Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Polisi Trwyddedu adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i gerbydau hacni cwbl drydanol sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn ac sy'n rhan o Gynllun Peilot Fflyd Werdd Llywodraeth Cymru gael eu heithrio o rai amodau penodol y drwydded cerbydau hacni.
Eglurodd y Swyddog Polisi Trwyddedu fod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Cynllun Peilot Green Fleet mewn tair ardal ledled Cymru. Byddai'r cynllun yn gweithredu menter 'rhoi cynnig arni cyn prynu', gan ganiatáu i yrwyr tacsi roi cynnig ar gerbyd cwbl drydanol sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn am 30 diwrnod yn rhad ac am ddim. Byddai'r treial yn cynnwys gwefru am ddim, yswiriant, trwyddedu cerbydau a byddai'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Y cerbyd hacni dan sylw oedd Nissan Dynamo, sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn. Ychwanegodd y byddai gofyn i yrwyr gwblhau arolwg gwerthuso ar ôl cwblhau'r treial ac y byddent yn cael gwybodaeth am gynlluniau/cymorth sydd ar gael ar gyfer perchnogaeth/prydles hirdymor cerbydau dim allyriadau.
Adroddodd y Swyddog Polisi Trwyddedu mai bwriad y peilot oedd cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei tharged o ddad-garboneiddio'r fflyd tacsis yn gyfan gwbl erbyn 2028, gan y gobeithid y byddai'n helpu gyrwyr tacsis i sylweddoli ar y manteision ariannol ac amgylcheddol a geir o ddefnyddio cerbydau dim allyriadau, ac y bydden yn eu tro yn cyfrannu at y symudiad oddi wrth gerbydau diesel/petrol at gerbydau dim allyriadau. Byddai'r cynllun yn rhedeg am 2-3 blynedd. Gofynnwyd am gynllun lliwiau llawn ar gyfer y cerbydau hacni a oedd yn rhan o'r cynllun peilot hwn i sicrhau bod y fenter yn cael ei hysbysebu ar draws yr ardal ac i annog eraill i fod yn rhan o'r cynllun. Manylwyd ar gopi o'r hysbyseb y gofynnwyd amdani yn Atodiad A i'r adroddiad. Er mwyn hwyluso trwyddedu’r cerbydau sy’n rhan o Gynllun Peilot Green Fleet, byddai angen diwygio amodau trwydded presennol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer cerbydau hacni. Cynigiwyd y byddai'r llacio ond yn berthnasol i'r cerbydau hynny a oedd yn rhan o'r Cynllun Peilot.
Eglurodd y Swyddog Polisi Trwyddedu, mewn cryn fanylder, yr amodau presennol sy’n ymwneud â lifrai, lleoliad sticeri adnabod yr Awdurdod Trwyddedu ar ddrysau a’u harwyddion to, a'r diwygiadau arfaethedig i'r amodau a fyddai’n galluogi trwyddedu cerbydau Peilot y Green Fleet. Cynhaliwyd ymgynghoriad 7 diwrnod gyda gweithredwyr hurio preifat y fanach dacsis, gan nodi'r newidiadau arfaethedig a gofyn am unrhyw sylwadau. Derbyniwyd un ymateb i'r ymgynghoriad a oedd yn nodi: "Mae'n swnio'n dda :) hoffem roi cynnig ar un os gwelwch yn dda, rydym wedi cael tipyn o alwadau am fysiau sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn"
Gofynnodd aelod a oedd y gyrwyr tacsi a oedd yn cymryd rhan yn y cynllun yn gymwys o dan eu trwydded a'u hyswiriant presennol neu a oedd yn rhaid gwneud unrhyw ddiwygiadau. Atebodd y Swyddog Polisi Trwyddedu nad oedd angen unrhyw newidiadau i'r drwydded a bod yswiriant wedi'i gynnwys yn y cynllun.
Gofynnodd aelod pam fod cerbydau o dan y cynllun wedi'u heithrio rhag bod yn wyn. Atebodd y Swyddog Polisi Trwyddedu y bu cais am gynllun lliwiau penodol fel y gellid adnabod yr holl gerbydau'n hawdd yn y tri rhanbarth, ac i wneud gyrwyr yn ymwybodol bod y cynllun yn mynd rhagddo. Gofynnodd yr aelod pam na allent fod yr un fath â gweddill y fflyd. Atebodd y Swyddog Polisi Trwyddedu mai dim ond ar gyfer y cynllun peilot y byddai hyn, ac y byddai’n annog gyrwyr eraill i ymgymryd â'r fenter. Ni fyddai hyn yn newid parhaol ond dim ond drwy gydol y cynllun peilot. Ychwanegodd y byddai'r diwygiadau i'r amodau yn dod i ben pan ddeuai’r cynllun i ben. Byddai angen cyflwyno unrhyw newidiadau parhaol i'r Pwyllgor.
Cododd aelod bryderon am y diffyg ymatebion cadarnhaol i'r ymgynghoriad gan ei fod yn credu bod hwn yn gyfle delfrydol i fanteisio ar yr opsiwn. Gofynnodd beth oedd yr opsiynau ar ddiwedd y treial 30 diwrnod a hefyd pa fath o gerbyd ydoedd ac a oedd yn gerbyd sy’n llwytho o’r cefn gyda mynediad lifft. Atebodd y Swyddog Polisi Trwyddedu fod yr ymgynghoriad ar y diwygiad i'r amodau ac nid ar y treial ei hun. Pan fydd y cynllun yn mynd yn ei flaen byddai llawer o gyhoeddusrwydd a byddai'r gweithredwyr a'r gyrwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan. Byddai gyrrwr yn gallu defnyddio'r cerbyd am 30 diwrnod ac ar ôl hynny byddai'n mynd at y person nesaf ar y rhestr. Cynllun oedd hwn i alluogi gyrwyr i weld manteision cerbydau cwbl drydanol. Nid oedd y Swyddog Polisi Trwyddedu yn gallu cadarnhau a allai'r cerbyd ddarparu ar gyfer cadeiriau olwyn trydan a chytunodd i ddod o hyd i'r wybodaeth a’i anfon ymlaen at aelodau'r pwyllgor drwy e-bost yn dilyn y cyfarfod. Ychwanegodd Trwyddedu'r Rheolwr Tîm mai dyma'r model a ddewiswyd ar gyfer yr holl Gynghorau a oedd yn cymryd rhan yn y cynllun, a bod hygyrchedd yn rhan o Agenda Llywodraeth Cymru o ran cyflwyno cerbyd hygyrch i gadeiriau olwyn fel rhan o'r peilot.
Cyfeiriodd aelod at dreialon tebyg a gynhaliwyd gan y gwasanaeth ambiwlans, ac os am drafod hygyrchedd cadeiriau olwyn mae ganddyn nhw gryn brofiad. Ychwanegodd bod car trydan sy’n cael defnydd bob dydd yn ddrud iawn, a bod cyfyngiadau yn ymwneud â’r pris a'r batri.
Eglurodd Trwyddedu Rheolwr Tîm mai treial oedd hwn i yrwyr ddefnyddio ceir trydan yn hytrach na chael gwared â’u cerbydau hirdymor. Byddai'r gyrwyr yn rhoi gwybodaeth yn ôl i gwmni rheoli a byddai hynny'n llywio polisi ac yn rhoi gwybodaeth am addasrwydd cerbydau yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD
Penderfynodd y Pwyllgor:
a) y byddai’r cerbydau hynny sy'n ymwneud â Chynllun Peilot Green Fleet yn cael eu heithrio o rai o amodau’r drwydded cerbyd hacni.
b) Rhoi awdurdod dirprwyedig i Brif Swyddog y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddiol i benderfynu ar faterion yn ymwneud â manylion cynllun lliwiau, hysbysebu, a sticeri drysau pe baent yn codi yn ystod cyfnod Cynllun Peilot Green Fleet.
I amodau’r drwydded cerbyd hacni canlynol gael eu diwygio fel a ganlyn:
Amod 1 Bydd pob cerbyd yn wyn ei liw ac eithrio'r cerbydau hynny sydd wedi'u cynnwys yng Nghynllun Peilot Green Fleet Llywodraeth Cymru.
Amod 2 Bydd yr holl arwyddion gludiog yn cael eu gosod ar ran uchaf drws ochr y gyrrwr a drws ochr y teithiwr blaen i nodi bod y cerbyd wedi'i drwyddedu gan y Cyngor, gyda rhif y cerbyd wedi’i nodi mewn llythrennau heb fod yn llai na 3" o uchder, ac eithrio'r cerbydau hynny sy'n ymwneud â Chynllun Peilot Green Fleet.
Amod 32 Rhaid i'r cerbyd hacni fod wedi'i ffitio ag arwydd to wedi'i oleuo, wedi'i greu i arddangos y gair "TAXI" mewn llythrennau plaen o leiaf ddwy fodfedd o uchder, gydag arwydd fflworoleuol pellach o ddimensiynau tebyg â’r geiriau "FOR HIRE" arno, a bod yr arwydd o'r fath yn cael ei osod ar ffenestr flaen y cerbyd, ac wedi’i gysylltu i’r mesurydd fel ei fod yn diffodd pan fo’n cludo teithwyr, sef pan fo’r mesurydd ar waith. Rhaid i ddyluniad yr arwyddion hyn gael ei gymeradwyo gan y Cyngor. Nid yw’r amod hwn yn berthnasol i 'Dacsi math Llundain', lle mae'r faner sy'n nodi "FOR HIRE" ynghlwm yn amlwg wrth y mesurydd. Nid yw'r amod hwn yn berthnasol i'r cerbydau hynny sy'n ymwneud â Chynllun Peilot Green Fleet.
Dogfennau ategol: