Agenda item

Adolygiad o Dargedau'r Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2021-22 yn dilyn Effaith Covid-19

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn gofyn i'r Cyngor gymeradwyo'r newidiadau arfaethedig i dargedau'r Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2021-22, fel yr amlinellir yn Atodiad A i'r adroddiad.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid yr adroddiad a chadarnhaodd, fel rhan o'r broses gymeradwyo ar gyfer y Cynllun Corfforaethol wedi'i adnewyddu, y cydnabuwyd bod COVID-19 wedi cael effaith ar gylch cynllunio CBSP, gan ei gwneud yn fwy heriol i osod targedau ar gyfer 2021-22. Cytunodd y Cyngor felly fod angen dull hyblyg o bennu targedau cynlluniau corfforaethol er mwyn sicrhau bod cynllunio busnes yn gadarn ac yn effeithiol.

 

Fel rhan o gynllunio adfer COVID-19 CBSP, cafodd pob cyfarwyddiaeth gyfle i ystyried targedau ar gyfer 2021-22 yn seiliedig ar ddata diwedd blwyddyn sydd wedi'i ddilysu. Ystyriwyd newidiadau arfaethedig i dargedau yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol (COSC) ar 5 Gorffennaf 2021 i sicrhau her a thryloywder priodol.

 

Ar 20 Gorffennaf 2021, ystyriodd y Cabinet y newidiadau arfaethedig i dargedau'r Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2021-22.  Mae Atodiad A i'r adroddiad yn nodi'r newidiadau targed arfaethedig, a chaiff ei gyhoeddi fel atodiad i'r Cynllun Corfforaethol presennol.

 

Fel rhan o adolygiad ehangach o berfformiad a llywodraethu oherwydd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, roedd y Cyngor yn cynnig bod cynllunio corfforaethol yn mabwysiadu'r dull hwn o osod targedau mewn cylchoedd cynllunio yn y dyfodol. Bydd hyn yn sicrhau bod y cynllun corfforaethol cyhoeddedig yn parhau i fod yn gyfredol â’r data diwedd blwyddyn diweddaraf, ac yn osgoi cyhoeddi cynllun corfforaethol heb dargedau oherwydd diffyg data.

 

PENDERFYNIAD:                         (1) Fod y Cyngor yn cymeradwyo targedau diwygiedig y Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2021-2022.

 

                                                (2) Fod y Cyngor hefyd yn cymeradwyo’r cynnig i gyflwyno proses hyblyg i adolygu'r broses o bennu targedau gan ystyried data diwedd blwyddyn. Bydd unrhyw dargedau diwygiedig yn cael eu cyhoeddi fel atodiad i'r Cynllun Corfforaethol wedyn.

Dogfennau ategol: