Cofnodion:
Agorwyd y ddadl gan yr Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio, a dybiai mai bwriad y ddadl, yn ôl pob tebyg, oedd cynnig cyngor i'r cabinet a swyddogion ar y blaenoriaethau sy'n effeithio ar addysg a chymorth i deuluoedd ledled y sir.
Mae'n debyg nad yw'n disodli gweithdrefn cyngor arall, megis cwestiynau i'r weithrediaeth. Yn yr un modd, nid yw'n disodli atgyfeiriadau fesul ward ychwaith.
Ar ôl clywed y ddadl, byddai'n crynhoi, ac yna'n gwahodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd i wneud sylwadau a gwneud rhai sylwadau i gloi.
Ar hyn o bryd, yn gyffredinol, mae ein blaenoriaethau lefel uchel fel a ganlyn:-
Byddwn (fel Cyngor):
Dywedodd Aelodau yr hoffai ganolbwyntio ar y ddarpariaeth o addysg Gymraeg yn nwyrain y Fwrdeistref Sirol a'r diffyg cyfle cyfartal a chydraddoldeb dewis i'r rhieni hynny a hoffai i’w plant gael mynediad i addysg Gymraeg.
Yn ei farn ef, mae dadl gref o blaid cael ysgol gynradd Gymraeg mewn tref o faint Pencoed, ac roedd yn meddwl tybed a fyddai'r Aelod Cabinet yn cytuno â'r uchelgais hirdymor hwn o ystyried y bwriad i ehangu'r dref yn y Cynllun Datblygu Lleol Drafft?
Fodd bynnag, o ystyried pa mor annhebygol fyddai hi i ysgol gynradd ymddangos o nunlle erbyn mis Medi, rwy'n cael deall bod adran 3.5 o'r Cod Derbyn i Ysgolion yn caniatáu i'r Cabinet lacio'r nifer derbyn cyhoeddedig ar gyfer disgyblion mewn ysgol benodol os oes cynnig i ehangu'r ysgol, fel sy'n wir yn Ysgol Bro Ogwr ym Mracla.
Ar ôl trafodaeth hir â'r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd, dywedodd wrthyf nid yn unig y byddai hyn yn cystadlu â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru ar leihau maint dosbarthiadau i 30 o ddisgyblion neu lai, gyda cholled cyllid Llywodraeth Cymru o ganlyniad, ond gallai hefyd arwain at ysgolion eraill sy’n orlawn i ofyn am driniaeth debyg i ehangu capasiti. Rwy’n cydnabod anhawster y sefyllfa hon.
Fodd bynnag, erys y cwestiwn strategol cyffredinol o ran addysg Gymraeg yma yn nwyrain CBSP. Rwy’n cydnabod bod cludiant anstatudol am ddim o'r cartref i'r ysgol yn cael ei ddarparu i ysgolion Cymraeg eraill, megis Merch o'r Sger yng Ngogledd Corneli, Calon y Cymoedd ym Metws, neu Ysgol Cynwyd Sant ym Maesteg, ond mae'r holl ysgolion hyn yng Ngorllewin y Sir, ble mae'r tegwch o ran darparu addysg Gymraeg i drigolion y Dwyrain? A ddylai rhieni ym Mhencoed orfod dewis rhwng anfon eu plant ifanc hyd at 12 milltir ar draws y sir neu anghofio am addysg Gymraeg a dewis addysg Saesneg yn ei le?
Felly, a wnaiff yr Aelod Cabinet gysylltu â Phennaeth Ysgol Bro Ogwr ac ailedrych ar yr awgrym y gall yr ysgol dderbyn mwy o blant yn ystod y cyfnod derbyn nesaf yn yr achos ynysig hwn?
Yn olaf, a oes achos hefyd i ddiffinio dalgylchoedd ar gyfer darpariaeth addysg Gymraeg yn CBSP? Er enghraifft, ar hyn o bryd, o ran dewis rhieni, mae gennym rieni o Fryncethin yn gwneud cais am le yn Ysgol Bro Ogwr er y byddai’n hawdd iddynt fynd i Galon y Cymoedd yn y Betws.
Yn yr achos hwn, mae'r polisi dewis rhieni mewn gwirionedd yn atal plant yn nwyrain y sir rhag cael mynediad i addysg Gymraeg yn eu hysgol agosaf, gan drymhau baich y gwasanaeth Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, sydd eisoes dan bwysau mawr oherwydd bod plant o Bencoed yn gorfod teithio ar draws y Sir i gael mynediad i addysg Gymraeg.
Byddwn yn ddiolchgar iawn ar ran fy etholwyr ac eraill yn nwyrain y Sir pe gallai CBSP ailedrych ar y mater hwn ar frys.
Dywedodd Aelod ei fod yn yn falch iawn o gael y cyfle i gyfrannu at y ddadl amserol y prynhawn yma ac roedd am ganolbwyntio ar yr effaith cydraddoldeb ar ddysgu drwy'r pandemig a thu hwnt.
Roedd yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi ymdrechion aruthrol ein holl staff addysgu a chymorth mewn ysgolion ac yn yr awdurdod lleol dros y 15 mis diwethaf.
Gan ei fod yn briod ag athro ysgol uwchradd, roedd wedi cael cipolwg ar yr anawsterau a wynebir gan ysgolion a'r rhai sy'n gweithio ynddynt ac o'u cwmpas. Maent wedi ymateb i'r her, wedi'u haddasu i'r amgylchiadau anoddaf ac wedi blaenoriaethu ein dysgwyr dros bopeth arall. Roedd yn ymwybodol nad oes unman gwell gan athro nag o flaen dysgwyr mewn ystafell ddosbarth, yn deall ac yn ystyried popeth sy'n digwydd o'u cwmpas mewn amgylchedd dysgu priodol.
Ar ddechrau'r pandemig, cyfeiriodd rhai gwleidyddion yn y DU at coronafeirws fel "y lefelydd mawr". Yn hytrach na lefelu unrhyw beth, mae wedi amlygu a gwaethygu’r anghydraddoldebau dwfn sydd wedi bodoli yn y wlad hon ers gormod o amser o lawer.
O safbwynt addysg, mae’n debyg iawn, ac mae'r anghydraddoldebau wedi'u hamlygu yno hefyd, boed yn broblemau gyda mynediad at adnoddau (gliniaduron a thabledi er enghraifft) ar y dechrau, neu fynediad at gysylltiad rhyngrwyd sefydlog; gallu rhieni a gofalwyr i gefnogi dysgu gartref, neu fethu â chanfod lle tawel ac addas i ddysgu. Yn olaf, i rai, nid yw'r amgylchedd cartref yn ddiogel hyd yn oed. Yn ogystal â hynny, mae hyd yn oed oedolion yn cael trafferth â’r cysyniad o gyfnod clo, heb sôn am geisio egluro’r cyfyngiadau ar fywyd arferol i ddysgwyr iau.
Gadewch i ni osod y stondin, ystyrir yn gyffredinol mai addysg yw prif yrrwr symudedd cymdeithasol yn y rhan fwyaf o’r byd. Ac, hoffi neu beidio, mae cysylltiad annatod rhwng lefelau incwm a chyrhaeddiad addysgol. Yn fras, po fwyaf yw lefel eich addysg, y mwyaf o gapasiti incwm sydd gennych. Ar waelod y raddfa honno, mae gennym deuluoedd a dysgwyr sydd yn gwbl anghenus oherwydd system les annheg a chymhleth iawn.
Mewn arolwg a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gynhaliwyd ymhlith dysgwyr yn gynharach eleni, dywedodd tua 61 y cant o'r ymatebwyr eu bod yn cytuno neu'n tueddu i gytuno â'r datganiad eu bod yn "pryderu am ddyfodol eu haddysg neu gyfleoedd hyfforddiant o ganlyniad i COVID 19". Mae hwn yn ffigwr trawiadol, ac mae llawer iawn o hyder yn y system a'r sector wedi’i golli, a hynny drwy ddigwyddiad nad oedd unrhyw reolaeth drosto o gwbl.
MAe pob ymateb yn cynrychioli unigolyn â gobeithion a breuddwydion i gyflawni eu llwyddiannau eu hunain, ac mae’n amlwg fod gormod o bobl yn teimlo bod y gobeithion a'r breuddwydion hynny wedi mynd i’r gwynt.
Er ei fod yn croesawu'r cwricwlwm newydd yn gyffredinol, roedd yn siomedig nad oedd Llywodraeth Cymru wedi manteisio ar y cyfle i oedi cyn ei gyflwyno er mwyn i ysgolion gael un flwyddyn lawn (gobeithiwn!) i adfer rhywfaint ar ôl y 15 mis diwethaf. Roedd hefyd am ddefnyddio'r cyfle hwn i dynnu sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru, heb yr hype a'r hysteria gwleidyddol, wedi cael cyfle i wneud prydau ysgol am ddim yn fudd cyffredinol. Mae dysgwyr sy'n cael eu bwydo'n dda yn mynd ymlaen i gyflawni cymaint mwy. Er gwaethaf y pwyntio bysedd cyhuddgar sy’n digwydd bob ochr i Glawdd Offa, bydd dysgwyr yma yng Nghymru yn dal yn llwglyd.
Dymunai ddod â'i gyflwyniad i ben drwy gyhoeddi ple, un nad oedd ganddo amheuaeth sy’n cael ei gydnabod, ei ddeall ac un sydd, i ryw raddau mae'n debyg, eisoes ar y gweill yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Y ple hwnnw yw ein bod yn gweithio gyda staff ein hysgol ac yn eu cefnogi i'r eithaf trwy gymryd amser i ddeall newidiadau yn anghenion dysgwyr yn benodol. Ar ben cyflwyno a dysgu cwricwlwm newydd sbon yn raddol, mae hwn yn ofyniad enfawr ac, er y bydd rhai'n meddwl ei fod yn rhan annatod o'r gwaith, mae adeiladu darlun fel hyn yn cymryd amser ac ymdrech.
Efallai na fydd effaith gronnol bod o'r ystafell ddosbarth a'i holl gymorth ategol yn hysbys am gryn amser eto, felly mae staff addysgu a chymorth yn mynd i fod yn ymateb i hyn am amser maith.
Mae'n frwydr rhwng cael cenhedlaeth goll â phenderfynu unioni pethau. P'un a ydym yn sôn am y Cyfnod Sylfaen, neu Safon Uwch a phrentisiaethau, mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i adfer gobeithion a'r breuddwydion ein dysgwyr. Rhaid inni ddangos, er y bu blip mawr ar y daith, y bydd y system a'r bobl sydd ynddi yn gwneud popeth o fewn eu gallu i’w helpu i gyrraedd y man maen nhw eisiau bod. Mae arnom ni hynny iddynt.
Cododd Aelod bryderon yngl?n â diffyg mannau cynradd cyffredinol mewn ysgolion yn y Fwrdeistref Sirol. Un enghraifft o hyn yw Ysgol Gynradd Coety, lle ellid derbyn 25 o blant y dalgylch i'r ysgol eleni, a 32 o blant yn yr un sefyllfa y llynedd. Eleni, mae hyn wedi cael effaith ganlyniadol mewn ysgolion eraill yn y cyffiniau, megis yn ysgolion Cynradd Llangrallo, Litchard, Penyfai a Phencoed. Mae'r holl ysgolion hyn hefyd yn llawn, felly mae plant yn cael eu gwrthod gan yr ysgolion hyn hefyd, oherwydd diffyg lle. Roedd hyn yn golygu bod teuluoedd gweld eu plant nid yn unig yn methu â chael eu derbyn i’w hysgol dewis cyntaf, ond eu hail ddewis ysgol hefyd. Mae hyn yn amlygu’r ffaith bod cymunedau cyflawn cyfagos yn datblygu bellach, lle na allai ysgolion ddarparu ar gyfer plant y teuluoedd a oedd yn byw yno. Golyga hyn bod plant yn cael eu hanfon i ffwrdd i wahanol ysgolion ledled y Fwrdeistref Sirol, a hynny yn eithaf pell o'u cartrefi teuluol ambell dro. Roedd ganddi bryderon sylweddol hefyd fod datblygwyr safleoedd yn dal i ymestyn eu datblygiadau tai ymhellach, a hynny er gwaetha fy ffaith bod ysgolion a adeiladir ar ystadau newydd yn rhy fach, a’u bod yn denu arian S106 ar gyfer lleoedd mewn ysgolion ond yn ei ddefnyddio mewn mannau eraill yn hytrach nac i leddfu'r pwysau ar ysgolion lleol fel y bwriadwyd. Er bod cynlluniau i ddatrys y broses hon ni fyddent ar waith am flynyddoedd eto, felly roedd dyraniadau S106 bellach yn cael ei rhoi er mwyn adeiladu ysgol Gymraeg newydd, a’r canlyniad yw bod y lleoedd dros ben ar gyfer yr ysgolion cynradd llawn uchod yn cael eu dyrannu yn hen adeilad Bro Ogwr, ysgol na fydd yn cael ei gwblhau am rai blynyddoedd eto. Bydd yn rhaid i'r plant sy’n derbyn lleoedd yno yn y pen draw gerdded heibio i ddwy ysgol newydd ar y daith, ysgolion lle dylent fod wedi derbyn eu haddysg pe bai pethau wedi'u cynllunio'n fwy effeithiol. Ar ben hyn roedd y problemau parhaus gyda'r pandemig, yn peri pryder mawr, gan fod lles plant yn allweddol o ran eu cyraeddiadau addysg posibl wrth symud ymlaen. Felly roedd yn chwilio am sicrwydd gan yr Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio a'r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd, bod lles pobl ifanc wrth symud ymlaen yn cael ei ystyried fel rhywbeth hollbwysig, yn enwedig o ran derbyn addysg yn eu hysgolion dewisol, yn hytrach na bod y broses ymwneud ag arian neu ddarpariaeth ysgolion cyfrwng Cymraeg. Teimlai fod angen edrych ar y darlun llawnach.
Yr oedd gan Aelod rywfaint o gydymdeimlad, o ran y ffaith mai eu cyllido yw’r unig beth y gallwn ei wneud mewn ysgolion, ac roedd hyn yn anodd gan fod gan blant yng Nghymru lawer llai o gyllid y pen o'u cymharu â'u cymheiriaid yn Lloegr. Nid yw wastad yn syml i blant gael eu haddysgu yn eu hysgol ddewisol ychwaith, ac mae nifer o resymau dros hynny weithiau. Fodd bynnag, pe bai plant yn cael eu lleoli mewn ysgol sydd y tu hwnt i bellter penodol o ble'r oeddent yn byw, yn aml darparerir cludiant i fynd â hwy i'r ysgol ac yn ôl. Bob hyn a hyn byddai teuluoedd yn glanio mewn sefyllfa anodd o fod â phlant mewn gwahanol ysgolion, gan roi straen ar amser ac ymrwymiadau'r teuluoedd. Fodd bynnag, ystyriodd fod CBSP wedi gwneud yn dda iawn i gynnal prydau ysgol am ddim fel rhan o'r clwb brecwast yn ogystal ag amser cinio. Roedd prydau bwyd hefyd wedi'u dosbarthu i blant, gan gynnwys prydau wedi'u rhewi hefyd. Rhoddwyd prydau maethlon ac iach i'r plant, sy’n bwysig o ran eu hiechyd a'u lles. Yn wir, roedd Cynghorau eraill yn dechrau dilyn yr arweiniad yr Awdurdod ar hyn. Fodd bynnag, y prif faen tramgwydd, fel pob tro, yw diffyg adnoddau cyffredinol, adnoddau a rennir rhwng pob ysgol yn y Fwrdeistref Sirol, boed yn rai ysgolion cynradd neu uwchradd, gan gynnwys ar gyfer eu cwricwla. Rydym yn parhau i fod mewn cyfnod digynsail, ond gobeithiai y byddai pethau’n gwella rywbryd o fewn y dyfodol.
Dywedodd Aelod fod 42 o erthyglau o Hawliau Plant fel y'u diffinnir gan y Cenhedloedd Unedig. Roedd hi am dynnu sylw at 5 ohonyn nhw.
ERTHYGL 1 Mae'r hawliau a nodir yng Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn berthnasol i bawb o dan 18 oed.
ERTHYGL 2 Mae'r hawliau'n berthnasol i bob plentyn beth bynnag fo'u hil, eu lliw, eu rhyw, eu hiaith, eu crefydd, eu hethnigrwydd, eu hanabledd neu unrhyw statws arall.
ERTHYGL 3 Ym mhob penderfyniad a cham gweithredu sy'n ymwneud â phlant, bydd buddiannau gorau'r plentyn yn ystyriaeth sylfaenol.
ERTHYGL 4 Rhaid i'r wladwriaeth wneud popeth o fewn ei gallu, drwy basio deddfwriaeth a chreu systemau gweinyddol, i hyrwyddo a diogelu hawliau plant
Ac ERTHYGL 23 Mae gan blant anabl yr hawl i fwynhau bywyd llawn, gydag urddas, ac i gael cymaint o ran ag sy’n bosibl yn eu cymuned. Dylai'r llywodraeth gefnogi plant anabl a'u teuluoedd.
Roedd hi'n falch bod ysgolion yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi derbyn cydnabyddiaeth am fod yn 'ysgolion sy'n cefnogi hawliau". Yn wir, roedd yn falch bod yr awdurdod lleol hwn wastad wedi bod yn ddiwyd wrth sicrhau y clywir llais y plentyn pan fo newidiadau yn eu haddysg yn cael eu trafod.
Roedd hi hefyd wrth ei bodd gyda’r cynlluniau ar gyfer Ysgol Arbennig Heronsbridge ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Roedd yn cydnabod gwerth y math hwn o ddarpariaeth, gan nodi fod y gost o beidio â chael darpariaeth o'r fath yn drech na'r gost o'i darparu. Llongyfarchodd yr arweinyddiaeth, gan ddweud ei bod yn edrych ymlaen at gwblhad y gwaith, a hynny’n brydlon, o fewn y gyllideb, a chyda'r capasiti sy’n bodloni bwrdeistref sy'n tyfu.
Mae 4 prif dref yn y Fwrdeistref Sirol. Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl, Maesteg a Phencoed.
Roedd hi'n dal yn siomedig bod diffyg uned AAA yng nghlwstwr Porthcawl o hyd. Os bydd y CDLl yn cael sêl bendith gan ei Chyd-gynghorwyr er mwyn meithrin twf ym Mhorthcawl, bydd plant na chant le mewn ysgolion ym Mhorthcawl. Rhaid i bob plentyn sydd ag anawsterau dysgu cymedrol (MLD) neu anabledd synhwyraidd, gan gynnwys awtistiaeth, nad ydynt yn gallu dysgu mewn dosbarth prif ffrwd, gael tacsi allan o'r dref, ar draul trethdalwyr, i dderbyn eu haddysg mewn tref arall, oddi wrth unrhyw ffrindiau lleol y gallent feithrin, oddi wrth frodyr a chwiorydd, a chan atal rhieni rhag meithrin perthynas â'r athro dosbarth a'r ysgol yn ehangach. Mewn geiriau eraill, y tu allan i’w cymuned.
Nid oedd yn cyfeirio at y plant sydd â chymaint o anghenion fel bod angen darpariaeth ganolog arbenigol ysgol fel Heronsbridge.
Roedd yn cyfeirio at y plant a fyddai'n mynychu un o'r unedau Obs a dosbarthiadau MLD ar draws y Fwrdeistref.
Ysgolion gwych, lle mae pethau gwych wedi digwydd gyda phlant â rhieni sydd wedi clywed y geiriau "dydw i ddim yn gwybod" fel prognosis clinigol yn rhy aml.
Nid oes gan Borthcawl, tref sy'n tyfu, un dosbarth MLD nac un Uned Obs.
Unwaith eto, roedd yn cydymdeimlo'n â’r mater bod ysgolion, i bob pwrpas, yn sefydliadau annibynnol, ond mae hynny yn rhywbeth y gall yr awdurdod lleol effeithio arnynt, dylanwadu arnynt, a’u harwain mewn newid.
Gan ddychwelyd at hawliau’r plentyn y Cenhedloedd Unedig.
Mae gan blant anabl yr hawl i fwynhau bywyd llawn, gydag urddas, ac i gael cymaint o ran ag sy’n bosibl ‘yn eu cymuned.’ Dylai'r llywodraeth gefnogi plant anabl a'u teuluoedd.
Dylai'r llywodraeth leol gefnogi'r plant hyn, lle bo'n bosibl, i gael eu haddysgu 'yn eu cymuned' ac i arwain newid sy'n gynhwysol ac yn anwahaniaethol.
Yn ei grynodeb, cynghorodd yr Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio am flaenoriaethau cenedlaethol a blaenoriaethau Pen-y-bont ar Ogwr, fel a ganlyn.
PEN-Y-BONT AR OGWR
Wrth i addysg a chymorth i deuluoedd barhau y tu hwnt i’r argyfwng presennol, bydd y polisïau a'r prosiectau canlynol yn cael eu blaenoriaethu (nid o reidrwydd yn y drefn hon).
Bydd CBSP yn:
YN GENEDLAETHOL
Bydd CBSP yn parhau i gymryd rhan gadarnhaol mewn trafodaethau cenedlaethol gyda Llywodraeth Cymru, llywodraeth y DU, CLlLC, Consortiwm Canolbarth y De, a chyrff rhanbarthol eraill.
Byddwn yn parhau i ymwneud yn weithredol â materion addysgol ehangach, megis:
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod y llynedd wedi bod yn flwyddyn unigryw a heriol dros ben, gyda Covid-19 wedi cael effaith andwyol iawn ar ddysgwyr a staff addysg. Pwysleisiodd fodd bynnag fod Swyddogion wedi gweithio'n ddiflino dros yr 16 mis diwethaf i sicrhau bod gwasanaethau'n parhau i gael eu darparu'n ddiogel ac yn effeithiol. Roedd enghraifft o'r ymrwymiad hwn i’w weld yn y cyfarfod yma, lle'r oedd holl uwch dîm Arweinyddiaeth yn bresennol i gefnogi'r ddadl, yn ogystal â'r tîm arweinyddiaeth o Gonsortiwm Canol y De (CSC). Dywedodd ei fod yn ddyledus i'r Aelodau am eu cefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn ac am eu cyfraniad at y ddadl heddiw.
Mewn perthynas â rhai o'r pwyntiau a wnaed gan yr Aelodau, dywedodd fel a ganlyn.
Roedd gofyniad statudol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg ac mae'n allweddol ein bod yn gweithio gyda'r holl randdeiliaid er mwyn cyflawni'r amcan hwn. Roedd heriau o ran cyflwyno hyn, yn enwedig yn nwyrain y Fwrdeistref Sirol. Roedd cynigion strategol mewn perthynas â'r amcan hwn i fod i gael eu cyflwyno ym mis Ionawr, a’r adeg honno byddai'r awdurdod lleol yn nodi ei gynllun ar sut y dylid ymestyn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ym mhob rhan o'r Fwrdeistref Sirol cyn belled ag y bo modd, o ran darparu cyfleoedd addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion mewn gwahanol leoliadau.
Roeddem hefyd angen dysgu gwersi o’r pandemig wrth i ni symud ymlaen, a chytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd â sylwadau blaenorol gan yr Aelodau bod yn rhaid i ni ganolbwyntio ar les corfforol ac emosiynol dysgwyr wrth symud ymlaen, gan gynnwys yr heriau sy'n ein hwynebu o ran derbyniadau i ysgolion a lleoedd mewn ysgolion. Mae Gr?p Gorchwyl a Gorffen wedi'i sefydlu i edrych ar y ffordd orau o gyfarfod ac ymdrechu i oresgyn heriau o'r fath. Pan fo ysgolion newydd yn cael eu hadeiladu, maent yn dod â’u heriau eu hunain, hyd nes y byddant wedi'u cwblhau. Mae enghreifftiau o'r rhain wedi'u rhannu heddiw fel rhan o'r ddadl. Ychwanegodd y byddai'r Cyngor yn parhau i ganolbwyntio ar ddysgwyr a'u hanghenion, a byddwn yn ymroddgar dros hynny tra bod ysgolion newydd yn mynd drwy'r broses adeiladu.
Amlygwyd rhai materion allweddol hefyd gan Aelod blaenorol, ac un ohonynt oedd ein hymrwymiad i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a'r pum maes y cyfeiriwyd atynt yn gynharach yn y ddadl. Roedd gan yr Awdurdod uchelgais i sicrhau mai'r Ysgol Arbennig newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr fyddai'r orau yng Nghymru. Mae’n bwysig iawn sefydlu darpariaeth leol, yn enwedig i'r plant hynny ag anghenion dysgu, fel eu bod yn gallu osgoi teithiau tacsi hir i ysgolion y tu allan i'w hardal lael, rhybweth a allai fod yn heriol iddynt o ran eu lles. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf edrychwyd ar welliannau i'r perwyl hwn, drwy ddatblygu ysgolion mwy arbenigol, ac mewn dosbarthiadau, i oresgyn yr heriau uchod a mwy, i ddarparu ar gyfer anghenion yr unigolion ifanc hyn. Yn olaf, ychwanegodd pa mor bwysig oedd cyllid i ysgolion, yn enwedig ym meysydd y cwricwlwm a Diwygio ADY.
Yn olaf, rhoddodd Rheolwr Gyfarwyddwr CSC sicrwydd i'r Aelodau y byddai CSC yn parhau i weithio'n agos gyda Swyddogion Addysg yn CBSP, er mwyn sicrhau bod gan bob ysgol ar draws y Fwrdeistref Sirol ddarpariaethau o’r ansawdd gorau posibl ar gyfer ei phlant a'i phobl ifanc. Byddai'r cwricwlwm newydd yn rhoi llawer iawn o straen ar ysgolion a'i staff, felly roedd yn eithriadol o bwysig sicrhau bod ganddynt ddigon o adnoddau i ymdopi â heriau hyn. Sicrhaodd y byddai CSC yn gweithio gyda phob ysgol er mwyn sicrhau bod hynny'n digwydd.