Agenda item

Alldro Rheoli Blynyddol y Trysorlys 2020/21

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, er mwyn:-

 

· Cydymffurfio â gofyniad 'Rheoli Trysorlys yn y Gwasanaethau Cyhoeddus: Cod Ymarfer' (y Cod) y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth i roi adroddiad trosolwg o weithgareddau'r trysorlys ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol; a

· Adrodd ar Ddangosyddion Rheoli gwirioneddol y Trysorlys ar gyfer 2020-21.

 

Er gwybodaeth gefndir, cadarnhaodd mai Rheoli Trysorlys yw’r gwaith o reoli llif arian parod, benthyca, a buddsoddiadau'r Cyngor, yn ogystal â'r risgiau cysylltiedig. Mae'r Cyngor yn agored i risgiau ariannol gan gynnwys colli arian a fuddsoddwyd ac effaith newid cyfraddau llog ar refeniw. Felly, mae nodi, monitro a rheoli risg ariannol yn llwyddiannus yn rhan ganolog o reolaeth ariannol ddarbodus gan y Cyngor. 

 

Cynghorwyr rheoli trysorlys y Cyngor yw Arlingclose. Mae'r

gwasanaethau a ddarperir i'r Cyngor ar hyn o bryd yn cynnwys:-

 

·         cyngor ac arweiniad ar bolisïau, strategaethau ac adroddiadau perthnasol

·         cyngor ar benderfyniadau buddsoddi

·         hysbysiad o sgoriau credyd a newidiadau

·         gwybodaeth arall am ansawdd credyd

·         cyngor ar benderfyniadau rheoli dyledion

·         cyngor cyfrifyddu

·         adroddiadau ar berfformiad y trysorlys

·         rhagolygon o gyfraddau llog

·         cyrsiau hyfforddi

 

O ran cyd-destun economaidd (yr adroddiad), cadarnhaodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid fod dylanwad y pandemig coronafeirws wedi bod yn drwm ar 2020-21, gan arwain at gyfyngiadau symud byd eang yn ystod y flwyddyn. Cafodd hyn effaith andwyol ar gyllid ac ar gyfraddau llog yn enwedig, gan gynnwys cyfraddau llog y Cyngor. Roedd hyn hefyd wedi'i ddwysáu gan yr ansicrwydd parhaus ynghylch Brexit.

 

Mae'r awdurdod lleol wedi gweinyddu nifer o Gynlluniau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys talu dros 2,400 o Grantiau Ardrethi Busnes i fusnesau ac elusennau, gyda gwerth o dros £30 miliwn; dros 1,700 o Grantiau Cyfyngiadau â chyfanswm o ychydig dros £5.4 miliwn; a 4500 o Grantiau Cyfyngiadau i Fusnesau â gwerth o £14.96 miliwn, yn ogystal ag ysgwyddo’r costau o roi cymorth ychwanegol angenrheidiol drwy gydol y pandemig cyn iddynt dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae'n amlwg bod hyn wedi cael effaith ar lif arian y Cyngor yn ystod y flwyddyn, a bu'n rhaid rhoi mesurau ar waith i reoli'r symiau sylweddol o arian sy'n llifo i mewn ac allan o gyfrif banc y Cyngor, gan gynnwys derbyn taliadau cynharach o'r Grant Cynnal Refeniw a thaliadau grant busnes interim gan Lywodraeth Cymru, gwneud blaendaliadau tymor byr nes bod angen cyllid, a chynyddu ein terfynau BACS dyddiol i alluogi prosesu mwy o daliadau yn gyflym.

 

O ran Alldro Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2020-21, roedd y Cyngor wedi cydymffurfio â'i ofynion deddfwriaethol a rheoliadol yn ystod 2020-21. Cafodd TMS 2020-21 a'r Adroddiad Hanner Blwyddyn eu hadrodd i’r Cyngor ar 26 Chwefror 2020 a 18 Tachwedd 2020, yn y drefn honno. Ychwanegodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid fod adroddiadau monitro chwarterol wedi’u cyflwyno i'r Cabinet yn ystod 2020-21 hefyd.

 

Dangoswyd crynodeb o weithgareddau rheoli'r trysorlys ar gyfer 2020-21 yn Atodiad A i'r adroddiad. Dangoswyd sefyllfa ddyled a buddsoddi allanol y Cyngor ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021 yn Nhabl 1 yr adroddiad, a darparwyd mwy o fanylion yn Atodiad A adran 2, Strategaeth Benthyca ac Alldro, ac adran 3, Strategaeth Fuddsoddi ac Alldro. Ni chymerwyd unrhyw fenthyciadau hirdymor yn 2020-21 ac ni aildrefnwyd unrhyw ddyledion gan nad oedd unrhyw arbedion sylweddol i'w gwneud. Fodd bynnag, bydd y portffolio benthyciadau yn cael ei adolygu yn ystod 2021-22. Mae llifau arian parod ffafriol wedi darparu arian dros ben ar gyfer buddsoddi, a'r balans ar fuddsoddiadau ar 31 Mawrth 2021 oedd £51.5 miliwn, gyda chyfradd llog gyfartalog o 0.21%.

 

Roedd Tabl 2 yn Atodiad A yn manylu ar symudiad buddsoddiadau yn ôl mathau parti i gontract, ac yn dangos y balansau cyfartalog, y llog a dderbyniwyd, y cyfnod gwreiddiol a'r cyfraddau llog ar gyfer 2020-21.

 

Mae'r Cyngor yn diffinio ansawdd credyd uchel fel sefydliadau a gwarantau sydd â statws credyd o A- (A3 ar gyfer Moody) neu'n uwch, ac ni fuddsoddodd y Cyngor mewn unrhyw sefydliad o dan y lefel hon. Roedd Atodiad B yr adroddiad yn dangos y tabl cyfatebol ar gyfer sgoriau credyd Fitch, Moody, a Standard & Poor, gan egluro’r gwahanol raddau buddsoddi.

 

Nid oedd unrhyw fuddsoddiadau hirdymor (hyd gwreiddiol o 12 mis neu fwy) yn ddyledus ar 31 Mawrth 2021. Roedd yr holl fuddsoddiadau ar 31 Mawrth 2021 yn adneuon tymor byr, gan gynnwys cyfrifon mynediad a rhybudd ar unwaith.

 

Mae'r Cod Rheoli Trysorlys yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor osod ac adrodd ar nifer o Ddangosyddion Rheoli'r Trysorlys. Mae'r dangosyddion naill ai'n crynhoi'r gweithgaredd disgwyliedig neu'n cyflwyno terfynau ar y gweithgaredd. Dangoswyd manylion yr amcangyfrifon ar gyfer 2020-21 a nodir yn TMS y Cyngor, o'i gymharu â'r union werthoedd ar ddiwedd y flwyddyn, yn adran 4 yn Atodiad A, ac roedd y rhain yn adlewyrchu bod y Cyngor yn gweithredu yn unol â'r terfynau cymeradwy.

 

PENDERFYNIAD:                                 Fod y Cyngor wedi:

 

  1. Cymeradwyo gweithgareddau rheoli blynyddol y trysorlys ar gyfer 2020-21.

Rhoi cymeradwyaeth ymhellach ddangosyddion rheoli gwirioneddol y Trysorlys ar gyfer 2020-21 yn erbyn y rhai a gymeradwywyd yn Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2020-21.

Dogfennau ategol: