Agenda item

Fframwaith Dyfodol Economaidd Sir Pen-y-bont ar Ogwr

Gwahoddwyr:

 

Janine Nightingale - Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cymunedau

Cynghorydd Huw David – Arweinydd

Cynghorydd Stuart Baldwin - Aelod Cabinet Cymunedau

Cynghorydd Charles Smith - Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

Zak Shell - Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol

Ieuan Sherwood - Rheolwr y Gr?p - Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd

Sue Whittaker - Rheolwr Menter a Chyflogadwyedd

Toby Rhodes - Cyfarwyddwr - Perfformio Gwyrdd Cyfyngedig

Peter Slater - Cyfarwyddwr - Cynghrair Cymunedau Diwydiannol Cymru

Jon Wood - Pennaeth Arloesi a Datblygu Clwstwr - Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau adroddiad, ac yn dilyn hynny cyflwynodd Rheolwr Gr?p - Yr Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaladwyedd yr adroddiad a thynnodd sylw’r Aelodau at Adran 4 gan ehangu ar fframwaith y dyfodol economaidd, yn arbennig y 4 prif thema, cyn tynnu sylw at Adran 8 yr adroddiad. Wedyn derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad gan Gyfarwyddwr Perform Green Limited, peth cyd-destun strategol gan y Cyfarwyddwr - Cynghrair Cymunedau Diwydiannol Cymru a chyd-destun o ran arloesi ar draws y Brifddinas-Ranbarth gan Bennaeth Arloesi a Datblygu Clystyrau - Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCRCD). Gofynnwyd i’r aelodau pa mor gyfarwydd yr oedd y themâu allweddol gan y rhanddeiliaid a’r data yn swnio iddynt hwy.

 

Diolchodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio i Gyfarwyddwr Perform Green Limited, y Cyfarwyddwr - Cynghrair Cymunedau Diwydiannol Cymru a Phennaeth Arloesi a Datblygu Clystyrau, CCRCD. Ychwanegodd mai’r hyn y byddai ef yn ei dynnu allan o’r cynlluniau fel blaenoriaeth fyddai sgiliau yn ogystal â chysylltedd gan gynnwys y metro. Tynnodd sylw hefyd at y diwydiannau creadigol gan gydnabod, unwaith y byddai criwiau ffilmio wedi gadael, bod yna’r posibilrwydd o dwristiaeth. Esboniodd fod angen y strategaeth lefel uchel er mwyn asesu blaenoriaethau a’r hyn y gellid yn realistig ei ddarparu.

 

Yn dilyn cyflwyno’r adroddiad, gofynnodd Aelodau o’r Pwyllgor y canlynol:

 

Diolchodd Aelod i’r Swyddogion an yr adroddiad a dywedodd ei fod yn sicr yn swnio’n gyfarwydd iddo ef. Nododd y problemau yng Nghymuned Caerau fel y crybwyllwyd yn yr adroddiad a gofynnodd pam yr oedd wedi mynd i fyny o’r 35ain yn 2005 i’r 5ed ar hyn o bryd, o ran amddifadedd, ar ôl derbyn miliynau o bunnau o arian Ewropeaidd a gofynnodd am ganlyniadau’r ariannu. Roedd yr adroddiad yn gynhwysfawr, yn fanwl ac yn tynnu sylw at y problemau yr oedd cynghorwyr lleol yn gwybod amdanynt. Fodd bynnag, teimlai mai canlyniadau, cyllido ac, yn fwy pwysig, rheolaeth ar y cyllid hwnnw fyddai’r allwedd i lwyddiant.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau mai’r wybodaeth oedd gerbron y Pwyllgor oedd dechrau’r strategaeth economaidd, oedd yn cynnwys yr holl amrywiadau a’r cryfderau yn ogystal â’r gwendidau, yr oedd yn bwysig eu cydnabod. Roedd hwn bron yn ddadansoddiad o’r bylchau, oedd yn dangos ble roedd y fwrdeistref sirol yn gwneud yn dda ac wedyn yn edrych ar y meysydd yr oedd angen iddi ganolbwyntio arnynt yn benodol. Nid oedd, ar yr adeg yma, yn dangos y cyfeiriad teithio na beth oedd y mecanweithiau cyllido er mwyn gwneud y gwaith oherwydd mai dyna’r dasg oedd yn dod nesaf. Roedd gwaith wrthi’n cael ei wneud gyda’r holl randdeiliaid allweddol a byddai’r sylwadau hynny a dealltwriaeth o’r sefyllfa gywir yn sail i gynllun gweithredu a map ffordd cyllido. Roedd dibyniaeth ar ffynonellau cyllid allanol, a nifer ohonynt oherwydd bod arian Ewrop wedi dod i ben; felly roedd angen edrych ar fecanweithiau eraill ar gyfer cyllido mentrau wrth symud ymlaen. Roedd hyn i gyd yn dibynnu ar bartneriaeth a dull Cymru gyfan ond yn canolbwyntio ar faterion rhanbarthol.

 

O ran rheoli cyllid, roedd rheolaeth gadarn iawn yn ei lle, ond yr hyn oedd yn eglur oedd na fyddai’r awdurdod lleol o’r blaen wedi cyrraedd at galon rhai o’r materion. Nid esgusodi’r sefyllfa oedd hyn, ond roedd yr awdurdod lleol wedi gweithio’n ddiflino dros y 10 i 15 mlynedd diwethaf i wneud gwahaniaethau mewn cymunedau ac yn dal i wneud hynny gyda nifer o fentrau yn cael eu pwysleisio, er bod y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau yn cydnabod nad hwn oedd y panacea, ond roedd strategaethau yn cael eu rhoi yn eu lle ac roedd yn bwysig bod ardaloedd yn cael eu targedu lle y gellid gwneud gwahaniaeth cynaladwy gwirioneddol wrth symud ymlaen. Roedd y pandemig wedi ailosod y tirlun economaidd a’r hyn yr oeddent yn ceisio ei wneud drwy’r strategaeth oedd ailosod hynny a symud ymlaen mewn ffordd fwy cadarnhaol.

 

Roedd yr Aelod yn cydnabod y mentrau ac yn gofyn sut yr oedd y Gymuned yn elwa o ran gwaith. Er ei fod yn croesawu’r hyn oedd yn mynd ymlaen, roedd safle Heol Ewenni yn gyfle wedi ei golli gan na allai tai gymryd lle gwaith a hwnnw oedd y safle gwaith pennaf.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau yn nhermau safle Heol Ewenni bod iddo nifer o gydrannau allweddol, gan gynnwys tai yr oedd eu gwir angen, ar gyfer cymuned y Cymoedd ynghyd â chanolfan gyflogaeth. At hynny, rhywbeth oedd yn eithaf pwysig hefyd oedd cysylltedd ac fe fyddai yna ganolbwynt cludiant Metro fel rhan o'r datblygiad, i gysylltu bysiau a’r gwasanaeth trenau, oedd yn bwysig iawn i symud pobl at swyddi, gan na fyddai’r swyddi i gyd o fewn cymuned y Cymoedd. Fe fyddai yna hefyd rai mannau gwefru trydan ULEV, yn ogystal â theithio llesol fel na fyddai’r datblygiad ei hun, gobeithio, yn dai yn unig a bod ganddo ran ehangach o lawer i’w chwarae mewn adfywio.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr - Cynghrair Cymunedau Diwydiannol Cymru, 

o ran y pwynt ynghylch effeithiolrwydd arian Ewrop, bod enghreifftiau wedi bod lle nad oedd wedi taro’r man cywir, ond nad oeddent bob amser yn cael eu cefnogi’n iawn gan fentrau polisi cenedlaethol ategol ac, wrth gwrs, roedd grymoedd economaidd enfawr yn gweithio yn eu herbyn. Ychydig o gefnogaeth a roddwyd i’r sector gweithgynhyrchu dros y blynyddoedd, oedd yn golygu na allent fanteisio’n llawn ar y cyllid o Ewrop. Nid oedd hyn i ddweud na ellid ailosod y cloc gyda Chronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig a Fframwaith Economaidd Pen-y-bont ar Ogwr, ac roedd cyfle gwirioneddol yn awr i gael strategaeth eang oedd yn cwmpasu tai, addysg, iechyd a lles, a’r holl ffactorau eraill hynny, oedd yn cyfrannu at ffyniant ardal.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei bod yn amlwg yn siomedig a rhwystredig nad oedd cynnydd wedi ei wneud yn rhai o’r cymunedau mwyaf difreintiedig ond atgoffodd ei gydweithwyr, yn enwedig gyda golwg ar Caerau, am y buddsoddiad mewn addysg oedd wedi digwydd gan gynnwys adeiladu ysgol gynradd ac uwchradd newydd i’r gymuned. Roedd gan ddatblygiad Canolfan Sgiliau Adeiladu Caerau a Chynllun Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr record ymhlith y goreuon, o ran cael pobl i mewn i waith, gydag o leiaf 100 o bobl wedi cael eu cynorthwyo. Roedd hwn yn llwybr pwysig allan o dlodi, er nad oedd ar ei ben ei hun bob amser yn ddigon, ond roedd yn sicr yn gwneud gwahaniaeth mawr, er cydnabod y problemau gyda chyflogau isel, ac roeddent am geisio gweithredu ar hynny drwy'r ymrwymiad i’r cyflog byw gwirioneddol a datblygu sgiliau pobl fel y gallent ddod o hyd i gyfleoedd gwaith gwell. Roedd yna sectorau oedd yn tyfu, o ran gwyddorau bywyd, ond roedd hefyd angen cefnogi’r diwydiannau presennol. Safle cyflogaeth allweddol i Gwm Llynfi, ac yn wir y fwrdeistref gyfan, oedd melinau papur Pen-y-bont ar Ogwr, yn sicrhau cyflogaeth barhaol o safon uchel gyda sgiliau uwch. Roedd yna, fodd bynnag, angen gwneud mwy a throi’r golau ar y fan, lle nad oedd yn gweithio, er mwyn canfod beth i wneud mwy ohono yn y strategaeth. Rhan o ymarferiad heddiw oedd gwrando ar aelodau, ar y pwyntiau a wnaed, a gwrando’n ofalus iawn hefyd ar yr hyn yr oedd partneriaid yn y sector busnes a’r gymuned fusnes yn ei ddweud oedd ei angen, i sicrhau’r amgylchedd a'r amodau ar gyfer cefnogaeth mewn swyddi.

 

Esboniodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod arian Ewrop wedi bod yn sail i ddatblygu Neuadd Tref Maesteg a bod y Marina ym Mhorthcawl wedi ei hadeiladu ag arian Ewrop ond roedd yn cydnabod nad oedd arian Amcan 1 wedi cael ei fonitro’n dda bob amser, ac na fu asesiad clir o’r graddau y byddai yn cyfrannu at godi’r incwm canolrifol y pen, a ddylai fod wedi bod yn brif nod. Twf mewn nwyddau a gwasanaethau, dan arweiniad allforio, oedd yr allwedd i ddatblygiad economaidd a gobeithiai ef y byddai'r bartneriaeth a’r strategaeth oedd yn cael eu sefydlu yn canolbwyntio ar gynyddu masnach, boed hynny yn y diwydiannau traddodiadol, y diwydiannau creadigol neu eraill.

 

Tynnodd Aelod sylw at faterion cludiant a’r filltir olaf yn neilltuol, gan egluro’r toriadau a’r newidiadau yn y gwasanaethau bws a’r gostyngiad yn nifer y tacsis. Nododd hefyd fod yna ddau safle ysgolion gwag yn ardal Caerau a gofynnodd a oedd y rhain yn rhan o’r broblem cysylltedd neu’n rhan o'r amddifadedd ac felly bod yr ardal heb gael ei gweld fel lle i adeiladu, gan nodi fod awdurdod cyfagos i’w weld yn adeiladu ar safleoedd ysgolion gwag yn llawer cynt.

 

Esboniodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau nad oedd grant tai cymdeithasol o angenrheidrwydd yn dilyn mor gyflym ag yr oedd safle yn dod ar gael ac felly bod yna fwlch amser bob tro. Roedd yna raglen gynlluniedig yr oedd angen ei datblygu ac angen ei hadeiladu i mewn i raglenni i ganiatáu i hynny ddigwydd, er ei fod ef yn cydnabod yr angen am dai i’r gogledd o'r M4.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau y cynhelid cyfarfodydd rheolaidd gyda bysiau First Cymru a’u bod wedi bod yn ymatebol yn y gorffennol, yn enwedig yn ystod y pandemig. Cafwyd trafodaeth ynghylch rhai o’r llwybrau oedd wedi dod i ben, a byddai’r sgyrsiau hynny’n parhau. Roedd pethau eraill yn cael eu gwneud gan gynnwys teithio llesol ac edrych ar gynyddu trenau i Faesteg, gyda golwg ar y cyswllt Metro plus, er ei bod yn derbyn y sylw ynghylch cysylltedd gyda bysiau. Roedd angen lleihau’r ddibyniaeth ar geir a bod yn fwy cynaliadwy o ran dull.

 

Esboniodd yr Arweinydd fod yr awdurdod lleol, fel rhan o’i waith arferol, wedi edrych ar ailddatblygu hen ysgolion, e.e. safleoedd blaenorol yn Ysgol Bryn Castell ac Ysgol Gynradd Pencoed, oedd wedi darparu cartrefi newydd i bobl leol. Ar safle Ysgol Gynradd Brynmenyn gynt, roedd yr awdurdod lleol ar fin cychwyn adeiladu canolfan newydd ar gyfer gwasanaethau plant. Bu’r cyfalaf a dderbyniwyd yn bwysig o ran cyllid ar gyfer ysgolion Band A a Band B ac roedd hefyd wedi bod yn ddull o ddatblygu cartrefi newydd. O ran safleoedd Caerau, roedd hwn yn rhywbeth a godwyd o'r blaen a byddai’r Arweinydd yn cymryd hwn i fyny, ond un o'r anawsterau oedd nad oedd yr un lefel o ddiddordeb ymhlith datblygwyr ag oedd mewn safleoedd eraill, er ei fod ef yn sicr yn barod i sicrhau bod y datblygiad yn cael ei gefnogi drwy, er enghraifft, ystyried darparu’r safleoedd heb gost a hefyd cynorthwyo unrhyw ddatblygwyr i sicrhau cyllid drwy ffrydiau Llywodraeth Cymru, oedd weithiau ar gael i safleoedd yn y cymoedd. Tra roedd gan yr awdurdod lleol record o ddatblygu tai yn y Cymoedd, roedd y cynllun wedi ei ordanysgrifio’n drwm iawn ar gyfer tai cymdeithasol. O ran dyrannu’r grant tai cymdeithasol, roedd yn rhannol yn ofynnol gan Lywodraeth Cymru bod yr ardaloedd a’r safleoedd gyda’r lefel uchaf o angen tai yn cael eu targedu a lleoedd eraill oedd y rheiny ar hyn o bryd. Nid oedd hynny’n gyfystyr â dweud nad oedd angen tai yng Nghaerau, a llawer o angen tai, ond bod lefelau uwch eto o angen tai mewn mannau eraill yn y fwrdeistref sirol. Roedd yn bwynt da ac roedd safleoedd eraill ar draws y fwrdeistref y byddai angen i’r awdurdod lleol ailymweld â hwy fel rhan o strategaeth adfywio tai a’r strategaeth economaidd hefyd.

 

Eglurodd Aelod fod ei gwestiwn ef yn gysylltiedig â’r sylw blaenorol ar dai ac esboniodd ei fod yn ceisio deall, ar lefel ymarferol, sut y gallai’r awdurdod lleol fod o gymorth gyda thlodi tanwydd drwy’r economi werdd a’r ffordd yr oedd tai yn cael eu hadeiladu, e.e. yr 14 o gartrefi eco a adeiladwyd gan Gymdeithas Tai Cymru a’r Gorllewin ym Mracla. Roedd y toeau eu hunain wedi eu gwneud o baneli ffotofoltäig, yr oedd ef yn credu eu bod wedi cael eu gwneud yn Nhrefforest. Felly, roedd diwydiannau ardderchog o fewn holl ranbarth de-ddwyrain Cymru, ond nid oedd yn ymddangos bod yna unrhyw anogaeth i bobl, pan oeddent yn adeiladu tai newydd, a hoffai ef gael clywed ychydig mwy am y ffordd y gallai’r Awdurdod Lleol weithio gyda datblygwyr i gynnig cymhelliant i adeiladu cartrefi eco. Os oedd tai cymdeithasol yn gallu cael eu hadeiladu gyda’r grant, yna dylai datblygwyr preifat allu eu hadeiladu. Felly, yr hyn oedd ei angen oedd deall yr holl sector hwnnw’n well, yr economi werdd a sut y gallai hyn gysylltu’n ôl gyda thlodi tanwydd a rhoi ychydig mwy o arian yn ôl i bobl yn eu pocedi i wario yn yr economi leol.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau at y Strategaeth Ddatgarboneiddio 2030 ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr, a bod un pwynt allweddol yn hynny yn ymwneud â’r defnydd o ynni a cheisio cael i’r sefyllfa o Garbon Sero-Net, nid yn unig o ran tlodi tanwydd, ond drwy ddatgarboneiddio cartrefi pobl. Roedd cryn waith yn mynd ymlaen gyda golwg ar gostau tanwydd, gan gynnwys ôl-osod mewn 19 o ysgolion ar draws y fwrdeistref, p’un a allai’r d?r pwll glo wresogi’r ysgol gynradd yng Nghaerau, y Tudor Estate yn gweithio gyda V2C (o’r Cymoedd i’r Arfordir) i ystyried d?r daear a phympiau gwres o ffynhonnell aer, a defnyddio gwifren breifat o fferm wynt i gael trydan yn rhatach, oedd yn rhan o gynllun Caerau, ac edrych ar gartrefi yng Nghorneli, i greu rhwydwaith ynni bychan gwresogi ardal yno. At hynny, roedd tendrau wrthi’n cael eu derbyn ar gyfer cynllun Rhwydwaith Gwres Ardal Pen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd, gyda chyfnod 1 i gael rhwydwaith cynaliadwy oedd yn gwresogi Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr, y Neuadd Fowlio a’r Swyddfeydd Dinesig.

 

Megis dechrau yr oedd y gwaith hwn ond roedd Pen-y-bont ar Ogwr yn arwain y ffordd, o gymharu ag awdurdodau lleol eraill yn Ne Cymru, gyda pheth o’r dechnoleg gwres carbon isel. Roedd yna ddymuniad i fynd ymhellach, o ran strategaeth y Cynllun Datblygu Lleol, gydag adeiladau carbon isel a gwres carbon isel yn dod yn normal i Ben-y-bont ar Ogwr wrth symud ymlaen. Roedd yr awdurdod lleol dan orchymyn gan Lywodraeth Cymru, fel sector cyhoeddus, i gyrraedd Carbon Sero-Net erbyn 2030, ac felly roedd angen sicrhau bod unrhyw dai newydd a gâi eu hadeiladu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn mabwysiadu’r cynlluniau gwresogi carbon isel hynny, ac yn anelu at fod yn garbon sero-net, yn eu gwaith adeiladu ac yn y defnyddiau. Roedd yna fwy y gellid ei wneud i ddefnyddio cynhyrchion cynaliadwy o ffynonellau lleol, yn ogystal â defnyddio technolegau gwres carbon isel a gosod mannau gwefru trydan ULEV mewn tai. Mewn sgyrsiau gydag adeiladwyr tai, gyda golwg ar y Cynllun Datblygu Lleol, roedd nifer wedi holi beth y gallent ei wneud fel bod eu heiddo’n fwy atyniadol i brynwyr, gyda rhai yn symud i gyfeiriad y technolegau carbon isel hynny a hefyd o ran y defnyddiau yr oeddent yn eu defnyddio, ac felly roedd y sgyrsiau hynny’n mynd ymlaen gydag adeiladwyr tai ynghylch dod â’r technolegau hynny ymlaen, o ran tai newydd. Y rhan anoddaf oedd y stoc o hen dai, gyda nifer fawr o dai teras Fictoraidd ar draws y fwrdeistref.

 

Roedd yr Aelod yn cydnabod bod yna rai pethau gwych ar y gweill, ond bod yr angen yno’n awr. Nid oedd yn ymddangos bod unrhyw anogaeth i bobl i fuddsoddi mewn ôl-osod eu tai hwy eu hunain. O ran y grant tai cymdeithasol, roedd ef yn cymryd bod amodau yn cael eu hadeiladu i mewn.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau fod yr awdurdod lleol yn gweithio gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, yr oedd ganddynt i gyd strategaethau datgarboneiddio, i sicrhau bod pawb ar yr un dudalen ac yn defnyddio’r un technegau er mwyn cael grym prynu i mewn gan ddefnyddio dulliau cyson.

 

Cyfeiriodd Aelod at CCRCD oedd wedi cael ei grybwyll a gofynnodd sut y gellid rhoi diwedd ar y canfyddiad y byddai Pen-y-bont ar Ogwr yn colli allan am fod y dref ar ymylon y ddwy Fargen Ddinesig, er nad oedd yn aelod o fargen Twf Bae Abertawe.

 

Roedd Pennaeth Arloesi a Datblygu clystyrau, CCRCD, yn cydnabod mai  aelod o CCRCD oedd Pen-y-bont ar Ogwr ac nid bargen twf Bae Abertawe. Roedd CCRCD yn edrych i raddau helaeth ar y 10 awdurdod lleol gyda’i gilydd, yn nhermau arloesi a strategaethau clwstwr, roedd y cryfderau pendant hynny o fewn Pen-y-bont ar Ogwr, oedd yn graidd i rai o’r clystyrau. Gwaith cynnar oedd hwn, ar y strategaethau clwstwr, ond yr hyn oedd ei angen oedd tyfu o safleoedd o gryfder, ac felly roedd nodi’r safleoedd hynny ac adeiladu arnynt yn greiddiol i'r hyn yr oeddid yn ceisio ei gyflawni. Wrth siarad drosto’i hun yn bersonol, roedd yn cytuno, bod cyfle yn bodoli, gan eu bod wedi eu lleoli rhwng Abertawe a Chaerdydd, yn enwedig o ran dyfeisiadau meddygol a diagnosteg. Roedd busnesau yn bodoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda chysylltiadau cludiant da i mewn i Ben-y-bont ar Ogwr ac Abertawe a Chaerdydd i dynnu ar y doniau gorau un. Roedd yn syndod felly nad oedd y busnesau hynny’n tyfu a ffynnu, gan godi rhai o'r pwyntiau ynghylch peidio â chodi llais ynghylch cryfderau Pen-y-bont ar Ogwr, am ei bod yn hawdd teithio iddi o Gaerdydd ac Abertawe, lle roedd ysgolion gweithgynhyrchu, peirianneg ac ysgolion meddygol datblygedig cryf iawn. Roedd twf y rhan gwyddorau bywyd o gwmpas Pen-y-bont ar Ogwr yn ymddangos yn ffrwyth eithaf hawdd ei gael, megis, yn y strategaeth glwstwr, ac yn rhywbeth i weithio arno ar unwaith, ar sut i’w tyfu.

 

Gwnaeth yr Aelod Corfforaethol dros Addysg ac Adfywio y pwyntiau canlynol ynghylch prosiect metro Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:

 

-       Gallai rhoi cydnabyddiaeth iawn i Orsaf y Pîl ar fapiau metro adeiladu peth hyder bod y metro yn mynd i fod yn fanteisiol i Ben-y-bont ar Ogwr.

-       Roedd angen i orsafoedd y Metro ac arosfannau bysiau gael yr un amlderau a’r un bargeinion tâl.

-       Gallai prosiect metro Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fod o gymorth i lobïo Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch trydaneiddio prif lein De Cymru ymhellach.

-       Gellid cyflawni'r uchelgais o ailgysylltu Porthcawl yn ôl â’r system drenau drwy integreiddio bysiau gyda threnau.

-       Gallai cysylltiadau parcio a theithio Bracla a chludiant integredig hefyd wasanaethu rhai o faestrefi poblog iawn Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau y byddai hi yn ateb yr Aelod ynghylch y darn am yr ysgol ac addysg yn y Cymoedd a’r Aelod ynghylch safleoedd ysgolion gwag yng Nghaerau. Diolchodd i’r rhai a fynychodd o'r tu allan am eu cyfraniad.

 

PENDERFYNWYD:  Bod y Pwyllgor yn nodi’r gwaith hyd yma i ddatblygu Fframwaith Dyfodol Economaidd ar gyfer Sir Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys y canfyddiadau interim seiliedig ar ymgysylltu â rhanddeiliaid a dadansoddi data hyd yn hyn, fyddai’n cael ei ddatblygu ymhellach i gefnogi llunio Strategaeth Economaidd newydd.

 

Dogfennau ategol: