garbon am yr adroddiad a'r cyflwyniad i'r Aelodau.

 

Gwnaeth y Pwyllgor yr argymhellion canlynol:

 

1.    Bod yr adolygiad nesaf o'r Templed Corfforaethol ar gyfer Adroddiadau yn ystyried cynnwys Adran ar: Goblygiadau Agenda Datgarboneiddio 2030, i gynorthwyo'r holl wasanaethau wrth ddangos sut y maent yn gweithio tuag at Agenda 2030 i sicrhau carbon sero-net.

2.    Bod Papur Briffio gyda gwybodaeth am ofynion Gorchymyn Cadw Coed yn cael ei ddarparu i Aelodau'r Pwyllgor.

3.    Bod yr Awdurdod Lleol yn cyflogi Swyddog Coed pwrpasol i weithio mewn dull cydgysylltiedig un Cyngor ynghyd â phartneriaid i gyflawni’r ymrwymiadau plannu coed a rennir yn ogystal â menter Canopi Gwyrdd Jiwbilî Platinwm y Frenhines.

Bod datblygu'r Cynllun Gweithredu yn cynnwys Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPI), i'w hadrodd ar gyfer monitro perfformiad.

Dogfennau ategol: