Agenda item

Cofrestr Risg Gorfforaethol

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad a roddodd ddiweddariad i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar y newidiadau i'r Asesiad Risg Corfforaethol, yn unol â llinell amser rheoli risg y Cyngor sydd wedi'i chynnwys ym Mholisi Rheoli Risg y Cyngor.

 

Dywedodd ei bod yn ofynnol i'r Cyngor ddatblygu prosesau rheoli risg effeithiol, gan gynnwys asesiad o risgiau corfforaethol ac roedd Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei gwneud yn ofynnol i'r Pwyllgor adolygu, craffu a chyhoeddi adroddiadau ac argymhellion ar briodoldeb rheolaeth risg y Cyngor, rheolaeth fewnol a threfniadau llywodraethu corfforaethol.  Ceir cefndir pellach yn adran 3.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod Gwasanaethau Archwilio Mewnol SWAP wedi cynnal yr archwiliad diweddar o wasanaethau rheoli risg ar ran Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol (RIAS) y Cyngor.  Er bod barn yr archwiliad yn darparu 'sicrwydd rhesymol' gwnaed nifer o argymhellion i gryfhau'r broses adrodd gan gynnwys yr angen i gyflwyno dogfen 'canllaw risg' ar wahân, gan ymgorffori prosesau i gryfhau'r cysylltiad rhwng y Gofrestr Risg Gorfforaethol (CRR) a'r risgiau a nodwyd yng Nghynlluniau Busnes y Cyfarwyddiaethau, a hefyd argymell newidiadau i fformat y CRR.

 

Ychwanegodd fod yr Asesiad Risg Corfforaethol wedi'i ddiwygio i gynnwys newid a argymhellwyd gan Wasanaethau Archwilio Mewnol SWAP, sy'n cyflwyno colofn newydd sy'n dangos y dyddiad y neilltuwyd y sgôr.  Roedd yr Asesiad Risg Corfforaethol wedi'i ddiweddaru yn Atodiad A, a oedd yn cynnwys 16 risg, 7 risg wedi'u sgorio'n uchel, 6 risg wedi'u sgorio'n ganolig, a 3 risg wedi'u sgorio'n isel.

 

Dywedodd fod un risg newydd - (Risg 16) “Mae risg y bydd System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS) yn methu â gweithredu” - wedi’i ychwanegu a’i fod yn risg Uchel gyda sgôr o 15.  Dyma system TGCh sy'n dal holl gofnodion gofal cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac sy’n cael ei chefnogi gan gontractwr allanol.  Gan fod holl gofnodion a gwasanaethau gofal cymdeithasol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu cadw ar y system hon, pe bai'n methu, ni fyddai ymarferwyr gwaith cymdeithasol yn gallu gwirio cofnodion unigolion sy'n hysbys i'r gwasanaeth a gallai hyn achosi problemau diogelu.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod y sgoriau risg yn aros yr un fath ar wahân i Risg 8 - 'Methu denu, datblygu, neu gadw gweithlu sydd â'r sgiliau angenrheidiol i ateb y gofynion a roddir ar yr Awdurdod Lleol a'i wasanaethau'.  Mae elfen debygolrwydd y sgôr weddilliol wedi cynyddu o 3 i 4, gan arwain at sgôr risg uwch o 12 i 16, gan nad oedd y camau lliniaru ar hyn o bryd yn gallu lleihau'r risg o'r lefelau crai.

 

Gofynnodd yr Aelod Lleyg mewn perthynas â Risg 5, bod y risg fel petai'n ymwneud â'r bartneriaeth â Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn unig.  Gofynnodd beth oedd y risgiau gyda phartneriaid eraill CBSPAO.  Esboniodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid nad oedd y gofrestr risg yn sôn yn benodol am bartneriaethau eraill felly y byddai'n ceisio dod â'r wybodaeth honno i'r pwyllgor yn y cyfarfod nesaf.

 

Gofynnodd yr Aelod Lleyg mewn perthynas â'r risg newydd (Risg 16), pryd fyddai'r risgiau gweddilliol yn hysbys.  Esboniodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid ein bod ar y cam o wybod rhai o'r mesurau lliniaru.  Gwnaed llawer iawn o waith gyda'r cyflenwr.  Gan fod y system yn system Cymru gyfan, dim ond sedd yn y gr?p defnyddwyr sydd gan CBSPAO i ddarparu mewnbwn ac ati.  Mae'r system yn cael ei rheoli gan ddarparwr allanol yn hytrach nag o fewn CBSPAO felly roedd yn anodd deall amserlenni.

 

Mynegodd yr Aelod Lleyg ei phryderon gyda'r risg a gofynnodd pa mor bryderus ddylai'r pwyllgor fod a beth oedd y diweddariad ym mis Tachwedd yn mynd i'w gyflwyno.   Esboniodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod y mater wedi'i godi gyda'r CMB, CCMB a'r Cabinet a bod cyfarfodydd lefel uchel yn cael eu cynnal gyda'r cyflenwr.  Cafwyd cytundebau hefyd na fyddai'r uwchraddiad yn cael ei weithredu nes ei fod yn sefydlog ond gosodwyd brys ar hyn gydag amserlenni caeth o wythnosau yn cael eu cytuno.

 

Gofynnodd y Cadeirydd, er y byddai'r risg yn cael ei adrodd ym mis Tachwedd fel y nodwyd yn y gofrestr, a ellid darparu diweddariad yng nghyfarfod mis Medi ar unrhyw bryderon nad oedd y gwytnwch wedi'i ddatrys ac os nad oeddem mewn gwell sefyllfa weithredol ar yr adeg honno.

 

Gofynnodd yr Aelod Lleyg a ellid rhoi nodyn ar y risgiau lle'r oedd colofnau'n wag, i egluro pam eu bod yn wag.  Esboniodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod y risg benodol hon wedi cael ei rhoi mewn argyfwng ond bu camau dilynol ers hyn felly byddai'n mynd â hynny yn ôl i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

 

Gofynnodd Aelod am eglurhad ar rai o'r risgiau a oedd yn gysylltiedig â chyflenwyr i'r Cyngor.  Esboniodd fod Risg 9 yn ymwneud â chyflenwyr y Cyngor yn gyffredinol a bod hynny wedi bod yn risg ers cryn amser, ond roedd risgiau eraill yn y gofrestr yn ymwneud yn benodol â Covid-19 ond eto fe'u dosbarthwyd fel risg is, er bod problemau gyda chyflenwyr yn achlysurol.  Esboniodd Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid bod y broblem gyda chyflenwyr sydd â staff a gafodd eu ‘pingio’ gan y gwasanaeth profi ac olrhain yn fater diweddar a bod y papurau hyn wedi’u paratoi cyn i hyn fod yn broblem.  Ychwanegodd fod y risgiau Covid-19 yn y gofrestr yn newid o hyd a bod y gofrestr risg wedi cael ei diweddaru pan nodwyd y rhain ond yn aml roedd oedi o tua pythefnos pan gafodd y papurau eu drafftio yn barod ar gyfer y Pwyllgor.

 

Gofynnodd y Cadeirydd mewn perthynas â Risg 11 ar sut roedd y Cyngor yn mynd i'r afael â'r risg, a ellid newid y geiriad i adlewyrchu'r cyfyngiadau cyfredol a oedd ar waith yng Nghymru.

 

Gofynnodd y Cadeirydd hefyd am ddiweddariad yn y cyfarfod nesaf ar y risg mewn perthynas ag ysgolion (risgiau 14 a 15) gan fod y risg wedi'i gosod fel un uchel ar hyn o bryd.  Soniodd, pe bai'r risg yn dal yn uchel, y dylid darparu gwybodaeth bellach i’r pwyllgor am y camau a oedd yn cael eu cymryd i liniaru'r risgiau hyn.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn:

 

  • Ystyried yr Asesiad Risg Corfforaethol 2021-22 (Atodiad A) wedi'i ddiweddaru;

 

  • Derbyn adroddiad pellach ym mis Tachwedd 2021 cyn adolygiad o Asesiad Risg Corfforaethol 2022-23 a'r Polisi Rheoli Risg Corfforaethol ym mis Ionawr 2022.

 

Dogfennau ategol: