Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Bydd yr aelodau wedi gweld y cyfraddau coronafeirws diweddaraf, a pha mor hynod ddifrifol yw’r sefyllfa bellach ar raddfa genedlaethol ar draws ein system iechyd a gofal cymdeithasol i gyd.

 

Mae'r Cyngor yn profi pwysau digynsail ar draws yr holl wasanaethau, ond yn enwedig mewn meysydd fel gofal cymdeithasol oedolion a phlant, cymorth cynnar, diogelu plant a lleoliadau.

 

Mae’r heriau sy'n ein hwynebu wrth recriwtio a chadw ein gweithlu gofal cymdeithasol yn effeithio'n arbennig ar y materion hyn.

 

Mae ein gallu i ymateb i'r angen i ddarparu gofal a chefnogaeth gartref yn profi i fod yn arbennig o heriol, ac fel yr adroddodd yr Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar wrth gyfarfod diwethaf y Cyngor, rydym ar hyn o bryd yn darparu cyfanswm o 640 awr yr wythnos yn fwy nag yr oeddem o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.

 

Yn wyneb yr angen cynyddol i ymestyn y pecynnau gofal presennol a darparu gofal i fwy o unigolion, y mater allweddol o hyd yw y bydd yn bosibl y bydd yn rhaid i breswylwyr ddisgwyl i'r rhain ddod ar gael.

 

Mae'r sefyllfa'n parhau i fod yn hynod o wan o ganlyniad i oedi cyn i bobl gael mynediad at driniaethau'r GIG a'u derbyn, cyflyrau cronig yn gwaethygu oherwydd Covid hir neu fwy o broblemau ynysu cymdeithasol o ganlyniad i aros gartref, ac effaith hyn i gyd ar deulu, ffrindiau a gofalwyr.

 

Mae'r gweithlu gofal cymdeithasol wedi blino ar ôl ymdrechion arwrol y 18 mis diwethaf, ac mae'r risg o losgi allan ac athreuliad o'r sector yn real iawn.

 

Ni allaf bwysleisio digon yr angen i gydnabod bod y sefyllfa bellach ar y pwynt mwyaf heriol a welsom drwy gydol y pandemig.

 

Yn ddiweddar, nododd gweinidogion Llywodraeth Cymru y bydd y system gyfan yn parhau i fod dan bwysau tra bydd y pandemig yn mynd yn ei flaen a disgwylir inni gynnal y dull o ‘fusnes fel arfer’.

 

Aeth y gweinidog iechyd cyn belled â nodi, er y gall y sefyllfa lefelu ar ôl mis Hydref, y byddwn yn dal i wynebu ein pwysau gaeaf arferol fel y ffliw a firysau anadlol eraill a allai effeithio ar y system.

 

Fodd bynnag, rydym yn parhau i gyflwyno ymateb cryf i'r heriau hyn.

 

Mae gennym gyfarfodydd lefel Aur, Arian ac Efydd yn cael eu cynnal gyda chydweithwyr y bwrdd iechyd ar lefel ranbarthol, rydym yn blaenoriaethu gofal yn ddyddiol ac mae set fanwl iawn o gynlluniau gweithredu yn eu lle, ac rydym yn adolygu, blaenoriaethu a chydlynu  gwasanaethau hanfodol yn rheolaidd ar lefel y cyfarwyddwr a phenaethiaid gwasanaeth.

 

Ers cyfarfod diwethaf y Cyngor llawn, lansiwyd ymgyrch recriwtio newydd ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol ar draws meysydd sy'n amrywio o ofal cartref a'r timau ail-alluogi i wasanaethau pobl ifanc.

 

Mae hyn yn gysylltiedig â’r ymgyrch genedlaethol ‘Gofalwn’ sy’n cael ei chynnal gan Lywodraeth Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru ac sy’n hybu manteision gweithio mewn gofal, ac sydd hefyd yn annog pobl i ymgeisio am rolau o fewn y sector.

 

Mae'r ymgyrch recriwtio yn canolbwyntio ar y buddion niferus o weithio yn y maes hwn, ac mae'n pwysleisio sut mae hyfforddiant a chefnogaeth lawn yn helpu staff i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau pobl leol.

 

Mae recriwtio gweithwyr gofal yn cael lle amlwg yn ein cynllun gweithredu, rydym wedi ailagor ein chwe gwely ailalluogi preswyl ym Mryn Y Cae yn Bracla, ac rydym wedi recriwtio dau ddarparwr newydd ychwanegol i'n fframwaith.

 

Mae ein cynllun ailadeiladu ac adfer gofal cymdeithasol wedi'i ddatblygu'n dda yn unol â Fframwaith Adfer Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

 

Rydym hefyd mewn cysylltiad agos â'r sector gofal cymdeithasol cyfan a phartneriaid, ac yn parhau i'w cefnogi i ddarparu gofal ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed.

 

Mae arnom ni eisiau i breswylwyr sy'n chwilio am waith, neu a allai fod yn ystyried eu dewisiadau gyrfa, ddeall bod gofal cymdeithasol yn cynnig cyfleoedd gyrfa gwerth chweil i unigolion o bob math o gefndiroedd.

 

Mae arnom eisiau iddyn nhw sylweddoli mai cael y gwerthoedd cywir a bod yn bositif, yn ofalgar ac yn llawn cymhelliant yw'r nodweddion pwysicaf.

 

Rydym hefyd yn atgoffa preswylwyr, sydd angen gwybodaeth neu gyngor ynghylch eu cynnal eu hunain, am ddefnyddio'r llu o wasanaethau sydd ar gael yn eu cymunedau, naill ai drwy'r Cyngor neu drwy ein partneriaid yn y trydydd sector.

 

Mae hyn yn cynnwys defnyddio Pwynt Mynediad Cyffredin y Cyngor ar gyfer gwasanaethau sy'n cynnwys gwybodaeth a chyngor, amddiffyn oedolion agored i niwed rhag niwed neu esgeulustod, a chefnogaeth i bobl sy'n gofalu am eraill.

 

Gall unrhyw un sy'n ceisio cefnogaeth ynghylch plant a theuluoedd gysylltu â thîm Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth y Cyngor, tra mae ein Cydlynwyr Cymunedol Lleol yn canolbwyntio ar y rhai na fyddai eu hanghenion fel arfer yn cwrdd â'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer gofal a chymorth.

 

Mae'r cydlynwyr yn rhan bwysig o'n dull ataliol cyffredinol o gynnal annibyniaeth a lles, fel y mae'r nifer fawr o ofalwyr yr ydym yn parhau i'w cefnogi drwy Ymddiriedolaeth Gofalwyr De Ddwyrain Cymru sy'n cynnwys llinell gymorth 24/7.

 

Yn anffodus, un agwedd ar y sefyllfa bresennol yw ei bod yn parhau i beri risg o ran mwy o gwynion ac ymholiadau drwy aelodau.

 

Mae hyn oherwydd y gall cyfran fach o'r bobl yr ydym yn eu cefnogi wynebu oedi cyn i’r anghenion yr aseswyd eu bod ganddynt gael sylw, ond rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i fynd i'r afael â hyn yn sensitif ac yn broffesiynol o dan realiti'r amgylchiadau sy'n ein hwynebu.

 

Gall pob aelod gefnogi'r ymdrechion hyn drwy hyrwyddo'r fenter recriwtio gofal cymdeithasol yn ein cymunedau, ac annog pobl i ddod ymlaen a dod i wybod mwy.

 

Yn y cyfamser, mae’r staff yn parhau i ddangos ymroddiad a phenderfyniad eithriadol, ac rwy'n si?r y bydd arnoch eisiau ymuno â mi i ddiolch iddynt unwaith eto am eu hymdrechion parhaus.

 

Yn ddiweddar, gorfododd y sefyllfa ddifrifol hon Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i wneud newidiadau o amgylch ymweliadau ysbyty a chasglu profion coronafeirws am ddim.

 

Erbyn hyn, dim ond os yw claf yn derbyn gofal diwedd oes y gall pobl ymweld ag ysbytai ar hyn o bryd, a bod yr ymweliad wedi'i gytuno ymlaen llaw gyda gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol cleifion mewnol.

 

Ar gyfer merched beichiog, gall un partner neu berson cynorthwyol fynd gyda nhw unwaith y bydd wedi cael ei gadarnhau eu bod yn esgor. Mae hyn yn cynnwys y cyfnod ôl-enedigol cyntaf cyn iddynt gael eu trosglwyddo gartref neu i ward ôl-enedigol.

 

Gall un person fynd gyda chleifion mewn ardaloedd pediatreg a babanod newyddanedig fel y cytunwyd gyda thimau clinigol. Fodd bynnag, ni chaniateir ymweld â'r wardiau cynenedigol nac ôl-enedigol.

 

Ar gyfer apwyntiadau uwchsain, caniateir i un partner fynychu'r sgan ddyddio 12 wythnos, y sgan anghysondeb 20 wythnos a rhai sganiau a drefnir drwy'r gwasanaeth beichiogrwydd cynnar.

 

Rhaid i bobl sy'n mynychu apwyntiadau cleifion allanol wneud hynny ar eu pen eu hunain, ond bydd y staff yn darparu cymorth lle bo angen ac mae mynediad Wi-Fi am ddim ar gael i gynorthwyo pobl i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau.

 

Mae'n amlwg bod yn rhaid i iechyd a diogelwch cleifion, ymwelwyr a staff barhau i fod yn brif flaenoriaeth, a gobeithiaf y bydd cymunedau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig eu cefnogaeth a'u dealltwriaeth yn ystod yr amser heriol hwn.

 

Mae cyfraddau brechu lleol yn parhau i fod yn uchel iawn, ac yn ddiweddar fe wnaethom dorri drwy'r rhwystr 100,000 am nifer y preswylwyr sydd wedi derbyn dwy ddos ??y brechlyn.

 

Fodd bynnag, mae'n parhau i fod yn hanfodol bwysig i bawb ddal i fod ar eu gwyliadwriaeth yn erbyn y coronafeirws, a gwneud popeth o fewn ein gallu i'w atal rhag lledaenu ymhellach.

 

Fel rhan o'r strategaeth gadael neb ar ôl, gall unrhyw un sy'n 16 oed neu'n h?n, nad yw wedi derbyn ei apwyntiad brechu cyntaf eto, gerdded i mewn i ganolfan a derbyn un, tra gall pobl dros 18 oed sydd eisoes wedi derbyn eu dos gyntaf wneud yr un peth ar gyfer eu hail frechiad.

 

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru a’r bwrdd iechyd yn ystyried cyngor meddygol newydd ynghylch a ellir darparu’r brechlyn i bobl ifanc rhwng 12 a 15 oed. Maent hefyd yn ystyried rhaglen atgyfnerthu arfaethedig, ac rydym yn disgwyl gwybod mwy o fanylion am y trefniadau sut y cyflwynir y ddau hyn yn fuan iawn.

 

Mae yna ddau gr?p o blant o fewn carfan y rhai 12 i 15 oed, sef y rhai sy'n hynod fregus a'r rhai nad ydynt. Mae Cwm Taf Morgannwg wedi dechrau brechu’r rhai bregus, gyda’r rheiny sy’n dod o fewn y diffiniad a ehangwyd gan y Cydbwyllgor Brechu ac Imiwneiddio (JCVI) ar 3 Medi yn cael eu gwahodd i Ganolfannau Brechu Cymunedol, gan gynnwys Ravens Court, yr wythnos nesaf. Bydd y plant hyn yn derbyn dwy ddos ??o'r brechlyn Pfizer.

 

Ar 1 Medi, cyhoeddodd y Cydbwyllgor Brechu ac Imiwneiddio (JCVI) y dylai'r unigolion bregus iawn hynny sydd â gwrthimiwnedd difrifol dderbyn trydedd dos o'r brechlyn fel rhan o'u cwrs cyntaf. Argymhellir bod y trydydd dos hwn yn Pfizer. Mae'r bobl yn y categori hwn yn cael eu hadnabod naill ai gan eu clinigwr neu drwy ffurflen hunangyfeirio. Mae'r broses hon ar y gweill a bydd brechu yn cychwyn mewn Canolfannau brechu cymunedol yr wythnos nesaf.

 

Rydym yn parhau i weithio'n agos iawn gyda Cwm Taf Morgannwg ar y rhaglen frechu ac, fel bob amser, byddaf yn rhannu manylion pellach trwy e-bost cyn gynted ag y byddant yn derfynol.

 

Mewn newyddion arall, fel rhan o'n hymrwymiad i Bolisi Adleoli a Chynorthwyo pobl o Afghanistan yn y DU, rydym wedi cytuno i ddarparu cartrefi a chefnogaeth ddiogel i hyd at dri theulu, ac rydym yn aros am gadarnhad pellach ar sut y bydd hyn yn gweithio.

 

Mae wedi bod yn galonogol gweld yr ymateb hynod gadarnhaol y mae hyn wedi'i gael gan breswylwyr, a'r ffordd y mae llawer wedi gofyn sut y gallent gynnig help a chefnogaeth.

 

Rydym wedi partneru â Chymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr i ystyried hyn, a byddem yn gofyn i unrhyw un a allai fod yn awyddus i helpu i ymweld â gwefan BAVO i gael mwy o wybodaeth am yr hyn a allai fod yn ofynnol.

 

Ar hyn o bryd, nid oes cais i bobl roi eitemau, ond efallai y bydd angen cefnogaeth gyda materion fel cyfeillio, cwmnïaeth, Saesneg llafar, dangos pobl o amgylch yr ardal, cludiant, help gyda rhedeg negeseuon ac yn y blaen.

 

Yn nes ymlaen, mae'n debygol y bydd angen am wasanaethau mwy arbenigol sy'n ymwneud â meysydd fel materion cyfreithiol, tiwtora a mentora, iechyd meddwl a chorfforol, lles a mwy.

 

Bydd mwy o wybodaeth am y cynllun a sut y bydd yn gweithio yn hysbys yn fuan, felly cadwch lygad yn agored am fanylion pellach.

 

Yn olaf, efallai y bydd aelodau eisiau atgoffa eu hetholwyr y bydd dwsinau o gyflogwyr a sefydliadau yn arddangos yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr yfory fel rhan o'n Ffair Swyddi awyr agored gyntaf.

 

Mae'r digwyddiad rhad ac am ddim, fydd wedi'i leoli mewn amryw o leoliadau gan gynnwys Dunraven Place a Stryd Caroline, yn cael ei gynnal rhwng 10 a.m. a 2 p.m.

 

Mae wedi'i drefnu mewn partneriaeth â Chyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr a Chanolfan Swyddi a Mwy a bydd yn cynnwys cyngor arbenigol am ddim a chymorth ar ystod o gyfleoedd gwaith, hyfforddiant a gwirfoddoli.

 

Mae rhai o'r cyflogwyr fydd yn cymryd rhan yn cynnwys Heddlu De Cymru, Avon Cosmetics, Bysiau First Cymru, G4S, Gyrfa Cymru a Gwasanaethau Glanhau A&R yn ogystal â MPS Industrial, Rheoli Cyfleusterau Rubicon Cymru, Harlequin Home Care Ltd a Wilmott Dixon.

 

Gydag ystod o swyddi gwag dros dro a pharhaol ar gael, mae'r ffair swyddi yn gyfle gwych i bobl ddod o hyd i waith, newid gyrfa neu gael mynediad at hyfforddiant newydd, ac rwy'n si?r y bydd yn llwyddiant mawr.