Agenda item

Newyddiad Contract Menter Ymchwil Busnesau Bach

Cofnodion:

Gofynnodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau am gymeradwyaeth i hepgor Contract Rheolau Gweithdrefn yn unol â CPR 3.2.9.4 mewn perthynas â'r contract gyda PassivSystems Limited ar gyfer Cam 2 y Fenter Ymchwil Busnesau Bach ac i ymrwymo i Weithred Newyddiad i newyddio'r contract hwnnw o PassiSystems Limited i Passiv UK Limited.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod y Cabinet ym mis Chwefror 2019 wedi cymeradwyo Strategaeth Ynni Ardal Leol Pen-y-bont ar Ogwr a Chynllun Ynni Clyfar. Roedd y Cynllun Ynni Clyfar yn cynnwys sawl syniad am brosiectau i'w datblygu dros 2019 - 2025 a fydd yn darparu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer datgarboneiddio Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn unol â'r Strategaeth Ynni Ardal Leol. Cyflwynodd y Cyngor gynnig i Lywodraeth Cymru trwy eu Menter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) i gynnal cystadleuaeth arloesi (dros ddau gam - Dichonoldeb ac Arddangos) i ganiatáu i arloeswyr yn y farchnad gynnig syniadau ynghylch sut y gellid datblygu rhwydweithiau gwres am gost is nag amodau cyfredol y farchnad.

 

Hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y Cabinet, yn dilyn cystadleuaeth yn 2019, y penodwyd 4 sefydliad i ddatblygu eu syniadau fel rhan o Gam 1 y broses SBRI. Un ohonynt oedd Passiv Systems, y dyfarnwyd y contract iddynt i gyflawni eu prosiect arddangos fel rhan o Gam 2 y SBRI ym mis Mawrth 2021. Fodd bynnag, rhoddwyd PassivSystems i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis Ebrill 2021 ac yna cawsant eu prynu gan Passiv UK. Dywedodd, o ganlyniad i'r caffaeliad hwn, fod Passiv UK wedi gofyn i'r contract gyda PassivSystems gael ei newyddu i Passiv UK Limited.

 

Nododd Aelod y Cabinet dros Gymunedau, wrth ganmol y cynnig i hepgor Rheolau Gweithdrefn Contract, fod y Cyngor wedi derbyn cyllid Llywodraeth Cymru i gyflawni prosiectau arloesol, gan ddangos bod y Cyngor yn flaengar nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU. Byddai'r arloesedd hwn yn cyfrannu at ddatgarboneiddio ac yn lleihau tlodi tanwydd.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau'r Dyfodol pa ddiwydrwydd dyladwy a wnaed a chan bwy pan ddyfarnwyd y contract i Passiv. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod Passiv wedi cael ei werthuso gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru a bod yn rhaid iddo hefyd ymrwymo i gontract ar gyfer ei brosiect arddangos. Hysbysodd y Cabinet fod y rhiant-gwmni wedyn wedi lansio cwmni newydd.

 

PENDERFYNWYD:              Bod y Cabinet yn:

 

·         awdurdodi hepgor Rheolau Gweithdrefn Contract y Cyngor i ganiatáu addasu'r contract presennol gyda PassivSystems Limited mewn perthynas â Cham 2 y Fenter Ymchwil Busnesau Bach trwy gydsynio i newyddu’r contract hwnnw i Passiv UK wedi'i gyfyngu yn unol â Rheol 3.2.9.4;

  dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau i gymeradwyo telerau terfynol y Weithred Newyddiad sy'n ofynnol i adnewyddu'r contract o PassivSystems Limited i Passiv UK Limited ac ymrwymo i'r Weithred Newyddiad honno mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog Dros Dro, Cyllid, Perfformiad a Newid, a Swyddog Adran 151, a Phrif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Rheoleiddio ac i drefnu bod y Weithred Newyddiad yn cael ei gweithredu ar ran y Cyngor, yn amodol ar arfer y fath awdurdod dirprwyedig mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwyr Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Rheoleiddio.      

Dogfennau ategol: