Agenda item

Strategaeth Gymraeg Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 2021-2026

Cofnodion:

Cyflwynodd y rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb adroddiad a oedd yn diweddaru'r Pwyllgor ar ddatblygu strategaeth hybu 5 mlynedd ddrafft CBSP rhwng 2021 a 2026.

 

Eglurodd fod Safonau'r Gymraeg yn ei gwneud yn ofynnol i'r cyngor lunio Strategaeth Hybu'r Gymraeg bum mlynedd o hyd. Dyma ail strategaeth y Cyngor, gyda'r nod o adeiladu ar y cynnydd a wnaed dros y pum mlynedd diwethaf. Tynnodd sylw at adran Safonau'r Gymraeg yn 3.2 o'r adroddiad a'r chwe amcan ffocws a oedd yn rhan o'r strategaeth gyntaf, a restrwyd yn adran 3.3 o'r adroddiad.

 

Eglurodd y rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod ystyriaeth wedi'i rhoi i gyd-destun y polisi wrth lunio'r strategaeth hon ac wrth greu proffil iaith o Sir Pen-y-bont ar Ogwr. Mae chwe amcan cyffredinol wedi'u datblygu, gan ddefnyddio gwybodaeth a gasglwyd o'r ymgynghoriad, i weithio gyda gwasanaethau ar draws y cyngor i ddatblygu cynllun gweithredu i gyflawni'r nodau hyn. Roedd y Strategaeth Bum Mlynedd Ddrafft ar gyfer y Gymraeg i’w chael yn Atodiad un yr adroddiad.

 

Eglurodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod ymgynghoriad cyhoeddus wedi'i gynnal gyda chyfraniad rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg yn y fwrdeistref sirol ac aelodau o fforwm WESP. Derbyniwyd cyfanswm o 439 ymateb yn yr ymgynghoriad, a defnyddiwyd yr ymatebion i ddatblygu cynllun gweithredu Strategaeth y Gymraeg 2021-2026. Golyga hyn fod y strategaeth yn defnyddio meini prawf cenedlaethol sefydledig yn ogystal â gwybodaeth a thargedau wedi’u lleoleiddio. Roedd manylion yr ymgynghoriad i’w cael yn Atodiad dau i’r adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb, ar ôl derbyn gwybodaeth o'r ymgynghoriad a datblygiadau lleol a chenedlaethol, fod yr amcanion cyffredinol canlynol wedi'u datblygu:

 

           Hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg o fewn y gweithlu

 

           Cynyddu ymwybyddiaeth o'r Gymraeg a’r cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

 

           Cefnogi a hyrwyddo Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (WESP)

 

           Hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg a diwylliant Cymru mewn busnesau ac elusennau yng nghanol trefi

 

           Cyfranogiad ac ymgysylltiad

 

           Gweithredu'r lleoliadau blynyddoedd cynnar newydd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

 

Roedd rhagor o fanylion am yr amcanion hyn yn adran 4.5 o'r adroddiad.

 

Yn ogystal â'r amcanion hyn, ychwanegodd fod targed wedi'i osod i gynyddu poblogaeth Gymraeg Pen-y-bont ar Ogwr, yn unol â tharged Llywodraeth Cymru ar gyfer 2050 o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Mae Strategaeth Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg, yn nodi uchelgais y Llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Darparodd ystadegau o'r nifer a ragwelir o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn ogystal â'r siaradwyr Cymraeg presennol a nodwyd yn yr ymgynghoriad. Roedd y ffigurau hyn i’w cael yn 4.6 a 4.7 o'r adroddiad.

 

Eglurodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod yr ymatebion i'r arolwg a gafwyd a'r adborth yn cael ei ddefnyddio i gefnogi datblygiad terfynol y Strategaeth Ddrafft y Gymraeg 2021-2026. Bydd cynllun gweithredu manwl yn cael ei ddatblygu yn ystod mis Gorffennaf ac Awst 2021. Bydd y cynllun gweithredu yn amlinellu'r tasgau a'r camau gweithredu penodol sydd i'w cymryd dros y pum mlynedd nesaf a byddant yn canolbwyntio ar ganlyniadau.

 

Roedd un Aelod yn falch o weld yr adroddiad a’r ymgysylltiad cadarnhaol â'r ymgynghoriad. Ychwanegodd ei bod yn braf clywed cyhoeddiad gan yr Aelod Cabinet ar ddatblygu addysg gynradd cyfrwng Cymraeg, a chredai y byddai hyn yn cyfrannu at nod 2050. Ychwanegodd bod gan rai aelodau o'r cyhoedd broblemau gydag arwyddion nad ydynt yn ddwyieithog. Gofynnodd i ni sicrhau bod arwyddion a grëwyd yn y dyfodol yn ddwyieithog.

 

Roedd y Cadeirydd yn falch ein bod yn mynd i hyrwyddo'r Gymraeg yng nghanol trefi a busnesau, a’i bod yn bwysig annog y defnydd o'r Gymraeg y tu allan i ysgolion.

 

Cytunodd Yr Aelod Cabinet, Addysg ac Adfywio â'r pwyntiau a wnaed ynghylch defnyddio'r Gymraeg y tu allan i ysgolion a sicrhau ei bod yn cael ei defnyddio ym mhob lleoliad. Dywedodd y byddai defnydd rheolaidd o’r iaith hefyd yn sicrhau nad oedd pobl yn anghofio sut i'w defnyddio, ac ni ellid canolbwyntio ar ysgolion yn unig i gyflawni’r nod 2050.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod cyfran y siaradwyr Cymraeg yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn amrywio'n fawr, a bod nifer y siaradwyr Cymraeg yn yr ardal fwyaf Cymraeg bron yn ddwywaith yn uwch na’r ardal â lleiaf o siaradwyr. Credai fod angen ystyried hyn wrth wneud cynlluniau ar gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

PENDERFYNIAD: Cymeradwyodd Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet y Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg bum mlynedd ddrafft a chymeradwyodd y gwaith o ddatblygu'r cynllun gweithredu.

Dogfennau ategol: