Agenda item

Datganiad Polisi Trwyddedu sy'n ymwneud â Cherbydau Hacni (Tacsi) a Cherbydau Hurio Preifat, Gyrwyr a Gweithredwyr

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Polisi Trwyddedu adroddiad a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor ystyried creu Datganiad Polisi Trwyddedu yn ymwneud â Cherbydau Hacni (Tacsi) a Cherbydau, Gyrwyr a Gweithredwyr Hurio Preifat gan ymgorffori'r safonau statudol a'r argymhellion a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan yr Adran Drafnidiaeth (DfT) a Llywodraeth Cymru.

 

Eglurodd y Swyddog Polisi Trwyddedu fod yr Adran Drafnidiaeth (DfT), ym mis Gorffennaf 2020, wedi cyhoeddi Safonau Tacsis Statudol a Cherbydau Hurio Preifat a oedd yn canolbwyntio ar amddiffyn plant ac oedolion sy'n agored i niwed. Dywedodd yr Adran Drafnidiaeth fod ymgynghoriad manwl wedi ei gwneud yn amlwg fod consensws yngl?n â’r angen am safonau gofynnol craidd cyffredin i reoleiddio'r sector tacsis a cherbydau hurio preifat yn well (atodiad A i'r adroddiad).

 

Eglurodd y Swyddog Polisi Trwyddedu fod Llywodraeth Cymru, ym mis Mawrth 2020, wedi cyhoeddi Cerbyd Tacsi a Hurio Preifat: Canllawiau Trwyddedu i Gymru. Daeth y ddogfen hon yn sgil papur gwyn Llywodraeth Cymru 'Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus' a gyhoeddwyd yn 2018. Nod yr argymhellion a wnaed yn y ddogfen oedd darparu 'atebion cyflym' i wella cysondeb safonau trwyddedu a gwella diogelwch y cyhoedd ledled Cymru. Roedd yr argymhellion yn gosod sylfaen y gallai Lywodraeth Cymru ei ddatblygu’n safonau cenedlaethol. Roedd yr argymhellion wedi'u cynnwys yn Atodiad B. Amlinellwyd 5 rheswm gan Lywodraeth Cymru i fabwysiadu'r argymhellion, diogelwch y cyhoedd oedd y cyntaf. Dylai'r cyhoedd allu hyderu bod gyrrwr trwyddedig yn gymwys, yn onest, yn ddiogel, ac yn ddibynadwy. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf cadwyd sawl adroddiad yn ymwneud â cham-fanteisio ar blant, ac roedd hynny wedi'i gwneud yn amlwg bod trefniadau gwan ac aneffeithiol trwyddedu tacsis yng Nghymru a Lloegr yn rhoi’r cyhoedd mewn perygl; gobaith yr argymhellion newydd hyn yw unioni hyn drwy wella diogelwch y cyhoedd ledled Cymru. Roedd hyn yn cynnwys diogelwch cerbydau hefyd, ynghyd â gwella'r safonau a osodir ar gyfer gweithredwyr hurio preifat. Roedd y rhesymau eraill dros fabwysiadu'r argymhellion yn cynnwys gwell cysondeb o ran safonau ledled Cymru, cysoni gorfodaeth, gwell hygyrchedd i gerbydau yng Nghymru, a safonau gwell o ran gwasanaeth cwsmeriaid.

 

Eglurodd y Swyddog Polisi Trwyddedu y byddai safonau statudol yr Adran Drafnidiaeth a chanllaw Trwyddedu Cerbydau Tacsis a Hurio Preifat Llywodraeth Cymru yn arwain at lawer o newidiadau i bolisïau ac amodau presennol. Y prif newidiadau oedd y byddai'n ofynnol i yrwyr ymuno â Gwasanaeth Diweddaru'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a chael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd bob 6 mis yn hytrach na phob tair blynedd, fel sy’n ofynnol ar hyn o bryd. Byddai gwiriad cofnod troseddol tramor ar gyfer gyrwyr, a byddai'n ofynnol i bob ymgeisydd newydd gael hyfforddiant diogelu. Byddent yn mabwysiadu Cod Ymddygiad Gyrwyr Llywodraeth Cymru ac yn diweddaru Amodau'r Gyrwyr Hurio Preifat yn unol ag Argymhellion Llywodraeth Cymru.

 

Eglurodd y Swyddog Polisi Trwyddedu y byddai'n ofynnol i berchenogion cerbydau gael gwiriad DBS blynyddol mewn perthynas â'r cerbyd. Byddai gwiriad cofnod troseddol tramor a byddent yn gorfod mabwysiadu polisi Llywodraeth Cymru ar deledu cylch cyfyng a Systemau VIPS/Dashcams mewn tacsis a cherbydau hurio preifat, a byddent yn gosod argymhellion Llywodraeth Cymru o ran amodau hygyrchedd ar berchenogion cerbydau tacsis a cherbydau hurio preifat. Yn olaf, byddent yn ymrwymo i adolygu Datganiad Polisi Trwyddedu bob 5 mlynedd yn unol â Safonau Statudol yr Adran Drafnidiaeth. Cynigiwyd y dylid creu Datganiad Polisi Trwyddedu sy'n ymwneud â Cherbydau Hacni (Tacsi) a Cherbydau, Gyrwyr a Gweithredwyr Hurio Preifat. Byddai'r ddogfen newydd hon nid yn unig yn ymgorffori'r holl safonau ac argymhellion statudol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan yr Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru, ond byddai hefyd yn cwmpasu'r holl bolisïau ac amodau atodol eraill a oedd yn ymwneud â thrwyddedu tacsis a hurio preifat. Y gobaith yw y byddai hyn yn symleiddio materion i ymgeiswyr a deiliaid trwyddedau gan y byddai'r holl ddogfennau angenrheidiol ar gael mewn un lle. Rhagwelwyd y byddai'r Datganiad Polisi Trwyddedu yn manylu ar yr holl bolisïau sy'n gysylltiedig â thacsis a hurio preifat fel atodiadau, gan wneud unrhyw newidiadau gofynnol yn y dyfodol yn hawdd i'w gweithredu. Byddai hyn yn golygu y byddai'r Pwyllgor yn gallu adolygu atodiad yn hytrach na'r ddogfen gyfan bob tro yr oedd angen newid.

 

Cyfeiriodd aelod at y gofyniad am wiriad DBS bob 6 mis yn hytrach na phob 3 blynedd, ac ychwanegodd y gallai hynny fod yn dipyn o faich i'r ymgeisydd. Atebodd y Swyddog Polisi Trwyddedu mai dyma un o argymhellion Llywodraeth Cymru a'i bod yn costio tua £40 i gael gwiriad ar hyn o bryd. Pe bai'r ymgeisydd yn defnyddio Gwasanaeth Diweddaru'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yna byddai'n talu £14 y flwyddyn. Roedd y gost hon yn fach iawn o ran diogelwch y cyhoedd, ac roedd er budd y cyhoedd, ac yn haws i'r awdurdod ei weinyddu.

 

Croesawodd aelod yr adroddiad a'r newidiadau arfaethedig ac ychwanegodd nad oes modd bod yn rhy ofalus o ran diogelu plant. Roedd hwn yn gam beiddgar ymlaen ac roedd yn rhoi ei gefnogaeth lwyr iddo.

 

Cododd aelod bryderon am y datganiad "fit and proper person", y credai y dylid ei newid i rywbeth mwy priodol.  

 

PENDERFYNWYD

 

Penderfynodd y Pwyllgor:

a) Ystyried y safonau statudol a gyhoeddwyd gan yr Adran Drafnidiaeth yn ogystal â'r argymhellion a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â Thrwyddedu Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat.

 b) Cymeradwyo'r angen i greu Datganiad Polisi Trwyddedu hollgynhwysol sy'n ymwneud â Cherbydau Hacni (Taxi) a Cherbydau, Gyrwyr a Gweithredwyr Hurio Preifat sy'n ymgorffori'r safonau ac argymhellion uchod.

 

Dogfennau ategol: