Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

Cofnodion:

Y Maer

 

Mae'n bleser mawr gennyf gyhoeddi enwau’r Maer Ieuenctid a’r Dirprwy Faer Ieuenctid am eleni. Y Maer Ieuenctid fydd Xander Payne o Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob McGrath a'r Dirprwy Faer Ieuenctid yw G Williams o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae'r ddau wedi bod yn rhan o'r cyngor ieuenctid ers ychydig o flynyddoedd. Enillodd G Williams Wobr Diana am ei Hyfforddiant ymwybyddiaeth Trawsrywedd ac mae'n helpu gyda'n Gr?p YPOP LGBTQIA (YPOP yw enw'r Gr?p LGBTQIA Ieuenctid (Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsrywiol, Holi, Rhyngrywiol, Arywiol) yr ydym yn ei redeg yn rhithiol ar hyn o bryd ar nos Lun rhwng 5 a 6 p.m.).

 

Mae Xander yn un o Lysgenhadon Ifanc Pen-y-bont ar Ogwr ac mae hefyd yn gobeithio sefyll fel ein cynrychiolydd yn Senedd Ieuenctid Cymru. Rydym yn dymuno'r gorau i'r ddau ohonyn nhw ar gyfer y flwyddyn i ddod a’u huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.

 

Hoffwn longyfarch pencampwr Paralympaidd Pen-y-bont ar Ogwr, Aled Sion Davies, am gemau llwyddiannus arall eto ac am gynrychioli Pen-y-bont ar Ogwr a Chymru ar Lwyfan y Byd. Mae Aled wedi ennill ei drydedd medal aur Baralympaidd, y tro hwn yn nigwyddiad taflu maen i ddynion F63 yn Tokyo ac roedd hefyd yn gyd-gapten tîm Paralympaidd Prydain Fawr. Mae wedi bod yn llysgennad gwych dros chwaraeon Pen-y-bont ar Ogwr a’r chwaraeon Paralympaidd a bydd yn awr yn edrych tuag at Baris ymhen tair blynedd. Mae Aled yn un o linell hir o baralympiaid llwyddiannus o Ben-y-bont ar Ogwr a bydd yn sicr wedi ysbrydoli paralympiaid y dyfodol hefyd.

 

Dros gyfnod yr haf ers ein cyfarfod diwethaf, rwyf wedi cael y pleser o fynychu nifer o ddigwyddiadau ynghyd â phen-blwydd priodas 60 a 65.  Roedd yn wych gweld y gwaith sy’n mynd ymlaen fel rhan o'n Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol (SHEP) yn Ysgol Gyfun Cynffig a Choleg Cymunedol y Dderwen.  Fe wnes i hefyd fwynhau cael cinio ysgol gyda'r plant yn y digwyddiadau hyn.

 

Euthum i Lyfrgell Pencoed ar gyfer lansiad cynllun Benthyg IPad Canolfan Gydweithredol Cymru sydd ar gael i Ofalwyr yn y Fwrdeistref Sirol. Cynllun gwych ac un y gellir cael mynediad ato drwy ein llyfrgelloedd. Dysgais hefyd adnodd ar-lein mor wych sydd gennym yn awr yn ein llyfrgelloedd gyda mynediad am ddim at gylchgronau.

 

Ddiwedd mis Awst bûm yn Ras Hwyl flynyddol Coedwigaeth Gilfach Goch ynghyd â Maer RhCT ac roedd nifer dda yn bresennol gyda nifer fawr o blant yn cymryd rhan. Cyflwynwyd medalau i bawb a gymerodd ran gyda chwpanau i'r rheiny oedd yn y safle cyntaf a'r ail safle mewn 3 chategori oedran.

 

Ar 26 Awst am 8.10 y bore, bu’r Faeres a minnau yng Ngwasanaeth Coffa blynyddol Parc Slip ac roedd yn deyrnged deimladwy i'r 112 o ddynion a bechgyn a gollodd eu bywydau yn y ffrwydrad ofnadwy a ddigwyddodd ym 1892, a darllenwyd enwau pob un ohonynt gyda'r Arweinydd yn rhan o'r gr?p o bobl oedd yn darllen yr enwau allan. 

 

Dechreuodd mis Medi gydag ymweliad ynghyd â'r Arweinydd â dathliadau hanner can mlynedd Clwb Garddio Trelales ac roedd yn wych gweld rhyw fath o normalrwydd yn dychwelyd gyda'r arddangosfa hyfryd o flodau a llysiau, a darparwyd te hufen hyfryd. Roedd y Cynghorydd Pam Davies hefyd yn bresennol a diweddodd y tri ohonom yn ymuno â'r clwb garddio fel aelodau.

 

Ddydd Iau, y 9fed o Fedi roedd yn Ddiwrnod Baner 999 ac ynghyd â'r Arweinydd a'r Uchel Siryf fe godasom ni'r faner yn y Swyddfeydd Dinesig er anrhydedd i'r 7,500 o weithwyr gwasanaeth brys sydd wedi colli eu bywydau wrth gyflawni eu dyletswydd ac fe wnaethom gynnal 2 funud o ddistawrwydd er anrhydedd iddynt.

 

O ran codi arian ar gyfer y ddau gr?p yr wyf yn eu cefnogi (Bechgyn a Dynion a Chanolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr), gohiriwyd y Skydive mewn tandem gyda’r Faeres oherwydd y tywydd ym mis Gorffennaf ac mae bellach i fod i ddigwydd ddydd Sadwrn, y 27ain o Dachwedd 2021. Ddim yn si?r pa obaith sydd yna am awyr glir, ond croesi bysedd. Os na chaiff ei gynnal ar y dyddiad hwnnw, yna bydd yn cael ei drefnu ar gyfer Mawrth 2022. Diolch yn fawr i'r rhai sydd wedi noddi'r Skydive hyd yma ac nid yw hi byth yn rhy hwyr i roi rhodd drwy wefan y Cyngor ar dudalen y Maer.

 

Rwy’n gobeithio cyn bo hir cyhoeddi bwffe Elusennol Cyn y Nadolig yng Nghlwb Rygbi Pen-y-bont ar Ogwr (Cae’r Bragdy) lle bydd bwffe, hypnotydd doniol ynghyd â cherddoriaeth ac adloniant i ddilyn, ar ddiwedd mis Tachwedd. Bydd tocynnau ar gael yn fuan.

 

Hoffwn dynnu eich sylw at eitem o fusnes. Gofynnwyd am i gyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 3, a drefnwyd ar gyfer dydd Mercher, y 29ain o Fedi 2021, gael ei symud i ddydd Llun y 4ydd o Hydref. Gyda chytundeb y Cadeirydd, gweithredwyd hyn ac anfonwyd apwyntiad calendr newydd ac felly gofynnir i'r Aelodau nodi'r newid.

 

Yn olaf, ac i ddiweddu ar nodyn cadarnhaol, hoffwn longyfarch y Cynghorydd Cheryl Green a'i g?r Tom ar ddathlu pen-blwydd aur eu priodas yn ddiweddar, rydym i gyd yn mynegi ein dymuniadau gorau ar gyrraedd y garreg filltir nodedig hon.

 

I'r Cynghorydd Stephen Smith a'i bartner Gemma hoffwn ddweud llongyfarchiadau ar eich priodas, dymunwn y gorau i chi am ddyfodol hir a hapus gyda'ch gilydd. 

Yr Is-arweinydd

 

Fel y gwyddoch, mae gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr un o'r cyfraddau ailgylchu uchaf yng Nghymru eisoes, ac fe wnaethom godi’n gyflym o 46 y cant yn ôl yn 2010 i'n 69 y cant cyson, presennol.

 

Yn awr, mae'r ffigurau diweddaraf wedi datgelu bod mwy na 155,000 o dunelli o wastraff wedi cael eu hailgylchu a'u dargyfeirio oddi wrth safleoedd tirlenwi dros y pedair blynedd ddiwethaf.

 

O fewn y ffigur hwnnw mae ychydig dros 26,000 o dunelli o bapur a cherdyn, 17,500 o dunelli o wydr, 12,000 o dunelli o blastig, 7,700 o dunelli o fetel, a 3,700 o dunelli o wastraff trydanol.

 

Er mwyn eich helpu i ddychmygu hynny, dywedir wrthyf ei fod yn cyfateb i bwysau 26,000 o eliffantod, a bod pob person, ar gyfartaledd, wedi cynhyrchu 856kg o wastraff yn ystod y cyfnod o bedair blynedd.

 

Mae'r cynllun bagiau porffor wedi ailgylchu mwy na 4,350 tunnell ac wedi trosi ffibrau seliwlos yn fyrddau ffibr, paneli acwstig a mwy, tra mae 32,000 o dunelli o fwyd wedi'u trosi'n drydan i bweru ein cymunedau lleol a chynhyrchu gwrtaith.

 

Mae ein tîm Strydoedd Glanach wedi clirio ychydig dros 4,000 tunnell o wastraff a gafodd ei luchio'n anghyfreithlon, tra mae mwy na 3,200 tunnell o wastraff gardd wedi'i gludo i'w gompostio.

 

Rwy'n si?r y byddwch chi'n cytuno bod y rhain yn ffigurau trawiadol iawn, a chyda pharatoadau terfynol hefyd ar y gweill ar gyfer agor y ganolfan ailgylchu gymunedol newydd yn y Pîl, maent yn debyg o godi hyd yn oed yn uwch, yn enwedig yn awr gyda chontractwr newydd yn ei le, fydd yn ailgylchu gwastraff a gesglir o finiau sbwriel cyhoeddus.

 

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi helpu i wneud hyn yn gymaint o lwyddiant, ond yn enwedig casglwyr Kier sy’n cadw'r gwasanaeth i redeg drwy gerdded rhwng saith a deng milltir a chludo hyd at bedair tunnell o wastraff bob dydd, a'n trigolion lleol sydd wedi gwneud ymdrech ailgylchu mor wych.

 

Hoffwn hefyd atgoffa aelodau y bydd ein hymgynghoriad blynyddol ar y gyllideb yn cael ei lansio ddydd Llun nesaf pan fyddwn unwaith eto yn gwahodd trigolion lleol i'n helpu i ddatblygu ein blaenoriaethau gwariant ar gyfer 2022-23.

 

Y tro hwn, bydd yr ymgynghoriad ar y gyllideb yn canolbwyntio ar weledigaeth tymor hwy ar gyfer y fwrdeistref sirol tra’n parhau i gwmpasu meysydd traddodiadol fel buddsoddi mewn ysgolion, ffyrdd, prosiectau adfywio, cynlluniau ynni, lefelau treth gyngor, cefnogaeth i fusnesau, twristiaeth a'r economi, sut y gellir datblygu gwasanaethau ar-lein ymhellach, a mwy ohonynt.

 

Mae'r ymgynghoriad blynyddol ar y gyllideb yn elfen bwysig yn ein hymdrechion i ddarparu gwasanaethau effeithiol ac effeithlon sy'n iawn i'n cymunedau, ac rwy'n si?r y bydd ar aelodau eisiau annog eu hetholwyr i gymryd rhan a dweud eu dweud.

 

Bydd yr ymgynghoriad ar gael mewn amrywiol ffurfiau, a'r dyddiad cau ar gyfer ymateb fydd 14 Tachwedd 2021. Bydd mwy o fanylion ar gael yn fuan, gan gynnwys ar dudalen ymgynghori gwefan gorfforaethol y Cyngor.

 

Aelod y Cabinet – Cymunedau

 

Bydd yr aelodau'n gwybod bod ein rhaglen fuddsoddi gwerth £2.7 miliwn yn y rhwydwaith priffyrdd lleol yn parhau ac yn gwneud cynnydd cryf ar draws y fwrdeistref sirol.

 

Mae rhaglen fuddsoddi eleni yn targedu 40 o ffyrdd lleol. Er na ellir osgoi peth anghyfleustra dros dro, gwneir pob ymdrech i darfu cyn lleied â phosibl, ac i gwblhau'r gwaith mor gyflym ac mor effeithlon â phosibl.

 

Rwy’n si?r y bydd yr aelodau hefyd yn croesawu’r newyddion bod nifer o gaeau chwarae i blant ar fin elwa o raglen adnewyddu gwerth £700,000, fydd yn caniatáu i fwy na 30 o gaeau chwarae dderbyn buddsoddiad y mae arnynt ei wir angen.

 

Bydd y cyfnod cyntaf hwn yn cychwyn yn gynnar y flwyddyn nesaf a bydd yn targedu caeau chwarae yn Abercynffig, Betws, Melin Ifan Ddu, Blaengarw, Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr, Bryncethin, Caerau, Cefn Cribwr, Cefn Glas, Corneli, Coetrahen, Tre Ifan, Mynydd Cynffig, Pencoed, Llangeinor, Trelewis, Nant-y-moel, Cwm Ogwr, Pen-y-Fai, Notais a Melin Wyllt.

 

Bydd y gwaith yn amrywio o ailwampio cyffredinol i ail-osod arwynebau mwy diogel a gosod offer newydd.

 

Rydym yn edrych am gyllid ar gyfer cyfnod nesaf y cynllun hwn, ac edrychaf ymlaen at ddod â manylion pellach i chi yn fuan.

 

Yn olaf, hoffwn gadarnhau mai Clwb Pêl-droed Carn Rovers yw'r clwb chwaraeon diweddaraf i gwblhau trosglwyddiad ased cymunedol yn llwyddiannus.

 

Maent wedi ymgymryd â rheoli Pafiliwn Cwm Garw a’r Meysydd Chwarae yng Nghwm Garw ar ôl cytuno ar brydles 35 mlynedd gyda'r Cyngor.

 

Mae cyllid o bron i £11,000 yn cael ei ddarparu i'w cynorthwyo i wneud gwelliannau, ac mae cyfraniad pellach o £10,000 yn cael ei ddarparu i gynorthwyo i brynu offer cynnal a chadw caeau newydd.

 

Hoffwn longyfarch y clwb, a chymryd y cyfle i annog sefydliadau eraill i ddod i weld sut y gallent weithio gyda ni i amddiffyn a gwella cyfleusterau cymunedol eraill yn eu hardaloedd.

 

Aelod y Cabinet - Addysg ac Adfywio

 

Ar draws y fwrdeistref sirol, mae disgyblion wedi dychwelyd i'r ysgol yn dilyn un o'r cyfnodau a wnaeth, yn anochel, amharu fwyaf ar addysg yr ydym wedi ei weld erioed.

 

Mae ysgolion a swyddogion y Cyngor wedi ymdrechu i’r eithaf i geisio lleihau'r aflonyddwch hwn, ac wedi gwneud gwaith gwych o dan  amgylchiadau anodd a heriol iawn.

 

Drwy gydol y cyfan, iechyd, diogelwch a lles disgyblion fu ein prif flaenoriaeth o hyd. Mae hyn yn parhau i fod yn wir, ac mae eu dychweliad i'r ysgol wedi cael ei gefnogi mewn nifer o ffyrdd.

 

Er nad yw Llywodraeth Cymru bellach yn ei gwneud yn ofynnol defnyddio gorchuddion wyneb yn yr ystafell ddosbarth yn rheolaidd ar gyfer staff na dysgwyr, mae ysgolion a lleoliadau addysgol eraill wedi gallu penderfynu sut y dylid eu defnyddio mewn meysydd lle mae'n debygol y bydd mwy o gymysgu cymdeithasol, megis mewn llyfrgelloedd ysgolion, ystafelloedd cyffredin a mwy.

 

Yr eithriad fu trafnidiaeth ysgol, lle mae'n ofynnol i ddisgyblion ym Mlwyddyn Saith ac uwch wisgo gorchuddion wyneb wrth deithio ar gerbydau cludiant ysgol.

 

Gofynnwyd i bob disgybl ysgol uwchradd gynnal prawf llif ochrol cyn ei ddiwrnod cyntaf yn ôl, a pharhau i wneud hynny ddwywaith yr wythnos wedi hynny.

 

Mae gan ysgolion hefyd amrywiaeth o brosesau penodol ar waith ynghyd ag asesiadau risg, gweithdrefnau hylendid, awyru digonol a mwy.

 

Er mwyn bod o gymorth i ddisgyblion, rhieni, gwarcheidwaid a gofalwyr, mae Cwestiynau a Ofynnir yn Aml wedi cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor, sy'n ymdrin â materion yn amrywio o wisgoedd a chinio ysgol i gludiant ac iechyd a diogelwch.

 

Os bydd risgiau lleol yn wahanol i sgôr y risg genedlaethol, byddwn yn gweithio ochr yn ochr ag ysgolion a phartneriaid i roi mesurau ychwanegol ar waith i flaenoriaethu iechyd, diogelwch a lles parhaus yr holl ddisgyblion.

                      

 

Aelod y Cabinet - Cenedlaethau’r Dyfodol a Llesiant

 

Bydd yr aelodau'n gwybod bod galw mawr o hyd am lety dros dro ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Er mwyn helpu i ateb y galw hwn, mae'r cyngor wedi ymrwymo i bartneriaeth newydd gyda Chartrefi Hafod ar gyfer cynllun prydles-rhent preifat newydd.

 

Nod y cynllun yw recriwtio landlordiaid preifat, a phrydlesu eu heiddo i'w ddefnyddio fel llety dros dro i bobl ddigartref.

 

Gyda chytundebau prydles rhwng un a thair blynedd, bydd landlordiaid yn derbyn incwm rhent wedi ei warantu drwy gydol y contract, fydd yn cael ei dalu bob mis mewn ôl-ddyledion.

 

Maent yn parhau i fod yn gyfrifol am yr holl atgyweiriadau strwythurol ac allanol a gosodiadau a ffitiadau, a rhaid iddynt hefyd sicrhau bod gwiriadau diogelwch nwy a thrydan perthnasol yn cael eu cynnal yn flynyddol.

 

Fodd bynnag, gall Cartrefi Hafod gynorthwyo gyda hyn, ac mae'r holl eiddo sy'n cymryd rhan yn cael ei reoli'n llawn ac yn cael ei archwilio'n rheolaidd.

 

Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys gwasanaeth atgyweirio rownd y cloc, dim ffioedd sefydlu, cynnal a chadw gerddi am ddim a mwy, y cwbl yn cael eu darparu heb unrhyw gost ychwanegol i'r landlord.

 

Yn ogystal â darparu incwm a pharhau i ddefnyddio adeiladau, nod y cynllun yw lleihau digartrefedd, a darparu cartrefi dros dro y mae angen mawr amdanynt ar gyfer teuluoedd ac unigolion wrth iddynt ddisgwyl am lety parhaol.

 

Gobeithio y bydd yr aelodau’n rhoi eu cefnogaeth i’r cynllun hwn, ac y byddwch yn cynghori unrhyw landlordiaid yn ardaloedd eich ward i ddod i wybod mwy drwy ymweld â gwefan Cartrefi Hafod.

 

Y Prif Weithredwr

 

Cyflwynais adroddiad i'r Cabinet ddoe lle yr amlinellais y cynnydd sydd wedi'i wneud o amgylch model gweithredu'r cyngor yn y dyfodol, ac roeddwn i'n meddwl y byddai'r aelodau'n falch i gael gwybodaeth pe bawn i’n mynd dros peth o’r cynnydd hwnnw yma.

 

Fel y gwyddoch, yn ystod pandemig y coronafeirws, cawsom ein hunain mewn sefyllfa lle roedd yn rhaid i ni addasu'n gyflym iawn i amgylchiadau oedd yn newid yn gyflym.

 

Roedd y cyfnod clo yn golygu bod yn rhaid symud mwyafrif helaeth staff y Cyngor a darparu cyfarpar iddynt fedru gweithio gartref.

 

Dros y misoedd a ddilynodd, llwyddasom i ddarparu nifer cynyddol o wasanaethau’r cyngor o bell neu'n ddigidol, ac roeddem yn gallu astudio sut y gallem ddysgu o'r profiad hwn i wneud newidiadau sylfaenol i'r ffordd yr ydym yn gweithredu yn y dyfodol.

 

Yn dilyn yr adolygiad parhaus hwn, rydym bellach yn datblygu model gweithio cyfunol newydd a allai weld staff yn rhannu eu hamser rhwng y cartref a'r swyddfa.

 

Bydd yr aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau newydd o alluogi o leiaf 30 y cant o'r gweithlu i weithredu o gartref erbyn 2024, er bod y canllawiau cyfredol yn dweud y gellwch barhau i weithio o gartref lle bo hynny'n bosibl.

 

Mae'r model newydd yr ydym yn gweithio arno ar hyn o bryd yn adlewyrchu'r uchelgais hon, a'i fwriad yw cynnig mwy o ddewis a hyblygrwydd.

 

Fe'i cynlluniwyd hefyd i gynyddu effeithlonrwydd gwasanaethau i gwsmeriaid wrth barhau i dargedu'r rhai sydd fwyaf o angen.

 

Mae nifer o fuddion posibl yn gysylltiedig â hyn, gan gynnwys gostyngiadau mewn traffig, lefelau llygredd ac absenoldeb salwch, arbedion ariannol, mwy o deimlad o les ymhlith ein staff, cadw a recriwtio staff yn well o fewn meysydd gwasanaeth allweddol, a chyd-fynd yn well â strategaeth ddigideiddio barhaus y Cyngor.

 

Gyda mwy na 6,000 o staff yn darparu hyd at 800 o wahanol wasanaethau'r Cyngor, bydd y model newydd yn effeithio'n bennaf ar y gweithwyr sy’n seiliedig yn y swyddfa yn hytrach nag ar y rhai sy'n gweithio ar draws meysydd fel ysgolion neu o fewn depos.

 

Rhaid dweud ein bod yn parhau i fod yn hynod falch o'r ffordd y mae staff wedi cyd-dynnu i gwrdd â heriau parhaus Covid-19.

 

Roedd hyn yn gyfle unwaith mewn oes i wneud newidiadau a gwelliannau sylfaenol i ddiwylliant gwaith y Cyngor, ac mae'n dilyn yn fuan ar ôl yr arolwg staff diweddaraf.

 

Hyd yn hyn mae canlyniadau'r arolwg wedi bod yn galonogol iawn. Er mwyn rhoi syniad i chi o rai o'r prif ffigurau, ymatebodd mwy na mil o staff i'r arolwg.

 

Nododd 86 y cant eu bod yn mwynhau eu rôl, ac roedd 67 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yn y gwaith.

 

Dywedodd 73 y cant wrthym eu bod yn fodlon ar y Cyngor fel cyflogwr, ac roedd 66 y cant wedi trafod eu hanghenion dysgu a datblygu gyda'u rheolwr llinell o fewn y 12 mis diwethaf.

 

At ei gilydd, roedd staff yn gadarnhaol yngl?n â rheoli llinell, gyda 74 y cant yn cyflwyno ymatebion cadarnhaol ynghylch cefnogaeth gan eu rheolwr llinell ac 82 y cant yn nodi cyfleoedd ar gyfer cyfathrebu dwyffordd i drafod a chodi syniadau a materion.

 

Nododd 85 y cant o'r staff eu bod yn teimlo'n ddiogel wrth gyflawni eu rôl yn ystod Covid-19, ac roedd 83 y cant yn teimlo'n dawel eu meddwl bod y Cyngor yn cymryd y mesurau iechyd a diogelwch priodol i leihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â’r gweithle.

 

Roedd mwyafrif yr ymatebwyr, sef 72 y cant, yn teimlo bod cyfathrebu corfforaethol yn ystod pandemig Covid-19 wedi bod yn effeithiol.

 

Mewn perthynas â lles staff, dywedodd 59 y cant wrthym eu bod yn gallu cwrdd â gofynion eu swydd o fewn eu horiau gwaith, a dywedodd 69 y cant eu bod yn gyffyrddus â'r gofynion gwaith a osodir arnynt yn eu rôl.

 

O ddiddordeb arbennig mewn perthynas â'n cynlluniau ar gyfer datblygu model newydd o weithio oedd y ffaith bod 84 y cant naill ai'n cytuno neu'n cytuno'n gryf y gallant weithio'n gynhyrchiol mewn amgylchedd pell.

 

Yn gyffredinol, wrth gymharu'r saith cwestiwn a ddefnyddiwyd i fesur tueddiadau rhwng y tri arolwg, roedd staff yn fwy cadarnhaol yn 2021 nag mewn arolygon blaenorol a gynhaliwyd yn 2020 a 2018.

 

Byddwn yn astudio'r canlyniadau hyn yn ofalus iawn a byddwn yn eu hystyried wrth ddatblygu'r model gweithio newydd.

 

Mae ymgysylltu â staff ac undebau llafur ar y cynigion ar y gweill, a bydd adroddiadau pellach i ddod, fydd yn rhoi manylion cadarnach ynghylch beth fydd siâp y model newydd.

 

Byddaf, wrth gwrs, yn dal i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau wrth i hyn fynd rhagddo.