Agenda item

Cynllun Archwilio Blynyddol yr Archwiliad Allanol 2021-22

Cofnodion:

Adroddodd cynrychiolydd Archwilio Cymru ar y wybodaeth ddiweddaraf o ran y gwaith Archwilio Ariannol a Pherfformiad a wnaed ganddynt yn ogystal â’r gwaith sydd eto i'w wneud.

 

Amlinellodd cynrychiolydd Archwilio Cymru y rhaglen waith a'r amserlen y mae'n rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol ei gynhyrchu yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2021.  Bydd y rhaglen waith yn cael ei hadrodd i'r Cyngor bob chwarter a bydd diweddariad llawn yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor hwn ym mis Tachwedd 2021. 

 

Rhoddodd cynrychiolydd Archwilio Cymru amlinelliad o’r asesiad cynaliadwyedd ariannol hefyd, ac roedd cam 2 wedi arwain at greu adroddiad lleol ar gyfer pob un o'r 22 prif gyngor yng Nghymru.  Mae adroddiad cenedlaethol ar gynaliadwyedd ariannol yn cael ei lunio a chaiff ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ym mis Tachwedd 2021. 

 

Dywedodd cynrychiolydd Archwilio Cymru wrth y Pwyllgor fod y Cyngor wedi cael ei asesu fel un a gynhaliodd sefyllfa ariannol gref yn ystod y pandemig ac un a gryfhaodd ei Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.  Mae effaith uniongyrchol COVID-19 ar gynaliadwyedd ariannol y Cyngor wedi'i liniaru gan gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.  Mae'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig hefyd wedi'i chryfhau i adlewyrchu pwysau cyllideb tymor canolig yn well yn ogystal â’r newidiadau a ragwelir yn y galw am wasanaethau.  Dywedodd nad oes unrhyw risgiau amlwg i gynaliadwyedd ariannol y Cyngor o ran defnyddio ei chronfeydd wrth gefn, sy'n parhau i fod ar lefel gymharol uchel.  Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r Cyngor wedi tanwario ei gyllideb flynyddol yn gyson ac mae'n disgwyl tanwario eto yn 2020-21.  Mae gan y Cyngor hanes o gyflawni'r rhan fwyaf o'i arbedion a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn.  Fodd bynnag, yn yr un modd â chynghorau eraill, bydd nodi a chyflawni arbedion yn y dyfodol yn fwy heriol.  Mae gan y Cyngor gymhareb hylifedd cadarnhaol sy'n ei rhoi mewn sefyllfa dda i fodloni rhwymedigaethau cyfredol.

 

Gofynnodd aelod o'r Pwyllgor pa ganran fyddai’n dda i'w gael mewn cronfeydd wrth gefn.  Dywedodd cynrychiolydd Archwilio Cymru ei bod yn anodd mesur hyn, ond roedd lefel cronfeydd wrth gefn y Cyngor yn gymharol uchel o'i gymharu ag awdurdodau lleol eraill.  Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid fod lefel cronfeydd wrth gefn yr awdurdod mewn sefyllfa dda, ac roedd hynny o ganlyniad i gyllidebu gofalus ac ymagwedd ofalus tuag at risgiau, gan gofio ei bod yn anodd rhagweld pryd y byddai bywyd arferol yn ailddechrau ar ôl y pandemig.  Dywedodd wrth y Pwyllgor fod y Cyngor o hyd yn ceisio dod o hyd i arbedion cyllidebol ar gyfer y blynyddoedd i ddod, a bod y Cyngor wedi derbyn lefelau sylweddol o gyllid gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig.  Croesawodd yr adroddiad ar gynaliadwyedd ariannol ac roedd yn edrych ymlaen at yr adroddiad cenedlaethol, a bydd ymateb yn cael ei ddarparu ar ei gyfer.   Dywedodd cynrychiolydd Archwilio Cymru wrth y Pwyllgor y bydd yr adroddiad cenedlaethol ar gael ar 28 Medi 2021.

 

PENDERFYNIAD:         Nododd y Pwyllgor Adroddiadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn Atodiadau A ac Atodiad B.  

 

Dogfennau ategol: