Agenda item

Rhybudd o Gynnig a wnaed gan y Cynghorydd RL Penhale-Thomas

Mae’r cyngor hwn yn cydnabod:

  • llwyddiant cynllun Brecwast am Ddim yn yr Ysgolion Cynradd gyda chymorth Llywodraeth Cymru 
  • ymdrechion Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru i ddarparu prydau ysgol am ddim drwy gydol y gwyliau ysgol yn ystod pandemig Covid hyd 31 Awst 2021
  • effeithiau sylweddol di-rif pryd ysgol iach cytbwys o ran maeth, gan gynnwys ar gyrhaeddiad addysgol, iechyd meddyliol a chorfforol a gordewdra mewn plentyndod
  • data a gasglwyd gan Gr?p Gweithredu Tlodi Plant (Cymru) sy’n dangos, allan o’r 129,000 o blant yn oed ysgol sy’n byw o dan y llinell dlodi yng Nghymru, nad yw 55,000 yn gymwys, yn bennaf oherwydd bod eu rhieni mewn swyddi cyflog isel sy’n eu codi uwchlaw y trothwy cymhwyster.
  • yr effaith ddifrifol a gaiff tynnu’r £20 o godiad yn y Credyd Cynhwysol yn ôl ar y teuluoedd mwyaf bregus ar draws y fwrdeistref sirol 

 

Mae’r cyngor hwn yn credu:

  • ei bod yn annerbyniol mewn cymdeithas fodern bod plant yn dal i fod yn llwgu 

 

Mae’r cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

  • ymestyn ei pholisi cymhwyster ar brydau ysgol am ddim i gynnwys yr holl blant lle mae eu teulu yn derbyn y Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau cyfwerth
  • ymestyn ei pholisi cymhwyster ar brydau ysgol am ddim i gynnwys yr holl blant lle nad oes modd i’w rhieni droi at arian cyhoeddus
  • cynnal adolygiad i edrych i mewn i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn

 

Mae’r cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i:

  • dynnu’n ôl y gostyngiad a gynlluniwyd ganddi yn y codiad i’r Credyd Cynhwysol

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Rhybudd o Gynnig canlynol gan yr Aelod uchod: -

 

“Mae'r cyngor hwn yn cydnabod:

  • llwyddiant y cynllun Brecwast Am Ddim mewn Ysgolion Cynradd a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru 
  • ymdrechion Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru i ddarparu prydau ysgol am ddim trwy gydol gwyliau’r ysgol yn ystod pandemig Covid hyd at 31 Awst 2021 
  • buddion sylweddol a niferus pryd ysgol iach, cytbwys o ran maeth, gan gynnwys cyrhaeddiad addysgol, iechyd meddyliol a chorfforol a gordewdra mewn plentyndod 
  • y data a gasglwyd gan Gr?p Gweithredu Tlodi Plant (Cymru) oedd yn tynnu sylw at y 129,000 o blant oed ysgol sy'n byw o dan y llinell dlodi yng Nghymru, ond nad yw dros 55,000 yn gymwys, yn bennaf oherwydd bod eu rhieni mewn swyddi â chyflog isel sy'n mynd â hwy dros y trothwy cymhwysedd
  • yr effaith ddifrifol y bydd tynnu'n ôl y codiad o £20 yn y Credyd Cynhwysol yn ei chael ar y teuluoedd mwyaf agored i niwed ledled y fwrdeistref sirol 

 

Mae’r cyngor hwn yn credu:

  • Ei bod yn annerbyniol mewn cymdeithas fodern fod plant yn dal i fod yn llwgu 

 

Mae’r cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

  • ymestyn ei bolisi cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim i gynnwys pob plentyn y mae ei deulu'n derbyn Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau cyfatebol 
  • ymestyn ei bolisi cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim i gynnwys pob plentyn nad oes gan ei deulu hawl i arian cyhoeddus 
  • cynnal adolygiad o'r ddarpariaeth gyffredinol o brydau ysgol am ddim  

 

Mae’r cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth y DU:

  • i dynnu'n ôl y gostyngiad arfaethedig yn y codiad mewn Credyd Cynhwysol."

 

Roedd y Rhybudd o Gynnig yn cael ei gefnogi gan y cyd-lofnodwyr, y Cynghorwyr Alex Williams a Malcolm James.

 

Yn y cyfarfod, rhoddodd cynigydd y Cynnig ac un o'r Aelodau oedd yn  ei gefnogi y cyflwyniadau pellach a ganlyn i ategu hyn.

 

Cynigydd: Yng Nghymru, mae mwy o blant mewn tlodi yn colli allan ar brydau ysgol am ddim o gymharu â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

Y ffigur hwnnw yw 55,000 o blant - dyna 42 y cant o blant oed ysgol sydd mewn tlodi yng Nghymru ac yn colli allan ar ginio ysgol. 

Y trothwy incwm yng Nghymru ar gyfer prydau ysgol am ddim yw £7,400. Ni allaf ddychmygu y gallai unrhyw aelod etholedig o'r awdurdod hwn gredu bod £7,400 yn swm sylweddol o arian wrth gael ei ystyried fel incwm blynyddol teulu.

 

Yng Ngogledd Iwerddon mae'r trothwy hwnnw bron yn ddwbl ar £14,000. 

 

Ar ben hynny, mae'r meini prawf cyfredol yn afresymol i deuluoedd sydd ganddyn nhw ddim byd yn llythrennol - pobl heb fodd i droi at arian cyhoeddus megis y bobl sy'n ceisio lloches yn y DU sydd, i bob pwrpas, heb yr un geiniog pan fyddant yn cyrraedd, tra bo eu statws mewnfudo yn cael ei benderfynu. 

 

Mae rhai plant yn bwyta cinio yn yr ysgol sy'n cynnwys brechdanau jam yn unig. Mewn gwlad sydd y bumed gyfoethocaf yn y byd, ni all hynny fod yn iawn ac nid oes modd ei gyfiawnhau.

 

Gall y we or-gymhleth, glymog, sef y system les a budd-daliadau bresennol, olygu bod plant sy'n derbyn y lefel isaf o gynhaliaeth plant yn dal ychydig dros y trothwy ac yn colli allan ar brydau ysgol am ddim. Mae'n gorfodi teuluoedd i fynd i fanciau bwyd ac, er y gallwn ddeall y rhyddhad y gall cefnogaeth banc bwyd ei gynnig, mae’r ffaith eu bod yn bodoli o gwbl yn gyhuddiad yn erbyn ein cymdeithas fodern.

 

Mae biliau cyfleustodau yn codi. 

Yswiriant Gwladol yn codi. 

Costau byw yn codi.

 

Ac mae'r codiad yn y Credyd Cynhwysol yn diflannu gan wneud pethau'n waeth byth.

 

Unwaith eto, y gaeaf hwn, bydd llawer o deuluoedd yn cael eu gorfodi i wneud y dewis rhwng gwresogi a bwyta. Y cyfan yn erbyn cefndir y rhagolygon ariannol ac economaidd mwyaf ansicr yn y cyfnod modern. 

 

Nid yw'r buddion ond yn rhy amlwg i'w gweld. Nid yn unig werth maethol cinio iawn, ond datblygu sgiliau cymdeithasol a'r lefelau canolbwyntio uwch yn sesiynau’r prynhawn. Yn y tymor hir, rydym yn siarad am effeithiau ar gyfleoedd bywyd, gyda chysylltiadau profedig, yn ddiweddarach mewn bywyd, ag iselder ysbryd, digwyddiadau hunanladdol a datblygu salwch cronig.

 

Does dim rhaid inni ond edrych ar ein cymdogion mewn rhannau o Sgandinafia, lle mae prydau ysgol am ddim yn ddarpariaeth gyffredinol.

 

A'r gost? Mae clymblaid Gwrth-dlodi Cymru yn amcangyfrif mai’r gost o ehangu’r rhaglen fyddai £10.5 miliwn y flwyddyn, tra byddai darpariaeth gyffredinol yn nes at £140 miliwn. Yn dal yn llai nag 1% o gyfanswm cyllideb refeniw Llywodraeth Cymru.

 

Efallai y bydd aelodau’n cofio bod mwy na £550 miliwn wedi’i ddarganfod hanner ffordd drwy’r flwyddyn ariannol ychydig wythnosau yn ôl ar gyfer y GIG a’r gwasanaethau cymdeithasol; ac yn fwy diweddar, fe wnaeth swyddogion ‘ddileu’ £75 miliwn cysylltiedig â chamau olaf prosiect Ffordd Liniaru’r M4. Mae hwnnw'n brosiect nad yw wedi gweld un fodfedd o darmac wedi'i osod ond y gwariwyd £135 miliwn arno.

 

Yn rhy aml, fodd bynnag, mae'n achos o wybod cost popeth ond gwerth dim. Buddsoddwch nawr, arbedwch yn nes ymlaen a medi’r wobr o boblogaeth iachach a mwy llewyrchus. 

 

Eilydd: Rwy'n si?r y byddai'r holl Aelodau'n cytuno â nodau canmoladwy'r cynnig wrth gydnabod y cyflawniadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud hyd yma ac yn ystod y pandemig, gan gynnwys clybiau brecwast am ddim, ond hefyd rydym yn galw arnynt i fynd ymhellach i gyflwyno prydau ysgol am ddim i bawb, fyddai’n sicrhau nad oes yr un plentyn sy’n byw o dan y llinell dlodi yn llwgu, a byddai hyn, yn ei dro, yn gwella cyrhaeddiad addysgol.

 

Wrth gwrs, mae yna lawer o ffactorau sy'n dylanwadu ar gyrhaeddiad addysgol ond un ohonynt yw eisiau bwyd ac mae'n un y gall y Llywodraeth ar bob lefel fynd i'r afael ag ef. Dywedai maniffesto diwethaf Llafur Cymru yn gywir “ei bod yn annerbyniol mewn cymdeithas fodern i blant fod yn dal i fod eisiau bwyd”.

 

Mae'n hollol amlwg i mi pe bai'r meini prawf cymhwysedd yn cael eu hymestyn i gynnwys pob plentyn o deuluoedd sy'n derbyn credyd cynhwysol neu gyfwerth a theuluoedd heb unrhyw hawl i arian cyhoeddus, y byddai'r sefyllfa hon yn cael ei datrys.

 

At hynny, cytunaf y dylid cynnal dadansoddiad cost a budd i ddarparu prydau ysgol am ddim yn gyffredinol. Drwy wneud hyn, gellid hefyd leihau'r canfyddiad bod yna stigma yngl?n â derbyn prydau ysgol am ddim.

 

Gallem ni fel Cyngor ddechrau trwy wneud dadansoddiad cost a budd o'r hyn y byddai'n ei gostio i ni fel awdurdod lleol i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn oed ysgol yn y Cyngor ac wedyn lobïo Llywodraeth Cymru am arian pellach i ddarparu hyn o'r cyllid canolog.

 

A hefyd, byddwn yn awgrymu y gallai mwy gael ei wneud gan ein hawdurdod lleol i adnabod y teuluoedd a dangos iddynt fod yna ffordd i gael cefnogaeth gyfrinachol os ydynt yn araf i wneud cais am brydau ysgol am ddim oherwydd y stigma canfyddedig sydd ynghlwm wrtho. Efallai ei bod yn bryd cynnal ymgyrch newydd i gael cymaint o bobl gymwys ag sydd modd i dderbyn prydau ysgol am ddim.

 

Yn olaf, fel y bydd yr Aelodau’n gwybod, mae pêl-droediwr Manchester United, Marcus Rashford, wedi bod yn eiriolwr proffil uchel dros ddarparu prydau ysgol am ddim ac wedi annog Llywodraeth y DU i gadw’r codiad o £20 yn y Credyd Cynhwysol i atal miloedd o blant rhag mynd heb fwyd. Mae rhai ASau, hyd yn oed ar feinciau’r Ceidwadwyr, yn pwyso ar Boris Johnson i gadw’r codiad yn y Credyd Cynhwysol a gyflwynwyd yn ystod y pandemig, ac felly gobeithio y gall Cynghorwyr Ceidwadol yn yr awdurdod lleol hwn hefyd gefnogi’r cynnig hwn heddiw.

 

Mae'n bryd inni fel arweinwyr cymunedol ym Mhen-y-bont ar Ogwr gymryd safiad mwy gweithredol i lobïo uwch wleidyddion ym Mae Caerdydd a San Steffan i sicrhau newid polisi cenedlaethol a dod â sgandal tlodi bwyd plant i ben. Felly anogaf yr holl Aelodau i gefnogi cynnig y Cynghorydd Penhale-Thomas. 

 

Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio - werth prydau ysgol a oedd yn dyddio'n ôl yn ôl statud i 1921. Yn 2001 cadarnhaodd fod y Llywodraeth Lafur yn rhoi gofynion maethol sylfaenol yn ôl mewn prydau ysgol. Yn ystod y pandemig roedd y Cyngor yn gwerthfawrogi prydau ysgol ac yn ystod cyni roedd prydau ysgol am ddim yn bwysig iawn i'r rheiny oedd â hawl i'w derbyn. Ychwanegodd fod Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn adolygu'r meini prawf ar gyfer prydau ysgol am ddim ac yn ddiweddarach heno, byddai Llywodraeth y DU yn pleidleisio ar p’un a ddylid gwneud y codiad o £20 yn y Credyd Cynhwysol yn barhaol ai peidio. Felly, gyda'r pethau hynny mewn cof, teimlai fod y Rhybudd o Gynnig yn bwysig iawn ac yn un yr oedd yn ei gefnogi â’i holl galon.

 

Hefyd rhoddodd Aelodau pellach eu cefnogaeth i'r Rhybudd o Gynnig.

 

Cytunodd yr aelodau i gael pleidlais wedi'i chofnodi ar y Rhybudd o Gynnig, ac roedd y canlyniad fel a ganlyn: -

 

Dros:

 

Y Cynghorwyr A Aspey, T Beedle, JP Blundell, M Clarke, N Clarke, R Collins, HJ David, P Davies, DK Edwards, J Gebbie, CA Green, G Howells, D Lewis, JE Lewis, JR McCarthy, D Patel, B Sedgebeer, CE Smith, JC Spanswick, R Thomas, T Thomas, E Venables, KJ Watts, A Williams, AJ Williams, HM Williams, J Williams, RE Young    =   28 Pleidlais

 

Yn erbyn:

 

Y Cynghorwyr T Giffard, A Pucella, K Rowlands, S Vidal   =  4 Pleidlais

 

Ymatal rhag Pleidleisio:

 

Dim.

 

PENDERFYNWYD:       Nodi bod y Rhybudd o Gynnig uchod wedi ei gefnogi a’i gario drwy bleidlais mwyafrif clir.