Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, a'i ddiben oedd:-
· cydymffurfio â gofyniad 'Y Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (argraffiad 2017)’ y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA)
· rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr alldro cyfalaf ar gyfer 2020-21 (Atodiad A i'r adroddiad)
· rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyfalaf ar gyfer 2021-22 ar 30 Mehefin 2021 (Atodiad B)
· ceisio cymeradwyaeth ar gyfer rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2021-22 i 2030-31 (Atodiad C)
· nodi'r Dangosyddion Darbodus a Dangosyddion Eraill a ragwelir ar gyfer 2021-22 (Atodiad D)
Rhoddodd yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am raglen gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2020-21. Roedd y gyllideb wreiddiol a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 26 Chwefror 2020 wedi'i diwygio a'i chymeradwyo ymhellach gan y Cyngor yn ystod y flwyddyn i ymgorffori cyllidebau a gyflwynwyd o 2019-20 ac unrhyw gynlluniau newydd a chymeradwyaethau grant. Cyfanswm y rhaglen ddiweddaraf ar gyfer 2020-21, a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Chwefror 2021 fel rhan o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, oedd £35.440 miliwn, gyda £12.419 miliwn ohono yn dod o adnoddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys derbyniadau cyfalaf, cyfraniadau refeniw o fenthyca a chronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, gyda'r £23.021 miliwn sy'n weddill yn dod o adnoddau allanol.
Rhoddodd Atodiad A fanylion y cynlluniau unigol o fewn y rhaglen gyfalaf, gan ddangos y gyllideb a oedd ar gael yn 2020-21 o'i gymharu â'r gwariant gwirioneddol. Dim ond ym mis Chwefror 2021 y cymeradwywyd y rhaglen ddiwygiedig, felly ychydig o welliannau a wnaed ers hynny ac eithrio'r prif newidiadau a amlinellir ym mharagraff 4.1.2 o'r adroddiad.
Cadarnhaodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid mai cyfanswm y gwariant ar 31 Mawrth 2021 oedd £23.461 miliwn a oedd, ar ôl £14.376 miliwn o lithriant i 2021-22 ac £0.842 miliwn o addasiadau i gynlluniau a ariannwyd gan grantiau, wedi arwain at gyfanswm o £0.139 miliwn a fydd yn cael ei ddychwelyd i gyllid y Cyngor.
Roedd angen llithriant net o £14.058 miliwn i 2021-22, ar gyfer y prif gynlluniau fel yr amlinellir ym mharagraff 4.1.4 o'r adroddiad.
Rhoddodd adran nesaf yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am raglen gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2021-22 ers i'r gyllideb gael ei chymeradwyo ddiwethaf gan y Cyngor ac ymgorffori unrhyw gynlluniau newydd a chymeradwyaethau grant. O ran y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2021-22, sef cyfanswm o £87.347 miliwn ar hyn o bryd, y mae £53.067 miliwn ohono'n cael ei dalu o adnoddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys derbyniadau cyfalaf, cyfraniadau refeniw o fenthyca a chronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, gyda'r £34.280 miliwn sy'n weddill yn dod o adnoddau allanol, gan gynnwys Grant Cyfalaf Cyffredinol. Roedd Tabl 1 yr adroddiad yn dangos y rhaglen gyfalaf ar gyfer pob Cyfarwyddiaeth o’r safle Cyngor a gymeradwywyd ym mis Mehefin 2021 hyd chwarter 1.
Yna, crynhodd Tabl 2 yn yr adroddiad y tybiaethau ariannu presennol ar gyfer y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2021-22. Rheolir yr adnoddau cyfalaf i sicrhau bod y budd ariannol mwyaf posibl i'r Cyngor yn cael ei wireddu. Gall hyn gynnwys adlinio cyllid i wneud y mwyaf o grantiau'r llywodraeth.
Rhoddodd Atodiad B fanylion y cynlluniau unigol o fewn y rhaglen gyfalaf, gan ddangos y gyllideb a oedd ar gael yn 2021-22 o'i gymharu â'r gwariant a ragwelir ar 30 Mehefin 2021.
Bu nifer o welliannau i'r rhaglen gyfalaf ar gyfer 2021-22 ers i'r rhaglen gyfalaf gael ei chymeradwyo ddiwethaf, megis cynlluniau newydd a diwygiedig,. Manylwyd ar y rhain ym mharagraff 4.2.4 o'r adroddiad.
Roedd adrannau olaf yr adroddiad yn canolbwyntio ar Ddangosyddion Darbodus a Dangosyddion Eraill 2021-22 Monitro Strategaeth a Strategaeth Gyfalaf, a rhoddodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid, grynodeb o’r rhain er budd y Cyngor.
PENDERFYNIAD: Fod y Cyngor wedi:
1. Nodi yr alldro cyfalaf ar gyfer 2020-21 (Atodiad A i'r adroddiad)
2. Nodi diweddariad Chwarter 1 Rhaglen Gyfalaf y Cyngor 2021-22 hyd at
30 Mehefin 2021 (Atodiad B)
3. Cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig (Atodiad C)
4. Nodi y Dangosyddion Darbodus a Dangosyddion Eraill a ragwelir ar gyfer 2021-22
(Atodiad D)
Dogfennau ategol: