Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad, a'i ddiben, oedd:
Eglurodd fod newid diweddar wedi bod yn aelodaeth y grwpiau gwleidyddol, a’r Cynghorydd C Webster wedi gadael y Gr?p Ceidwadol i ymuno â Gr?p y Gynghrair Annibynnol.
Roedd y newid a amlinellwyd ym mharagraff 3.2 o'r adroddiad wedi effeithio ar y cydbwysedd gwleidyddol ar Bwyllgorau.
O ystyried y cynnwys a nodir ym mharagraff 3.3 (o'r adroddiad), roedd angen newidiadau i aelodaeth y Pwyllgor yn awr, fel a ganlyn:-
1. Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned – Gr?p Ceidwadol i golli sedd, Gr?p Cynghrair Annibynnol i ennill sedd.
2. Pwyllgor Rheoli Datblygu – Y Cynghorydd M Hughes i golli sedd, Gr?p Cynghrair Annibynnol i ennill sedd.
3. Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 2 – Gr?p Ceidwadol i golli sedd, y Cynghorydd M Hughes i ennill sedd.
4. Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1 – Y Cynghorydd JH Tildesley i golli sedd, Gr?p Cynghrair Annibynnol i ennill sedd
Dywedodd y Swyddog Monitro ar lafar wrth yr Aelodau fod angen newid pellach ar wahân i'r uchod, sef ychwanegu aelod o'r Gr?p Ceidwadol at aelodaeth y Pwyllgor Rheoli Datblygu.
Yn dilyn yr adolygiad o gydbwysedd gwleidyddol fel yr awgrymwyd uchod, byddai aelodaeth y pwyllgorau yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu cyfansoddiad Pwyllgorau'r Cyngor yn unol â hynny. Dangoswyd y ffigurau cydbwysedd gwleidyddol wedi'u diweddaru sy'n cynnwys y newidiadau hyn yn Atodiad 1 i'r adroddiad.
PENDERFYNIAD: Fod y Cyngor wedi:
(1) Nodi canlyniad cydbwysedd gwleidyddol yr Awdurdod o ganlyniad i newidiadau i aelodaeth grwpiau gwleidyddol;
(2) Cymeradwyo'r cydbwysedd gwleidyddol diwygiedig (y Cyngor);
(3) Cymeradwyo dyrannu seddi i grwpiau gwleidyddol yn unol â rheolau cydbwysedd gwleidyddol, fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad a'r newidiadau dilynol i aelodaeth y Pwyllgorau fel yr amlinellir ym mharagraff 4.1 o'r adroddiad, drwy'r enwebiadau Cynghorwyr canlynol:-
· Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned – Gr?p Ceidwadol i golli sedd (cyn-aelod C Webster) a'r Cynghorydd C Webster, Gr?p Cynghrair Annibynnol i ennill y sedd hon;
· Pwyllgor Rheoli Datblygu – Y Cynghorydd M Hughes, Annibynnol i golli sedd a'r Cynghorydd C Webster, gr?p Cynghrair Annibynnol i ennill y sedd hon. Bod y Cynghorydd S Vidal, Gr?p Ceidwadol hefyd yn ennill sedd ar y Pwyllgor hwn;
· Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 2 – Ceidwadwyr i golli sedd (y cyn aelod Cynghorydd C Webster) a'r Cynghorydd M Hughes, Annibynnol i ennill y sedd hon, a
· Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1 – Y Cynghorydd JH Tildesley, Annibynnol, i golli sedd, a'r Cynghorydd C Webster, Gr?p Cynghrair Annibynnol i ennill y sedd hon.
Dogfennau ategol: