Agenda item

Derbyn y Cwestiynau canlynol gan:

Cyng Altaf Hussain ir Arweinydd

Mr Arweinydd, rydym ni i gyd yn ymateb i anghenion sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd, yr amgylchedd a dyfodol y blaned yr un pryd ag ymateb i argyfwng tai. Ellwch chi gadarnhau sut y byddwch chi’n cydbwyso’r angen i ddatblygu ein hamgylchedd a hefyd lleihau allyriadau carbon ar yr un pryd ag ymgysylltu â chymunedau ynghylch y datblygiadau arfaethedig sydd weithiau heb gael eu hystyried yn drwyadl?

 

Cyng Tim Thomas i'r Dirprwy arweinydd

Oes modd i Aelod y Cabinet dros Adnoddau ddatgelu lefelau’r sbwriel a’r malurion ar draws priffyrdd cyhoeddus y Fwrdeistref Sirol a sut mae’r lefelau hyn yn cymharu dros y pum mlynedd ddiwethaf?

Cofnodion:

Y Cynghorydd Altaf Hussain i’r Arweinydd

 

Cytunwyd y dylid gohirio'r cwestiwn hwn, fel y manylid arno yn Eitem 14 ar yr Agenda, hyd gyfarfod nesaf y Cyngor oherwydd nad oedd y Cynghorydd Hussain yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Y Cynghorydd Tim Thomas i’r Dirprwy Arweinydd

A all Aelod y Cabinet dros Adnoddau ddatgelu lefelau’r sbwriel a’r malurion ar draws priffyrdd cyhoeddus y Fwrdeistref Sirol a sut mae'r lefelau hyn yn cymharu dros y pum mlynedd ddiwethaf?

 

Ymateb

 

Bob blwyddyn caiff adroddiad annibynnol LEAMS - (System Rheoli Archwiliad Amgylcheddol Lleol) ei gynhyrchu ynghylch glendid ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn dilyn arolygon ar hap gan Cadw Cymru'n Daclus. Cynhyrchir yr adroddiad hwn ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr ond mae hefyd yn cymharu â ffigurau cenedlaethol gan fod Cadw Cymru'n Daclus yn cynnal yr arolygon hyn ledled Cymru.

 

Mae’r arolygon a gynhelir gan Cadw Cymru'n Daclus yn graddio’r ardaloedd / strydoedd a arolygwyd yn ôl categorïau glendid A i D. Y strydoedd gradd B ac uwch yw'r strydoedd y mae aelodau'r cyhoedd yn eu hystyried i fod â lefel glendid dderbyniol.

 

Felly mae % y strydoedd sy'n sgorio B neu'n uwch wedi dod yn un o'r mesuriadau allweddol o ganfyddiad glendid (y sgôr uchaf yw’r gorau).

 

Isod ceir graff a ddarparwyd gan Cadw Cymru'n Daclus sy'n cofnodi canran y strydoedd sydd ar y lefel glendid derbyniol ym Mhen-y-bont ar Ogwr o un flwyddyn i’r llall. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a gofnodwyd, cofnododd yr awdurdod ei sgôr ail orau hyd yma. Mae'r graff hefyd yn dangos y ffigurau cyfartalog a gofnodwyd ar gyfer Cymru gyfan er mwyn cymharu.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Thomas

 

A oes gan y Dirprwy Arweinydd unrhyw syniadau sut y gallai'r Cyngor gefnogi grwpiau gwirfoddol ar draws y Fwrdeistref Sirol?

 

Ymateb

 

Mae gan yr Awdurdod hanes da iawn o ran cefnogi Grwpiau Cymunedol yn nhermau casglu sbwriel, ac mae llawer ohonynt wedi dod ymlaen ers y pandemig ac mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol gan ei fod yn annog pobl i fynd allan, gwella eu hiechyd a'u lles drwy ymarfer corff a chwrdd â phobl eraill mewn cymunedau cyfagos. Roedd enghreifftiau i gyfeirio atynt, megis Ymgyrch ‘Love it Don’t Trash it.’ Roedd y Cyngor hefyd wedi ymuno â Chigfrain Pen-y-bont ar Ogwr i ddibenion casglu sbwriel ac ailgylchu.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau, fod gwirfoddolwyr o gymunedau wedi dod ymlaen fel gwirfoddolwyr ar gyfer casglu sbwriel. Fodd bynnag, roedd yn rhaid i'r Cyngor roi'r offer angenrheidiol iddynt er mwyn iddynt gyflawni'r dasg hon yn ddiogel gyda chymorth grwpiau allweddol, er enghraifft “Cadw Cymru’n Daclus.” Roedd digwyddiad i gael ei gynnal yn Wildmill dros y dyddiau nesaf, lle y byddai’r Cyngor a V2c yn arwain ymgyrch gasglu sbwriel ar yr ystadau yno ac i annog hyn mewn cymunedau eraill er mwyn eu cadw'n lanach.


Ychwanegodd ei bod yn amlwg oddi wrth y data bod casglu sbwriel wedi cynyddu ledled y Fwrdeistref Sirol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

 

Ail gwestiwn atodol gan y Cynghorydd Bridie Sedgebeer

 

Yn aml mae problemau'n codi o ran sbwriel drwy Luchio Anghyfreithlon, gan grwpiau fel Yes Cymru yn benodol. A fyddai'r Cyngor yn ystyried tynnu'r graffiti hwn oddi ar eiddo ac arwyddbyst ac yna anfon y bil am hyn i'r drwgweithredwyr yn unol â hynny.

 

Ymateb

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau y byddai'r Cyngor yn cymryd camau priodol yn erbyn hyn a gofynnodd i'r Aelod gadarnhau'r lleoliad lle roedd hyn wedi digwydd.