Agenda item

Sut mae Consortiwm Canolbarth y De yn Helpu Ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr

Gwahoddwyr:

 

Lindsay Harvey - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd

Cynghorydd Charles Smith - Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio

Nicola Echanis - Pennaeth Addysg a Chefnogaeth i Deuluoedd

Sue Roberts - Rheolwr Gr?p Gwella Ysgolion

 

Clara Seery - Rheolwr Gyfarwyddwr - Consortiwm Canolbarth y De

Andrew Williams - Cyfarwyddwr Cynorthwyol Partneriaeth a Gwella - Consortiwm Canolbarth y De

Andy Rothwell - Prif Bartner Gwella - Consortiwm Canolbarth y De

 

Hannah Castle - PrifathroYsgol Gyfun Cynffig - Cadeirydd Fforwm Cyllideb Ysgolion

Kath John - Prifathro, Ysgol Gynradd Brackla - Cadeirydd Ffederasiwn Cynradd Pen-y-bont ar Ogwr

Jeremy Phillips - Prifathro, Ysgol Gynradd Litchard - Cynrychiolydd Ysgol Gynradd

Helen RidoutPrifathro, Ysgol Bryn Castell

Cofnodion:

Diolchodd Rheolwr Gyfarwyddwr, Consortiwm Canolbarth y De (CCD) i'r pwyllgor am y gwahoddiad i ddod i siarad am y gwaith roedden nhw wedi bod yn ei wneud ar draws Pen-y-bont ar Ogwr. Gan amlinellu rhywfaint o'r adroddiad, eglurodd eu bod wedi bod yn gweithio yng nghyd-destun pandemig byd-eang ac y bu'n flwyddyn anodd iawn i bawb, yn enwedig Penaethiaid. Bu newidiadau sylweddol ym meysydd atebolrwydd a pharhawyd i atal categoreiddio a oedd wedi rhoi'r rhyddid iddyn nhw weithio'n wahanol gydag ysgolion. Y nod oedd grymuso ysgolion i wella deilliannau ar gyfer pob dysgwr, drwy weithio mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol i ddarparu cymorth pwrpasol i’r holl ysgolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydden nhw’n parhau i gefnogi a herio arweinwyr ysgolion fel bod modd iddyn nhw ddangos cynnydd yn erbyn y blaenoriaethau gwella ysgolion, fodd bynnag, byddai hyn yn cael ei wneud yng nghyd-destun pandemig byd-eang a’r ansicrwydd sy’n dod yn ei sgil. Roedd ffocws sylweddol ar les a sicrhau bod y staff mewn ysgolion wedi'u harfogi i allu rheoli'r heriau roedden nhw’n yn eu hwynebu. Byddai eu partneriaid gwella yn broceru ansawdd, gan sicrhau’r cymorth a oedd yn mynd i mewn i ysgolion i wneud yn si?r ei fod yn effeithiol ac yn addas i’r diben. Ar ôl cyflwyno'r adroddiad, gofynnodd Aelodau'r Pwyllgor y cwestiynau hyn.

 

Disgrifiodd Aelod yr adroddiad fel un cadarnhaol iawn ond roedd ganddo bryderon am yr her o recriwtio athrawon Cymraeg eu hiaith.

 

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr, CCD ei fod yn bryder mawr, a bod ganddyn nhw gr?p rhanbarthol a oedd yn cydweithio ar draws y pum awdurdod lleol i drafod y materion hynny. Roedd recriwtio yn her, gyda’r nifer sy’n hyfforddi fel athrawon, a bod ychwanegu'r haen cyfrwng Cymraeg  yn ei gwneud yn fwy o her fyth. Roedd cadw pobl hefyd yn fater o bwys, ond roedd yn rhywbeth oedd yn cael ei godi gyda Llywodraeth Cymru (LlC) ar bob cyfle. Roedd rhaglen hyfforddi athrawon o fewn y sector cyfrwng Cymraeg, roedd yr holl hyfforddiant yn cael ei gynnig drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, ond ar hyn o bryd roedd angen dod o hyd i’r athrawon hynny a’u cael i mewn i’r system. Roedd CCD mewn trafodaethau gyda sefydliadau hyfforddiant cychwynnol athrawon a sut y gallen nhw weithio ar y lefel honno, ond nid oedd yn ateb cyflym, ond roedd yn bendant yn cael ei drafod.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio mai un o'r pethau oedd yn bwysig iddo oedd yr angen am hyfforddiant ac adnoddau sy'n seiliedig ar bynciau. Roedd wedi treulio’r blynyddoedd diwethaf yn ei fywyd proffesiynol, fel hyfforddwr athrawon cychwynnol ac roedd yn  gwerthfawrogi’r anawsterau gyda chael ôl-raddedigion i ymddiddori mewn cyflwyno eu pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd yn bwysig siarad â sefydliadau hyfforddi athrawon i wneud yn si?r bod cymhellion i addysgu eu pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel Consortiwm ac fel Awdurdod Addysg a gr?p o ysgolion, roedd angen iddyn nhw ystyried ac annog myfyrwyr i ddod i wneud eu hymarfer dysgu gan ddefnyddio rhywfaint o Gymraeg. Nid mater i ysgolion Cymraeg yn unig oedd hyn, roedd yn bwysig annog pob ysgol i ddefnyddio rhywfaint o Gymraeg.

 

Nododd Aelod eu bod, yn yr adroddiad, wedi disodli'r System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion â model newydd a gofynnodd a oedd meini prawf penodol ar gyfer pennu anghenion cymorth ychwanegol; a oedd categoreiddio ysgolion yn dal i fod yn berthnasol i'r maen prawf hwn a sut fyddai'r Pwyllgor yn mesur y manteision i'r ysgolion o ddefnyddio'r amser ychwanegol hwn.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Partneriaethau a Gwella, CCD fod atal categoreiddio yn gyffrous iawn ac yn gyfeiriad roedd angen iddyn nhw ei gymryd. Gyda’r fframwaith strwythuredig newydd, gallen nhw wir ddeall yr hyn oedd ei angen ar ysgolion a gallai’r ysgolion fod yn onest ac yn glir gyda nhw. Byddai'n fframwaith atebolrwydd uchel ond gyda llai o arian yn y fantol, a oedd yn wirioneddol bwysig. Pan gynhyrchodd LlC eu canllawiau cychwynnol, daeth y pedwar rhanbarth at ei gilydd i edrych ar yr egwyddorion allweddol roedd angen i holl ranbarthau Cymru gadw atyn nhw. Roedd yr un cyntaf yn ymwneud â thrafodaeth ac roedd hynny'n rhan bwysig o'r broses hon, y tryloywder agored a'r gwaith partneriaeth a oedd yn gryfder ynddi. Er mwyn gwella ysgolion yn effeithiol roedd yn rhaid cael elfen o her ac o'i wneud yn briodol, byddai'n arwain at welliant. Roedd yn symudiad pwrpasol o’r hyn a allai fod yn gymorth craidd i gymorth gwell a oedd yn seiliedig ar ysgolion unigol, ac ni ddylai fod unrhyw syndod pan fyddai’r symudiad hwnnw’n cael ei drafod ac yn digwydd oherwydd byddai’r holl dystiolaeth wedi cronni dros amser mewn sgwrs â chydweithwyr mewn ysgolion ac awdurdodau lleol hefyd.

 

Gofynnodd Aelod a allai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Addysg a Chymorth i Deuluoedd roi manylion ynghylch faint o wybodaeth fyddai ar gael i’r Cynghorwyr yn y dyfodol ar gyfer Craffu.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Addysg a Chymorth i Deuluoedd ei bod yn dipyn o her ac roedd yn sicr bod Aelodau Craffu yn ymwybodol bod cyfarwyddeb ynghylch defnyddio data cymharu ar lefel disgyblion heb nodi unigolion felly byddai angen iddyn nhw fod yn ofalus gyda hynny. Yn yr un modd, y gyfarwyddeb gan LlC oedd ei defnyddio'n helaeth iawn ar gyfer gwella ysgolion ac i symud y system yn ei blaen, yn hytrach nag ar gyfer cymharu ar gyfer rancio. Un peth yr oedd y Cyfarwyddwyr yn edrych arno oedd darparu'r wybodaeth o fewn disgwyliadau LlC i'r Pwyllgorau Craffu, ac roedd cynlluniau i adolygu'r mecanwaith adrodd gan CCD sy'n cyd-fynd yn fwy â swyddogaethau craffu Awdurdodau unigol. Bydden nhw’n symud yn fuan o swyddogaeth adrodd tymhorol i chwarterol sy'n cyd-fynd â'u proses asesu perfformiad corfforaethol.

 

Credai’r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio mai dyma un o’r pethau cadarnhaol a ddeilliodd o Covid, y ffaith eu bod wedi gohirio’r categoreiddio a thorri’r cysylltiad rhwng data a dangosyddion perfformiad, byddai’r holl beth nawr yn waith ar y gweill a threfnu ffordd newydd o asesu ysgolion.

 

Cyfeiriodd Aelod at baragraff 4.1 o’r adroddiad ac roedd ganddo ddiddordeb mewn clywed a oedd newidiadau yn y gwasanaeth yr oedden nhw’n eu darparu cyn ac ar ôl Covid. Gofynnodd am farn cynrychiolwyr ysgolion oedd yn bresennol ar effeithiolrwydd y gefnogaeth yn ystod Covid a sut roedden nhw’n gweld pethau yn y dyfodol. Yn olaf, roedd yn amlwg bod agweddau cadarnhaol, ond a oedd meysydd y credai CCD, yr Awdurdod Lleol ac ysgolion y gellid eu gwella?

 

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, CCD y bu newidiadau sylweddol cyn ac ar ôl Covid, y newid mwyaf yn ystod y pandemig oedd y ffocws ar addysgu. Yn ystod y cyfnod clo, roedd y ffocws cychwynnol i raddau helaeth ar sicrhau bod athrawon yn cael mynediad at y dechnoleg a chael offer i'r system. Cyflwynwyd pethau oherwydd Covid yn unig, un o’r pethau oedd comisiynu cefnogaeth hyfforddi ychwanegol i Benaethiaid ac uwch arweinwyr a oedd yn gwbl annibynnol i’r Awdurdod a’r Consortia. Yr unig adborth a dderbyniwyd oedd nifer yr oriau a ddefnyddiwyd, a gan ba Awdurdod, ac roedd hynny’n cydnabod yr heriau llesiant roedd y system yn eu hwynebu. Rhoddodd hyn gyfle iddyn nhw weithio gydag ysgolion i ofyn beth fyddai’n gwneud eu hysgol yn well, yn hytrach na beth fyddai’n eu gwneud yn ysgol werdd ac mae’r newidiadau cenedlaethol wedi helpu gyda hynny. Ochr yn ochr â hynny, maen nhw wedi edrych ar eu prosesau gwerthuso ac wedi dysgu ei bod yn anodd cael gwerthusiadau yn ôl gan bobl mewn byd rhithwir. Un o’r pethau maen nhw’n ei gynnwys yn eu rhaglen ar gyfer eleni yw partneriaid gwella yn gweithio gyda Phenaethiaid i weld ble mae effaith y dysgu proffesiynol, yr hyfforddiant maen nhw wedi’i gael, a’r effaith ar ddysgwyr.

 

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, CCD eu bod hefyd yn edrych yn rheolaidd ar yr hyn oedd yn gweithio ai peidio, gan ddiweddaru eu systemau eu hunain yn barhaus, ynghyd ag adroddiad effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gan y consortiwm a rannwyd ag awdurdodau lleol a oedd yn ystyried a oedden nhw’n cael y gwerth gorau o'r adnoddau oedd ganddyn nhw. Credai eu bod wedi cael gwerth da iawn o'r adnodd yn ystod Covid gan nad oedden nhw’n teithio. Roedd cynnwys yr holl hyfforddiant a dysgu proffesiynol wedi newid ac yn adlewyrchu’r pandemig a’r camau nesaf ar ôl y pandemig, fodd bynnag, yr hyn y byddech yn ei glywed fyddai iaith adfer yn yr hyfforddiant neu’r ddogfennaeth. Y rhesymau oedd bod pobl ifanc wedi cael addysg yn ystod y cyfnod clo ac os oedden nhw’n sôn am ddysgu coll a bylchau, roedden nhw’n dibrisio’r gwaith a wnaeth y penaethiaid / athrawon yn ystod y pandemig er eu bod yn cydnabod bod pawb yn dod yn ôl i ddysgu wyneb yn wyneb ar adegau gwahanol ac yn gweithio gydag ysgolion i ddatblygu’r plant hynny.

 

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Bracla ei bod yn her enfawr i bob un ohonyn nhw a bod yn rhaid iddyn nhw addasu'n gyflym, yn enwedig o ran dysgu ar-lein. Roedd llawer iawn o gefnogaeth wedi bod ar gael gan CCD ond un o'r pethau pwysicaf iddyn nhw fel ysgolion oedd pa fath o fodel roedden nhw'n mynd i'w ddefnyddio a sut i ddefnyddio hwnnw'n gyflym iawn. Dogfen ddefnyddiol iawn a luniwyd oedd y Canllawiau Dysgu Cyfunol a oedd yn darparu amrywiaeth o wahanol ddulliau a strategaethau ar wahanol fodelau cylchdro, a chafodd hyn wedyn ei bersonoli gan yr ysgolion yn dibynnu ar eu cyd-destun. Roedd llawer iawn o ddysgu proffesiynol yn seiliedig ar ddysgu digidol, bu’n rhaid i’r staff uwchsgilio yn gyflym iawn i ddarparu dysgu cyfunol i’w plant a’r dull gorau oedd yn gweddu i’r ysgol - gweminarau, gweithdai. Defnyddiodd llawer o ysgolion y rhain a bu llawer o ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr yn rhannu eu taith a sut aethon nhw ati, ynghyd â’r anfanteision a’r llwyddiannau. Bu llawer o ddigwyddiadau rhithwir hefyd, gyda dyluniad y cwricwlwm yn un, felly er eu bod yn weithredol gallen nhw ganolbwyntio ar ddylunio’r cwricwlwm yn ogystal ag edrych ymlaen at 2022.

 

Adleisiodd Pennaeth Ysgol Gyfun Cynffig yr hyn a ddywedwyd ynghylch y nifer helaeth o adnoddau oedd ar gael. Un o’u blaenoriaethau nhw oedd ymgysylltu, y cawson nhw drafferth ag ef i ddechrau, yn ystod y pandemig, i gael y lefelau ymgysylltu gofynnol. Roedd hi wedi cysylltu'n bersonol â CCD i gael y cymorth oedd ei angen. Fel ysgolion uwchradd roedd yn rhaid iddyn nhw hefyd edrych ar arholiadau, Safon Uwch a TGAU. Cawson nhw gefnogaeth gan CCD mewn proses a oedd yn anodd ac yn bryderus iawn ar adegau ac nid o reidrwydd wedi cael ei chyfleu’n dda gan Lywodraeth Cymru, ond mewn gwirionedd roedd y gefnogaeth a roddwyd gan CCD yn ddefnyddiol. Ar lefel bersonol, roedd yn meddwl bod penaethiaid wedi teimlo cyfrifoldeb mawr ac roedd cael y bobl ychwanegol hynny yn CCD y gallai siarad â nhw, rhannu a threfnu gwybodaeth ar eu cyfer, wedi bod yn ddefnyddiol iawn mewn cyfnod heriol.

 

Eglurodd Pennaeth Ysgol Bryn Castell fod y disgyblion, eu hanghenion a dysgu cyfunol o fewn amgylchedd ysgol arbennig, yn wahanol iawn i ysgolion prif ffrwd, a hynny am resymau amlwg. Gallai fod yn eithaf heriol cael pobl ag anawsterau emosiynol a chymdeithasol neu awtistiaeth neu anawsterau dysgu dwys a lluosog i ymgysylltu â phethau ac roedd yn rhaid iddyn nhw ganolbwyntio ar iechyd a lles. O ran y cymorth gan CCD, yr hyn roedden nhw wedi'i gynnig oedd ymagwedd hyblyg iawn y gellid ei haddasu o fewn ysgolion arbennig. Roedd Rheolwr Gyfarwyddwr CCD wedi cyfarfod â nhw, cyn gwyliau’r haf, a rhoddwyd ymreolaeth iddyn nhw ar gr?p o ysgolion arbennig o fewn CCD i nodi’r problemau oedd yn achosi pryder i bob un ohonyn nhw ac yna daethpwyd o hyd i ddull oedd yn canolbwyntio ar atebion, fel arfer, drwy ryw fodel ymholi sy’n seiliedig ar gymheiriaid ond byddai’n gydweithredol iawn, yn gwthio’r ffiniau o ran symud ymlaen yr oedd hi’n meddwl ei bod yn bwysig eu cydnabod hefyd, o ran yr hyn roedden nhw wedi’i gyfrannu.

 

Adleisiodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Addysg a Chymorth i Deuluoedd yr hyn a ddywedodd y Penaethiaid. Credai ei bod yn bwysig bod y Pwyllgor yn clywed ganddyn nhw yn y lle cyntaf, gan mai nhw oedd y prif dderbynnydd cymorth gan CCD. Roedd hefyd yn dymuno talu teyrnged i'r gwaith aruthrol roedd Penaethiaid wedi'i wneud dros y 18 mis diwethaf. Roedd yn ymdrech tîm, ac roedd yn ddyledus i Benaethiaid am weithio gyda nhw’n amyneddgar, ac roedd y gefnogaeth gan CCD a oedd wedi'i theilwra'n helaeth iawn i anghenion ysgolion unigol yn gyffredinol gadarnhaol iawn. Cydnabuwyd eu bod wedi derbyn sylwadau yn ôl gan Estyn yn ystod y cyfnod a oedd yn adlewyrchu’r adborth cadarnhaol a ddangoswyd gan Benaethiaid yn y cyfarfod, gan gydnabod y gefnogaeth gref a chydymdeimladol a gawson nhw gan y Consortiwm, a chredai ei bod yn dyst i’r berthynas allanol oedd ganddyn nhw gyda’u cydweithwyr yn CCD. Roedd yn falch iawn o'r gwasanaeth a gafodd yr Awdurdod Lleol gan CCD.

 

Cyfeiriodd Aelod at y gyllideb a nododd eu bod wedi torri cyllid i CCD bob blwyddyn. Ei bryder oedd a fyddai CCD yn dal i allu cynnig yr un lefel o wasanaeth roedd ysgolion ei eisiau a'i angen yn y dyfodol.

 

Eglurodd Rheolwr Gyfarwyddwr CCD fod y gyllideb wastad yn her. Bu rhai toriadau i'r gyllideb dros y blynyddoedd diwethaf, er ochr yn ochr â hynny, roedd newidiadau i gyllid grant yn golygu eu bod yn gallu mantoli hynny. Roedden nhw wedi bod yn ffodus i allu edrych ar delerau ac amodau’r grant a hefyd rhywfaint o’r gwaith roedd pobl wedi bod yn ei wneud i gyd-fynd â thelerau ac amodau’r grant hwnnw. Mewn gwirionedd gallen nhw gynnig mwy o wasanaethau na roedden nhw wedi'i wneud yn flaenorol, a rhan o hynny oedd cael gwared ar gategoreiddio. Fel mudiad dros y ddwy flynedd ddiwethaf roedd eu model wedi dod yn fwy effeithiol ond ar yr un pryd, roedd yn rhaid iddyn nhw fod yn wirioneddol ymwybodol os bydden nhw’n gorymestyn, yr unig bobl fyddai'n dioddef fyddai'r ysgolion. Er mwyn sicrhau eu bod yn dal i allu cynnig yr un gwasanaeth ac nad oedden nhw’n disgwyl unrhyw doriadau yn y gyllideb yn y dyfodol agos, serch hynny roedd yn gwerthfawrogi eu bod yn byw mewn byd ansicr o ran cyllid.

 

Dywedodd Aelod ei fod wedi bod yn Gadeirydd Llywodraethwyr a hefyd yn Gadeirydd Cymdeithas Llywodraethwyr Pen-y-bont ar Ogwr a theimlai fod y berthynas gyda CCD yn dda. Dywedodd fod llawer o gyfathrebu'n dod gan CCD ac ynghyd ag e-byst rheolaidd eu bod hefyd ar Twitter a Facebook ac roedd eu tudalen we hefyd yn gysylltiedig â Thudalennau Addysg LlC. Cyfeiriodd yr Aelod at Gr?p Llywio’r Llywodraethwyr a hefyd y nifer sy’n manteisio ar hyfforddiant ar sut i fod yn llywodraethwr effeithiol, a phwysleisiodd ei bod yn bwysig uwchsgilio a gwybod am y ddeddfwriaeth ddiweddaraf, yn enwedig wrth edrych i’r dyfodol ar y cwricwlwm newydd a sut roedd yn mynd i gael ei gyflwyno.

 

Dywedodd Prif Bartner Gwella CCD y byddai'n cael ac yn dosbarthu rhywfaint o wybodaeth gan Gr?p Llywio'r Llywodraethwyr, a hefyd bod sesiynau hyfforddi llywodraethwyr yn dechrau ym mis Hydref. Bu rhywfaint o fewnwelediad ac ymchwil y bydden nhw’n ei rannu yn rhai o’u canfyddiadau ond un o’r pethau amlycaf a ddigwyddodd yn ystod y pandemig oedd y cynnydd sylweddol yn y nifer sy’n manteisio ar hyfforddiant ymhlith Llywodraethwyr Pen-y-bont ar Ogwr. Roedden nhw wedi gweld cynnydd o 161% yn nifer y Llywodraethwyr yn cael mynediad at hyfforddiant a’u bod yn meddwl ei fod yn debygol o adlewyrchu ychydig o’r hyn roedden nhw wedi ei drafod yn flaenorol ynghylch model cyflwyno gwahanol a bod Llywodraethwyr yn ei chael yn haws cael mynediad at yr hyfforddiant, ac roedd yn edrych ymlaen at y sesiwn ym mis Hydref lle gallen nhw archwilio hynny ymhellach.

 

Cydnabu'r Aelod faint o wybodaeth a dderbyniodd gan CCD trwy e-byst a theimlai y byddai'n ddefnyddiol ei lledaenu i Lywodraethwyr ar draws y fwrdeistref sirol gan Gymorth i Lywodraethwyr. Nododd yr Aelod fod etholiadau rhiant-lywodraethwyr wedi’u gohirio a bod ganddyn nhw rai lleoedd gwag ers peth amser na fyddai modd iddyn nhw eu llenwi gan na fyddai modd iddyn nhw gynnal yr etholiadau. Holodd yr Aelod a allai'r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Addysg a Chymorth i Deuluoedd a Chymorth i Lywodraethwyr wneud rhywbeth ynghylch trefnu etholiadau rhieni fel y gallen nhw gael cyflenwad llawn ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p Cefnogi Ysgolion fod yr awdurdod lleol, mewn perthynas â lleoedd gwag rhiant-lywodraethwyr, yn cydnabod yr her ac wedi bod yn sgwrsio â'r Rheolwr Gr?p Cymorth Busnes yn ei chylch. Un o'r pethau a oedd yn her oedd bod yn rhaid i'r etholiadau gael eu cynnal â llaw o hyd. Yr awgrym a wnaed oedd bod rhiant-lywodraethwyr presennol yn parhau yn eu rôl ac efallai hyd yn oed yn ymestyn eu rôl lle bo’n bosibl i leihau nifer y lleoedd gwag nes y gellid trefnu etholiadau newydd. Roedden nhw’n sylweddoli y byddai rhai rolau gwag o hyd a bydden nhw’n ceisio llwyddo i lenwi'r rolau gwag hynny cyn gynted â phosibl.

 

Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod symleiddio negeseuon yn syniad da iawn ac y byddai'n codi hynny gyda CCD yn dilyn y cyfarfod, efallai drwy ddefnyddio neges bost dydd Llun i gyrraedd ysgolion a llywodraethwyr. O ran etholiadau rhieni, roedd yn ymwybodol ei bod wedi bod yn her i nifer o ysgolion dros y 18 mis diwethaf. Roedden nhw’n ailddechrau cylchlythyr y Cyfarwyddwr, a fyddai’n amlygu rhai o’r newidiadau roedden nhw am eu gwneud a fyddai’n ei gwneud yn haws i ysgolion. Dywedodd pe gallai ef a'r Aelod gael trafodaeth ar wahân, y byddai'n sicrhau bod y cylchlythyr yn bodloni'r disgwyliadau.

 

Dywedodd yr Aelod eu bod, o brofiad personol yn ei ysgol, wedi cael dau riant-lywodraethwr drwy gydol y pandemig. Y ffactor pwysig oedd eu bod yn cynnal cyfarfodydd cyffredinol blynyddol bob mis Hydref lle'r oedd angen iddyn nhw gadarnhau strwythurau eu pwyllgorau. Daeth yr Aelod i’r casgliad mai gorau po gyntaf y caiff y mater ei ddatrys.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am y cyflwyniad cadarnhaol a chalonogol a diolchodd i bawb a wahoddwyd am eu presenoldeb a'u cyfraniad.

 

PENDERFYNWYD:     Ar ôl ystyried cynnwys yr adroddiad a'r ymatebion i'r     cwestiynau a ofynnwyd, bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r adroddiad.

Dogfennau ategol: