Agenda item

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (ALNET) 2018

Gwahoddwyr:

 

Lindsay Harvey - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd

Cynghorydd Charles Smith - Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio

Nicola Echanis - Pennaeth Addysg a Chefnogaeth i Deuluoedd

Michelle Hatcher - Rheolwr Grwp Cynhwysiant a Gwella Ysgolion

Kate Clarke - Swyddog Arweiniol Tim Cyfathrebu a Pherthnasoedd.

Rachel Garner - Arweinydd ADY Blynyddoed Cynnar, Gwybyddiaeth a Dysgu a NMMC

Kathryn Morgan - Prif Seicolegydd Addysgol

 

John Welch - Arweinydd Strategol ar gyfer Tegwch a Lles - Consortiwm Canolbarth y De

 

Francis Clegg - Prifathro dros dro, Ysgol Uwchradd Gatholig Archesgob McGrath

Ryan Davies - Prifathro, Ysgol Brynteg

Christopher Jones - Prifathro, Ysgol Gynradd Llangynwyd

Helen Jones - Headteacher, Ysgol Maesteg

Jonathan Lewis - Prifathro, Ysgol Gynradd Coety

Rhea Quinn - Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol, Ysgol Gynradd Blaengarw

Kate Sparkes - Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol, Ysgol Gyfun Maesteg

 

Cofnodion:

Dechreuodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd drwy esbonio fod Swyddogion arbenigol o'r Gwasanaethau Cymorth i Ddysgwyr yn bresennol, ac y byddent yn tywys yr Aelodau drwy'r adroddiad ac ar gael i ateb unrhyw gwestiynau. Mynegodd ddiolch i'r holl gydweithwyr ysgol a oedd wedi ymuno â'r cyfarfod, a rhoi o'u hamser i fod yn bresennol yn y cyfarfod pwysig hwn. Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p Cymorth i Ddysgwyr a aeth ati i gyflwyno’r adroddiad.

 

Ar ôl derbyn cyflwyniad am yr adroddiad, gofynnodd Aelodau'r Pwyllgor y cwestiynau canlynol:

 

Gofynnodd Aelod beth fyddai'r problemau, y manteision a'r anfanteision posibl ym marn y gweithwyr proffesiynol a'r ymarferwyr, a gofynnodd hefyd a oedd digon o gyllid wedi'i neilltuo, ac a fyddai'r dyraniad yn parhau i fod yn ddigonol.

 

Dywedodd y Cydgysylltydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY), Ysgol Gynradd Blaengarw, ein bod mewn cyfnod o newid mawr, a bod yr Awdurdod wedi bod yn paratoi'n dda ar ei gyfer. Roedd wedi bod yn gyfnod heriol ar lefel yr ysgolion, gyda mwy o gwestiynau, a phryderon, gan rieni ynghylch penderfyniadau a oedd plant yn bodloni'r meini prawf ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ai peidio, yn ôl y diffiniad newydd. Roedd cynllun ar waith i ymdrin â hyn, a phenderfyniadau wedi'u cyfiawnhau'n seiliedig ar y broses lem a oedd ar waith. Roedd llawer o gyfrifoldeb wedi cael ei ddychwelyd i'r athrawon dosbarth, ac roedd hynny'n golygu bod angen newid meddylfryd. Roedd angen edrych ar Gynlluniau Datblygu Unigol (CDUau) ar gyfer plant yr oedd angen eu monitro o hyd, a fyddai o bosib wedi'u nodi'n blant ag ADY cyn hynny, gan fod ganddynt anghenion o hyd i'w bodloni ar lefel yr ysgol. Cafwyd manteision enfawr, gyda chydweithio a fforymau awdurdod lleol, ac roedd hi'n bwysig sicrhau bod gan rieni yr holl wybodaeth sydd ar gael.

 

Ailbwysleisiodd y Cydgysylltydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY), Ysgol Maesteg, yr hyn a ddywedwyd, sef fod hyn yn ddatblygiad cwbl gadarnhaol. Byddai pobl ifanc yn cael eu diogelu tan iddynt droi'n 25 oed, gan symud dosbarthiad ADY i'r byd gwaith. O safbwynt ysgol uwchradd, roedd hyn yn golygu sicrhau bod y bobl gywir yn deall eu rôl, gydag addysgeg wrth wraidd ADY, a lefel briodol o ddysgu ac addysgu. Roedd y clwstwr wedi bod yn gweithio i fireinio llwybrau cyfeirio a llwybrau cyfathrebu, gyda chefnogaeth gan yr Awdurdod Lleol, i sicrhau bod ysgolion yn gwybod sut i gael y gefnogaeth angenrheidiol. Un agwedd a oedd yn destun pryder oedd y gallai'r niferoedd ar y gofrestr ADY ostwng o fwy na 200 i 30, gyda disgyblion a oedd wedi'u pennu'n ddisgyblion ag ADY ar 31 Awst heb fod yn bodloni meini prawf y diffiniad mwyach. Roedd hi felly'n bwysig i'r bobl gywir fod â'r wybodaeth gywir ynghylch sut i gefnogi'r dysgwyr hynny, gan olygu newid meddylfryd. Roedd y canllawiau'n glir ynghylch sicrhau bod staff addysgu yn ymwybodol o'r disgwyliadau a sut i gyfleu hynny.

 

Gofynnodd Aelod a oedd unrhyw gydweithio yn digwydd y tu allan i'r consortia.

 

Esboniodd y Rheolwr Gr?p Cymorth i Ddysgwyr fod y consortiwm yn cyflawni gwaith cadarn, ac yn edych yn barhaus ar arfer da. Yr oedd hefyd wedi bod yn cydweithio cyn i'r Cynllun Trawsnewid ddod i rym, er enghraifft, ar y dull cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Roedd Aelodau'r Consortiwm yn aelodau o'r Bwrdd Trawsnewid, gyda chyswllt rheolaidd, fel y Swyddogion, gan gydweithio fel rhanbarth, ac yn fwy diweddar â Merthyr a Rhondda Cynon Taf ac ardal y Bwrdd Iechyd, ac roedd hynny'n gryfder.

 

Cyfeiriodd Aelod at 4.1 yn yr adroddiad, a gofyn a fyddai unrhyw broblemau wrth geisio mabwysiadu ymagwedd gyson at ADY wrth geisio sefydlu cwricwlwm wedi'i gynllunio'n arbennig ar yr un pryd.

 

Awgrymodd y Rheolwr Gr?p Cymorth i Ddysgwyr y byddai rhai o'r ysgolion o bosib am gyfrannu i'r pwynt hwn, gan eu bod yn ymwneud â datblygiadau diwygio’r cwricwlwm yn ogystal â diwygio ADY.

 

Esboniodd y Pennaeth, Ysgol Maesteg, mai'r hyn a oedd wedi'i gynllunio ar gyfer diwrnod HMS yr ysgol oedd cyfuno diwygio ADY, a oedd yn ymwneud yn llwyr â chynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a diwygio'r cwricwlwm newydd a oedd yn canolbwyntio ar y pedwar diben. Roedd angen cael gwared â'r agwedd negyddol at ddiwygio.  Y dull a oedd yn cael ei fabwysiadu oedd canolbwyntio ar lesiant, gyda diwygio ADY a diwygio'r Cwricwlwm wrth wraidd hynny, gan ystyried sut i ddarparu cyfleoedd dysgu ac addysgu o'r ansawdd gorau i blant yn yr ystafell ddosbarth. Roedd hyn yn galluogi'r staff i ganolbwyntio ar natur y dosbarth o'u blaenau, a fyddai'n sicrhau'r arfer gorau i ddisgyblion, o ran diwygio ADY a diwygio'r cwricwlwm.

 

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Llangynwyd mai ffocws yr ysgol oedd dysgu ac addysgu o ansawdd da, wrth i’r gofrestr ADY newid, ac mai'r nod sylfaenol fyddai sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys yn yr ystafell ddosbarth. Roedd yn golygu canolbwyntio ar ddysgu ac addysgu effeithiol o ansawdd uchel a fyddai'n bodloni pob angen. O'i wneud yn gywir, roedd hyn yn ymblethu ag agenda diwygio'r cwricwlwm, lle'r oedd cwricwla neilltuol yn cael eu dylunio ar gyfer pob dosbarth. Fel ysgol, roedd hyn yn golygu edrych ar yr addysgu yn gyntaf, gan gynnwys adnoddau gwahaniaethol o ansawdd da a fyddai'n galluogi pob dysgwr i wneud cynnydd priodol yn ôl y disgwyl.

 

Dywedodd y Prif Seicolegydd Addysg y bu’n ymwneud yn helaeth â gwaith i ystyried y diffiniad o ADY er mwyn cefnogi ysgolion a rhieni wrth symud ymlaen â'r diwygiad newydd. Roedd y data, gan gynnwys data Cymru gyfan, ac o brofion rhanbarthol a chenedlaethol, wedi cael eu harchwilio'n fanwl. Roedd ysgolion yn nodi bod gan 23% o'u poblogaeth ADY ar gyfartaledd, ac roedd angen symud y ffigur hwnnw i oddeutu 9%-10% o'r boblogaeth ag ADY yr oedd arnynt angen rhywbeth yn ychwaneg at yr hyn a oedd ar gael fel arfer. Roedd hyn yn gysylltiedig â'r cwricwlwm a'r dysgu a'r addysgu da a oedd yn digwydd mewn ysgolion i gefnogi dysgwyr.  Roedd llawer iawn o ymyraethau a darpariaeth o ansawdd da, ond roedd hyn yn golygu ystyried sut i gefnogi'r dysgu mewn system adnabod wahanol, er enghraifft, y plant hynny a allai fod yn destun pryder, a allai fod angen hwb, a allai fanteisio ar yr ymyraethau hynny, yn hytrach na gr?p llawer llai o blant a oedd angen rhywbeth gwahanol iawn, sef darpariaeth dysgu ychwanegol, nad oedd ar gael i weddill eu cyfoedion, gan dargedu ymyraethau tuag at y plant hynny a chanddynt ADY arbennig o ddifrifol. Esboniodd fod y darn hwn o waith wedi bod yn ddiddorol, yn nhermau gweithio gyda'r ysgol a gweithio gyda'r rhanbarth, gan ei fod wedi gwneud i bawb edrych ar yr ymyraethau o ansawdd da a oedd ganddynt. Roedd yr ymyraethau a'r cymorth yn dal ar gael, ond ar gyfer gr?p llawer llai o blant, ac roedd hyn yn wir drwyddo draw yn nhermau dosbarthiad arferol, ac yn golygu rhoi mwy o fewnbwn i ddarpariaeth dysgu ar gyfer plant â'r anghenion mwyaf.

 

Dywedodd y CADY, Ysgol Gyfun Maesteg ei bod yn cefnogi'r hyn yr oedd y Prif Seicolegydd Addysg wedi'i ddweud. O ran ADY, roedd yr ysgol wedi bod yn defnyddio gwahanol ddulliau o fonitro'r dysgwyr yr oedd yr Awdurdod wedi'u hargymell yn gadarn. Roedd gan yr Ysgol ei rhestr o ddysgwyr darpariaeth gyffredinol yr oedd yr athrawon yn ymwybodol ohoni, a nodai’r anghenion a sut y gallai'r athro fodloni'r anghenion hynny orau. Byddai'r rhestr honno ar wahân i'r gofrestr ADY, a oedd yn llawer byrrach gan fod y ddarpariaeth dysgu yr oedd ei hangen ar gyfer y rhestr honno wedi'i chynllunio'n arbennig. Roedd hyn yn ymagwedd newydd er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cael eu hadnabod ac y tynnir sylw'r bobl gywir atynt.

 

Gofynnodd Aelod a oedd yr Awdurdod Lleol yn etifeddu plant o awdurdodau eraill, a oedd yn rhoi pwysau ar y Cyngor.

 

Esboniodd y Prif Seicolegydd Addysg fod yr Awdurdod Lleol i raddau wedi dioddef yn sgil ei lwyddiant ei hun, yn enwedig oherwydd cryfder ysgolion arbennig.  Er bod ceisiadau wythnosol am leoedd mewn ysgolion arbennig nad oedd yr Awdurdod yn gallu darparu ar eu cyfer, yn achos disgyblion a oedd yn byw y tu allan i'r sir, roedd teuluoedd yn symud i mewn i'r sir oherwydd cryfder yr ysgolion. Roedd Pen-y-bont yn gefnogol, ac yn ddiweddar wedi datblygu llawer o ddarpariaeth i blant a oedd wedi profi gofal, a'r cyfleusterau i blant a oedd wedi dod i fyw mewn tai gyda chymorth ym Mhen-y-bont, gan fod y cartrefi wedi'u sefydlu. Ond roedd addysg law-yn-llaw a hyn, felly roedd mynediad at addysg o dan bwysau sylweddol.

 

Gofynnodd yr Aelod am amlinelliad o gost hyn i'r awdurdod lleol.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p Cymorth i Ddysgwyr nad oedd yr wybodaeth hon wrth law, ond y gellid ei darparu ar ôl y cyfarfod.

 

Cyfeiriodd Aelod at bwynt a oedd wedi'i godi gan y Prif Seicolegydd Addysg, lle dywedodd y byddai gan 23% o blant angen, a gofynnodd am ddadansoddiad pellach o'r gyfran, fesul ardal / categori angen.

 

Dywedodd y Prif Seicolegydd Addysg fod y ffigur wedi'i dynnu o ddata rhanbarthol a data cenedlaethol, a oedd wedi dod o'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) a oedd wedi'i lenwi gan yr ysgolion. Byddai ystod o anghenion ychwanegol yn ffurfio'r 23%, gan gynnwys oedi mewn datblygiad cyffredinol, anawsterau dysgu difrifol, ymddygiad emosiynol ac anawsterau cymdeithasol. Nid oedd y ganran wedi'i dadansoddi yn nhermau'r data rhanbarthol. Yn hytrach, data CYBLD oedd hyn ar gyfer unrhyw blentyn a oedd yn cofnodi angen ychwanegol. Roedd hyn yn newid aruthrol i weithwyr proffesiynol o dan y diwygiad newydd, gan edrych ar effaith yr angen dysgu.   Ni fyddai diagnosis o awtistiaeth nac ADHD neu nam ar y golwg, ynddynt eu hunain, yn cael eu galw'n angen dysgu ychwanegol. Roedd yn golygu edych ar ffactorau sy'n atal dysgu. Roedd hyn hefyd yn her enfawr i deuluoedd a'r unigolyn ifanc, na fyddai o reidrwydd yn gymwys fel unigolyn ag ADY, er y gallai wynebu heriau neu anabledd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Roedd plant ar draws yr awdurdod lleol a chanddynt yr holl heriau a'r anawsterau a oedd wedi'u hamlinellu, na fyddent yn wynebu rhwystr i ddysgu oherwydd gallai cyfarpar neu ddeunyddiau neu feddyginiaeth eu cefnogi i'w galluogi i ddysgu gyda'u cyfoedion. Ni fyddai hynny'n gyfystyr ag ADY.  Rodd y cod newydd yn wahanol iawn i'r cod ymarfer blaenorol, yn sgil newid aruthrol i'r hyn a oedd yn cael ei ystyried yn 'rhwystr i ddysgu'. Serch hynny, roedd y cod newydd yn gadarnhaol, am ei fod yn canolbwyntio ar angen.

 

Sicrhaodd Arweinydd y Synhwyrau yr Aelodau fod y niferoedd yn aros yn weddol sefydlog drwyddi draw, ac o ran yr addasiadau rhesymol a oedd wedi'u sefydlu, ni fyddent yn newid i'r bobl ifanc y nodwyd bod ganddynt nam ar y clyw neu ar y golwg. Roedd hyn yn golygu cael gwared â'r rhwystrau i ddysgu, ac yn aml byddai'r gwasanaeth yn ymwneud â'r achos yn fuan iawn, yn syth ar ôl cael diagnosis. Pwrpas y gwasanaeth oedd cefnogi mynediad at ddysgu. Gan hynny ni fyddai gweithredu'r ADY newydd yn effeithio ar yr hyn a oedd yn cael ei ddarparu i bobl ifanc â nam ar y clyw neu nam ar y golwg, a fyddai'n dal i gael mynediad at y gwasanaethau, a allai olygu mynediad at athrawon arbenigol, mynediad at gyfarpar arbenigol a hyfforddiant ar sut i'w defnyddio a datblygu'r sgiliau ar gyfer hynny.

 

Nododd Cynrychiolydd Cofrestredig, y Sector Ysgolion Uwchradd, fod 4.2 yn datgan bod 'angen cynyddu'r ddarpariaeth ADY sydd ar gael i ysgolion cyfrwng Cymraeg', a gofynnodd a oedd disgyblion cyfrwng Cymraeg yn derbyn yr un math o ddarpariaeth â disgyblion cyfrwng Saesneg cyfatebol. Pe na bai'r gefnogaeth ar gael, roedd hi'n pryderu y gallai rhieni gael eu gorfodi i symud disgyblion i ysgolion cyfrwng Saesneg. Gofynnodd hefyd ai un prawf yn unig oedd ar gael o hyd ar gyfer myfyrwyr a dyslecsia sy'n siarad Cymraeg.

 

Esboniodd y Rheolwr Gr?p Cymorth i Ddysgwyr fod y consortiwm wedi bod yn ymchwilio mwy i adnoddau a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg, mewn perthynas â'r Ddeddf ADY. Roedd aelod o staff yn ymwneud yn helaeth â hynny, ac wedi dechrau cyflwyno hyfforddiant ar lefel consortia. Roedd y Gwasanaeth Cymorth i Ddysgwyr, yn enwedig timau ADY, yn cynnwys aelodau da o staff cymwys sy'n siarad Cymraeg. O ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg ehangach, ynghyd ag ADY, roedd adolygiad cynllunio strategol ar y gweill.  Roedd Bwrdd wedi'i sefydlu, ynghyd ag is-bwyllgorau a oedd yn cyfrannu at y Bwrdd hwnnw, i ymchwilio i addysg cyfrwng Cymraeg, ac yn rhan o'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Er enghraifft, nodwyd cyn hynny fod angen sicrhau tegwch â'r ddarpariaeth i blant â diagnosis awtistiaeth, hy, os oeddent hefyd yn siarad Cymraeg, y byddent yn gallu parhau i dderbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Cyfeiriodd at y ganolfan adnoddau dysgu ar gyfer awtistiaeth i siaradwyr Cymraeg yn Ysgol Gynradd Calon y Cymoedd, ac ar ôl hynny, y ganolfan adnoddau dysgu Uwchradd yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd.  Roedd y ddarpariaeth Anhawster Dysgu Cymedrol (ADC) yn cael ei hystyried, er mwyn gweld a oedd angen agor canolfannau adnoddau dysgu yn y maes hwnnw.

 

O ran tegwch y ddarpariaeth, nododd Arweinydd ADY y Blynyddoedd Cynnar, Gwybyddiaeth a Dysgu a CMMI fod tegwch yn bodoli eisoes. Fodd bynnag, oherwydd niferoedd y myfyrwyr a gafwyd yn y gorffennol, roedd y ddarpariaeth honno'n fwy rhithiol, ac yn hytrach nag aros mewn ysgol benodol, roedd yr athro'n symud o'r naill ysgol i'r llall. Mewn ysgol cyfrwng Saesneg, byddai digon o blant i gael dosbarth cyfan mewn gr?p blwyddyn, ond byddai'r 4 ysgol cyfrwng Cymraeg yn cynnwys llai o blant, felly byddai'r ddarpariaeth yn ymddangos ychydig yn wahanol. Fodd bynnag, roedd y niferoedd bellach yn dangos bod digon o blant i allu agor darpariaeth ADC ar gyfer y cyfnod Cynradd, cyn edrych ar y dystiolaeth i weld beth fyddai ei angen yn yr Uwchradd. Gyda disgyblion yn bwydo'r ysgolion uwchradd o 4 ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg a 50 ysgol gynradd cyfrwng Saesneg, roedd y niferoedd yn wastad yn mynd i fod yn is yn y sector Cymraeg.

O ran y ddarpariaeth ADC ar gyfer siaradwyr Cymraeg Cynradd, roedd y ganolfan wirioneddol wedi'i chynllunio ar gyfer mis Medi 2022.

 

O ran adnoddau, roedd gwaith wedi dechrau cyn Covid-19 yn benodol ar brawf darllen, ac roedd y prawf i fod i gael ei dreialu yn ysgolion Caerdydd wrth i'r pandemig ddechrau, felly nid oedd hynny'n bosibl. Byddai hyn yn cael sylw yn awr, ac roedd gwaith ar droed i ddatblygu'r adnoddau hynny, gan nodi bod y Ddeddf newydd yn mynnu'r tegwch hwnnw o ran darpariaeth.

 

Esboniodd y Rheolwr Gr?p Cymorth i Ddysgwyr fod yr awdurdod lleol wedi cydweithio â Phenaethiaid erioed, ac mai dyna'r model y gwnaethant gytuno a fyddai'n well ganddynt, yn hytrach nag un ganolfan adnoddau mewn lleoliad penodol. Roedd pethau wedi symud ymlaen, a'r model newydd yn cael ei archwilio ochr yn ochr â datblygu hynny drwy'r cyfnod Uwchradd, er mwyn cael parhad yn y ddarpariaeth.

 

Dywedodd Aelod ei bod yn ymwybodol nad oedd consortia bob amser yn dderbyniol gan bob Cyngor, ac y gallent fod yn ansefydlog, gan dynnu sylw at gynghrair Ein Rhanbarth ar Waith (ERW).  Gofynnod a oedd Consortiwm Canolbarth y De (CCD) yn sefydlog, a beth fyddai'r tebygolrwydd o roi Cynllun Rhanbarthol at ei gilydd na ellid ei weithredu gan na fyddai partneriaid am gymryd rhan.

 

Cydnabu'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod y cwestiwn yn bwysig o ran y berthynas â'r consortiwm. Roedd ganddo rywfaint o ddealltwriaeth o'r modd yr oedd model ERW yn gweithio, gan esbonio ei fod yn fwy o gynghrair rhwng yr awdurdodau lleol a oedd yn cymryd rhan. Roedd CCD yn fodel gwahanol. Roedd yn fusnes yr oedd yr awdurdod lleol wedi tanysgrifio iddo - swyddogaeth cleient deallus, felly i bob pwrpas roed yr awdurdod lleol yn talu'r gwasanaeth, ac roedd gan y gwasanaeth hwnnw gyfres o amcanion busnes yn ei gynllun yr oedd angen eu cyflawni. Roedd hi'n ddeg dweud mai'r adborth gan yr ysgolion, ac yn bendant Swyddogion, oedd fod gwasanaeth CCD yn cynnig gwerth am arian, yn enwedig yn nhermau ADY ond yng nghyd-destun ehangach dysgu ac addysgu, arweinyddiaeth a chymorth. O safbwynt yr awdurdod lleol, roedd y consortiwm yn cynnig gwasanaeth da iawn.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio fod ymrwymiad gwleidyddol sefydlog a pharhaus i CCD, felly nid oedd modd ei gymharu â'r hyn a ddigwyddodd i ERW. Roedd Pen-y-bont ar Ogwr / Bro Morgannwg / Caerdydd / Merthyr a RhCT wedi ymrwymo i'r Cynllun Busnes. Roedd yn cynnwys ysgrifenyddiaeth barhaol ardderchog, Cyfarwyddwr a Dirprwy Gyfarwyddwr ardderchog, ac roedd yr Aelodau'n cyfarfod â Llywodraeth Cymru (LlC) ar delerau cyfartal. O ran swyddogaethau arbenigol, fel ADY, roedd yr arbenigedd ar gael.

 

Esboniodd y CADY, Ysgol Gynradd Blaengarw, nad oedd hi wedi cael profiad helaeth o ADY drwy'r consortiwm, ond roedd rhaglen datblygu'r gweithlu yr oedd y consortiwm yn ei datblygu ar hyn o bryd wedi bod o fudd enfawr. Roedd hi wedi cwblhau'r rhaglen arweinyddiaeth ganol ac roedd CCD ar hyn o bryd yn cynllunio am restr chwarae ADY Hwb, o fis Medi. Roedd Arweinydd Trawsnewid ADY CCD hefyd wedi bod yn fuddiol iawn ar lefel consortia, felly o safbwynt yr ysgol cafwyd profiadau cadarnhaol iawn gyda'r consortiwm.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd Strategol Tegwch a Llesiant, CCD, eu bod yn gweithio mewn partneriaeth i alinio'r gefnogaeth, gan gydblethu gwaith yr ADY, ochr y cwricwlwm newydd, a'r dull ysgol gyfan o ymdrin â iechyd a llesiant meddwl, a oedd yn heriau mawr i ysgolion ac awdurdodau lleol.  Roedd y consortiwm wedi cymryd rhan yn y gwaith o lunio'r canllawiau rhanbarthol, a byddai'r rheiny'n sefyll ochr yn ochr â gwaith y consortiwm ar degwch a rhagoriaeth, sef y strategaeth sy'n trafod dysgu drwy athro i bob disgybl.

 

Gofynnodd Cynrychiolydd Cofrestredig - Yr Eglwys yng Nghymru a oedd gan yr awdurdod lleol gynllun strategol penodol er mwyn gweithredu'r Ddeddf yn llawn.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p Cymorth i Ddysgwyr fod Cynllun Rhanbarthol ar waith bob blwyddyn a bod Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedyn yn creu ei Gynllun Lleol. Roedd Bwrdd lleol wedi'i sefydlu ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr, a phob mis byddai arweinwyr trawsnewid ADY yn bresennol yng nghyfarfod y Bwrdd ac yn rhoi'r newyddion diweddaraf am gynnydd y cynllun. Roedd y cynlluniau ar ffurf drafft ar gyfer y flwyddyn i ddod, yn disgwyl cymeradwyaeth LlC, ond byddai cynllun cadarn ar waith er mwyn symud ymlaen ym mis Medi.

 

Cyfeiriodd Cynrychiolydd Cofrestredig, y Sector Ysgolion Uwchradd, at dudalen 27 am flaenoriaeth un, yn gysylltiedig â Chynlluniau Datblygu Unigol (CDUau), a'r defnydd o'r ymadrodd 'cohort wedi'i ragbennu' a gofynnodd pwy oedd yn sicrhau bod disgyblion y tu allan i'r cohort wedi'i ragbennu yn dal i dderbyn y cymorth yr oedd ei angen arnynt.

 

O ran eleni, hyd at weithredu'r diwygiad, esboniodd y Prif Seicolegydd Addysg fod yr holl awdurdodau lleol yn gallu edrych ar gynlluniau peilot i'w helpu i weithredu'r cod.  Ar draws y rhanbarth, roedd gwahanol flaenoriaethau a gwahanol grwpiau o blant wedi'u nodi yn rhan o'r cynlluniau peilot hynny. Ar ddechrau'r flwyddyn, ac y nhermau'r lefel uchaf o angen, dewisodd yr awdurdod lleol ddatblygu rhai o'r CDUau peilot hynny gyda disgyblion mewn ysgolion arbennig, ee, pobl ifanc yr oedd y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn gwybod amdanynt yn ysgol Bryn Castell a disgyblion oed derbyn yn Ysgol Arbennig Heronsbridge.  Wrth i'r flwyddyn fynd rhagddi, oherwydd effaith Covid-19 a'r newid o gyfeiriad y cyn Weinidog Addysg, cafodd rhai o'r graddfeydd amser eu newid yn gysylltiedig â gweithredu'r Ddeddf. O fis Medi 2021, mae ysgolion arbennig wedi'u heithrio o god y strategaeth newydd, sy'n canolbwyntio ar gael CDU ysgol i ddisgyblion, yn hytrach na CDU a gedwir gan yr awdurdod lleol.  Yn rhan o'r broses o gyflwyno fesul cam gyda phartneriaid mewn ysgolion a thrwy'r fforwm CADY, cafodd disgyblion eu nodi mewn cyfnodau pontio allweddol yn gr?p a blaenoriaeth ar gyfer CDUau ysgol. Roedd y gwaith o nodi grwpiau penodol yn torri ar draws yr holl system addysg, felly'r flaenoriaeth y tymor hwn oedd edrych ar waith CDUau y blynyddoedd cynnar, fu'n her ac yn newid sylweddol. Felly wrth gyfeirio at grwpiau wedi'u rhagbennu, roedd y grwpiau hynny'n bodoli, ond roeddent mewn gwirionedd yn torri ar draws CDUau a gyhelir gan yr ysgol, CDUau yr ALl, ysgolion arbennig ac ysgolion prif ffrwd.

 

Esboniodd Arweinydd ADY y Blynyddoedd Cynnar, Gwybyddiaeth a Dysgu a CMMI nad oedd CDUau yn statudol hyd 1 Medi, felly'r hyn dan sylw oedd y plant a oedd wedi'u dewis. Roedd y plant a ddewiswyd i ddechrau yn mynd i'w darpariaeth arbenigol a byddai angen CDU arnynt o fis Medi pan fyddai'r Ddeddf newydd yn dod i rym.  Hefyd, gan mai peilot oedd y syniad, a'i fod yn golygu cydweithio â chydweithwyr iechyd, cafodd plant eu dewis os oedd gweithwyr iechyd yn ymwneud â'u hachosion, gan mai pwrpas y cynlluniau peilot oedd cael pawb i gydweithio. Roedd y sefyllfa ychydig y wahanol yn lleoliadau'r blynyddoedd cynnar gan nad oedd ganddynt o reidrwydd y dechnoleg a fyddai o bosib ar gael yn yr ysgolion, i gynnwys pobl a'r gofod. Roedd mwy i hyn na dewis plant ac edrych ar eu hanghenion a'u CDUau - roedd yn golygu edrych sut y byddai'r dull cyfannol o ganolbwyntio ar yr unigolyn yn gweithio mewn lleoliadau gyda llawer o wahanol bobl ee, ymglymiad iechyd, ymwelwyr iechyd ac ati, yn benodol, a'u hymglymiad yn y broses honno.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd Synhwyrau bod cysylltiadau ag addysg bellach wedi cael eu sefydlu erioed i bobl ifanc â nam ar y synhwyrau, ac mai'r hyn oedd ei angen oedd sicrhau eu bod yn dal i fod yn ganolbwynt i bopeth, gan feddwl am y cysylltiadau pontio hynny a sicrhau bod ganddynt lais wrth adael y naill leoliad addysg a symud i leoliad arall.  Roedd hefyd yn golygu edrych ar yr hyn y gallent elwa arno wrth dyfu drwy fyd addysg, yr hyn yr oedd arnynt ei angen o ran cyfarpar, sut yr hoffent gael eu cefnogi, a pha wybodaeth yr hoffent ei rhannu am eu nam ar y clyw neu eu nam gweledol. Roedd yn golygu gweithio'n agos gyda'r coleg, ond hefyd mewn modd mwy ffurfiol, cysylltu'r coleg â CDUau, a chefnogi gweithwyr proffesiynol yn y coleg i sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth lawnach o anghenion a llais y bobl ifanc a gefnogir.

 

Cyfeiriodd Aelod at bwynt y cyfeiriodd y Prif Seicolegydd Addysg ato yn gysylltiedig â'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, a gofynnodd beth oedd cynnydd yr awdurdod lleol o ran nodi rhwystrau i ddysgu, yn enwedig ymhlith pobl ifanc mewn Sefydliadau Troseddwyr Ifanc, yn ogystal â'r rhai dan 25 oed a oedd ar hyn o bryd yn adain pobl ifanc y carchardai.

 

Cydnabu'r Pennaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod hyn yn bwynt pwysig. Gallai rhai o'r bobl ifanc a oedd yn ymwneud â'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid fod ymhlith rhai o'r bobl ifanc mwyaf bregus yr oeddem yn gweithio gyda nhw ar draws yr awdurdod lleol. Un o'r mentrau oedd edrych arnynt drwy broses y CDU a sicrhau bod eu hanghenion addysgol yn cael eu bodloni tra'r oeddent yn y gymuned. Cafwyd problem yn y gorffennol yn gysylltiedig â rhai pobl ifanc yr oedd y gwasanaeth yn gwybod amdanynt, yr oedd eu hamserlenni'n cynnwys llai o oriau, ond roedd hyn bellach yn cael ei adolygu'n rheolaidd er mwyn sicrhau bod y bobl ifanc hynny'n derbyn y nifer o oriau o addysg yr oedd ganddynt hawl i'w derbyn. Roedd y cyfraddau carcharu ymhlith plant a phobl ifanc yn isel iawn, ond weithiau byddai unigolyn ifanc yn cyflawni trosedd ac yn gorfod mynd i'r ddalfa. Yn dibynnu ar y sefydliad ac oedran yr unigolyn, byddai'n derbyn addysg statudol o fewn y sefydliad pe bai o oed ysgol statudol, a byddai'r addysg honno'n cael ei monitro gan systemau monitro allanol, hy, Estyn, yn dibynnu ar y sefydliad. Yn ogystal â hynny, mae'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn cadw cysylltiad â phobl ifanc drwy gydol eu dedfryd ac ar ôl iddynt gael eu rhyddhau. Roedd cynllun ar waith ar gyfer pob unigolyn ifanc, a byddai gweithiwr cymdeithasol/troseddau ieuenctid yr unigolyn, sy'n monitro ei ddedfryd ac yn monitro'r holl ymyraethau a gaiff drwy gydol ei ddedfryd, yn dilyn y cynllun hwnnw.  Roedd hyn yn cynnwys addysg, ond hefyd yn cynnwys sicrhau bod anghenion iechyd neu unrhyw anghenion iechyd meddwl yn cael eu bodloni wrth gynllunio'r ddedfryd a chynllunio'r cyfnod ar ôl rhyddhau.

 

Cyfeiriodd Aelod at Atodiad B, Tudalen 43, cyfrifoldebau newydd llywodraethwyr, ac esboniodd, fel Cadeirydd Llywodraethwyr Pen-y-bont ar Ogwr fod pryderon wedi codi ynghylch archwiliadau parodrwydd ADY, beth oedd hynny'n ei olygu, sut y byddai'r rhain yn cael eu cynnal, a sut y byddai hyn yn effeithio ar drosiant staff mewn cyrff llywodraethu.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p Cymorth i Ddysgwyr fod Arweinydd Trawsnewid ADY CCD wedi bod yn ystyried hyfforddiant i lywodraethwyr a bod hynny wedi cael ei gynnig i'r consortiwm.

 

Esboniodd y CADY, Ysgol Gynradd Blaengarw ei bod wedi derbyn hyfforddiant corff llywodraethu yn ddiweddar i ysgolion wedi'u ffedereiddio. Nododd fod gan y Corff Llywodraethu gwestiynau ynghylch eu sefyllfa gyfreithiol yn hyn o beth, gan fod pennu plant yn blant ADY ai peidio yn gyfrifoldeb a ddirprwyir i'r ysgol, a bod y corff llywodraethu, yn amlwg, yn ymddiried ym marn broffesiynol Cydgysylltwyr ADY. Deallai y byddai rhywfaint o gyngor cyfreithiol ar gael i Benaethiaid a chyrff llywodraethu ynghylch y broses, ond bod rhywfaint o oedi wedi bod o ran hynny. Roedd yr Ysgol wedi gweithio'n galed i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Llywodraethwyr, ac ystyried maint y gwaith i ddiwygio ADY, ond wrth symud ymlaen byddai'n rhaid i hyn ddigwydd yn fwy rheolaidd.

 

Cydnabu'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd ymdrechion gwych Cadeirydd Cymdeithas Llywodraethwyr Pen-y-bont ar Ogwr wrth helpu'r awdurdod lleol i hyfforddi llywodraethwyr, gan fod y Gymdeithas honno wedi bod yn gaffaeliad i Ben-y-bont ar Ogwr ers rhai blynyddoedd. Bob blwyddyn byddai CCD yn gofyn i'r awdurdod lleol nodi blaenoriaethau yng nghynllun busnes CCD. Un o flaenoriaethau allweddol yr awdurdod lleol a'i darged ar gyfer y flwyddyn oedd helpu i recriwtio a datblygu llywodraethwyr ysgol, gan wneud yn si?r fod hyfforddiant allweddol, ee, diwygio ADY a diwygio'r cwricwlwm ac eitemau allweddol eraill, yn cael eu cynnwys yn rhan o hynny.

 

Mewn perthynas â rhoi cyngor yn lleol, esboniodd y Rheolwr Gr?p Cymorth i Ddysgwyr fod y cod wedi cael ei ryddhau'n hwyrach na'r disgwyl, felly nid oedd swyddogion tîm cyfreithiol yr awdurdod lleol ond newydd dderbyn hyfforddiant cyfreithiol yn yr ychydig wythnosau diwethaf, felly byddai cynllun gweithredu yn cael ei roi ar waith y flwyddyn nesaf, er mwyn cefnogi'r ysgolion.

 

Cydnabu'r CADY, Ysgol Gyfun Maesteg fod pwynt diddorol wedi'i godi ynghylch trosiant staff ar gyrff llywodraethu, a'i bod yn galonogol clywed y byddai'r hyfforddiant yn barhaus, wrth i lywodraethwyr ddod i mewn ac allan o'u swyddi. Fel arall ni fyddai rhai wedi derbyn yr wybodaeth am y weithdrefn cyn cael eu taflu i sefyllfa lle’r oeddent yn atebol am benderfyniadau.

 

Esboniodd Pennaeth Ysgol Maesteg y byddai'n anghyffyrddus, fel Pennaeth, o beidio cael mewnbwn gan y consortiwm neu'r Awdurdod Addysg Lleol i sicrhau ei bod yn gwneud y peth iawn ac yn cyfleu'r neges gywir wrth y Llywodraethwyr. Byddai'n beryglus i Benaethiaid unigol fod yn gyfrifol am hyfforddi llywodraethwyr, gan na fyddai hynny o reidrwydd yn sicrhau'r cysondeb yr oedd yr awdurdod lleol yn anelu amdano. Roedd hi felly'n croesawu'r rhaglen hyfforddi, yn enwedig ynghylch y cyngor cyfreithiol.

 

Roedd yr Aelod yn croesawu'r newyddion y byddai cyngor cyfreithiol ar gael i Lywodraethwyr, gan fod nifer o gwestiynau'n codi.

 

Gofynnodd Cynrychiolydd Cofrestredig - Yr Eglwys yng Nghymru am i unrhyw hyfforddiant, boed hwnnw'n hyfforddiant fel awdurdod lleol  neu fel consortiwm, yn hyfforddiant wedi'i ddarparu gan ymarferwyr yn hytrach na damcaniaethwyr.

 

Cytunodd y Rheolwr Gr?p Cymorth i Ddysgwyr â hynny. Roedd llawer o hyfforddiant wedi cael ei roi i CADY i'w raeadru i'r holl ysgolion, felly roedd hyn yn bwysig.

 

Yn gysylltiedig â'r grant trawsnewid ADY, gofynnodd Aelod pa gyfran o'r cyllid a fyddai'n dod i Ben-y-bont ar Ogwr mewn gwirionedd.

 

Esboniodd y Rheolwr Gr?p Cymorth i Ddysgwyr y byddai angen iddi edrych yn fanylach ar hynny a rhoi gwybod beth fyddai'r elfen honno o'r ganran.

 

Dywedodd Aelod nad oedd wedi cael ateb i'w cwestiwn, ynghylch a oedd y cyllid yn ddigonol ai peidio.

 

Cydnabu'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod nifer o ffrydiau cyllido ar gael gan LlC yn gysylltiedig â'r grantiau ADY, arloesi a thrawsnewid, a bod y rhain wedi'u rhannu mewn amryw o ffyrdd gwahanol. Byddai'r grant cyffredinol ar gael drwy'r consortiwm ac yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol ac ysgolion, ond hefyd i bartneriaid o fewn y system, ee, y Bwrdd Iechyd a phartneriaid eraill, yn dibynnu ar y grant. O ran pa mor ddigonol oedd y cyllid hyd yma, roedd LlC wedi dosbarthu ffrydiau cyllido sylweddol ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru, ond yn y dyfodol roedd hi'n amlwg y byddai galw helaeth am y gwasanaeth, ac yn bendant i gydweithwyr CADY ar lawr gwlad, byddai hyn yn her.

 

Dywedodd yr Aelod mai'r hyn yr oedd yn poeni amdano gyda grantiau oedd nad oedd hynny weithiau'n creu ateb cynaliadwy, ac mai'r hen stori oedd y byddai'r grant yn y pen draw yn cael ei gynnwys yn y Grant Cynnal Refeniw, felly doedd neb mewn gwirionedd yn gallu cael hyd iddo.

 

Cydnabu'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd mai dyma oedd yr her annatod gyda phob grant - sef sicrhau cynaliadwyedd. Rhan o'r gwaith yr oedd y Rheolwr Gr?p Cymorth i Ddysgwyr a'i thîm yn ei wneud oedd sicrhau bod cydweithwyr mewn ysgolion wedi'u hyfforddi i sicrhau eu bod yn arbenigo yn hyn, nid yn unig o fewn eu hysgolion eu hunain, ond o fewn y system hunan-wella lle'r oedd ysgolion yn cefnogi'r naill a'r llall, a oedd hefyd ymhlith egwyddorion canolog ymagwedd CCD.

 

Holodd Cynrychiolydd Cofrestredig - Yr Eglwys yng Nghymru ynghylch yr arian a oedd yn cael ei ddal gan RhCT ac a oedd yn cael ei rannu rhwng y 5 Awdurdod a oedd yn ffurfio'r consortiwm. Os felly, pam nad y consortiwm ei hun oedd yn dal yr arian - pam ei ddatganoli i RhCT i'r awdurdod wedyn ei ddatganoli i'r 5 Awdurdod. 

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd mai dim ond partner yn gweithredu ar ran y consortiwm oedd RhCT, felly nid oedd RhCT yn dal unrhyw gyllid ychwanegol, ond yn hytrach roedd yn ei drefnu ar ran y consortiwm. Roedd y broses hon yn debyg yn achos AD hefyd.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio mai dim ond darparu ysgrifenyddiaeth ar gyfer y consortiwm oedd RhCT, ac nad oedd hynny ond yn swyddogaeth weinyddol.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p Cymorth i Ddysgwyr fod y £93k yn cael ei ddal ar darws y 5 Awdurdod.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad ar Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnllys Addysg (ALNET) 2018, gwnaeth y Pwyllgor yr argymhellion canlynol:

 

  1. Bod rôl i Gymdeithas y Llywodraethwyr sicrhau cysondeb yng nghyfrifoldebau cyfathrebu Cyrff Llywodraethu, ac y dylid trefnu sesiwn hyfforddi ADY arall yn un o gyfarfodydd nesaf y Gymdeithas Llywodraethwyr.

 

  1. Bod angen sicrhau bod Hyfforddiant i Lywodraethwyr yn parhau i gael ei ddarparu gan ymarferwyr proffesiynol, yn hytrach na damcaniaethwyr, gan ei bod wedi bod yn fuddiol iawn derbyn hyfforddiant gan ymarferwyr ADY profiadol, ee, Cydgysylltwyr ADY.

 

  1. Mynegi pryder ynghylch a yw'r ffrydiau cyllido'n ddigonol i fodloni galw sylweddol a'r angen i gyllid fod yn gynaliadwy yn y dyfodol, yn hytrach na chael ei gynnwys yn y Grant Cynnal Refeniw.

 

  1. Dylai'r Pwyllgor fonitro'r dyddiad cau ar gyfer Darpariaeth ADY Cyfrwng Cymraeg i siaradwyr Cymraeg.

 

  1. Dylai'r Pwyllgor fonitro gweithrediad y Ddeddf ac effeithiau codi'r meini prawf.

 

  1. Bod y Pwyllgor yn gofyn am y canlynol:

 

a)    Gwybodaeth am drefniadau'r adolygiad cymheiriaid, ac a fydd y Gr?p Cymheiriaid yn cael ei ddethol drwy Gonsortiwm Canolbarth y De neu'n allanol.

 

b)    Gwybodaeth am y gwahanol gategorïau o ADY, a'r costau ar gyfer bodloni pob angen, a fydd yn amrywio'n helaeth.

 

c)    Cyfanswm y grant trawsnewid ADY a'r cyllid a ddosrennir i Ben-y-bont ar Ogwr.

 

Gwybodaeth a chostau'n gysylltiedig â chostau etifeddol, cynnydd parhaus a phwysau ychwanegol wrth i bobl symud i mewn i'r ardal.

Dogfennau ategol: