Agenda item

Monitro Cyllideb 2021-22 – Rhagolwg Refeniw Chwarter 1

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd Huw David - Arweinydd

Cynghorydd Hywel Williams - Dirprwy Arweinydd

Cynghorydd Stuart Baldwin - Aelod Cabinet - Cymunedau

Cynghorydd Nicole Burnett - Aelod Cabinet - GwasanaethauCymdeithasol a ChymorthCynnar

Cynghorydd Dhanisha Patel - Aelod Cabinet - Lles a Chenedlaethau Dyfodol

Cynghorydd Charles Smith - Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

 

Mark Shephard - Prif Weithredwr

Lindsay Harvey - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd

Gill Lewis - PennaethCyllid, Perfformiad a Newid dros dro

Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Janine Nightingale - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau

Kelly Watson - PrifSwyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddiol

 

 

Cofnodion:

Diweddarodd y Prif Swyddog Interim Cyllid, Perfformiad a Newid yr Aelodau yngly?n â sefyllfa refeniw ariannol Y Cyngor ar gyfer chwarter un ar 30 Mehefin 2021 gan nodi fod amser wedi mynd heibio ers i hyn gael ei adrodd i’r Cabinet ym mis Gorffennaf ac y byddai’n tynnu sylw at rai o’r prif themâu.

 

Atgoffodd yr Aelodau fod y Cyngor, yng nghyfarfod 24 Chwefror 2021, wedi cymeradwyo cyllideb refeniw net o £298.956m ar gyfer 2021-22 ac mai dyma’r adroddiad cynnydd cyntaf yn wyneb y gyllideb honno. Roedd Tabl 1 yn cynnig crynodeb o’r wybodaeth ac yn nodi’r sefyllfa debygol oedd yn dangos gorwariant tebygol o £1m er iddi atgoffa’r Aelodau fod adroddiad alldro yn cynnig darlun go wahanol ar y pryd yn bennaf oherwydd bod symiau sylweddol o arian Covid a grantiau ychwanegol a nododd y byddai Aelodau’n gweld heriau ariannol yn amlygu eu hunain mewn sawl cyllideb. Roedd hyn yn amlwg wrth symud 2il Chwarter gyda heriau penodol o safbwynt Gofal Cymdeithasol i Oedolion ledled Cymru. Roedd yn awyddus i Aelodau ddeall fod yr heriau hynny yno o hyd, a’i bod yn bwysig fod Aelodau’n edrych ar yr heriau gwaelodol sylweddol oedd yn wynebu rhai o’r gwasanaethau ac yn osgoi meddwl bod y sefyllfa ariannol yn ymddangos yn dda iawn o ystyried yr adroddiad alldro.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at Dabl 1, gan nodi fod cronfa adfer Covid o £1m wedi’i sefydlu a’i defnyddio’n ofalus ar gynnig parcio graddol, codiadau incwm rhent graddol ar gyfer eiddo rhent BCBC, hepgor ffioedd chwaraeon, chwarae haf ayb., nad oedd modd hawlio’r un ohonynt yn erbyn cronfa caledi am nad oedd modd hawlio ar sail penderfyniadau lleol.

 

Roedd Tabl 2 yn rhoi syniad o hawliadau Covid, gan nodi fod heriau o hyd ar dreth y cyngor a’r cynllun lleihau’r dreth cyngor a disgwylir caledi ariannol wrth i ffyrlo fynd rhagddo. Roedd lleihad o 1% yn nhreth y cyngor sy'n gyfystyr â £1m a doedd dim cefnogaeth ar gael eto oddi wrth Lywodraeth Cymru (LlC). Nodwyd yn 4.1.13  fod cyflog a phrisiau’n dal yn anwadal ac nad oedd codiadau cyflog eto’n glir er bod rhai arwyddion y byddai rhywfaint o gyflog yr athrawon yn cael ei ariannu’n ganolog. Roedd chwyddiant yn dal i fod ar lefel gymharol uchel ac nad oedd hynny’n rhywbeth y cynlluniwyd ar ei gyfer felly roedd angen sicrhau fod digon o arian yn y gyllideb brisiau.

 

Roedd Tabl 3 yn nodi arbedion y flwyddyn flaenorol a gyflawnwyd yn bennaf er bod diffyg o £310k o hyd a oedd yn annhebygol o gael ei gyflenwi ac roedd angen rhoi ystyriaeth i hynny.

 

Roedd Tabl 4 ac Atodiad 2 yn dangos perfformiad y flwyddyn a oedd yn gryn lwyddiant ar sawl lefel o dan amodau anodd. Roedd pob arbediad yn debygol o gael eu cyflawni ar wahân i adleoli’r ganolfan ailgylchu a oedd wedi’i ohirio.

 

Roedd angen parhaus am arbedion dros gyfnod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2022-2023 tan 2025-2026 a nodwyd o flaen amcan y byddai angen £22m pellach yn ddibynnol ar lefel setliad LlC. 

 

Roedd Paragraff 4.3 o’r adroddiad ymlaen yn cynnig manylion pellach yn ymwneud â phob Cyfarwyddiaeth.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog Ariannol Interim Cyllid, Perfformiad a Newid am ei chyflwyniad ac aeth Aelodau’r Pwyllgor ati i holi’r canlynol:

 

Cyfeiriodd Aelod at y gronfa adfer Covid a gofyn a oedd yr adferiad arian hwn, e.e.,  y £35k a roddwyd i gostau parcio ceir, wedi bod yn llwyddiannus.

 

Eglurodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol er mwyn hybu nifer yr ymwelwyr, fel rhan o'r adferiad yn dilyn Covid, gwnaed cynnig tair awr yn rhad ac am ddim ym maes parcio'r Rhiw ym Mhen-y-bont ar Ogwr a pharcio am ddim rhwng 12 a 3 o'r gloch yn Stryd John Street, Porthcawl. Yr hyn a oedd yn anhygoel o anodd ei wneud oedd amcangyfrif y nifer yn erbyn y norm gan nodi bod nifer yr ymwelwyr wedi gostwng yn ystod y pandemig i ddechrau ac er bod y niferoedd yn codi, doedd y lefelau arferol ddim wedi’u cyrraedd o hyd, felly roedd yn anodd iawn mesur y llwyddiant.

 

Holodd yr Aelod am ychydig mwy o fanylion ar y rhaniad yng nghyswllt y gronfa adfer Covid o £1m.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr ei fod yn deall fod y swm rhwng £100k - £120k yng nghyswllt costau chwaraeon a thua £18k i £20k yng nghyswllt y cynnig parcio ceir, er y gellid darparu manylion llawn i’r Pwyllgorau y dymunent. 

 

Eglurodd yr Arweinydd, yng nghyswllt y gweithgareddau chwarae dros yr haf, fod Y Cyngor wedi cynllunio buddsoddiad pellach er mwyn darparu amrediad cynhwysfawr o weithgareddau chwarae dros yr haf ar gyfer plant a phobl ifanc ond yna, roedd LlC wedi darparu pedair gwaith y swm o nawdd a gynigiwyd fel arfer. Dyma enghraifft o ansicrwydd y gyllideb, gan nodi fod Y Cyngor yn parhau i bledio’u hachos gyda LlC am gyllid ar gyfer yr heriau ychwanegol hynny.

 

Awgrymodd y Prif Swyddog Ariannol Interim Cyllid, Perfformiad a Newid y gellid cylchdroi manylion y gyllideb adfer Covid ymysg Aelodau.  

 

Holodd yr Aelod beth oedd y gwir ofynion o safbwynt hawlio ar gyfer colli incwm. Nododd fod llawer o’r £2.127m yn cael ei ddal neu yn yr arfaeth a gofynnodd a oedd hyn yn rhoi pwysau ar y Cyngor wrth i staff geisio coladu’r wybodaeth ofynnol ar gyfer LlC.

 

Cydnabu’r Prif Swyddog Ariannol Interim Cyllid, Perfformiad a Newid fod y ceisiadau Covid wedi bod yn bwysau mawr ac yn gofyn am lawer iawn o waith ychwanegol nid yn unig o safbwynt yr Adran Gyllid ond o safbwynt y Gyfarwyddiaeth hefyd, er bod gan Y Cyngor berthynas dda iawn â Swyddogion LlC yn nhermau eglurdeb o ran yr hyn y gellid ei hawlio ac o ganlyniad roedden nhw wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth hawlio costau yn ôl. Mewn gwirionedd, roedd bron fel rhedeg dwy system ariannol e.e. costau Covid, colledion incwm Covid a cholledion yn nhreth y cyngor ac eraill mewn meysydd ar wahân.

 

Ar sail gohiriad yr oedd y £2m yn cael ei ddal, am fod Y Cyngor bellach wedi derbyn rhywfaint ohono, er nad oedd ganddi ffigwr pendant wrth law ond roedd yn obeithiol y byddai’r rhan fwyaf ohono’n cael ei dderbyn. Ymysg y prif feysydd colledion incwm roedd Halo a hamdden a’r parcio ceir y crybwyllwyd eisoes. Roedd hi wedi bod yn bosib hawlio am barcio ceir y llynedd, ond doedd hynny ddim yn bosibl bellach.

 

Nododd Aelod fod tudalen 19 yr adroddiad yn cyfeirio at gyllideb net ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a thanwariant o dros £600k ond roedd tudalen 20 yn cyfeirio at swyddi gwag ac oedi o safbwynt gweithredu ailstrwythuro a gofynnodd am eglurhad pellach yn y cyswllt hwn.

 

Cydnabu’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod y sefyllfa o safbwynt gofal cartref a gofal a chymorth yn y cartref yn un anodd ei hegluro a’i deall. Roedd lefelau uchel o swyddi gwag o safbwynt y gwasanaeth mewnol gyda thrafodaethau’n seiliedig ar ailstrwythuro’n cael eu cynnal nawr. Doedd dim brys mawr, yn nhermau recriwtio ar gyfer y swyddi gwag mewnol, ac ychydig symud yn nhermau bod yn fwy hyblyg yng nghyswllt cytundebau mewnol. Roedd ambell her systemig hefyd a oedd angen mynd i’r afael â nhw. Ar yr un pryd, gwelwyd cynnydd sylweddol yn y galw am ofal a chymorth yn y cartref, gyda darparwyr o’r sector annibynnol yn darparu mwy o ofal a chymorth yn y cartref nag erioed o’r blaen. Serch hynny, doedd hynny’n dal ddim yn ddigon i gyflenwi’r anghenion a’r galw am wasanaethau gofal cartref er gwaetha’r symiau sylweddol o arian oedd yn cael eu buddsoddi ym maes gofal a chymorth yn y cartref.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet Gofal Cymdeithasol a Chymorth Cynnar ei bod yn treulio’u hwythnosau’n edrych ar ffigyrau ac nad oedd cydbwysedd o fewn y gwasanaethau gofal, ac y byddai’n anodd iawn adfer y cydbwysedd hwnnw nes y gellid mynd i’r afael â’r mater yn ymwneud â’r gweithlu drwy recriwtio. Roedd angen ymateb i ofynion a thalu er mwyn sicrhau fod trigolion yn derbyn gofal, felly roedd blaenoriaethu atgyfnerthu’r gweithlu’n angenrheidiol.

 

Roedd yr Aelod yn deall y pwysau ym maes gofal yn y cartref ond holodd os oedd hwn yn bwysau sylweddol ar recriwtio mewn mannau eraill o fewn y Cyngor, gan ystyried dull ymateb cyngor-cyflawn, y byddai atchwanegiadau marchnad yn cael eu cynnig a gofynnwyd a oedd y Cyngor mewn sefyllfa i gynnig atchwanegiadau marchnad i staff gofal cartref.

 

Cydnabu’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol nad oedd gan Y Cyngor bolisi atchwenegiadau marchnad cyfredol er ei bod yn deall fod un yn cael ei ddatblygu ac y byddai’n cael ei gyflwyno’n hwyrach yn y flwyddyn i’w ystyried gan yr Aelodau. Nododd y byddai cyfarfod nesaf y SOSC2 ar 23 Medi yn ystyried, mewn manylder, y cynlluniau gweithredu yn ymwneud â gofal a chymorth yn y cartref. Roedd hyn yn her, nid yn unig ar hyd a lled Pen-y-bont ond ledled Cymru. Fel Cyfarwyddwr, dyma’r brif flaenoriaeth, ochr yn ochr â rhai materion yn ymwneud â’r gweithlu o fewn gwasanaethau plant. Dengys y gyllideb, ac roedd hwn yn adroddiad ar y gyllideb, nad oedd y gwariant yn y gyllideb yn cyd-fynd â’r meysydd lle’r oedd angen gwariant. Roedd sefyllfa’r gyllideb yn adlewyrchu rhai o’r heriau yn sefyllfa’r gwasanaeth cyffredinol ac un o’r dangosyddion llwyddiant wrth symud ymlaen fyddai os gellid sicrhau fod gwariant y gyllideb yn cyd-fynd yn well.

 

Holodd Aelod a fyddai gorwariant o recriwtio a llenwi’r swyddi i gyd?

 

Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol fod Y Cyngor wedi gosod y gyllideb i gyflenwi a thalu am y gweithlu y gwerthuswyd fod eu hangen, er y byddai’n ceisio, yn unol â’r caniatâd perthnasol, i recriwtio mwy na’r angen yn y maes hwn. Byddai bod mewn sefyllfa lle’r oedd y gyllideb yn gytbwys yn debygol o olygu ymgyrch recriwtio lwyddiannus er y byddai hyn yn arwain at ychydig o orwario o bosibl. Yr hyn a fyddai wedyn yn edrych i gael ei wneud, o ran gwasanaeth a thelerau ariannol, oedd lleihau’r gwariant hwnnw ar gartrefi gofal i bobl h?n yn arbennig, gan y gwelwyd bod nifer y bobl yr oedd eu hanghenion yn cael eu diwallu trwy leoliad cartref gofal, yn lleihau o un flwyddyn i’r llall. Un o’r risgiau a danlinellwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn eu hadroddiad blynyddol, oedd oherwydd yr heriau mewn gofal cartref y gallent weld pobl yn mynd i gartrefi gofal yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, ond ni welwyd hyn ac felly byddai'r Gwasanaeth yn edrych i ail-gydbwyso'r gyllideb honno er mwyn darparu mwy o ofal a chefnogaeth yn y cartref, yn unol â gofynion y mwyafrif o bobl.

 

Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar y byddai gorwariant yn y meysydd gwasanaeth yma’n golygu arbedion yn yr ymyrraeth gofal uwch o ran pecynnau gofal ac y byddent yn hoffi gweld llawer mwy o fuddsoddiad yn y gwasanaethau ymyrraeth gynnar. Roedd angen sicrhau bod y cyllidebau cywir yn eu lle ar gyfer atal, oherwydd pan fyddai arian yn cael ei fuddsoddi felly, gellid gwrthbwyso costau yn nes ymlaen.

 

Cyfeiriodd Aelod at 4.2.2 yng nghyswllt y cytundeb Halo gan oli sut oedd Y Cyngor yn mynd i barhau i gadw i’w sybsideiddio.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol, yn nhermau’r partneriaethau gyda Halo a’r partner ymddiriedaeth ddiwylliannol, fod y Cyngor wedi gweithio’n agos iawn gyda nhw drwy gydol y pandemig er mwyn rheoli sefyllfa heriol o safbwynt darparwyr hamdden ac ymddiriedaeth ddiwylliannol, Roedd y Gwasanaeth wedi gweithio’n agos gyda’r tîm Cyllid a LlC er mwyn gwneud y mwyaf o'r hawliadau o ran caledi dan do ac yn agos gyda Halo o safbwynt eu cynlluniau ailgychwyn ac adfer, wrth i gyfyngiadau gael eu codi, i edrych ar sut i gynnal seiliau aelodaeth a'u cynlluniau ar gyfer cynyddu'r seiliau aelodaeth hynny wrth symud ymlaen. Yn nhermau llywodraethiant, roedd bwrdd ymgynghorol, gydag aelodau’r Cabinet yn aelodau ffyddlon ohono, er mwyn llunio a llywio cyfeiriad y gwasanaethau i’r dyfodol. Byddai’r Cyngor yn disgwyl i Halo ddychwelyd i’r un lefelau gweithredu a pherfformio ag y gwelwyd cyn-Covid ac i adeiladu ar y dysgu drwy’r pandemig, yn cynnwys lle gallent fod yn arloesol a chreadigol, a pharhau i wneud cynigion digidol ochr yn ochr â chynigion corfforol ac i ehangu'r mynediad i faes hamdden a gwasanaethau hamdden ledled y fwrdeistref sirol, gan fod hyn yn allweddol i iechyd a lles y boblogaeth. Yn olaf, i ystyried wedyn beth oedd effaith hynny ar y cytundeb yng nghyswllt y berthynas â'r cymorthdaliadau a'r buddsoddiad a gawsant gan y Cyngor.

 

Teimlai’r Aelod y byddai’n hynod broblematig ac yn rhywbeth yr oedd angen cadw llygad arno. Roedd hefyd yn bryder fod Halo wedi lleihau’r ddarpariaeth TGCh cyn y pandemig. Roedd yn gwerthfawrogi’r ffaith fod mwyn yn cael ei wneud ar-lein ond roedd yn pryderu yngly?n â phobl fregus yn cael mynediad i’w ceisiadau ac yn teimlo y byddai problemau’n cynyddu i’r dyfodol.

 

Nododd Aelod fod y Prif Swyddog Ariannol Interim Cyllid, Perfformiad a Newid wedi briffio’r Aelodau fod Y Cyngor wedi £1m yn y Chwarter 1af, a bod galw uwch na’r cyffredin yn ystod yr 2il Chwarter, a fyddai’n gosod pwysau mawr ar y gyllideb. Cafodd Rheolaeth o’r Gyllideb ei ddisgrifio fel bod yn anwadal ac anrhagweladwy, oedd yn gwbl ddealladwy a bod LlC yn dal i ddarparu cyllid trwy grantiau, yn enwedig i gefnogi gwasanaethau oedolion. O ystyried hynny, dyna oedd gobaith ei gyflawni yn ystod yr ail chwarter, o gofio’r hyn a ddysgwyd o’r chwarter cyntaf. 

 

Nid oedd Y Prif Swyddog Ariannol Interim Cyllid, Perfformiad a Newid  yn rhagweld newid mawr yn nhermau chwarter dau, gydag anwadalrwydd yn parhau. Roedd setliad LlC yn debygol o fod yn hwyr unwaith eto, ac roedd hynny’n ffactor bwysig o safbwynt y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, ac roedd ffyrlo’n debygol o ddatblygu ym mis Medi, a fyddai’n rhoi syniad o’r pwysau ar y gostyngiad yn nhreth y cyngor. Pe bai hynny'n mynd yn ormodol efallai y byddai LlC yn ystyried cynnig rhywfaint o gefnogaeth. Efallai hefyd y byddai arwydd mwy pendant o gyfeiriad chwyddiant a’r cyfeiriad y byddai cyflogau’n debygol o fynd. Roedd yn anodd rhagweld beth allai ddigwydd yn ystod chwarteri tri a phedwar petai’r wlad yn mynd i gyfnod clo arall am y byddai hynny’n cael effaith ariannol sylweddol ar y gyllideb unwaith eto. Roedd angen rhai arbedion erbyn diwedd chwarter dau, felly ym mis Hydref, y gobaith oedd y byddai’n gallu tanlinellu rhai meysydd lle gellid sicrhau toriadau, am fod pwysau o fewn sawl gwasanaeth yn cynnwys addysg, cymunedau a thai yn enwedig, gyda chynnydd yn y lefelau digartrefedd. Roedd angen dod i benderfyniad hefyd yngly?n ag o ble y gellid cymryd arian o’r cyllidebau, a oedd yn gynyddol anodd gan nad oedd neb yn awyddus i gwtogi ar wasanaethau. Pe na bai arbedion yn cael eu gwneud ac yn wyneb pwysau cynyddol newydd, mae’n bosib y byddai gwir heriau oherwydd yr anallu i ganfod ffynonellau arian eraill. Roedd y cronfeydd wrth gefn yn iach ac roedd y gronfa gyffredinol wrth gefn yn unol â’r lefelau disgwyliedig, heb fod yn ormodol. Roedd cryn dipyn o’r arian mewn cronfeydd wrth gefn wedi'i glustnodi.

 

Yn y bôn, nid oedd y Prif Swyddog Ariannol Interim Cyllid, Perfformiad a Newid yn credu y gallai’r Cyngor ond gobeithio y byddai LlC yn cadarnhau setliad da. Roedd angen cynllunio arbedion, a gellid symud rhai ohonynt ymlaen flwyddyn yn ôl yr angen, am nad oedd amheuaeth y byddai setliadau’r dyfodol yn heriol.

 

Cydnabu’r Aelod fod cefnogaeth LlC yn allweddol yn hyn o beth a holodd pa fath o drafodaethau oedd yn mynd ymlaen yng nghyswllt sefyllfa’r Cyngor am ei fod yn teimlo’n si?r mai’r un oedd y sefyllfa ledled Cymru.

 

Cydnabu’r Prif Swyddog Ariannol Interim Cyllid, Perfformiad a Newid  fod rhai cynghorau’n wynebu sefyllfa ychydig yn waeth, fod rhai mewn sefyllfa ychydig yn well ond bod cysondeb mawr yng nghyswllt y pethau yr oeddent yn eu cael yn anodd ei hariannu ac roedd yr heriau wedi bod yn debyg iawn yn nhermau ceisiadau i’r gronfa galedi a cholled incwm.  Roedd y Swyddogion S151 yn cyfarfod am yn ail wythnos, a bellach yn fisol gyda LlC a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLLlC), felly roedd cryn ryngweithio, ern ad oedd hynny’n golygu fod gan y swyddogion hynny unrhyw fewnwelediad i gynnwys cyllideb LlC yn y pen draw. Roedd pwysau sylweddol yn wynebu iechyd ledled Cymru yn ogystal â meysydd eraill e.e., adfywiad economaidd, ayb., felly dim ond un llais oedd llywodraeth leol o gwmpas y bwrdd, er ei fod yn llais cryf, gobeithio.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod sylwadau ar lefel wleidyddol yn adlewyrchu’r rhai a wnaed gan swyddogion S151 ledled Cymru ac ar hyn y bryd, oherwydd pwysau sylweddol ar ofal iechyd a chymdeithasol, oherwydd y cysylltiad agos rhyngddynt, roedd ef, yn ogystal ag arweinydd CLLlC yn cyfarfod â’r gweinidog iechyd yn wythnosol er mwyn trafod y pwysau digynsail ar ofal cymdeithasol gan bledio’r achos am fuddsoddiad hir dymor yn y system. Roedd y Gweinidog yn gwrando, ac yn bendant yn cydnabod rôl hanfodol gofal cymdeithasol a hefyd yn nhermau cynnal y GIG hefyd a byddai’n parhau i bwysleisio’r angen am fuddsoddiad mewn gwasanaethau lleol.

 

Holodd Aelod pa fath o drafodaethau oedd yn cael eu cynnal yn ymwneud â’r lleihad yn incwm treth y cyngor a gofynnodd a ellid sicrhau trafod hyn fel mater o flaenoriaeth

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod y mater wedi’i godi a bod y Cyngor wedi derbyn cymorth ychwanegol oddi wrth LlC, ond roedd cydnabyddiaeth o hyd bod y pwysau hwnnw’n parhau. Roedd LlC wedi ymrwymo i adolygu’r ffordd roedd cyllid lleol yn cael ei godi, er bod hyn yn ddyhead tymor hir gan LlC, yn nhermau diwygio treth y cyngor.

 

Holodd yr Aelod os oedd unrhyw arwydd ar hyn o bryd o’r hyn y byddai’r Cyngor yn ei dderbyn yn nhermau cymorth.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Ariannol Interim Cyllid, Perfformiad a Newid mai na oedd yr ateb gonest, gyda chasgliadau treth y cyngor yn dal 1% yn llai ar hyn o bryd. Gosodwyd y gyfradd gasglu ar hanner canran yn is na’r arfer felly roedd hi’n obeithiol y byddai pethau’n gwella yn ystod yr ail chwarter. Roedd Y Cyngor hefyd wedi llwyddo i bresesu ambell wy?s a ohiriwyd yn ystod y flwyddyn Covid, er bod y gallu i gasglu dyledion wedi lleihau wrth i amser fynd heibio. Mae gobaith o hyd y bydd casgliadau’r flwyddyn ddiwethaf yn cynyddu drwy’r mecanwaith hwnnw, yn ogystal ag ychydig welliant y flwyddyn hon, gyda mis Medi a Hydref yn allweddol.

 

Cyfeiriodd Aelod at COM19 gan holi os oedd unrhyw wybodaeth bellach am fod y naratif yn annelwig a’i fod yn ceisio deall sut oedd y ffigwr wedi mynd o fod yn felyn i goch.

 

Sicrhaodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol yr Aelodau fod yr adran yn aros o fewn y gyllideb. O ran y cynllun trwyddedu ar gyfer gwaith ffordd, roedd hyn yn rhagorol, gan fod ardaloedd eraill yn yr adran briffyrdd wedi canolbwyntio arnynt i sicrhau bod y gyllideb yn aros ar y trywydd iawn. Yn y bôn, byddai’r cynllun hwn yn rhoi gwell rheolaeth dros waith ffordd allanol pan fyddai ymgymerwyr statudol e.e., cwmnïau nwy, ac ati, yn dod draw i wneud gwaith ar y priffyrdd. Y gobaith yw y byddai hyn yn cynhyrchu ychydig arian, ond y prif bwrpas oedd rhoi gwell rheolaeth i’r Cyngor a chyfyngu ar yr amser y byddai ymgymerwyr statudol yn treulio’n cyflawni gwaith ar y ffyrdd. Er bod hyn yn bodoli eisoes yn Lloegr, nid dyna’r sefyllfa yng Nghymru hyd yn hyn ac roedd angen newid yn neddfwriaeth LlG i ganiatáu i hyn ddigwydd. Er y byddai hyn yn parhau i gael ei ddilyn, byddai'n cymryd peth amser i'w gyflawni, er ei fod yn teimlo bod y Cyngor yn cyrraedd yno.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 30, yng nghyswllt codiad cyflog, am 1.75% oedd cynnig y cyflogwyr, gan holi am ddiweddariad ar y sefyllfa a sut y byddai’r Cyngor yn lliniaru’r codiad hwnnw.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Ariannol Interim Cyllid, Perfformiad a Newid nad oedd hi’n meddwl fod unrhyw beth wedi’i arwyddo’n derfynol o safbwynt cyflog athrawon ac eraill, ond fod y Cyngor wedi cyllidebu rhwng 1.75% a 2% yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, felly petai’n llai na 2% byddai hynny o fewn y gyllideb. Roedd rhyw arwydd y byddai LlG yn cyfrannu tuag at godiad cyflog athrawon, a fyddai’n rhywbeth i’w groesawu’n fawr iawn, a’r awgrym ar hyn o bryd yw y byddai’r Cyngor yn ariannu’r 1% ac y byddai LlC yn cyfrannu’r 0.75% arall, ern ad oedd hynny wedi’i gadarnhau’n ffurfiol eto a bod hynny ond ar gyfer rhan o’r flwyddyn am fod cyflog athrawon yn ymestyn dros ddwy flwyddyn ariannol. Serch hynny, roedd hi’n gymharol gyffyrddus fod y Cyngor wedi cyllidebu ar gyfer codiadau cyflog.

 

Cyfeiriodd Aelod at COM1 gan egluro er ei fod yn sôn y gellid sicrhau  £300k yn ystod 2021-22, roedd hi’n ymwybodol o drosglwyddiad asedau nad oeddent wedi symud ymlaen, felly roedd yn dymuno gwybod sut y byddai’r targed hwnnw’n cael ei gyflawni.

Eglurodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol yn gyntaf fod y £300k oedd targed arbedion y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn hytrach na’r union swm a arbedwyd drwy drosglwyddiadau CAT. Rhoddodd drosolwg cryno i Aelodau o rai o’r trosglwyddiadau CAT llwyddiannus, a oedd ar sail barhaus, tra bod rhai ar drothwy, a byddent yn rhoi dadansoddiad llawn i'r Aelodau o'r rhai a oedd wedi trosglwyddo a'r rhai y gobeithiwyd y byddent yn cael eu cyflawni, i'r aelodau eu gweld. Cadarnhaodd fod person ychwanegol wedi’i recriwtio yn yr adran eiddo, er mwyn helpu gyda’r broses prydlesi ac roedd person arall newydd gael ei benodi i helpu â’r broses CAT yn ychwanegol at y Swyddog CAT. Roedd angen gwneud mwy i sicrhau fod y Gwasanaeth yn parhau i sicrhau’r £300k ar sail barhaus ac roedd angen i sicrhau fod y broses drosglwyddo CAT yn cadw i fynd. Doedd arbedion ddim yn gorffen ar ddiwedd y flwyddyn, a byddai angen nodi arbedion i’r dyfodol, ac yn ddibynnol ar nifer y trosglwyddiadau CAT llwyddiannus, gallai’r rhain wedyn gael eu cyfrif at ei gilydd i weld os oedd unrhyw arbedion eraill y gellid eu gwneud, petai’r rhif hwnnw’n fwy na’r £300k.

 

O ystyried yr adroddiad uchod, gofynnodd y Pwyllgor am y canlynol:

 

  1. Dadansoddiad o’r gronfa adfer Covid i’w gylchdroi ymysg yr Aelodau.

 

  1. Rhestr gyflawn a dadansoddiad o’r trosglwyddiadau CAT yn cynnwys y rhai y gobeithiwyd y byddent yn cael eu cyflawni i’w cylchdroi ymysg yr Aelodau.

 

 

CYTUNWYD:         Fod y Pwyllgor yn nodi sefyllfa arfaethedig ar gyfer 2021-22.

Dogfennau ategol: