Agenda item

Amrywiaeth mewn Democratiaeth

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i gynghori Aelodau am adroddiad 'Amrywiaeth mewn Democratiaeth' Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a cheisio cymeradwyaeth y Cyngor i fod yn 'Gyngor Amrywiol', a pha gamau gweithredu dilynol y mae angen eu cymryd i sicrhau 'newid sylweddol' yn Etholiadau Llywodraeth Leol 2022. 

 

Eglurodd fod CLlLC wedi ymrwymo i newid amrywiaeth llywodraeth leol yn Etholiadau Lleol 2022, gan y cydnabyddir, er gwaethaf camau ac ymgyrchoedd blaenorol, fod cynnydd wedi bod yn araf a bod diffyg amrywiaeth o hyd mewn Cynghorau. Dangoswyd enghreifftiau o hyn ym mharagraff 3.2 o'r adroddiad ac ehangwyd arnynt yn y cyfarfod gan y Swyddog Monitro.

 

Cyfeiriwyd at y sylfaen dystiolaeth, y rhwystrau a'r heriau i ddenu cynghorwyr mwy amrywiol yng nghyflwyniad CLlLC i Ymchwiliad Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Phwyllgorau Cymunedau y Senedd i amrywiaeth mewn llywodraeth leol ym mis Medi 2018. Gellir crynhoi'r rhwystrau a'r heriau yn fras fel a ganlyn:

 

• Ymrwymiad amser ac amseroedd cyfarfod

• Diwylliant gwleidyddol a sefydliadol

• Gofal plant a chyfrifoldebau gofalu eraill

• Beirniadaeth gyhoeddus a cham-drin ar-lein

• Taliadau cydnabyddiaeth ac effaith ar gyflogaeth, a

• Diffyg modelau rôl o gefndiroedd amrywiol a chyfnodau mewn swydd

 

          Mae CLlLC wedi ymrwymo i wneud newid sylweddol mewn amrywiaeth llywodraeth leol yn Etholiadau Lleol 2022. Mewn cyfarfod arbennig yn ystod mis Mawrth, cymeradwyodd ei Gyngor yr 'Adroddiad Amrywiaeth mewn Democratiaeth' (sydd wedi'i atodi fel Atodiad 1 i'r adroddiad). Roedd yr adroddiad yn benllanw gwaith gan weithgor trawsbleidiol ac yn adeiladu ar gynlluniau gweithredu ac uchelgeisiau cynghorau a phartneriaid. Bydd CLlLC yn datblygu sawl cam gweithredu yn genedlaethol, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, gan gynnwys:

 

  • Lansio gwefan "Bod yn Gynghorydd" (sydd eisoes wedi’i lansio);
  • Sylwadau a wnaed i bleidiau gwleidyddol i weithredu ac i wneud cynnydd;
  • Sylwadau i Lywodraeth Cymru a Phanel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol i ddweud y dylai cynghorwyr fod â hawl i 'grantiau ailsefydlu' pe baent yn colli eu sedd mewn etholiad. 

           Yn ei gyfarfod ac yn ei adroddiad, cydnabu Cyngor CLlLC y gwaith amrywiaeth sydd eisoes ar y gweill yn lleol ond galwodd am gydweithredu uchelgeisiol yn lleol. Drwy ei adroddiad a'r camau gweithredu sy'n deillio ohono, mae'n gofyn i Gynghorau flaenoriaethu gweithredu'n lleol, cynyddu’r nifer sy'n manteisio ar lwfansau aelodau, ac i ddatblygu Datganiadau 'Cyngor Amrywiol' erbyn yr haf. Cytunodd Cyngor CLlLC yn unfrydol y dylai pob cyngor ymrwymo i ddatganiad erbyn mis Gorffennaf 2021 ar ddod yn 'Gynghorau Amrywiol' yn 2022, a hynny er mwyn darparu ymrwymiad cyhoeddus clir i wella amrywiaeth.

 

Parhaodd y Swyddog Monitro drwy ddweud y bydd gwaith amrywiaeth lleol Cynghorau yn cael ei gefnogi gan ymgyrchoedd cenedlaethol i godi ymwybyddiaeth, cyhoeddusrwydd a chefnogaeth gan CLlLC a Llywodraeth Cymru. Bydd swyddogion CLlLC yn cyfarfod â Phenaethiaid Gwasanaethau Democrataidd i rannu syniadau a dulliau o ddatblygu datganiadau a chynlluniau gweithredu lleol.

 

Fel rhan o'r ymrwymiad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gefnogi'r agenda Amrywiaeth mewn Democratiaeth, gofynnwyd i bob Aelod gwblhau arolwg amrywiaeth a chynhwysiant yn ystod mis Mai 2021. Dangoswyd y prif ffigurau o’r canlyniadau hyn ym mharagraff 4.5 o'r adroddiad.

 

Yn Atodiad 2 i'r adroddiad roedd gwybodaeth am gydraddoldeb a gasglwyd fel rhan o Gyfrifiad y Fwrdeistref Sirol ar gyfer 2011. Bydd canlyniadau'r arolwg aelodau yn cefnogi'r gwaith i wneud y Cyngor yn fwy amrywiol, yn darparu gwell dealltwriaeth o'r cymorth y gallai pobl ei angen, ac yn helpu i gefnogi cydraddoldeb a thegwch. 

 

Pwysleisiodd y Swyddog Monitro ei bod yn fater o bwys bod CBSP yn ymrwymo i wella amrywiaeth, gan gynnwys mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal unigolion rhag cymryd rhan weithredol mewn democratiaeth leol.  Cynigiwyd felly bod y Cyngor yn ymrwymo i fod yn 'Gyngor Amrywiol' ac yn gwneud datganiad, er mwyn bodloni'r amserlenni gofynnol a bennwyd gan CLlLC, fel y nodir ym mharagraff 4.6 o'r adroddiad

   

Yn Atodiad 3 i'r adroddiad, roedd Cynllun Gweithredu drafft a fydd yn cael ei ddiweddaru yn unol â hynny cyn Etholiadau Lleol 2022. Roedd y Cynllun yn dangos amcanion cyffredinol Llywodraeth Cymru a chyfuniad o gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol a chamau gweithredu arfaethedig unigryw i'r Cyngor.

 

PENDERFYNIAD:                               Bod y Cyngor yn cymeradwyo Datganiad y 'Cyngor Amrywiol', fel y nodir ym mharagraff 4.6 o'r adroddiad. 

   

Dogfennau ategol: