Agenda item

Adroddiad Twyll Corfforaethol Blynyddol

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Ymchwilydd Twyll Adroddiad 2020-21 a oedd yn crynhoi'r camau a gymerwyd mewn perthynas â gwrth-dwyll ac yn rhoi diweddariad ar Ymarfer y Fenter Twyll Genedlaethol (NFI).

 

Dywedodd ei bod yn swyddogaeth graidd i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ystyried effeithiolrwydd trefniadau Rheoli Risg y Cyngor, yr amgylchedd rheoli a'r trefniadau gwrth-dwyll a llygredd cysylltiedig.

 

Amlinellodd yr Uwch Ymchwilydd Twyll feysydd allweddol y gwaith gwrth-dwyll a wnaed o fewn yr Awdurdod yn ystod 2020-21, a chrynhowyd hyn yn Atodiad A. Amlinellodd yr ymarfer paru data diweddaraf a oedd yn seiliedig ar ddata a dynnwyd ym mis Medi 2018.  Nodwyd cyfanswm o 431 achos o dwyll neu wallau sy'n cyfateb i £30,276.73 o gronfeydd adferadwy.  Arweiniodd yr ymarfer hefyd at ganslo 396 o fathodynnau glas, lle bu farw'r deiliad, gan gynhyrchu arbediad amcangyfrifedig o £227,700 i swyddfa'r cabinet.  Roedd canlyniadau manylach wedi’u cynnwys yn Atodiad 2 o Atodiad A. Dechreuodd yr ymarfer paru data dwyflynyddol nesaf yn 2020 gyda data wedi'i dynnu ym mis Hydref 2020 a dychwelwyd y manylion paru newydd yn Ionawr 2021.  Roedd gwaith ar y paru yma yn parhau.

 

Amlinellodd yr Uwch Ymchwilydd Twyll y trefniadau gweithio ar y cyd yn ogystal â'r astudiaethau cenedlaethol a gynhaliwyd.  Roedd y manylion yn adrannau 5 a 6 yn Atodiad A.

 

Gofynnodd yr Aelod Lleyg mewn perthynas â'r cynllun gweithredu, beth oedd yr amserlenni a ddisgwylid ar gyfer cwblhau'r gweithredoedd.  Esboniodd yr Uwch Ymchwilydd Twyll fod llawer o'r gweithredoedd yn ymddangos yn ôl yr angen, er enghraifft y camau hyfforddi ac ymwybyddiaeth, ond dylid cwblhau'r mwyafrif o gamau gweithredu o fewn y tair blynedd.

 

Gofynnodd yr Aelod Lleyg a oedd y risgiau sy'n ymwneud â seiber-dwyll yn cael eu hadlewyrchu yn y cynllun gweithredu a'r sefyllfa bresennol ar hyn.

 

Soniodd yr Uwch Ymchwilydd Twyll, yn dilyn sgyrsiau gyda Heddlu De Cymru, bod hyfforddiant pellach wedi’i drafod ddoe ar seiber-dwyll gan gr?p Tarian ymhlith yr holl uwch ymchwilwyr twyll ar draws awdurdodau lleol.  Ychwanegodd mai ei fwriad oedd darparu sesiwn hyfforddi i staff ond hefyd Aelodau.

 

Gofynnodd Aelod pa fath o dwyll a gyflawnwyd mewn perthynas â bathodynnau glas, a beth ellid ei wneud i gael system well fel y gellid atal y twyll hwn.

 

Esboniodd yr Uwch Ymchwilydd Twyll mai camddefnyddio'r bathodyn oedd y prif fathau o dwyll, h.y. pobl sy'n defnyddio bathodyn glas rhywun arall.  Y materion a wynebwyd oedd ei bod yn ofynnol gael presenoldeb yn yr ardaloedd hyn i ddelio â hyn.  Dywedodd fod bwriad i ymgyrch twyll debyg i flynyddoedd blaenorol fynd i'r afael â chamddefnyddio bathodynnau glas ond gyda'r pandemig a'r cyfyngiadau sydd ar waith roedd hyn yn anodd.

 

Ychwanegodd fod swyddogion gorfodi sifil wedi riportio camddefnyddio bathodynnau ond nad oeddent wedi'u hyfforddi'n ddigonol i ddelio ag achosion o gamddefnyddio, ac roedd yr hyfforddiant yr oedd ei angen wedi bod yn anodd ei drefnu gyda'r cyfyngiadau sydd ar waith oherwydd y pandemig.  Ei brif ffocws oedd darparu hyfforddiant pellach ac roedd awdurdodau cyfagos wedi cynnig rhannu costau hyn.  Credai y byddai presenoldeb pellach gan swyddogion gorfodi sydd wedi'u hyfforddi'n addas yn atal y math hwn o dwyll.  

 

Gofynnodd Aelod a oedd dadansoddiad o'r gwahanol feysydd twyll nad oedd yn bosibl ymchwilio iddynt.  Soniodd yr Uwch Ymchwilydd Twyll fod nifer o achosion na ellid ymchwilio iddynt a bod hyn oherwydd diffyg manylion.  Roedd hon yn sefyllfa debyg ar gyfer adroddiadau twyll bathodyn glas lle nad oedd digon o fanylion yn yr adroddiad i ymchwilio iddynt gan nad oedd rhif bathodyn glas wedi'i ddarparu.

 

PENDERFYNWYD: bod y Pwyllgor wedi nodi'r Adroddiad Twyll Corfforaethol Blynyddol 2020-25, y mesurau sydd ar waith, y gwaith sy'n cael ei wneud i atal a chanfod twyll a chamgymeriad a'r diweddariad ar y Fenter Twyll Genedlaethol (NFI).

 

 

Dogfennau ategol: