Agenda item

I dderbyn y Cwestiwn canlynol gan:

 

Gellid gwario hyd at £20 miliwn dros y 2 flynedd nesaf i wella ymddangosiad siopau, cefnogi a chychwyn busnesau, sybsideiddio prisiau bysiau a chynyddu casgliadau biniau yn Abertawe. Bydd pob ward yn Abertawe yn cyfranogi o becyn cymorth. Bydd Cyngor Abertawe yn cael ei alluogi gan danwariant y Cyngor yn 2020-2021. Yn lle hynny, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae cynnydd o 3.9% yn y dreth Gyngor yn 2021-2022, heb unrhyw fudd i wardiau na thrigolion y fwrdeistref.

 

A oes modd i’r Arweinydd roi gwybod i’r Cyngor am ei gynlluniau, os oes ganddo rai, ar gyfer cynorthwyo trigolion ein Bwrdeistref a pha etifeddiaeth yr hoffai ei gadael ar ei ôl ar ddiwedd ei dymor yn 2022?

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Altaf Hussain i'r Arweinydd/Aelod Cabinet - Cymunedau

 

Gellid gwario hyd at £20 miliwn dros y 2 flynedd nesaf i wella ymddangosiad siopau, i roi cymorth i fusnesau newydd, i roi cymhorthdal ar gyfer tocynnau bws, ac i gynyddu casgliadau biniau yn Abertawe. Bydd pob ward yn Abertawe yn rhannu pecyn cymorth. Byddai tanwariant y Cyngor yn 2020-2021 yn caniatáu i Gyngor Abertawe wneud hyn.

 

Yn hytrach, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae cynnydd o 3.9% yn y dreth Gyngor yn 2021-2022 heb unrhyw fudd i wardiau neu drigolion y Fwrdeistref.

 

A allai'r Arweinydd roi gwybod i'r Cyngor am ei gynllun, os oes ganddo un, i helpu trigolion ein Bwrdeistref a pha waddol yr hoffai ei gadael ar ddiwedd ei dymor yn 2022?

 

Ymateb:

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn canolbwyntio ar ymateb i effaith pandemig COVID-19 ar economi Pen-y-bont ar Ogwr a busnesau lleol a'i liniaru drwy wella'r hinsawdd economaidd ar gyfer twf busnes a chyflawni prosiectau adfywio allweddol yn ein prif drefi ac ardaloedd y cymoedd. Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn seilwaith diwydiannol a busnes allweddol, er enghraifft datblygu unedau cychwynnol ychwanegol ar gyfer busnesau sy'n tyfu yn y Pîl a Phen-y-bont ar Ogwr. Bydd y datblygiad yr unedau yn Ystâd Ddiwydiannol y Pîl yn dechrau yn ddiweddarach eleni ac rydym yn parhau i archwilio lleoliadau posibl eraill ar draws y Fwrdeistref at ddibenion cyflogaeth newydd. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda Thîm Mewnfuddsoddi Llywodraeth Cymru i farchnata Pen-y-bont ar Ogwr ledled y DU ac Ewrop a cheisio denu cwmnïau newydd a chyfleoedd buddsoddi i'r Fwrdeistref. Mae denu cyllid grant yn rhan allweddol o'r gwaith hwn ac mae'r Gyfarwyddiaeth ar hyn o bryd yn gweithio ar brosiectau posibl y gellid eu cyflwyno ar gyfer Cronfa Lefelu Newydd Llywodraeth y DU. Gallai hyn gynnwys "Hwb Amaeth" posibl, a allai fod olygu marchnad da byw amaethyddol newydd a chyfleoedd manwerthu cysylltiedig. Os bydd yn llwyddiannus, gallai hyn sicrhau manteision economaidd ac amgylcheddol sylweddol i'r cymunedau amaethyddol a’r cymunedau lleol sy'n cynhyrchu bwyd yn y rhanbarth. Mae ymestyn y Rhaglen Datblygu Gwledig hyd at fis Rhagfyr 2022 yn cynnig cyfle i gefnogi dilyniant y cynllun hwn. Byddwn hefyd yn parhau i ddarparu cyfleoedd hyfforddi ac yn cynorthwyo ein trigolion i ddychwelyd i'r gwaith drwy fentrau fel "Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr". Eleni, o fis Ebrill 2020 hyd ddiwedd mis Mawrth 2021, bu’r Tîm Cyflogadwyedd yn helpu 1255 o bobl o Ben-y-bont ar Ogwr i gymryd rhan yn y rhaglen, gan gynnwys cefnogi 60 o bobl a oedd eisoes mewn gwaith i wella eu sefyllfa yn y farchnad lafur; Mae 408 o bobl wedi ennill cymwysterau ac mae 398 wedi canfod gwaith.

 

Mae darparu cymorth ariannol i fusnesau a'r economi o Gronfa Adfer Covid Llywodraeth Cymru wedi bod yn swyddogaeth graidd i'n Cyfarwyddiaeth. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Cyngor wedi asesu a dosbarthu 6,500 o grantiau busnes a thros £50m i fusnesau yn y Fwrdeistref. Mae hyn yn ychwanegol at gefnogi busnesau manwerthu a chanol trefi i weithredu'n effeithiol yn ystod y pandemig, gyda mentrau fel Grantiau Gwella Awyr Agored ac ymyriadau mewn amgylcheddau manwerthu fel arwyddion iechyd y cyhoedd mewn ffenestri, marciau pellter cymdeithasol ar loriau, a llyfrynnau Cyngor Iechyd y Cyhoedd Covid. Bydd y gwaith hwn yn parhau i sicrhau bod busnesau'n cael y cyfle gorau i wneud adferiad economaidd llwyr wrth ddod allan o'r pandemig ac i fusnesau newydd barhau i ffynnu a thyfu.

 

Ym mis Mehefin 2020, dechreuodd y Cabinet broses o gynllunio adferiad economaidd lleol drwy sefydlu:

 

           Tasglu Economaidd Sir Pen-y-bont ar Ogwr

           Rhaglen ymgysylltu economaidd

           Cyllideb benodol wedi'i neilltuo i gefnogi'r gweithgareddau hyn – Cronfa Dyfodol Economaidd.

 

Crëwyd y tasglu gyda dyhead clir i esblygu ei ffocws dros amser i ddatblygu cynllun economaidd ar gyfer dyfodol y Fwrdeistref Sirol a fydd yn cynnwys camau i helpu busnesau i addasu i'r dirwedd economaidd newidiol ac i wella gwytnwch, yn ogystal â rhoi cymorth i drigolion ddatblygu sgiliau newydd, i dderbyn hyfforddiant, a chanfod cyfleoedd cyflogaeth. Mae’r broses o greu cynllun economaidd newydd drwy Fframwaith Dyfodol Economaidd arfaethedig Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn ystod pandemig COVID-19, yn cyflwyno ystod eang o heriau, y mae llawer ohonynt yn hysbys ond bydd llawer ohonynt ond yn dod i’r amlwg yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Byddwn dal angen y gallu i ymateb, ond bydd rhaid cyplysu hyn â dull rhagweithiol tymor hwy sy’n arwain at adferiad economaidd, gwella gwydnwch, a thwf. Bydd y dull hwn yn cysylltu ag ymagwedd ehangach y Cyngor tuag at gynllunio adferiad cyfannol o ran y pandemig coronafeirws yn ogystal â chyflawni'r Cynllun Corfforaethol. Yn dilyn adolygiad manwl o ddata ac ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid, bydd y fframwaith a'i becynnau gwaith yn gosod sylfaen ar gyfer trafodaethau ar flaenoriaethu camau gweithredu gyda Llywodraethau Cymru a'r DU yn ogystal â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, amrywiaeth o ffynonellau ariannu, buddsoddwyr, a datblygwyr. Bydd hyn yn cefnogi uchelgeisiau parhaus y Cyngor i chwarae rôl lawn a gweithredol wrth gefnogi'r economi leol.

 

Rydym wrthi'n datblygu cynlluniau adfywio ar draws y Fwrdeistref. Dyma gipolwg ar y prosiectau parhaus ac arfaethedig ar gyfer Cwm Llynfi yn unig.

 

Mae prosiect cymunedol mwyaf CBSP yn digwydd yn Neuadd y Dref Maesteg, gyda dros £8m o waith yn cael ei wneud i adnewyddu a gwella Neuadd hanesyddol y Dref, bydd hyn yn agor haf 2022 wedi’i drawsnewid yn lleoliad celf o’r radd flaenaf ar gyfer y cymoedd.

 

Yn ogystal â hyn, dyfarnwyd dros £400,000 mewn grantiau cyfalaf i eiddo masnachol ar hyd Stryd Talbot a Commercial Street, a fydd yn dechrau dros yr ychydig fisoedd nesaf, ochr yn ochr â buddsoddi mewn seilwaith gwyrdd yn y dref, gan adnewyddu a gwella coed a phlannu ar hyd Commercial Street.

 

Rydym yn agos at sicrhau buddsoddiad o £3.5m yn Ewenny Road. Bydd hyn yn adfer y safle trwy drawsnewid hen safle Cooper Standard ac Revlon yn 180 o dai fforddiadwy newydd, canolfan fusnes a thrafnidiaeth, a mannau gwyrdd. 

 

Bydd hyn yn gyfanswm o £13m o fuddsoddiad yng Nghwm Llynfi yn unig erbyn 2024.

 

Rydym yn bwrw ymlaen â chyflawni Uwchgynllun Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr, ar ôl ei ymgynghoriad cyhoeddus yn gynnar yn 2021. Mae hyn yn cynnwys gwelliannau i Orsaf Reilffordd Pen-y-bont ar Ogwr i ddarparu mynedfa gyffrous i ganol y dref, a’r gwaith o gaffael Adeilad Gorsaf Heddlu De Cymru yn Cheapside fel rhan o adleoliad arfaethedig Campws Coleg Pen-y-bont ar Ogwr i ganol y dref. Bydd y cynlluniau'n cael eu cefnogaeth gan grantiau Cynllun Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, sydd am ymrwymo dros £500,000 i wella adeiladau ac eiddo yng nghanol y dref yn ystod y flwyddyn ariannol hon, yn ogystal â datblygiad piblinell o brosiectau ar gyfer cymorth dros y blynyddoedd nesaf. Bydd y rhaglenni a'r prosiectau hyn yn bywiogi Pen-y-bont ar Ogwr a’n denu ymwelwyr yn ôl yno, ac yn helpu i adfer y dref yn economaidd.

 

Mae cryn dipyn o weithgarwch adfywio hefyd wedi'i gynllunio ar gyfer Porthcawl dros y flwyddyn i ddod. Mae'r Cyngor wrthi'n gwerthu‘r safle manwerthu ar Salt Lake i Aldi. Rhagwelir y bydd cais cynllunio yn dod i law yn hwyrach yn yr haf ar gyfer siop fwyd sydd wedi'i chynllunio’n bwrpasol ar gyfer y safle wrth fynedfa’r dref, gyda maes parcio wedi'i dirlunio ac amgylchfyd cyhoeddus.  Yn ogystal â hyn, mae'r Gyfarwyddiaeth yn cynnal astudiaeth creu lleoedd gyda’r bwriad o sicrhau bod holl elfennau allweddol y strategaeth adfywio ar gyfer Porthcawl yn ategu ei gilydd a’u bod o ansawdd uchel. Hefyd, eu bod wedi'u cynllunio'n dda ac yn ail-gysylltu canol y dref â glan y môr. Mae hyn yn cynnwys ailgynllunio Maes Parcio Hillsboro a gosod seilwaith gwefru trydan.

 

Fel rhan o waith adfywio Porthcawl mae’r Gyfarwyddiaeth hefyd yn edrych ar ddull partneriaeth o ddarparu datblygiad tai defnydd cymysg ar Salt Lake. Gellid cynllunio hyn i fod yn "Net Zero Carbon" ac mae ganddo fanteision economaidd a chymdeithasol enfawr drwy fod yn ddatblygiad deiliadaeth gymysg sy’n gynaliadwy. Mantais ychwanegol y dull partneriaeth hwn o adfywio yw y byddai'r tir yn parhau ym mherchnogaeth y Cyngor, gan ei fod yn ased mor werthfawr i gymuned Porthcawl.

 

Un arall o brosiectau allweddol eleni yw ailddatblygiad safle gwag Cosy Corner. Mae'r Gyfarwyddiaeth yn gwneud cais i gronfa Cyrchfannau Denu Twristiaid (TAD) Llywodraeth Cymru i gael gafael ar tua £1m o gyllid. Bydd hyn yn cael ei ariannu'n gyfatebol gan y Cyngor, ac os caiff ei gymeradwyo, bydd y grant yn helpu i greu gofod i gyflogi, amgylchfyd cyhoeddus wedi'i dirlunio, ac ardal chwarae bosibl i blant. Bydd cyfleusterau cymunedol hefyd, gan gynnwys canolfan newydd ar gyfer Cadetiaid y Môr, cyfleuster Changing Places, a gwell amwynderau i Ddeiliaid Angorfeydd yn yr Harbwr. Mae'r Gyfarwyddiaeth yn frwd dros weithio mewn partneriaeth â'r rhanddeiliaid allweddol a'r gymuned leol ar ei holl brosiectau adfywio hyd a lled y Fwrdeistref ac mae'n cynnal sesiynau ymgysylltu i asesu barn busnesau a thrigolion lleol. Fodd bynnag, mae'r Cyngor a'r Gyfarwyddiaeth yn cydnabod bod nifer fawr o ganolfannau ardal ac ardaloedd siopa lleol, rhai sy’n chwarae rhan allweddol ym mywyd trigolion y Fwrdeistref. Mae hyn wedi bod yn arbennig o amlwg yn ystod y pandemig, pan ddaeth siopa'n lleol yn fwy cyffredin. Am y rheswm hwn, rydym wedi ymestyn ein Cronfa Gwella Eiddo Masnachol. Mae'n cynnig cymorth i fusnesau ar draws y Fwrdeistref Sirol i wneud gwelliannau i'w heiddo er mwyn sicrhau bod eu model busnes yn cyd-fynd â'r dulliau gweithredu newydd wrth i ni ddechrau adfer yn sgil y pandemig. Mae dros 70 o grantiau eisoes wedi'u dyfarnu ers mis Ionawr, a gallant gael eu defnyddio i wella ardaloedd awyr agored drwy osod canopïau ac ardaloedd eistedd.

 

Hefyd, ar ôl llwyddiannau’r gorffennol o ran denu Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd i gefnogi prosiectau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fel rhan o'r cyfnod pontio mae'r Cyngor yn anelu at sefydlu perthynas uniongyrchol newydd â Llywodraeth y DU, gan helpu i siapio cyfleoedd ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr drwy Gronfeydd Cyfnewid y DU. Gan weithredu fel awdurdod arweiniol ar y cychwyn i fynd ar drywydd a chydlynu cyfleoedd i'r Cyngor a phartneriaid allweddol drwy'r Cronfeydd Codi’r Gwastad a Chronfeydd Adnewyddu Cymunedol newydd.

 

Ym mis Mehefin 2020, gwnaeth CBSP ddatganiad ffurfiol mewn perthynas ag Argyfwng Hinsawdd a chydnabod rôl y Cyngor wrth ymateb i hyn fel arweinydd cymunedol, un sy'n gweithio gyda phreswylwyr, grwpiau a busnesau yngl?n â’u defnydd o ynni ac sy’n paratoi ar gyfer effeithiau'r hinsawdd. Yn ogystal, fel darparwr gwasanaeth, i ddarparu gwasanaethau mwy effeithlon o ran adnoddau sy'n llai dwys o ran carbon, i annog mwy o wytnwch ac i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Y Cyngor hefyd yw rheolwr yr ystâd gorfforaethol, a rhaid iddo sicrhau bod yr ystâd a'i weithrediadau mor effeithlon o ran adnoddau â phosibl, gan ddefnyddio ynni glân a pharatoi ar gyfer effeithiau newid yn yr hinsawdd. Yr adeg honno, cymeradwyodd y Cabinet greu pwyllgor aelod trawsbleidiol i oruchwylio'r Rhaglen Ymateb i Argyfwng Hinsawdd, Cynulliad Argyfwng Hinsawdd Dinasyddion Sir Pen-y-bont ar Ogwr a chynnal Uwchgynhadledd Cynaliadwyedd Flynyddol ar gyfer Sir Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd pob un o'r rhain yn cael eu sefydlu o fewn y 12 mis nesaf.

 

Ym mis Ionawr 2021, cymeradwyodd y Cabinet y gwaith o ddatblygu "Strategaeth Datgarboneiddio Pen-y-bont ar Ogwr 2030" a fydd yn nodi sut y bydd y Cyngor yn anelu at gyrraedd sefyllfa di-garbon net erbyn 2030 fel rhan o'i ymateb i'r argyfwng hinsawdd. . Roedd hyn mewn ymateb i fandad Llywodraeth Cymru y dylai pob sefydliad sector cyhoeddus, o fewn 10 mlynedd, sef erbyn 2030, fod yn ddi-garbon net mewn pedwar prif faes. Roedd hyn yn cynnwys trafnidiaeth a symudedd, adeiladau ac ynni, defnydd tir a bioamrywiaeth, ac wrth gaffael nwyddau a gwasanaethau. Er mai menter gorfforaethol yw hon, mae'r Gyfarwyddiaeth Gymunedau yn arwain yr agenda hon. Mae Strategaeth a Chynllun Gweithredu Datgarboneiddio Pen-y-bont ar Ogwr 2030 yn cael eu datblygu ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddarach yn 2021. Mae rhan gyntaf y gwaith manwl hwn yn cynnwys deall ôl troed carbon y Cyngor a darparu llinell sylfaen. Dechreuwyd yr ymarfer hwn gyda chymorth yr Ymddiriedolaeth Garbon. Fodd bynnag, ni all y Cyngor wneud hyn heb gynnwys ei bartneriaid allweddol, a bydd yn gweithio'n agos gydag aelodau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, awdurdodau lleol yn y rhanbarth, a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod strategaeth effeithiol a chyflawnadwy yn cael ei datblygu.

 

Nid yw dull y Cyngor o ymateb i'r argyfwng hinsawdd a datblygu ei Strategaeth Datgarboneiddio 2030 yn dechrau o sefyllfa segur. Dros y pedair blynedd diwethaf, mae'r Cyngor wedi bod yn datblygu ei Gynllun Ynni Clyfar ac mae wedi datblygu tri phrosiect mawr gyda budd tua £10m o gyllid grant gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a benthyca darbodus gan y Cyngor ei hun. Y rhain yw Rhwydwaith Gwres Ardal Pen-y-bont ar Ogwr, Prosiect Gwres Caerau, a'r Prosiect Re-FIT. Bydd Prosiect Gwres Ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn symud ymlaen i gaffael Contractwr Dylunio, Adeiladu, Gweithredu a Chynnal dros y flwyddyn nesaf ac os bydd hyn yn llwyddiannus, yna gallai'r gwaith o adeiladu'r rhwydwaith gwres ddechrau yn 2022. Mae Prosiect Gwres Caerau wedi'i ailddiffinio i gynnwys cyfuniad o brosiectau ynni, gan gynnwys d?r mwyngloddiau, gwres o'r ddaear, a gwifren breifat o fferm wynt leol. Mae'r newid cyfeiriad hwn o ran datblygu wedi cael ei gymeradwyo gan y cyllidwr, sef Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), felly bydd dyluniadau manwl yn cael eu datblygu yn awr gyda'r nod o sicrhau cymeradwyaeth y Cabinet yn ystod haf 2021. Mae'r Prosiect Re-Fit yn cael ei ddatblygu i osod £1.3m o fesurau ynni effeithlon o fewn yr ystâd gorfforaethol, y rhan fwyaf ohonynt i’w defnyddio ym maes addysg. Mae hyn yn cynnwys systemau gwresogi ac awyru newydd, inswleiddio, a gosod paneli ffotofoltäig (PV). Penodwyd contractwr a bydd y gwaith yn cael ei wneud dros y 6 mis nesaf.

 

Yn ogystal â'r gwaith i leihau ôl troed carbon y Cyngor, bydd ffocws ar fesurau i gefnogi swyddogaeth statudol y Cyngor i gynnal a gwella bioamrywiaeth ac i ddechrau dal a storio carbon. O ran y cynlluniau ynni a ddisgrifir uchod, mae'r Gyfarwyddiaeth wedi ymrwymo i wella bioamrywiaeth y Fwrdeistref ac yn arbennig i ddiogelu'r parciau naturiol a'r gwarchodfeydd natur o fewn ei rheolaeth. Bydd gwaith yn parhau drwy fenter Parc Rhanbarthol y Cymoedd (VRP), gan adeiladu ar y gwelliannau dros £1m ym Mharc Gwledig Bryn Garw ac yng ngwarchodfa natur Parc Slip. Bydd y Cyngor yn ceisio dynodi Parc Bedford yn ffurfiol fel gwarchodfa natur leol (LNR) eleni, ymestyn gwarchodfa natur leol Frog Pond Wood, a defnyddio cyfalaf i wella'r ardaloedd hyn. Mae'r Cyngor am gynyddu nifer y coed a blannir ar draws y fwrdeistref er mwyn cynorthwyo gyda'i dargedau uchelgeisiol i leihau allyriadau carbon. Mae nifer o gynlluniau i'w gweithredu, ond bydd y Cyngor hefyd yn ceisio gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o bartneriaid dros y flwyddyn nesaf i ddatblygu cynlluniau plannu coed a gwrychoedd ar draws y Fwrdeistref, i'w gweithredu yn 2022.

 

O ran gwasanaethau ehangach y Cyngor, fel rhan o ymateb Covid 19 ac yn unol â Nodyn Cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, roedd disgwyl i bob awdurdod lleol sicrhau nad oedd unrhyw unigolyn yn ddigartref ar y stryd a'u bod yn cael llety addas. Er mwyn cefnogi dull strategol, cydgysylltiedig, ac amserol, sefydlwyd cyfarfod Celloedd Digartref wythnosol amlasiantaethol i ymateb i'r gofynion hyn.

 

Yn 2020/21 derbyniodd CBSP dros 1600 o geisiadau digartrefedd o aelwydydd dan fygythiad neu gan bobl a fyddai’n ddigartref yn fuan. Er mwyn diogelu unigolion agored i niwed, cynigiwyd lleoliad llety i unrhyw un mewn perygl o gysgu ar y stryd, a arweiniodd hyn at ddarparu llety dros dro i dros 600 o aelwydydd drwy 2020/21.

 

Er mwyn bodloni'r gofynion hyn cafodd adnoddau llety ychwanegol eu sicrhau, yn bennaf o'r sector twristiaeth, gan gynnwys gwestai a gwyliau. Mewn partneriaeth â darparwyr cymorth y trydydd sector, cafodd pawb a dderbyniodd lety help gydag unrhyw anghenion cymorth sylfaenol, a hynny er mwyn sicrhau bod unigolion yn datblygu sgiliau byw'n annibynnol, gan alluogi iddynt sicrhau a chynnal llety tymor hwy. Gwnaethpwyd gwaith ar y cyd â'r Heddlu a'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol er mwyn mynd i'r afael â phryderon ynghylch Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.  Mewn partneriaeth â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig cafodd Protocol Ailgartrefu Cyflym ei fabwysiadu er mwyn cefnogi’r symudiad o lety dros dro. 

 

Mae cyflwyniadau digartrefedd yn parhau i fod yn uchel, ac ar 11 Gorffennaf 2021 roedd 306 o bobl o 185 o aelwydydd mewn llety dros dro. Mae disgwyliad clir gan Lywodraeth Cymru na fydd y rhai sy'n derbyn llety yn dychwelyd i ddigartrefedd, ond yn hytrach eu bod yn cael eu cefnogi i sicrhau llety hirdymor. Mae awgrym y bydd y disgwyliadau a amlygwyd gan Lywodraeth Cymru yn parhau ar sail tymor hwy hefyd, gan awgrymu y bydd y gofynion hyn yn parhau hyd y gellir rhagweld.

 

Yn ogystal â'r uchod, mae potensial hefyd am fwy o bwysau ar wasanaethau, gyda chyfreithiau brys a gyflwynwyd i ddiogelu pobl rhag cael eu dadfeddiannu yn cael eu codi o 30 Mehefin 2021. Wrth i'r cyfreithiau brys hyn ddod i ben mae potensial ar gyfer mwy o gyflwyniadau.  Yn ogystal, mae gan effaith economaidd-gymdeithasol tymor hwy y pandemig y potensial i adael mwy o aelwydydd dan fygythiad o ddigartrefedd.

 

Ym maes addysg, mae'r awdurdod lleol wedi gweithio'n agos gyda'i bartner gwella ysgolion (Consortiwm Canolbarth y De) i sicrhau bod pob dysgwr yn elwa o addysgu a dysgu effeithiol. Mae rhaglen moderneiddio ysgolion y Cyngor wedi arwain at adeiladu nifer o ysgolion newydd ar draws y sir. Yn ogystal, mae CBSP wedi buddsoddi mewn Gwasanaeth Cerdd effeithiol sy'n cynnig hyfforddiant o ansawdd uchel i ddysgwyr ar draws y fwrdeistref sirol.

 

Gwnaed buddsoddiad sylweddol yng ngwasanaethau cynhwysiant yr awdurdod lleol i sicrhau bod pob disgybl ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael cymorth priodol. Cefnogir anghenion plant, pobl ifanc a'u teuluoedd ymhellach gan fodel gwasanaethau integredig effeithiol (fel y cydnabyddir gan Estyn).

 

Mae'r buddsoddiad y mae'r Cyngor wedi'i wneud mewn gwasanaethau iechyd a diogelwch wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i ystod eang o bartneriaid cyflenwi; enwedig ysgolion, a gafodd gymorth rhagorol drwy gydol y pandemig. Yn yr un modd, mae dysgwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn elwa o fuddsoddiad y Cyngor mewn gwasanaeth arlwyo ysgol hynod effeithiol sy'n hyrwyddo byw'n iach.

 

Drwy ei Adran Landlordiaid Corfforaethol, mae CBSP wedi buddsoddi'n sylweddol yn y gwaith o atgyweirio, cynnal a chadw, ac uwchraddio ei Ystâd Eiddo Addysg, gan wella’r adeiladau lle bynnag y bo modd er mwyn ddarparu cyfleusterau gwell i ddysgwyr; yn fewnol ac yn allanol.  Ar hyn o bryd mae £3.57m wedi'i raglennu ar gyfer gwariant yn 2021/22, ac mae'n cynnwys nifer o doeon newydd, uwchraddio mannau addysgu allanol, gwaith awyru gwell, nifer o osodiadau arwyneb chwarae meddal, uwchraddio draeniau, gosodiadau lifft DDA, gosod llain pob tywydd posibl, estyniadau i ystafelloedd dosbarth, mesurau diogelwch ffyrdd gwell, ynghyd â swm sylweddol o fesurau arbed ynni a gwaith cynnal a chadw hanfodol arall.

 

O ran gwasanaethau cymdeithasol, parhaodd y Cyngor i gynnig cymorth hanfodol i drigolion y fwrdeistref sirol drwy gydol y pandemig, er gwaethaf yr heriau sylweddol a wynebwyd.  Gweithiodd y gwasanaeth yn agos gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) i sicrhau eu bod yn cael sicrwydd a’n gwybod sut yr oeddem yn gweithio, ac addaswyd ein modelau gweithredu i gydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru, a haenau o gyfyngiadau, wrth barhau i ddiogelu, diogelu a darparu gwasanaethau hanfodol.

 

Parhaodd gwasanaeth wyneb yn wyneb drwy gydol y pandemig o ran gofal cymdeithasol – cartrefi gofal, byw â chymorth, taliadau uniongyrchol gofal cartref Cynorthwywyr Personol, ymchwiliadau amddiffyn plant ac asesiadau'r Ddeddf Iechyd Meddwl.

 

Datblygodd y gwasanaeth ei fodelau gweithredu ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant yn gyson yn unol â haenau cyfyngiadau Llywodraeth Cymru. Roedd asesiadau risg yn golygu fod gwasanaethau'n gweithredu'n ddigidol ar rai haenau o gyfyngiadau, gan fod y risg i iechyd y cyhoedd o ledaenu'r firws yn rhy fawr. Ym maes gwasanaethau i blant, pan ganiateid hynny gan y mesurau lliniaru risg, cynhaliodd swyddogion ymweliadau wyneb yn wyneb â phlant a theuluoedd mewn perthynas ag amddiffyn plant, gofal i blant â phrofiad o ofal ac i ofalwyr maeth. Un maes anodd oedd y cyswllt rhwng rhieni a phlant â phrofiad o ofal, a dilynodd y gwasanaeth ganllawiau Llywodraeth Cymru yn ofalus i alluogi ailddechreuad cyswllt wyneb yn wyneb cyn gynted ag y byddai mesurau lliniaru risg yn caniatáu

 

O ran gwasanaethau i oedolion, roedd cyfleoedd dydd yn cael eu gweithredu ar niferoedd is, a chyda mesurau lliniaru risg helaeth pan oedd haenau cyfyngiadau'n caniatáu, ar adegau eraill roedd risgiau iechyd y cyhoedd yn rhy uchel ac roedd staff gwasanaethau dydd yn cefnogi pobl i gadw’n brysur a diwyd yn eu cartrefi eu hunain, gan gynnwys yn lleoliadau byw â chymorth y Cyngor. Bu gweithwyr cymdeithasol oedolion yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr proffesiynol eraill i leihau nifer y bobl a ymwelodd â chartrefi gofal a lleoliadau eraill sy'n agored i niwed, a’u hannog i gadw mewn cysylltiad â phobl yn y modd a oedd yn gweddu orau iddynt, sef dros y ffôn i lawer o unigolion. Roedd asesiadau o fudd gorau pobl o dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn faes gwaith heriol, o ystyried y cyfyngiadau ar weithwyr proffesiynol sy'n ymweld â chartrefi gofal. Gweithiodd y gwasanaeth i fynd i'r afael ag oediadau yn y gwaith diogelu hanfodol hwn wrth i’r haenau gyfyngiadau ostwng.  Mae'r galw am y gwasanaeth yn parhau i dyfu ac ar hyn o bryd mae'n darparu 640 awr yr wythnos yn fwy nag ym mis Ebrill 2020, gyda cheisiadau cynyddol i ymestyn pecynnau gofal sy'n bodoli eisoes.

 

Wrth symud ymlaen, bydd y Cyngor yn parhau i ymateb i effaith pandemig Covid-19 a'i liniaru, gan ganolbwyntio ar adferiad, ac adeiladu ar y cymorth eang a'r gwasanaethau a ddarperir a amlygwyd uchod.

 

O ran fy ngwaddol, mae hyn yn rhywbeth a fydd yn cael ei farnu gan etholwyr ac etholwyr CBSP, nid fi.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd A Hussain

 

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot am fuddsoddi £5m o'u cronfeydd wrth gefn i'r ardal leol wrth i ni adeiladu’n ffordd allan o'r pandemig, a hynny i gynorthwyo busnesau lleol, i gefnogi cymunedau lleol, ac i sicrhau cymdogaethau glân a diogel.

 

Rydym ni oll yn gwybod fod Cynghorau ledled Cymru, gan gynnwys ein Cyngor ni, wedi dangos arweinyddiaeth lleol a dyfeisgarwch yn ystod y Pandemig ac wrth i ni ddod allan ohono.

 

Arweinydd, mae'n edrych fel eich bod yn ceisio adeiladu eich gwaddol, er yn hwyr, drwy liniaru effaith Pandemig COVID-19, a hyn pan fo pawb bellach yn edrych ar y gwaddol a adawyd i’n cymunedau gan COVID-19.

 

Mae ein tref ym Mhen-y-bont ar Ogwr ychydig (nid ychydig) yn farwaidd ar hyn o bryd, ond roedd hynny’n wir hyd yn oed cyn y pandemig, mae’n wir y byddai’n buddio o gael chwistrelliad o gyffro a bywyd.

 

Ar wahân i hynny, pa rôl ydych chi'n ei chwarae fel Arweinydd y Cyngor ar gyfer 2021-2022? A ydych yn mynd i ddefnyddio adnoddau'r Cyngor i helpu i sicrhau dyfodol hirdymor ein Bwrdeistref Sirol wrth gefnogi adferiad ein tref ym Mhen-y-bont ar Ogwr?

 

Ymateb:

 

Roedd adroddiad diweddar i'r Cabinet yn cynnwys cynnig i brynu safle gorsaf Heddlu Pen-y-bont ar Ogwr, er mwyn dod â Choleg Pen-y-bont ar Ogwr nes at ganol y dref, rhywbeth a fydd yn ei dro yn dod â lefelau uwch nag erioed o fuddsoddi mewn addysg bellach ac uwch. Bydd hyn hefyd yn bywiogi ac yn cynyddu nifer yr ymwelwyr i Ben-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â rhyddhau safle Tir Llwyd i’w ail-ddatblygu. Mae'r Cyngor hefyd wedi cymeradwyo prosiect Rhwydwaith Gwres Pen-y-bont ar Ogwr (y cyntaf o'i fath yng Nghymru), sy’n cyd-fynd â'n hagenda di-garbon net a'n ymateb gweithredol a chadarnhaol i’r argyfwng newid hinsawdd gan y Cyngor. Mae'r Awdurdod hefyd wedi buddsoddi £2.85m mewn llwybrau cerdded rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Phencoed a'r Pîl a Phorthcawl, yn ogystal â buddsoddi yn Neuadd Bytholwyrdd. Mae wedi buddsoddi ymhellach i annog y defnydd o gerbydau allyriadau isel, gan gynnwys darparu pwyntiau gwefru. Bydd hyn yn gwella ansawdd aer ar draws y Fwrdeistref Sirol, gyda symudiad oddi wrth gerbydau disel at gerbydau ynni isel a wefrir gan drydan.

 

Mae gennym Uwchgynlluniau ar y gweill a rhai arfaethedig ar gyfer trefi Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl, mae gwaith yn cael ei wneud yn Neuadd y Dref Maesteg ac ar y Groesfan Reilffordd ym Mhencoed

 

Nid yw'r pandemig wedi darfod eto, ac rydym yn pryderu'n fawr am yr hyn yr hyn a ddaw ym misoedd y gaeaf, yn ogystal â chanolbwyntio ar yr ennyd bresennol. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod trigolion y Fwrdeistref Sirol yn parhau i gael eu brechu ac yn cael eu diogelu, yn y presennol ac yn y dyfodol. 

 

Ail gwestiwn atodol gan y Cynghorydd R Young

 

Ar ôl mwy na 10 mlynedd o doriadau llywodraeth leol, pa mor gadarn yw’r Awdurdod yn wyneb rhagor o doriadau posibl o ganlyniad i heriau parhaus yn sgil y pandemig, ymhlith heriau eraill.

 

Ymateb:

 

Ni ellir gwneud gwerth £60m o doriadau, a wnaed o fewn y cyfnod uchod, heb iddo gael effaith ar wasanaethau rheng flaen. Fodd bynnag, rwy'n hynod falch o ymdrechion y staff dros y cyfnod hwn, ac yn fwy penodol, yr 16 mis diwethaf yn ystod cyfnod Covid-19. Yn y cyfnod hwn, mae 6.5 mil o fusnesau wedi derbyn dros £50m gan y Cyngor mewn grantiau. Rydym hefyd wedi helpu'r nifer uchaf erioed o bobl i ddychwelyd i gyflogaeth ar ôl colli swydd o ganlyniad i'r pandemig, dros 400 o bobl. Rydym wedi helpu mwy o bobl a oedd wedi colli’u cartrefi nag erioed, 600 o deuluoedd, ac wedi cefnogi 23,500 o unigolion mewn Ysgolion a 4,500 yn y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn ogystal ag ymateb i'r pandemig. Roedd pob awdurdod yng Nghymru wedi cynyddu eu Treth Gyngor er mwyn ymateb i'r heriau ariannol hyn, heriau sy’n cynyddu yn hytrach na diflannu, ac sy’n debygol o barhau i gynyddu yn y dyfodol rhagweladwy. Mae'r Cyngor wedi derbyn adroddiadau heddiw ar Reoli'r Trysorlys a'i Raglen Gyfalaf ac os bydd unrhyw Aelod yn teimlo nad yw Cronfeydd Wrth Gefn yr Awdurdodau yn briodol, yna gallant godi hyn yn unigol gyda'r Swyddog S151. Rydym yn adolygu ein cyllid bob chwarter, ac ar yr adegau hynny rydym yn edrych ar y mathau o Gronfeydd wrth Gefn gyda'r bwriad, lle bynnag y bo modd, o’u buddsoddi mewn gwelliannau yn ein cymunedau.     

 

Trydydd cwestiwn atodol gan y Cynghorydd S Dendy

 

Mae Cwm Garw yn cael ei adnabod fel y ‘cwm anghofiedig’ yn lleol, ac unwaith eto mae'r ymateb yn atgyfnerthu hyn.

 

Er fy mod yn llwyr gefnogi'r ymateb i'r symudiad tuag at fod yn garbon niwtral a’r mesurau a grybwyllir yn yr ateb, yn ogystal â mynd i'r afael â digartrefedd yn ein Bwrdeistref Sirol. Ychydig iawn o'r hyn a drafodwyd yn yr ymateb sy’n effeithio ar fywydau trigolion Cwm Garw o ddydd i ddydd. Ni fydd llawer o'r gwaith sy'n cael ei wneud ym Maesteg, Porthcawl a chanol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn hawdd i’w cyrraedd i’r rhai yng Nghwm Garw a Chwm Ogwr.

 

Pan ofynnaf beth y mae'r Cyngor wedi'i wneud ar gyfer Cwm Garw, efallai y gwnaiff yr Arweinydd sôn am yr ysgol newydd ym Metws, sy'n ased gwych, ond nid yw'n hawdd i weddill Cwm Garw ei chyrraedd oni bai bod ganddynt eu cludiant eu hunain, a nodais yng nghyfarfod llawn diwethaf y Cyngor fod hynny’n rhywbeth prin ymhlith cyfran fawr o boblogaeth y cymoedd.

 

Dyw Cwm Garw yn cael prin ddim sylw yn y CDLl yr ymgynghorir arno ar hyn o bryd ychwaith, sy'n golygu bod y siawns o newid a datblygu yn ein hardal yn eithriadol o fychan. Nid oes unrhyw ardaloedd masnachol wedi'u diogelu yng nghymunedau'r Cymoedd nac mewn ardaloedd newydd yn y Fwrdeistref.

 

A yw'r Arweinydd yn cydnabod y materion hyn, ac a yw'n fodlon ymddiheuro i drigolion Cwm Garw am beri iddynt deimlo, yn gwbl gywir tybiaf, fel eu bod yn cael eu hanghofio?

 

Ymateb:

 

Rydym wedi ariannu Ysgolion Cynradd Ffaldau a Blaengarw ar gyfer plant yng Nghwm Garw, ac mae plant h?n y rhanbarth yn cael eu haddysgu mewn Ysgol Uwchradd o'r radd flaenaf, sef Coleg Cymunedol Y Dderwen. Mae'r Awdurdod hefyd yn cefnogi pobl ddigartref ym Mlaengarw, yn ogystal â llawer o fusnesau yno, gyda’u Cynllun Cyflogadwyedd. Rydym hefyd yn datblygu cyfleuster Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg newydd yng Nghwm Garw, rhywbeth nad yw'n cael ei ddarparu ym mhob cymuned o few CBSP. Cafwyd cyfle yn gynharach i'r Cynghorydd Dendy ac Aelodau eraill a oedd yn bresennol i wneud cyfraniad pan ystyriwyd adroddiad y Rhaglen Gyfalaf, lle'r oedd y Cyngor yn gwneud penderfyniadau ynghylch cynigion/cyfleoedd buddsoddi gan ystyried yr adroddiad. Rwy’n berffaith fodlon i wrando ar Aelodau o Gwm Garw mewn perthynas ag unrhyw gynlluniau neu awgrymiadau ar gyfer yr ardal hon, o bosibl fel rhan o gynigion newydd y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).