Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Bwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet ar Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Cymru Gyfan (REAP) a’r ymgynghoriad.
Rhoddodd gefndir i Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Cymru Gyfan a oedd i’w gael yn adran 3 o'r adroddiad. Ychwanegodd bod y cynllun yn ddogfen fawr a chymhleth, yn 147 tudalen o hyd a chyda oddeutu 64 o amcanion a 340 o gamau gweithredu. Mae'n cwmpasu 13 thema polisi a 5 thema drawsbynciol.
Nododd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer camau gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru wedi dod i ben ar 15 Gorffennaf 2021, a gofynnodd tîm Cydraddoldeb y Cyngor am ymatebion gan Gyfarwyddwyr Corfforaethol i ddeall goblygiadau gweithredol gweithredu'r camau gweithredu arfaethedig yn llwyr cyn cyflwyno ymateb ffurfiol i'r ymgynghoriad ar ran yr Awdurdod Lleol.
Tynnodd y Cydgysylltydd Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol sylw at feysydd allweddol y Cynllun Gweithredu yn Atodiad 1 yr adroddiad. Tynnodd sylw at y diagram yn Atodiad 1 a oedd yn crynhoi'r holl ddull o ddatblygu'r REAP a sut mae'r Weledigaeth a'r Amcanion yn cyd-fynd. Rhoddodd hefyd amlinelliad o Ymrwymiad Llywodraeth Leol i Ddyfodol Di-Hiliaeth, ac fe'i crynhowyd fel a ganlyn:
• Mae llywodraeth leol yng Nghymru wastad wedi sefyll yn gadarn yn erbyn hiliaeth a gwahaniaethu, ac mae wedi ymroddgar dros hyrwyddo cydraddoldeb a thegwch i bob cymuned.
• Cydnabyddir yn gyffredinol fod anghydraddoldebau'n parhau i fod yn rhan annatod o Gymru a’i chymunedau, a bod angen i gynghorau, i Lywodraeth Cymru, a’r gwasanaethau cyhoeddus wneud mwy, yn unigol ac ar y cyd, i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau sefydledig.
• Yn ystod haf 2020, bu rhaid i gynghorau ymateb i COVID-19 a'r mudiad Black Lives Matter, gyda nifer yn sefydlu fforymau hil neu grwpiau gorchwyl a gorffen i fynd i'r afael â hiliaeth neu i gynnal adolygiadau o gerfluniau neu enwau strydoedd.
• Cyfrannodd CLlLC at nifer o grwpiau a gynullwyd gan Lywodraeth Cymru gan gynnwys Is-gr?p Cynghori Economaidd-Gymdeithasol BAME ac Archwiliad Llywodraeth Cymru o gerfluniau ac enwau strydoedd.
• Mae CLlLC yn cydlynu Prosiect Troseddau Casineb mewn ysgolion a ariennir gan Lywodraeth Cymru, gan weithio gyda phartneriaid fel Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol Gogledd Cymru Cyf, Race Council Cymru, Cydraddoldeb Hiliol Cymru, Show Racism the Red Card a SAPERE: Athroniaeth i Blant (P4C), i gyflwyno'r prosiect Hate Crimes in Schools ledled Cymru, prosiect a fydd yn darparu hyfforddiant ac yn cynhyrchu adnoddau at gyfer sgiliau meddwl yn feirniadol, yn gydweithredol, yn greadigol, ac yn ofalgar i athrawon ac eraill o ran mynd i'r afael â throseddau casineb.
• Mae gan awdurdodau lleol hanes balch o gefnogi a chroesawu ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a'u cefnogi i ymsefydlu mewn cymunedau lleol. Bu pob awdurdod yng Nghymru yn rhan o Raglen Ailsefydlu Ffoaduriaid o Syria, ac mae'r mwyafrif wedi ymrwymo i barhau i fod yn rhan o dderbyn rhagor o ffoaduriaid ledled Cymru. Mae pedwar awdurdod lleol hefyd wedi darparu ar gyfer ceiswyr lloches gwasgaredig yn eu hardaloedd, ac, yn fwy diweddar, y mae’r rhan helaeth o awdurdodau wedi cytuno i gymryd rhan yn y dyfodol.
• Yn ddiweddar, ymrwymodd Cyngor CLlLC i gyflwyno rhaglen uchelgeisiol 'Amrywiaeth mewn Democratiaeth' cyn etholiadau 2022 i geisio annog ymgeiswyr mwy amrywiol i sefyll mewn etholiadau.
• Llofnododd CLlLC a phob un o 22 cyngor Cymru addewid #DimHiliaethCymru cyn cyhoeddi'r REAP drafft ac i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Dileu Gwahaniaethu ar Sail Hil ar 21 Mawrth. Mae'r addewid yn ymwneud ag ymrwymiad pob cyngor i:
o sefyll yn erbyn hiliaeth a hyrwyddo cymdeithas fwy cynhwysol a chydradd i bawb.
o peidio â goddef rhagfarn hiliol, gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth, camdriniaeth na thrais yn erbyn unrhyw unigolyn.
o sefyll mewn undod, i ddod ynghyd, a dweud ‘na’ wrth hiliaeth ar ei holl ffurfiau.
o hyrwyddo cysylltiadau hiliol da rhwng pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol o fewn y sefydliad.
o hyrwyddo cyfleoedd teg a chydradd i bobl o gefndiroedd ethnig amrywiol gael dyrchafiad.
o dileu gwahaniaethu hiliol anghyfreithiol, aflonyddu, erledigaeth a chamdriniaeth.
Tynnodd y Cydgysylltydd Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol sylw at yr adrannau canlynol yn Atodiad 1:
• Arweinyddiaeth a Chynrychiolaeth
• Llywodraeth Leol
• Gofal Cymdeithasol
• Addysg
• Tai
Croesawodd y Cadeirydd yr adroddiad a nododd fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer o waith yn hyn o beth, fel y gellid ei weld o lefel y manylion a ddarparwyd yn yr adroddiad, a’i fod yn arddangos eu hymroddiad i ddileu hiliaeth yng Nghymru.
Ategwyd y sylwadau a wnaed gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, a dywedodd ei bod yn braf gweld y manylion a ddarparwyd a'r ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd fod Pen-y-bont ar Ogwr wastad angen staff gofal cymdeithasol, a bod croeso mawr i unrhyw beth a fyddai’n annog grwpiau lleiafrifoedd ethnig i ymuno â’n gweithlu.
Dywedodd Aelod fod nifer fawr o gwynion yn cael eu gwneud gyda hiliaeth yn sail iddynt, ac roedd hyn yn rhywbeth yr oedd angen i’r gymdeithas gyfan ymdrin ag o. Credai y byddai comisiynydd cydraddoldeb hiliol, tebyg i swydd Comisiynydd y Gymraeg, o fudd wrth fynd i'r afael â hiliaeth ledled y sector cyhoeddus a'r sector preifat.
Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad a dywedodd ei fod yn fenter nodedig gan Lywodraeth Cymru. Roedd nifer sylweddol o bwyntiau gweithredu i'w hystyried ac roedd yn bwysig i’r adroddiad hwn ddod yn ôl gerbron y Pwyllgor yn rheolaidd. Ychwanegodd, gan fod cymunedau ledled Cymru yn wahanol iawn, ei bod yn bwysig teilwra'r cynllun i fod yn benodol i ardal Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn sicrhau'r gorau ohono.
Cytunodd y rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb y byddai adroddiad ym mis Mawrth 2022 o fudd i adolygu'r cynnydd.
PENDERFYNIAD: Bod y Pwyllgor wedi ystyried yr adroddiad a'r atodiadau.
Dogfennau ategol: