Agenda item

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2020/21

 

Gwahoddwyr:

 

Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Cynghorydd Nicole Burnett - Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Cynghorydd Dhanisha Patel - Aelod Cabinet - Lles a Chenedlaethau Dyfodol

Jackie Davies - Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Laura Kinsey - Pennaeth Gofal Cymdeithasol I Blant

Andrew Thomas - Rheolwr Grwp - Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol

Pete Tyson - Rheolwr Grwp - Comisiynu

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles brif themâu’r Adroddiad Blynyddol gan ddweud fod y flwyddyn ddiwethaf wedi ymwneud yn helaeth iawn â chreadigrwydd, cryn dipyn o arloesedd ond hefyd gryn dipyn o waith caled gan bobl ar draws yr holl system. Roedd diogelu wedi bod yn gonglfaen erioed, hyd yn oed yn ystod pandemig iechyd cyhoeddus, mae dinasyddion a chymunedau wedi cael eu heffeithio’n ddrwg a nifer o bobl wedi’u colli, ac roedd y darn adfer ac adnewyddu o safbwynt gwasanaethau cymdeithasol, fel rhan o’r ymateb hwnnw, yn mynd i fod yn bwysig dros ben. Roedd gwir angen amser a llonydd ar staff i wella ar eu cyflymder eu hunain, rhag wynebu’r risg o losgi allan, rhywbeth oedd i’w weld yn digwydd ar hyn o bryd am nad oedd pethau wedi arafu o gwbl, ac os rhywbeth, wedi dwysáu wrth symud tuag at ddau chwarter olaf y flwyddyn. Roedd gwasanaethau wedi addasu gan fabwysiadu ffyrdd newydd o weithio, fel y tanlinellwyd yn yr adroddiad. Roedd sefydlogi ac adfywio’n hanfodol yn ystod y chwe mis nesaf a chadarnhaodd y pwynt fod y gweithlu’n allweddol i’r llwyddiant hwn, gyda mwy o ddibyniaeth ar bob rhan o’r gweithlu nag erioed o’r blaen.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Gyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles am gyflwyno’i hadroddiad a diolch i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol a’i thîm am eu holl ymdrechion yn ystod blwyddyn heriol dros ben.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar i Gyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles a’i thîm am lunio’r adroddiad gan nodi, er gwaetha’r flwyddyn ofnadwy, fod cymaint o enghreifftiau da. Apeliodd ar i’r Aelodau oedd yn sgriwtineiddio’r adroddiad i ganolbwyntio ar agweddau dynol yn nhermau ariannol a’r ffigyrau.

 

Pwysleisiodd Aelod y mater o staffio cyffredinol a gofyn beth oedd yr awdurdod lleol yn ei wneud i sicrhau staff.

 

Cydnabu Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod darn o waith cenedlaethol yn ymwneud â’r gweithlu, yn gweithio’n agos gyda LlC a chyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Yn gyntaf, roedd hyn i hyrwyddo'r sector, yn ail i edrych ar y materion anodd iawn, megis gweithredu blaenoriaeth maniffesto LlC o amgylch cyflog byw go iawn i weithwyr gofal ac yn drydydd i ystyried safonau proffesiynol, gan weithio'n agos iawn gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, o ran cofrestru nid yn unig staff gwaith cymdeithasol proffesiynol, ond gweithwyr gofal. Roedd yn bwysig iawn fod Pen-y-bont yn chwarae rôl flaenllaw ar y llwyfan cenedlaethol ac yn cyfrannu at ac yn cyd-gynhyrchu polisi yn ôl yr angen. Roedd Pen-y-bont yn awyddus i hyrwyddo Pen-y-bont i fod mor llwyddiannus â phosibl wrth gadw a recriwtio’r gweithlu ym Mhen-y-bont. Cyfeiriodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles wedyn at y gwahanol gynlluniau gweithredu o safbwynt recriwtio, ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol ac yna’r gweithlu gwaith cymdeithasol.

 

Holodd yr Aelod beth fyddai’n digwydd pe na bai pobl yn cynnig eu hunain, a oedd yn bryder iddi. Oedd pobl yn cynnig eu hunain eisoes ac yn mynegi diddordeb yn yr hyn oedd yn cael ei rannu ac unrhyw hysbysebion swyddi.

 

Cydnabu Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod hyn yn anodd oherwydd eu bod yn cystadlu mewn maes gorlawn o safbwynt gweithwyr gofal cymdeithasol a’r gweithlu gwaith cymdeithasol wrth gychwyn o fan lle’r oedd llawer o bobl yn gyndyn o gynnig eu hunain i wneud y swyddi dan sylw. Nododd fod nifer go sylweddol o bobl wedi cynnig am swyddi gweithwyr cefnogi gofal iechyd ond nad oedd cymaint yn cynnig am swyddi gyda’r awdurdod lleol ym maes gofal na gweithio yn y sector annibynnol, felly roedd angen deall a gwneud popeth o fewn y cynllun gweithredu i sicrhau fod Pen-y-bont mor ddeniadol â phosibl. Roedd heriau yn y tymor byr ac roedd yr Awdurdod yn edrych ar y modd y sicrhawyd gweithwyr drwy asiantaethau, a allai achosi anawsterau, ond cyflawni dyletswyddau statudol o safbwynt gwaith cymdeithasol a’r gweithlu gofal cymdeithasol oedd bwysicaf. Roedd angen gwneud hynny yn y modd gorau posib nad oedd yn amharu ar y gweithlu wrth eu cefnogi ar yr un pryd. Sicrhau eu bod yn aros yn eu swyddi oedd y ffactor bwysicaf oll, ac ni ddylai hyn achosi mwy o heriau o safbwynt y gweithlu presennol. Cyfeiriodd at yr angen i edrych ar sut y gellir cefnogi anghenion pobl mewn ffyrdd gwahanol. Er enghraifft, roedd Pen-y-bont yn hynod lwyddiannus ym maes technoleg gynorthwyol a’r angen i barhau i hybu hynny ac edrych ar sut y mae’r angen a’r galw am wasanaethau’n cael eu rheoli yn y modd mwyaf effeithiol a chost effeithiol. Roedd hyn yn her wirioneddol ac roedd gwir angen dull cyngor cyfan a setiau o gamau gweithredu wedi'u halinio ynghylch yr hyn y gellid ei wneud yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar nifer o faterion bod nifer o faterion yr oedd hi’n awyddus i ymhelaethu arnynt gan gynnwys diffyg graddfa gyflog genedlaethol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol, a oedd yn hynod niweidiol i'r awdurdod lleol oherwydd nid yn unig y gystadleuaeth oddi wrth awdurdodau cyfagos, ond gydag awdurdodau ledled y DU, o safbwynt staff profiadol. Sicrhaodd yr Aelodau fod trafodaethau helaeth yn cael eu cynnal o fewn y gweithlu gofal a gofal cymdeithasol. Roedd angen dangos empathi â’r gweithlu am na ddylai pobl ddisgyn drwy’r cylch. Roedd angen i’r Cyngor gyflenwi ei anghenion statudol ac ar hyn o bryd, mae’r gweithlu’n gweithio’n daer i sicrhau hynny.

 

Holodd y Cadeirydd yr Aelodau os oedd ganddynt unrhyw gwestiynau pellach yn ymwneud â’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad, am ei bod hi’n ymwybodol y gallai sylwadau’r Aelodau helpu i gryfhau’r adroddiad.

 

Cydnabu Aelod ei fod yn hoffi fformat yr adroddiad gan ddangos ei edmygedd o waith yr adran gyfan yn ystod yr hyn a ddisgrifiwyd fel cyfnod heriol. Serch hynny, cydnabu nad oedd cydbwysedd o fewn y sir a bod ardaloedd oedd yn wynebu amddifadedd sylweddol o fewn y sir a holodd sut y byddai dyletswydd cymdeithasol-economaidd yn effeithio ar y gwaith nawr ac i’r dyfodol.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles o safbwynt cymhwyso'r ddyletswydd gymdeithasol-economaidd, fel gyda llawer o afiechydon, nad oedd Covid wedi bod yn glefyd cydradd gyda rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig wedi’u heffeithio’n fwyaf difrifol. O safbwynt gofal cymdeithasol, wrth edrych ar y gwasanaethau, roedd angen sicrhau dealltwriaeth lawn o’r ddyletswydd a’i bod yn cael ei gweithredu oherwydd y gall olygu atebion gwahanol mewn rhai rhannau o’r fwrdeistref sirol mewn cymhariaeth ag eraill. Mewn rhai rhannau o’r fwrdeistref sirol, gallai hyn olygu canolbwyntio ar y set gywir o ymyriadau yn hytrach na chanolbwyntio’n unig ar gefnogi pobl o safbwynt eu cysylltu, ond hefyd gwneud gwaith datblygu cymunedol ymarferol lle’r oedd diffyg yn yr hyn oedd yn digwydd yn naturiol o fewn y cymunedau. Mewn rhannau eraill o’r fwrdeistref sirol, nid oedd angen i’r Cyngor gymryd rôl mor flaenllaw mewn gwirionedd, e.e. Gr?p Strategol Covid-19 Porthcawl, lle ddaeth y gymuned ei hun i’r adwy. Roedd y Cyngor yn rhan o gr?p oedd yn ymwneud ag anghydraddoldebau o safbwynt canlyniadau ac unrhyw anghydraddoldebau o ran cod post, gan edrych ar ymyriadau ar sail tystiolaeth er mwyn gallu ymdrin â’r materion yma yn y modd cywir.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 91 yr adroddiad gan nodi fod y nifer o achosion wedi disgyn o 6810 i 4742 gan ofyn a oedd hyn yn ymwneud â Covid neu a oedd y Cyngor yn symud i’r cyfeiriad cywir a bod y nifer o achosion yn disgyn yn gyffredinol.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol o safbwynt nifer yr achosion, ei bod hi’n flwyddyn anarferol iawn i edrych ar dueddiadau oherwydd bod cyfnodau yn ystod y flwyddyn pan oedd rhai o’r atgyfeirwyr arferol yn gweithredu’n wahanol, e.e., ysgolion, gofal sylfaenol, ymweliadau iechyd, ayb. Roedd normaleiddio’n dechrau dod i’r amlwg, wrth i wasanaethau ailddechrau yn ôl y disgwyl ac roedd ychydig angen a galw nad oedd yn dod i’r amlwg yn ddigon cynnar ac a oedd nawr yn rhoi pwysau ar wasanaethau. Ond y llynedd, roedd y galw’n amrywio yn dibynnu ar gyfnod y clo, ac roedd hynny’n effeithio ar os oedd atgyfeiriadau’n digwydd ai peidio.

 

Nododd yr Aelod fod nifer o blant ar y gofrestr diogelu plant wedi cynyddu o 165 i 201 gan holi os oedd cynnydd wedi bod oherwydd Covid.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles o safbwynt y gofrestr diogelu plant a’r nifer o gofrestriadau, ei bod hi’n ddigon cyffyrddus â’r lefel. Roedd y Cyngor yn un o’r chwarteli uwch o ran nifer y plant ar y gofrestr diogelu plant yng Nghymru ac roedd ganddo hyder yn hynny o ran yr amddiffyniad a roddwyd i blant ar y gofrestr amddiffyn plant. Roedd yn hollol iawn a phriodol bod y gofrestr yn parhau i fod yn eithaf uchel ar hyn o bryd, o ystyried yr heriau yr oedd plant a theuluoedd wedi'u hwynebu ac o ystyried y ffaith y gallai fod ychydig oedi wedi bod wrth i blant a theuluoedd ddod ymlaen ac o ran y gallu bryd hynny i ymyrryd yn statudol â theuluoedd, ond roedd pob cam o dan y gofrestr amddiffyn plant yn wirfoddol.

Cyfeiriodd yr Aelod at dudalen 93 o’r adroddiad gan ofyn am eglurhad pellach o safbwynt y cyfanswm o 296 adroddiad o blant sy’n diflannu’n ystod y flwyddyn, a’r cyfanswm o 99 o blant sy’n diflannu yn ystod y flwyddyn.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod proses yn cael ei gweithredu, pryd bynnag y byddai plentyn neu berson ifanc yn diflannu am gyfnod o amser, byddent yn gweithio’n agos â Heddlu De Cymru, gan ymwneud yn enwedig â sut i’w codio. Roedd rhai plant a phobl ifanc yn diflannu’n lled gyson a byddai rhai’n peri risgiau eithaf sylweddol iddynt hwy eu hunain, gyda'r mathau hynny o sefyllfaoedd yn cael eu rheoli mewn ffordd amlasiantaethol gan edrych ar gefnogaeth a beth oedd y cynllun rheoli risg yng nghyswllt y plentyn neu'r person ifanc hwnnw. Ni chredai fod unrhyw blant na phobl ifanc ar goll ar y pryd.

 

Cyfeiriodd yr Aelod at dudalen 99 gan nodi yng nghyswllt Maple Tree House fod nifer y plant oedd yno yn ystod y flwyddyn wedi disgyn o 22 i 9, gyda phlant sy’n cael eu rhoi mewn llety â gofal yn dal yr un nifer.  Holodd os oedd y ffigyrau yma oherwydd Covid neu reswm arall a beth oedd y rheswm am symud y gwasanaeth presennol i ddarpariaeth bwrpasol.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y byddai adleoli Maple Tree House Lles yn cynnig capasiti ychwanegol. O fewn y ddarpariaeth, roedd darpariaeth frys a darpariaeth tymor byr, a’r ddau beth yn hanfodol a’r ddau’n well o gael eu rheoli’n well ar wahân. Roedd angen adeilad gwell o lawer ar gyfer hynny, yn ogystal â lleoliad a fyddai hefyd yn gallu hwyluso cydleoliad gydag elfennau eraill o’r gwasanaethau lleoliad. Byddai hyn yn galluogi'r tîm maethu i ddod i adnabod y plant a'r bobl ifanc wrth iddynt fynd drwy'r asesiad manwl a thrylwyr yn yr uned asesu. Roedd rhai cynlluniau cyffrous yngl?n â hyn er iddi nodi fod ychydig oedi wedi bod cyn gweithredu, er bod hyn yn flaenoriaeth wrth symud ymlaen.

 

Yn dilyn ymlaen o hyn, nododd yr Aelod, yn dilyn archwiliad o Maple Tree House, fod adroddiad yn y wasg wedi tynnu sylw at broblemau a bod angen gwella. Roedd hi'n siomedig nad oedd yr adroddiadau yn y wasg wedi adrodd yngly?n ag unrhyw un o'r gwelliannau a gofynnodd am eglurhad ynghylch presenoldeb nid yn unig yn Maple Tree House, ond pob lleoliad gofal plant ac oedolion, yn enwedig gan nad oedd yr Aelodau'n gallu ymweld ar hyn o bryd.

 

Cydnabu Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yr adroddiadau a dderbyniwyd gan y Cyngor. Rhoddodd sicrwydd i'r Aelodau ynghylch ymweliadau â lleoliadau a chadarnhaodd mai'r ddau unigolyn cyfrifol am gartrefi gofal mewnol oedd y Pennaeth Gofal Oedolion o safbwynt cartrefi gofal oedolion a’r Pennaeth Gofal Cymdeithasol o safbwynt y ddarpariaeth ar gyfer plant. Roedd y ddau wedi parhau wrth y llyw drwy gydol y pandemig er mwyn ymgymryd â’u dyletswyddau unigol, oedd yn cynnwys ffocws cryf ar sicrhau ansawdd, gan gysylltu ag adnoddau. Serch hynny, ar adegau yn ystod y pandemig, roedd yn rhaid i hyn ddigwydd yn rhithiol gyda chofnodion helaeth, ond wrth i’r risgiau leihau, cynhaliwyd yr ymweliadau sicrhau ansawdd hynny wyneb yn wyneb fwyfwy, a nododd ei bod hi ei hun ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar wedi ymweld â’r lleoliadau eu hunain yn ddiweddar. Eglurodd y byddai’n gweithio ar y cyd â’r Aelodau o safbwynt ailgyflwyno rotas ymweld, am ei bod yn rhan hynod bwysig o’u gwaith o safbwynt cyflawni rhianta corfforaethol a chyfrifoldebau diogelu eraill.

 

Eglurodd o safbwynt Maple Tree House ei hun, nad oedd y Cyngor mewn unrhyw stad o ymyrraeth ffurfiol dan AGC ac y byddai’n parhau i adrodd yn ôl drwy’r pwyllgor rhianta corfforaethol. Roedd AGC wedi parhau i archwilio, o safbwynt rheolaethol, drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf i wasanaethau wedi’u rheoleiddio ac wedi ymgymryd â gwiriad sicrhau ansawdd ddechrau mis Ebrill, gydag adroddiad i’w gyhoeddi yn yr hydref.

 

Sicrhaodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yr Aelodau fod ymweliadau’n digwydd a bod yr un lefel o sgriwtini i’w weld hefyd. O safbwynt Maple Tree House, derbyniwyd adroddiad gan y pwyllgor rhianta corfforaethol, yn ymwneud ag archwiliad AGC, gyda diweddariad ar y gwelliannau a oedd wedi’u gwneud ac nad oedd y Cyngor o dan unrhyw fesurau arbennig. Roedd hi’n siomedig gyda’r adroddiadau a gofynnodd i’r Aelodau rannu’r cywiriad i’r wybodaeth. 

 

Cyfeiriodd Aelod at y polisi diogelu ar dudalen 42gan nodi fod tudalen 57, paragraff 2 yn datgan ‘fel swyddog statudol, mae angen i mi adolygu, atgyfnerthu a chryfhau adnoddau diogelu’, gan ofyn sut oedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yn awgrymu gwneud hynny. 

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles oherwydd bod hwn yn bolisi diogelu corfforaethol / cyngor cyfan fod angen sicrhau fod y wybodaeth gywir yn cael ei dderbyn gan bob rhan o’r cyngor, a bod angen i bob cyfarwyddiaeth ddeall eu rhyngwyneb â diogelu a chyfrifoldebau diogelu. Er mwyn gwneud hynny roedd angen y trefniadau llywodraethu cywir. Un o’r pethau roedd hi’n edrych i wneud oedd sefydlu bwrdd diogelu corfforaethol fyddai’n gweithredu islaw’r CMB a’r CCMB, gan adrodd y wybodaeth gywir yn ymwneud â diogelu iddynt a chyda swyddog i gefnogi hynny. 

 

Cydnabu’r Aelod hyn ond teimlai na ddylai’r cyfrifoldeb am ddiogelu gael ei gyfyngu i Swyddogion yn unig. Roedd gan Aelodau hefyd rôl i’w chwarae, nid yn unig i ymweld â chartrefi gofal, ond yn nhermau adolygu’r polisi corfforaethol yn ystod y broses sgriwtini, ac awgrymodd fod hyn yn rhywbeth y gellid ei ystyried wrth drafod gweithgareddau’r bwrdd diogelu.

 

Cytunodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod hyn yn fuddiol ac un o’r pethau o fewn y polisi diogelu newydd oedd y byddai adroddiad diogelu blynyddol yn cael ei gyflwyno i Aelodau yn ymwneud ag effeithiolrwydd diogelu corfforaethol. Byddai hyn yn tynnu llawer mwy o fanylion nag y llwyddodd i wneud drwy benawdau’r adroddiad blynyddol, effeithiolrwydd diogelu corfforaethol, a dyma fyddai un o ddyletswyddau allweddol y swyddogion newydd. Y peth arall sy’n cael ei ystyried ar y cyd, rhwng swyddogion y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ac Addysg a Chymorth Cynnar, oedd sicrhau fod rhyw fath o hyfforddiant pellach ar gyfer Aelodau yn ymwneud â diogelu yn ystod y tymor nesaf ar gyfer Aelodau. Mae angen i hyn fod mewn cyd-destun penodol yng nghyswllt rôl yr Aelodau, yn hytrach nac e-ddysgu cyffredinol.

 

Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar unwaith eto pa mor bwysig oedd hi i Aelodau etholedig fynychu bob hyfforddiant diogelu oedd ar gael yn enwedig rheini oedd yn gweithredu fel llywodraethwyr AAL, gan nad oedd yr hyfforddiant yn orfodol ar hyn o bryd.

 

CYTUNWYD:         Fod y Pwyllgor wedi nodi cynnwys drafft Adroddiad Blynyddol 2020/21 Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ategol: