Agenda item

Adolygiad o Dargedau'r Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2021-22 yn dilyn Effaith Covid-19

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad y Prif Weithredwr a oedd yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo'r newidiadau arfaethedig i dargedau'r Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2021-22 cyn eu cyflwyno i'r Cyngor i'w cymeradwyo.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Cynllun Corfforaethol wedi'i adnewyddu ar gyfer 2021-22 ym mis Chwefror 2021, wedi'i gymeradwyo gan y Cabinet ac yna’r Cyngor yn unol â'r gofyniad statudol arferol i adolygu'r Cynllun Corfforaethol yn flynyddol.  Fel rhan o'r broses gymeradwyo ar gyfer y Cynllun Corfforaethol newydd, cydnabuwyd bod COVID-19 wedi cael effaith ar y cylch cynllunio, gan ei gwneud y gwaith o osod targedau ar gyfer 2021-22 yn fwy heriol.  Cytunodd y Cyngor fod angen dull hyblyg o bennu targedau cynlluniau corfforaethol er mwyn sicrhau bod cynllunio busnes yn gadarn ac yn effeithiol. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid wrth y Cabinet fod pob cyfarwyddiaeth, fel rhan o gynllunio adfer COVID-19, wedi cael cyfle i ystyried targedau ar gyfer 2021-22, yn seiliedig ar ddata diwedd blwyddyn a ddilyswyd.  Dywedodd fod newidiadau arfaethedig i dargedau wedi'u hystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar 5 Gorffennaf 2021 er mwyn sicrhau her a thryloywder priodol.  Nododd y newidiadau targed arfaethedig, a fyddai'n cael eu cyhoeddi fel atodiad i'r Cynllun Corfforaethol presennol.  Fel rhan o adolygiad ehangach o berfformiad a llywodraethu oherwydd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, cynigiwyd bod cynllunio corfforaethol yn mabwysiadu'r dull hwn o osod targedau mewn cylchoedd cynllunio yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod y cynllun corfforaethol cyhoeddedig yn parhau i fod yn gyfredol â'r data diwedd blwyddyn diweddaraf ac yn osgoi cyhoeddi'r Cynllun Corfforaethol heb dargedau oherwydd diffyg data.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol i gymeradwyo'r dull ar gyfer targedau diwygiedig ar gyfer y Cynllun Corfforaethol at y perfformiad gwirioneddol ar gyfer canran y bobl sy'n cyflwyno eu hunain yn ddigartref neu a allai fod yn ddigartref, sef 50.4% yn hytrach na'r targed o 10%, yn cael ei briodoli i ehangu'r ddyletswydd oherwydd y pandemig a'r newid yn y categoreiddio y mae dyletswydd ar y Cyngor iddo.  Fodd bynnag, rhoddodd yr Aelod Cabinet sicrwydd i'r Aelodau fod y pwysau'n cael ei drin.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol, er gwaethaf y pandemig, fod y Cyngor wedi llwyddo i ddod â 2 annedd yn ôl i ddefnydd a bod y Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod rhagor o eiddo'n cael ei ddefnyddio eto.  Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau i'r tîm eiddo gwag wrth ddod ag eiddo yn ôl i ddefnydd.  Dywedodd fod llawer o resymau dros eiddo gwag yng nghanol trefi ac nad oeddent yn eiddo i'r Cyngor.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau nad oedd y rhan fwyaf o eiddo yng nghanol trefi yn eiddo i'r Cyngor a bod manwerthu nad yw'n fwyd wedi dioddef yng nghanol trefi yn ystod y pandemig, ond byddai'r Cyngor gyda Phrif Gynllun Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn edrych ar gyfleoedd cyflogaeth a byw yng nghanol y dref gyda'i bartneriaid, gyda chyfleoedd ar gyfer gofod manwerthu ar y lloriau gwaelod a phreswyl ar y lloriau uchaf.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau wrth y Cabinet fod cynllun tebyg yn y broses o gael ei gyflwyno yng Nghanol Tref Maesteg. 

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau at nifer y Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol nad oedd yn cyrraedd ei darged o 15 trosglwyddiad a gofynnodd a oedd capasiti o fewn y tîm wedi'i effeithio yn ystod y pandemig.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau wrth y Cabinet fod y targed o 15 trosglwyddiad wedi'i osod cyn y pandemig a diolchodd i'r Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol a'r tîm am ddarparu 13 o Drosglwyddiadau Asedau Cymunedol yn ystod y flwyddyn.  Dywedodd fod pob trosglwyddiad yn destun llawer iawn o ddiwydrwydd dyladwy a chan fod y targed wedi'i fethu o fwy na 10%, nid yw'n adlewyrchu ar berfformiad y tîm.  Byddai'r tîm yn cael ei gryfhau drwy recriwtio iddo a gobeithiai y byddai 10 trosglwyddiad arall yn cael eu cwblhau.   

 

Cwestiynodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau y rheswm dros y gostyngiadau canrannol yn y gyllideb a gyflawnwyd, sef 85.8%, gan fethu ei tharged o 89.42%.  Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid wrth y Cabinet fod swyddogion wedi gweithio'n galed i leihau'r gyllideb a sicrhaodd y Cabinet fod arbedion yn cael eu gweithio'n barhaus.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar at yr amcanion llesiant sy'n cael eu harwain gan y galw a thalodd deyrnged i ymdrechion staff yn y Timau Cymorth Cynnar a'r Timau Ymyriadau am eu hymdrechion rhagorol yn ystod y pandemig. 

 

PENDERFYNWYD:           (1) Bod y Cabinet wedi cymerawdyo targedau diwygiedig y Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2021-2022 ac mae'n ei argymell i'r Cyngor i'w gymeradwyo ar 21 Gorffennaf 2021.

 

(2) Bod y Cabinet hefyd wedi cymeradwyo’r cynnig i gyflwyno proses hyblyg i adolygu'r broses o bennu targedau a lywir gan ddata diwedd blwyddyn. Yna bydd unrhyw dargedau diwygiedig yn cael eu cyhoeddi fel atodiad i'r Cynllun Corfforaethol.    

 

Dogfennau ategol: