Agenda item

I dderbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

Cofnodion:

Y Maer

 

Mae cyfarfod arall o'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi'i drefnu ar gyfer 9 Medi am 2.00pm. Cytunwyd ar hyn gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Mehefin 2021. Y rheswm dros ychwanegu'r cyfarfod hwn at y Rhaglen Cyfarfodydd yw i ddarparu ar gyfer busnes a drefnwyd ar y Flaenraglen Waith, sydd angen ei ystyried cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ym mis Tachwedd 2021

 

Ers cyfarfod diwethaf y Cyngor ces y pleser o fod yn bresennol yn seremoni torri tir yr ysgol Gymraeg / cyfleuster gofal plant newydd yn Blackmill.

 

Bues hefyd yn agor siop flodau Joe’s yng Nghefn Cribwr (ac mae’n amlwg fy mod angen rhywfaint o ymarfer wrth dorri'r rhuban, gan iddi gymryd 3 ymgais i’w dorri, dwi'n beio’r siswrn a oedd yn rhy fach).

 

Ar ddydd Sul 27 Mehefin, pleser oedd treulio ychydig oriau yng ngerddi Cefn Cribwr ar eu diwrnod agored blynyddol. Roedd rhai arddangosfeydd syfrdanol i’w gweld a buom yn lwcus gyda’r tywydd hefyd. Digwyddiad gwych ac un na ddylid ei golli, yn enwedig os ydych yn hoffi edrych ar sut y dylai gardd rhywun edrych. Nes ymlaen y diwrnod hwnnw aethom i ymweld â phreswylydd mewn cartref gofal ym Maesteg a oedd yn dathlu ei phen-blwydd yn 101 oed, ac mi wn i’r Dirprwy Faer ymweld â phreswylydd arall yn yr un cartref a oedd yn dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed yr wythnos ganlynol.

 

Ar 28 Mehefin cefais wahoddiad i ymuno â Llysgennad Gwlad Pwyl ar ei ymweliad ag amgueddfa Porthcawl a beddau rhyfel 5 o filwyr Pwylaidd a laddwyd yn yr Ail Ryfel Byd ac a gladdwyd ym Mynwent Porthcawl. Profiad dirdynnol iawn oedd mynd â'r Llysgennad i ddangos ein parch, a gosododd dorch ar bob un o'r beddau. Os nad ydych wedi ymweld ag amgueddfa Porthcawl yna awgrymaf eich bod yn mynd, er ei bod yn edrych yn fach o’r tu allan y mae, fel y Tardis, yn teimlo’n fwy y tu mewn, ac mae yno gasgliadau difyr a gwybodaeth am ein hardal leol.

 

Yr ymweliad diweddaraf i mi ei wneud y mis hwn oedd i Warchodfa Natur Cynffig fel rhan o’u Diwrnod Agored, a gwych oedd gweld sut mae'r ymddiriedolwyr wedi dechrau gwneud y ganolfan ymwelwyr yn fwy cynaliadwy, ac mae ganddynt gynlluniau ar gyfer y dyfodol i ddarparu caffi dan do sydd â golygfa o’r warchodfa. Gwych oedd gweld y rhan bwysig hon o’n Bwrdeistref Sirol mewn dwylo diogel, a chyda dyfodol llewyrchus o’i flaen.

 

Yn olaf, ychydig eiriau am gronfa elusen y Maer. Er nad oes Pwyllgor Elusen y Maer mwyach, mae fy ngwraig a minnau'n bwriadu ceisio casglu cymaint ag y gallwn i Lads & Dads a Chanolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr. Felly ar ddydd Sadwrn 14 Awst bydd fy ngwraig Susan (Y Faeres) yn plymio ar y cyd o uchder o 12,000 troedfedd ym maes awyr Abertawe. Rwyf wedi sefydlu tudalen Go Fund Me lle gellir gwneud rhoddion ac mae hefyd yn bosibl gwneud rhodd ar wefan CBSP drwy fynd i dudalen y Maer. Bydd pob rhodd yn mynd i'r grwpiau a grybwyllir ac ni fydd ceiniog yn cael ei gwario ar gost y digwyddiad ei hun gan ein bod yn ariannu hynny ein hunain.

 

Bydd digwyddiadau eraill a raffl Nadolig gobeithio, ac mae Her 3 Chopa Cymru, efallai fy mod i wedi ei chrybwyll yn gynharach, yn debygol o ddigwydd ddechrau mis Ebrill 2022, ac rwy’n tybio y bydd rhai Cynghorwyr angen ychydig o anogaeth i gymryd rhan efallai, ac i wisgo eu hesgidiau cerdded ac ymarfer ychydig dros fisoedd y gaeaf.

 

Dirprwy Arweinydd

 

Mae'r paratoadau terfynol yn cael eu gwneud yn Ystâd Ddiwydiannol Village Farm yn y Pîl ar gyfer y ganolfan ailgylchu gymunedol newydd.

 

Mi es, ynghyd â chyd aelodau’r Cabinet ac aelodau lleol, i ymweld â'r safle'r wythnos diwethaf i gael cipolwg ar yr hyn y mae'n mynd i'w gynnig, a rhaid dweud iddo wneud argraff fawr arnaf.

 

Mae’r dyluniad wedi’i rannu’n lefelau gwahanol, a bydd gyrwyr yn gallu dilyn system unffordd syml o amgylch y ganolfan newydd.

 

Byddant yn gallu dewis a ydynt am fynd i’r mannau parcio a’r sgipiau ailgylchu ar lefel y ddaear, neu ddefnyddio lonydd a rampiau osgoi sy'n arwain at y sgipiau ochrau uchel ar y lefel uchaf.

 

Mae gan y safle ganopi pob tywydd ar y lefel uwch, bolardiau hyblyg i helpu i arwain gyrwyr ac i atal difrod damweiniol i gerbydau, goleuadau sy'n cael eu pweru gan baneli solar ar y safle, a mannau parcio gwastad heb ymylon i wella diogelwch a chael gwared ar beryglon baglu posibl i bobl sy'n cario gwastraff o'u ceir.

 

Mae lle i hyd at 24 o gerbydau ar y tro, ac mae gan y ganolfan ailgylchu newydd gapasiti ciwio ar y safle ar gyfer 72 cerbyd arall, ac mae cynlluniau ar y gweill i greu 'siop ailddefnyddio ar y safle.

 

Yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor, amlinellais sut mae gwaith hefyd yn cael ei wneud wrth y fynedfa i Ystâd Ddiwydiannol Village Farn er mwyn lleddfu tagfeydd a hwyluso llif y traffig.

 

Bydd hyn yn arwain at greu lôn droi bwrpasol newydd o'r A48 i Heol Mostyn, goleuadau traffig newydd, ac ynys groesi ddiogel newydd.

 

Gyda'i gilydd, mae'r gwelliannau i'r gyffordd a'r ganolfan ailgylchu newydd yn cynrychioli buddsoddiad o £2.3m sy'n mynd i helpu miloedd o aelwydydd i ailgylchu hyd yn oed mwy o'u gwastraff.

 

Aelod Cabinet – Cymunedau

 

Mae ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y Cynllun Datblygu Lleol newydd yn parhau a deallaf fod yr adroddiad drafft ar yr ymgysylltu hwn eisoes yn fwy nag 800 tudalen o hyd.

 

Mae hyn yn newyddion da gan ein bod yn annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan ac i ddweud eu dweud, a byddwn yn parhau i wneud hynny hyd at y dyddiad cau, sef dydd Mawrth 27 Gorffennaf.

 

Bydd y cynllun, wrth gwrs, yn cael ei ddefnyddio i benderfynu pa fathau o ddatblygiadau y gellir eu datblygu ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr rhwng nawr a 2033, felly mae'n bwysig i bobl fod yn ymwybodol o'i gwmpas pellgyrhaeddol.

 

Rydym am i breswylwyr ddeall sut, unwaith y caiff ei gwblhau, y bydd yn nodi sut y gellir defnyddio tir, a pha rannau o'r fwrdeistref sirol sydd i’w cadw fel mannau agored neu sydd wedi'u dynodi ar gyfer dibenion preswyl, cyflogaeth, manwerthu, gwastraff, datblygu mwynau, cymunedol a thwristiaeth.

 

Mae'r cynllun yn ceisio sicrhau bod digon o gartrefi newydd i ddiwallu anghenion cymunedau sy'n tyfu tra hefyd yn darparu seilwaith a chyfleusterau newydd, yn ogystal â denu buddsoddiad economaidd newydd i'r ardal.

 

Ei nod yw cefnogi creu 5,000 o swyddi ychwanegol, darparu datblygiadau newydd ac adfywio ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Pencoed, Maesteg, Y Pîl a Phorthcawl, a sicrhau bod pob datblygiad newydd yn cyfrannu'n gadarnhaol at greu neu wella amgylcheddau lle gall pobl, cymunedau, busnesau a natur ffynnu.

 

Mae gwefan y cyngor yn amlinellu'r gwahanol ffyrdd y gallwch gymryd rhan a pha fformatau amgen sydd ar gael, ac mae copïau hefyd ar gael mewn llyfrgelloedd lleol.

 

Gobeithiaf y bydd aelodau'n annog eu hetholwyr i edrych arno'n fanylach, ac i drosglwyddo eu barn fel y gallwn eu hystyried a chytuno ar ddrafft terfynol.

 

Aelod Cabinet – Gwasanaeth Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Yng nghyfarfod y Cyngor fis Rhagfyr diwethaf, diweddarais yr aelodau ar sut yr oedd gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yn wynebu risgiau uwch o ganlyniad i'r pandemig coronafeirws, ac amlinellais y camau a oedd yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â'i effaith.

 

Mae arnaf ofn bod yn rhaid imi gynghori aelodau bod y sefyllfa'n parhau i fod yn ddifrifol iawn, ac nad yw wedi'i chyfyngu i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Mae gwasanaethau hanfodol yn parhau i gael eu hadolygu, eu blaenoriaethu a'u cydgysylltu'n rheolaidd ar lefel cyfarwyddwr a phenaethiaid gwasanaeth.

 

Mae ein meysydd gwasanaeth â blaenoriaeth yn cwmpasu gofal cymdeithasol i oedolion a phlant, ac yn cynnwys diogelu, gofalu am y rhai sydd fwyaf agored i niwed, asesiadau iechyd meddwl, rheoli achosion ar gyfer plant sy'n agored i niwed, gofal preswyl, gwasanaethau dydd, gofal seibiant, a gwasanaethau sy'n cefnogi maethu.

 

Fodd bynnag, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar fod gwasanaethau fel ail-alluogi a gofal cartref yn wynebu heriau penodol o ran eu gallu i ymateb i'r galw a ragwelir.

 

Yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yr ydym bellach yn darparu 640 awr yr wythnos yn fwy nag a wnaethom ym mis Ebrill 2020, ac yr ydym yn derbyn ceisiadau cynyddol i ymestyn pecynnau gofal sy'n bodoli eisoes.

 

Y perygl yr ydym am ei osgoi yw bod pobl yn cael eu gorfodi i ddisgwyl nes bydd pecyn gofal yn dod ar gael iddynt.

 

Mae'r sefyllfa hon yn cael ei gwaethygu gan ffactorau fel unigolion nad ydynt am geisio triniaeth neu fynd i'r ysbyty, aelodau o'r teulu yn methu â gofalu amdanynt fel y gallent o’r blaen, mwy o faterion ynysu cymdeithasol o ganlyniad i aros gartref, a mwy.

 

Realiti'r sefyllfa yw bod y lefel hon o alw yn debygol o fodoli  trwy’r tymor canolig a'r tymor hwy.

 

Fel rhan o'n hymateb, mae gr?p gorchwyl lefel efydd ar waith, ac mae'n gweithio drwy'r cynllun gweithredu y cytunwyd arno.

 

Rydym yn archwilio cyfleoedd gyda'n partneriaid yng Nghwm Taf ar brosesau recriwtio cydgysylltiedig, ac rydym yn archwilio'r defnydd o weithwyr asiantaeth yn ogystal â sut y gallwn gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar daliadau uniongyrchol.

 

Bydd adolygiad o bobl o fewn y gwasanaeth presennol a matrics adnoddau ar waith ac, yn ogystal â hyn, byddwn yn edrych ar gyfleoedd gwag mewn cartrefi gofal.

 

Rydym hefyd yn gweithio i ddenu unigolion sydd am gael profiad yn y sector gofal drwy broses recriwtio.

 

Mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn gofyn i’r aelodau helpu i'w hyrwyddo o fewn eu wardiau lleol, ac i gyfeirio pobl sy'n chwilio am gyfleoedd gwaith tuag at wasanaethau darparwyr.

 

Ein nod bob amser fydd gweithio gyda phobl a theuluoedd a blaenoriaethu'r rhai sydd â'r angen mwyaf, yn y gymuned ac mewn ysbytai.

 

Fodd bynnag, dylem hefyd gydnabod y gallai'r sefyllfa bresennol arwain at gynnydd yn nifer y cwynion ynghylch y gallu i ddiwallu anghenion asesedig unigolyn.

 

Yn y cyfamser, mae staff yn parhau i ddangos eu hymroddiad a'u penderfynoldeb arferol, a hoffwn eu cydnabod a diolch iddynt unwaith eto am eu holl ymdrechion.

 

Mae'r sefyllfa'n parhau i allu newid yn gyflym, a byddaf yn rhoi diweddariadau pellach i chi wrth i'r pandemig barhau.

 

Aelod Cabinet – Cenedlaethau’r Dyfodol a Lles

 

Bydd cronfa newydd gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi tenantiaid tai sy'n rhentu'n breifat, ac a allai fod ar ei hôl hi ar eu taliadau rhent.

 

Mae Grant Caledi i Denantiaid gwerth £10m wedi'i gynllunio i atal pobl rhag colli eu tenantiaethau pe baent ar ei hôl hi o fwy nag wyth wythnos yn ystod y cyfnod rhwng Mawrth 2020 a Mehefin 2021.

 

Gallai’r ôl-ddyledion rhent fod o ganlyniad i golli incwm oherwydd ffyrlo pandemig, gostyngiad yn y gwaith, neu oherwydd mai dim ond pan oeddent â Covid-19 y gallent hawlio Tâl Salwch Statudol.

 

Mae'r grant yn agored i bobl nad ydynt yn derbyn budd-daliadau sy'n gysylltiedig â thai, ac mae’n cymryd lle’r Benthyciad Arbed Tenantiaeth a gyflwynwyd ym mis Hydref 2020.

 

Bydd unrhyw fenthyciad a roddwyd fel rhan o'r cynllun hwnnw yn cael ei droi'n grant.

 

Dylai unrhyw un sy'n ei chael hi'n anodd talu eu rhent gysylltu â'u landlord neu asiant a sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth a Shelter Cymru cyn gynted â phosibl i sicrhau eu bod yn gallu cael y cyngor a'r cymorth cywir.

 

I wneud cais am Grant Caledi i Denantiaid, dylid anfon e-bost at Housing At Bridgend Dot Gov Dot UK a nodi ‘THG Support Grant’ fel pwnc yr e-bost.

 

Mae rhagor o fanylion am y grant a chymhwysedd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

 

Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio

 

Rwy'n si?r y bydd yr aelodau am ymuno â mi i longyfarch Ysgol Gyfun Bryntirion, yr ysgol gyntaf ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i dderbyn gwobr am ei hymdrechion i gefnogi awtistiaeth.

 

Mae'r ysgol wedi treulio'r ddwy flynedd ddiwethaf yn gwella ymwybyddiaeth o awtistiaeth ymhlith athrawon, disgyblion, staff, llywodraethwyr a'r gymuned ehangach, ac mae Awtistiaeth Cymru wedi cydnabod eu hymdrechion gyda Gwobr Ysgol Uwchradd Dysgu gydag Awtistiaeth.

 

Mae hyn yn gydnabyddiaeth briodol i'r gwaith caled a'r ymdrech y mae pawb yn Ysgol Gyfun Bryntirion wedi'i wneud, a'u brwdfrydedd dros sicrhau y gall plant ag awtistiaeth gael y profiad ysgol gorau posibl.

 

Hoffwn hefyd sicrhau bod aelodau'n ymwybodol, unwaith y bydd ysgolion yn cau ar gyfer gwyliau'r haf, y bydd ystod eang o weithgareddau am ddim ar gael i blant a phobl ifanc eu mwynhau fel rhan o raglen Haf o Hwyl eleni.

 

Bydd y cynllun Heini am Oes yn cynnig chwaraeon, gemau a chelfyddydau creadigol i blant rhwng wyth ac 11 oed, tra bod yr Urdd yn darparu gwersylloedd chwaraeon dwyieithog i roi cyfle i blant rhwng tair ac 11 oed roi cynnig ar chwaraeon tîm a gemau yn seiliedig ar rygbi, pêl-droed, pêl-rwyd a mwy.

 

Bydd gwirfoddolwyr llysgenhadon ifanc yn darparu 21 o bethau i'w gwneud yn rhaglen haf '21 sy'n cynnwys gweithgareddau sy'n amrywio o syllu ar y sêr i wneud den, ac mewn llyfrgelloedd lleol bydd plant yn gallu cymryd rhan yn her ddarllen haf 'Arwyr y Byd Gwyllt' ar thema natur.

 

Mae Parc Gwledig Bryngarw, Menter Bro Ogwr a Halo Leisure hefyd yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau, a bydd y manylion llawn yn cael eu cyhoeddi’n fuan.

 

Efallai bydd capasiti cyfyngedig gan rai o'r sesiynau oherwydd y pandemig coronafeirws, felly pan fo angen archebu ymlaen llaw efallai dylech gynghori etholwyr i wneud hynny cyn gynted â phosibl.