Agenda item

Model Buddsoddi Cydfuddiannol Moderneiddio Ysgolion a thir ym Mhlas Morlais

Cofnodion:

Gofynnodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chefnogaeth i Deuluoedd am gymeradwyaeth i gyflwyno cais Cam 1 y Model Buddsoddi Cydfuddiannol i Bartneriaeth Addysg Cymru (WEPco); a bwrw ymlaen â'r trafodion tir gofynnol er mwyn hwyluso datblygiad ysgolion yn y lleoliad hwn. Hysbysodd y Cabinet y byddai hyn yn cynnwys cwblhau cytundeb opsiwn gyda'r Cymoedd i'r Arfordir (V2C) mewn perthynas â'r defnydd a fwriadwyd ar gyfer hen Ganolfan Adnoddau Glan-yr-Afon; ynghyd â chyfarwyddo cyfreithwyr i gychwyn achos i gaffael safle Plas Morlais gan V2C; ac i baratoi dogfennau contract ar gyfer gwaredu safle Ysgol Gynradd Afon-Y-Felin i V2C am bris y cytunwyd arno yn y dyfodol.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chefnogaeth i Deuluoedd fod Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2020 wedi cymeradwyo'r Achos Amlinellol Strategol ar gyfer dau gynllun Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr ac, ym mis Rhagfyr, derbyniwyd cymeradwyaeth y Cyngor i gynnwys cyllid yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer prynu tir ym Mhlas Morlais yn er mwyn cefnogi elfen cyfrwng Saesneg y prosiect. Yn dilyn proses ymgynghori statudol a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2021, o dan y Cod Trefniadaeth Ysgolion mewn perthynas â dau gynnig Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr, penderfynodd y Cabinet gymeradwyo'r ddau gynnig (i ddod ag Ysgolion Cynradd Afon-Y-Felin a Corneli i ben a sefydlu ysgol gynradd Saesneg ddwy ffrwd newydd ar safle Plas Morlais, ac ehangu Ysgol y Ferch O'r Sgêr i ddwy ffrwd, i'w lleoli ar safle Ysgol Gynradd Corneli / Ysgol y Ferch O'r Sgêr). Dywedodd, mewn perthynas â'r trafodion tir cysylltiedig, bod cymeradwyaeth wedi’i rhoi gan y Cabinet a'r Cyngor ym mis Rhagfyr 2020 ar gyfer cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf y symiau sy'n ofynnol ar gyfer caffael safle Plas Morlais gan V2C yn ystod 2021-2022. Derbyniwyd cymeradwyaeth hefyd i gynnwys gwerthu safle ysgol gynradd Afon-Y-Felin i V2C a Glan-yr-Afon yn y dyfodol fel rhan o'r trafodiad tri eiddo hwn. Roedd V2C wedi cadarnhau ymrwymiad i'r trafodion hyn ac yn gweithio gyda chwmnïau i'w dwyn ymlaen.

 

Dywedodd fod angen cymeradwyaeth y Cabinet i gymeradwyo'n ffurfiol i symud ymlaen i gyflawni unrhyw brosiect newydd ac i ymrwymo i ddogfennaeth gyfreithiol gysylltiedig i hwyluso'r un peth, gan gynnwys Cytundeb Prosiect (Cam 1). Dywedodd fod y cynlluniau bellach ar y cam lle mae angen cyflwyno cais Cam 1 i WEPco. Ar ôl ei dderbyn bydd WEPco yn ystyried y cais ac yn penderfynu a ellir ei dderbyn fel ‘prosiect newydd’. Os caiff ei dderbyn, bydd y broses datblygu dyluniad ar gyfer yr ysgolion newydd yn cychwyn.

 

Adroddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chefnogaeth i Deuluoedd hefyd, yn dilyn chwiliad safle helaeth ac ymarfer dichonoldeb ar gyfer yr ysgolion newydd arfaethedig yn y Gorllewin, bod tir cyfagos ym Mhlas Morlais, sy'n eiddo i V2C, wedi'i nodi ar gyfer datblygu un o'r Ysgolion newydd, gyda'r safle presennol yn cael ei rannu gan Ysgol Gynradd Corneli ac Ysgol y Ferch O’r Sgêr fel y llall. Dywedodd fod egwyddor y trafodiad tir yn seiliedig ar fargen 'cyfnewid' gyda V2C, lle byddai'r Cyngor yn cyfnewid safle Ysgol Gynradd Afon-Y-Felin ar gyfer safle Plas Morlais V2C, ond nid oedd modd alinio’r dilyniant a'r taliadau'n gysylltiedig â dwy elfen gan na ellir gwerthu safle Ysgol Gynradd Afon-Y-Felin nes cwblhau'r datblygiad ysgol newydd, ac mae'n rhaid caffael safle ysgol newydd cyn y datblygiad ysgol newydd.

 

Byddai'r Cyngor yn caffael safle Plas Morlais ymlaen llaw, cyn gwireddu'r dderbynneb cyfalaf ar gyfer safle Ysgol Gynradd Afon-Y-Felin. Dywedodd fod prisiad y ddau safle wedi'i gyfarwyddo ar y cyd gan Brisiwr y Rhanbarth  sydd wedi dychwelyd gwerthoedd ar gyfer y ddau safle. Mae'r gwerthoedd yr adroddir arnynt yn dangos gwahaniaeth mewn gwerth o blaid safle Plas Morlais, gan ei fod yn cael ei brisio'n uwch ar sail maint a'r dwyseddau datblygu a ragwelir. Er mwyn rhoi cyfrif am y gwahaniaeth mewn gwerthoedd, mae’r Cabinet wedi cytuno y gallai Glan-yr-Afon, Ynysawdre gael ei hymgorffori yn y ‘cyfnewid tir’. Mae Prisiwr y Rhanbarth wedi prisio’r safle hwn yn ei gyflwr presennol a daethpwyd i gytundeb gyda V2C a fydd golygu eu bod yn cymryd cytundeb opsiwn ar bris Prisiwr y Rhanbarth ar unwaith ar Glan-Yr-Afon, tra bydd y cytundeb caffael ar gyfer Plas Morlais yn dod i ben. Byddai hyn yn caniatáu i V2C gyflwyno cynlluniau ailddatblygu ar gyfer safle Glan-yr-Afon ar unwaith.

 

Nododd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod y trafodiad tir yn fater technegol iawn ond ei fod yn angenrheidiol i symud datblygiad yr ysgolion newydd yn ei flaen, sef y buddsoddiad addysg mwyaf erioed yn ardal Corneli, fydd yn darparu ysgolion yr 21ain ganrif ac adfywio'r ardal. Dywedodd y byddai'r prosiect yn cael ei gyflwyno'n raddol yn y fath fodd fel na fyddai unrhyw blentyn yn cael ei effeithio gan waith adeiladu nac yn cael ei addysgu mewn ystafelloedd dosbarth dros dro, ac mai’r ysgol Saesneg fyddai’n cael ei datblygu gyntaf, yna’r ysgol Gymraeg.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau, er bod y trafodiad wedi'i ddisgrifio fel cyfnewid tir, byddai'r awdurdod yn dal i brynu'r tir i hwyluso datblygiad yr ysgolion newydd. Dywedodd yr Arweinydd y byddai gwerthoedd tir yn cael eu hasesu gan Brisiwr y Rhanbarth a'i bod yn hanfodol bod yr awdurdod yn caffael y tir i adeiladu'r ysgolion newydd gan nad oedd ganddo dir addas yn ei berchnogaeth. Hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y Cabinet fod argaeledd tir yn hanfodol i'r datblygiad wrth symud ymlaen er mwyn darparu’r ysgolion ac y byddai Prisiwr y Rhanbarth yn asesu gwerthoedd tir am brisiau y cytunwyd arnynt.

 

PENDERFYNWYD:           Bod y Cabinet yn:

· cymeradwyo cyflwyno Cam 1 i WEPco; a

· cymeradwyo cytundeb opsiwn Glan-Yr-Afon i V2C fel rhan o'r cytundeb 'cyfnewid tir' cyffredinol ac i awdurdodi Swyddogion i symud ymlaen gyda’r contractau ar gyfer caffael y tir ym Mhlas Morlais gan V2C a gwerthu Ysgol Gynradd Afon-Y-Felin yn y dyfodol i V2C ar y gwerthoedd y cytunwyd arnynt, gan sicrhau bod y Cyngor yn cael yr ystyriaeth orau yn unol ag adran 123 Deddf Llywodraeth Leol 1972 yn unol â Phrotocolau Trafodion Tir.            

Dogfennau ategol: