Agenda item

Adroddiadau Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cymru

Cofnodion:

Cyflwynodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru adroddiad a roddodd ddiweddariad i’r pwyllgor ar y gwaith archwilio ariannol a pherfformiad a wnaed, ac sydd i fod i gael ei wneud, gan Archwilio Cymru.

 

Esboniodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru fod llawer o'r gwaith archwilio ariannol a restrwyd bellach wedi'i gwblhau ac y byddai'n cael ei drafod ar yr agenda yn y cyfarfod hwn.  Ychwanegodd fod y gwaith a wnaed ar Archwilio Ffurflenni 2020-21 ar gyfer Cydbwyllgor Amlosgfa Llangrallo hefyd wedi'i gwblhau ac y byddai'n cael ei ddwyn i'r pwyllgor hwnnw ym mis Medi.  Ychwanegodd y byddai Archwiliad o Grantiau a Ffurflenni 2020-21 y Cyngor yn cael ei gynnal o fis Hydref hyd at fis Rhagfyr eleni.

 

Esboniodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru fod gwaith Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn parhau am y cyfnod 2021-22, ond bod ymgynghori wedi digwydd gydag awdurdodau lleol a'r consensws oedd y dylai Archwilio Cymru integreiddio'r gwaith hwn â'r gwaith archwilio safonol. 

 

Esboniodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru fod y gwaith Sicrwydd ac Asesu Risg yn brosiect i nodi lefel y sicrwydd archwilio a/neu lle gallai fod angen gwneud gwaith archwilio pellach yn y blynyddoedd i ddod mewn perthynas â risgiau i'r Cyngor o roi trefniadau priodol ar waith i sicrhau gwerth am arian wrth ddefnyddio adnoddau.  Roedd y gwaith hwn yn parhau trwy gydol y flwyddyn.

 

Amlinellodd yr eitem Springing Forward - Examining the Building Blocks for a Sustainable Future ac esboniodd ei fod yn adolygiad thematig a oedd yn edrych ar bob awdurdod yng Nghymru a sut yr oeddent yn cryfhau eu gallu i drawsnewid, addasu a chynnal y modd y darperir gwasanaethau.  Ychwanegodd eu bod ar hyn o bryd yn cwmpasu'r gwaith a'i fod wedi'i gynllunio ar gyfer Hydref 2021 ymlaen, gydag arolwg yn cael ei gyhoeddi i swyddogion ac Aelodau ym mis Medi i nodi'r themâu allweddol i ganolbwyntio arnynt. 

 

Amlinellodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru yr adolygiad a oedd yn ymwneud â phartneriaeth iechyd Cwm Taf Morgannwg yn dilyn trosglwyddiad y Cyngor i'r bartneriaeth yn 2019.  Roedd y cwmpas i'w drafod gyda'r Cyngor o hyd ac roedd trafodaeth gr?p wedi'i threfnu ar gyfer 17 Awst 2021 i sefydlu hyn.  Mae’r gwaith ar hyn i fod i ddechrau yn Hydref 2021.

 

Esboniodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru fod adroddiad gwaith Archwilio Cymru yma bellach yn adroddiad chwarterol ond y byddai hefyd yn tynnu sylw at y gwaith gydag ESTYN ac Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW). 

 

Amlinellodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru hefyd yr adolygiad strategaeth ddigidol a gynhaliwyd yn 2018.  Ers hynny, mae’r Cyngor wedi mabwysiadu Strategaeth Ddigidol 2020-2024.  Cyflwynodd y meysydd allweddol y gallai'r Cyngor wella arnynt a'r modd o gyflawni hyn.  Rhestrwyd hyn yn Arddangosyn 1 yr adroddiad.

 

Roedd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid o’r farn fod canfyddiadau'r adolygiad gan Archwilio Cymru yn deg a bod nifer o feysydd i'w gwella ac, yn enwedig ers y pandemig, bu newidiadau yn y ffordd yr oedd CBSPAO yn gweithio ac roedd yn bwysig cymryd y rheini i ystyriaeth a dysgu oddi wrthynt wrth symud ymlaen gyda'r Strategaeth Ddigidol.  Ychwanegodd fod y bwrdd rhaglen wedi'i sefydlu a oedd yn rhoi sylwadau am adnoddau a risgiau ac ati ac roedd CBSPAO wedi ystyried y rhain.  Roedd adolygiad rheolaidd o'r gofrestr risg yn un agwedd a ddaeth o hyn a oedd wedi'i bwydo trwy CMB a CCMB ac y gallai'r pwyllgorau Craffu edrych arno maes o law.

 

Gofynnodd yr Aelod Lleyg am eglurder ar y pwynt y byddai pwyllgor Craffu yn adolygu'r cynnydd maes o law - pa amserlen realistig y gellid ei disgwyl er mwyn sicrhau cynnydd.  Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid ei bod yn anodd darparu amserlen glir gan mai dyma ddechrau proses a thaith hir o ran newid lleoliadau gwaith, arferion gwaith a materion diwylliannol.  Ychwanegodd fod y bwrdd yn cyfarfod yn fisol felly fe fyddai diweddariadau rheolaidd, ac y byddai darparu amserlenni yn golygu gosod amserlenni ar gyfer prosiectau unigol er mwyn rhoi arwydd clir o'r hyn y dylid ei ddisgwyl.

 

Gofynnodd yr Aelod Lleyg am y goblygiadau ariannol a'r gyllideb sy'n ofynnol ar gyfer y strategaeth.  Esboniodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid y bydd gan bob un o'r prosiectau sy'n rhan o'r strategaeth achos busnes llawn.  Esboniodd mai un o'r materion mewn awdurdodau lleol gan gynnwys CBSPAO yw gwireddu buddion a'r hyn y llwyddodd y prosiectau i'w gyflawni ar ôl eu cwblhau.  Dywedodd mai hwn oedd un o'r prif feysydd ffocws i'r bwrdd rhaglen wrth geisio rhyddhau adnoddau ac ailgyfeirio'r gallu hwnnw i feysydd eraill a allai fod yn ei chael hi'n anodd, gyda'r nod o gyfoethogi swyddi a defnyddio adnoddau yn well yn hytrach na chanolbwyntio'n uniongyrchol ar arbedion arian parod.

 

Ymhelaethodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro ar ofynion y gyllideb ac egluro bod rhywfaint o arian ar gael o brosiectau TGCh blaenorol, refeniw yn ogystal â chyllid cyfalaf, a amlygwyd yn y rhaglen gyfalaf.  Roedd cyllid pellach ar gael gan ddefnyddio cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi a fyddai'n helpu i gyflymu nifer o'r prosiectau a byddai unrhyw achosion busnes pellach a ddeuai i'r bwrdd yn cael eu gwerthuso ac yn tynnu o gronfeydd pe bai angen.

 

Gofynnodd yr Aelod Lleyg pa faterion diwylliannol a ddisgwylid.  Esboniodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod llawer o staff wedi cyflawni eu rôl yn yr un modd am amser hir ond bod aneffeithlonrwydd sef yr hyn yr oedd angen gweithio arno ac weithiau mae angen perswadio pobl i ddeall bod dull newydd yn fwy buddiol mewn gwirionedd.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a ellid dod ag adroddiad diweddaru i'r pwyllgor yn y flwyddyn newydd a oedd yn canolbwyntio ar y risgiau a oedd yn cael eu profi o'r prosiect, gan gynnwys y camau yr oedd angen eu cymryd i roi'r strategaeth ar waith.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn nodi Adroddiadau Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, Archwilio Cymru yn Atodiad A ac Atodiad B.

 

Dogfennau ategol: