Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Mae'r newidiadau diweddaraf i gyfyngiadau’r pandemig wedi'u cadarnhau gan Lywodraeth Cymru a daeth y mwyafrif i rym ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o ddydd Sadwrn 17 Gorffennaf.

 

Er y bydd gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol ym mhob ardal gyhoeddus dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, bydd lleoliadau addysgol a lletygarwch yn cael eu heithrio.

 

Bydd hyd at chwech o bobl yn gallu cwrdd dan do mewn cartrefi preifat ac mewn llety gwyliau, ac ni fydd terfyn mwyach ar faint sy'n gallu ymgynnull yn yr awyr agored.

 

Erbyn hyn, mae gan safleoedd a digwyddiadau awyr agored fwy o hyblygrwydd o ran cadw pellter corfforol, a bydd modd cynnal digwyddiadau dan do wedi'u trefnu ar gyfer hyd at 1,000 o bobl os ydynt yn eistedd a 200 o bobl os ydynt yn sefyll.

 

Mae'r cyfyngiad blaenorol sy'n ei gwneud yn ofynnol i bobl sy'n mynychu digwyddiadau i eistedd er mwyn bwyta bwyd a diod wedi'i ddiddymu.

 

Mewn newidiadau eraill, gall hyd at 30 o blant o sefydliadau fel y Brownies a'r Sgowtiaid fynychu canolfannau preswyl dros wyliau'r haf, a bydd yn ofynnol i fusnesau rannu gwybodaeth â'u staff am y manylion risg a lliniaru sydd yn eu cynlluniau asesu risg Covid-19 unigol.

 

Nid oes angen i oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn a phobl dan 18 oed hunanynysu wrth ddychwelyd o wledydd rhestr ambr, ond dylid tynnu sylw hefyd at y ffaith mai’r cyngor swyddogol yw osgoi teithio tramor nad yw'n hanfodol ac i gymryd gwyliau yn lleol yr haf hwn.

 

Er bod y newidiadau'n cael eu croesawu, rhaid inni gofio hefyd fod achosion o'r coronafeirws ar gynnydd, yn enwedig ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac yn enwedig ymhlith pobl 25 oed ac iau.

 

Mae Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf wedi rhybuddio bod achosion ysbyty oherwydd achosion o Covid 19 wedi codi eto dros y dyddiau diwethaf. Nid yw'r capasiti wrth gefn a fodolai yn ystod yr ail don yno mwyach. Mae'r GIG bellach yn ceisio cael cymaint o bobl â materion iechyd eraill, achosion sydd wedi cronni trwy’r pandemig, yn ôl i dderbyn triniaeth. Mae angen i ni gymryd rhagofalon o hyd a gweithredu fel un gymuned unedig er mwyn amddiffyn eraill rhag y risg o ddod i gysylltiad â’r feirws.

 

Mae cyfraddau brechu lleol yn parhau'n uchel iawn, gyda bron i 83,000 o drigolion bellach wedi derbyn dau ddos y brechlyn, ond mae'n parhau'n hanfodol bwysig i bawb gyfrannu a gwneud eu rhan i amddiffyn eraill.

 

Yn dibynnu ar sut mae'r sefyllfa'n newid rhwng nawr a’r adeg honno, gallai'r adolygiad pandemig nesaf gan Lywodraeth Cymru ein gweld yn symud o lefel rhybudd un i lefel rhybudd sero.

 

Byddwn yn gwybod mwy am hyn pan gyhoeddir canlyniadau'r adolygiad fis nesaf ac wrth gwrs byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.

 

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol, mewn llawer o'n cymunedau lleol, fod y mater o gynnal a chadw parhaus ar strydoedd nad yw'r cyngor wedi'u mabwysiadu yn parhau i fod yn destun pryder.

 

Efallai bod hynny oll ar fin newid diolch i fenter newydd gan Lywodraeth Cymru sydd am gael ei threialu yma ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Gan ddefnyddio canlyniadau arolwg blaenorol, penderfynwyd mai Ynyslas ym Mhorthcawl fydd yn elwa o'r gwaith o wella strydoedd i'r safon sy'n ofynnol er mwyn iddi gael ei mabwysiadu'n ffurfiol gan y Cyngor.

 

Bydd y cynllun yn cynnwys ailadeiladu llwybrau troed a cherbytffyrdd, cynnal arolygon, atgyweirio draeniad priffyrdd lle bo angen, a gwneud gwaith cysylltiedig arall.

 

Mae cynllun peilot gwerth £230,000 wedi'i gynllunio i roi gwell dealltwriaeth i Lywodraeth Cymru o'r goblygiadau o ran costau ar gyfer mynd i'r afael â'r ôl-groniad hanesyddol o strydoedd o'r fath ledled Cymru.

 

Y gobaith yw y bydd y gwaith yn dechrau yn ystod yr haf neu'r hydref eleni gyda'r nod o gwblhau'r broses erbyn mis Mawrth 2022.

 

Os bydd yn llwyddiannus, gallai arwain at wella rhagor o strydoedd sydd heb eu mabwysiadu fel bo modd i’r Cyngor eu mabwysiadu a’u cynnal a’u cadw yn y dyfodol, rhywbeth a fydd o fudd i lawer o drigolion lleol.

 

Yn olaf, efallai fod Aelodau wedi gweld sylw yn y cyfryngau am gyhoeddiad WRW Construction y byddent yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

 

Mae hyn, wrth gwrs, yn newyddion siomedig iawn, ond yr wyf am dynnu sylw at y ffaith nad dyma'r tro cyntaf i gwmni adeiladu o'r fath gael ei ddiddymu, ac nad yw'n cyflwyno problemau anorchfygol i ni.

 

Y datblygiad lleol mwyaf amlwg y mae hyn yn effeithio arno yw Sunnyside Wellness Village, sy'n cael ei arwain gan Linc Cymru ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

 

Mewn mannau eraill yn y Fwrdeistref Sirol, roedd WRW yn rhan o ddatblygiad y ganolfan blant ym Mrynmenyn, a'r cyfleuster gofal plant cyfrwng Cymraeg a gynlluniwyd ar gyfer Blackmill.

 

Er ei bod yn anochel y bydd hyn yn effeithio ar amserlenni’r prosiectau hyn, rydym yn parhau i fod yn hyderus y bydd contractwr arall o ansawdd uchel yn cael ei gadarnhau cyn bo hir, ac y bydd y datblygiadau'n dal i gael eu cyflawni er budd trigolion lleol.

 

Wrth gwrs, byddwn yn gweithio i sicrhau cyn lleied o amhariad ag sy’n bosibl, a byddwn yn gweithio'n agos iawn gyda phartneriaid i fynd i'r afael â'r sefyllfa, a byddwn yn rhannu diweddariadau pellach gyda'r Aelodau pan fydd y rhain yn datblygu.