Agenda item

Rhaglen o Gyflwyniadau i gyfarfodydd y Cyngor yn y dyfodol

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad, a'i bwrpas oedd hysbysu’r Aelodau am y rhaglen arfaethedig o gyflwyniadau oedd i gael eu cyflwyno i gyfarfodydd y Cyngor yn y dyfodol yn 2021/22.  

 

Atgoffodd ef yr Aelodau fod y Cyngor wedi bod yn gyfarwydd â derbyn cyflwyniadau o bryd i'w gilydd gan ei randdeiliaid allweddol yn y gorffennol.

 

Yng nghyfarfod y Cyngor heddiw, byddai’r Aelodau’n derbyn cyflwyniad gan Brif Weithredwr O’r Cymoedd i’r Arfordir (V2C).

 

Mae'r cyflwyniadau arfaethedig canlynol i fod i gael eu cyflwyno i gyfarfodydd y Cyngor yn y dyfodol, yn ystod 2021/22:-

 

           Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a Phrif Gwnstabl Heddlu De Cymru - 17 Tachwedd 2021.

           Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg – 15 Rhagfyr 2021.

           Strategaeth Ariannol y Tymor Canolig (SATC) - 23 Chwefror 2022.

       Awdurdod Tân ac Achub De Cymru - 9 Mawrth 2022.

 

Dywedodd y gallai sesiynau gyda Gwahoddedigion Allanol fod yn destun peth newid, yn dibynnu ar p’un a oeddent ar gael neu beidio ar y dyddiadau a restrir uchod.

 

Bydd Dadleuon Chwarterol y Fwrdeistref Sirol yn cael eu hystyried fel rhan o fusnes agenda ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor dyddiedig 20 Hydref 2021 a 19 Ionawr 2022, meddai’r Prif Weithredwr wrth derfynu.

 

Yna gofynnodd y Maer i Jo Oak, Prif Weithredwr V2c roi cyflwyniad ar waith V2c ynghyd ag ychydig o fideos byr ynghylch cynnydd, yn enwedig yn ystod cyfnod Covid-19.

 

Ymdriniai’r cyflwyniad â’r thema ‘Cydweithio ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr Well - Cryfhau Perthynas er budd ein Cymunedau Lleol a Chymru.’

 

Esboniodd, fel rhan o Raglen Troi Rownd V2c, mai ei phrif flaenoriaethau oedd:-

 

  • Atgyweirio
  • Cartrefi Gwag
  • Addasiadau
  • Cwynion, a
  • Chydymffurfio

 

Rhoddodd y cyflwyniad beth gwybodaeth ystadegol ar gynnydd yn y meysydd uchod, ynghyd â data cysylltiedig perthnasol arall.

 

Esboniodd Prif Weithredwr V2c hefyd fod y sefydliad yn gweithio'n agos gyda datblygwyr adeiladau newydd, er mwyn rhoi rhywbeth yn ôl i gymunedau yn yr ardaloedd lle roedd datblygiadau preswyl newydd yn cael eu hadeiladu.

 

Roedd V2c wedi ymgynghori â chydweithwyr a rhanddeiliaid ynghylch y ffyrdd a'r modd yr oedd angen newid gweithio mewn partneriaeth er gwell, gan ystyried materion allweddol fel:

 

1.    Gweithio Hyblyg

2.    Lleoliadau Gweithio ac Amgylcheddau

3.    Lles cydweithwyr, a mwy

 

Roedd V2c bellach yn y broses o adolygu adborth mewn perthynas â'r mentrau hyn, ychwanegodd Prif Weithredwr V2c.

 

Yna cyfeiriodd at raglen “Cartrefi Newydd” V2c ar gyfer 202102022, gyda chynlluniau ar gyfer datblygiadau Eco-gyfeillgar newydd, gan gymryd Agenda Datgarboneiddio’r Cyngor i ystyriaeth. Câi’r mathau hyn o ddatblygiadau eu cynllunio i'w hadeiladu yn Ffordd yr Eglwys Gogledd Corneli, Heol Maesteg Tondu, Heol Ewenni Pen-y-bont ar Ogwr, Rhodfa Woodland Porthcawl, Rhodfa Brocastle Waterton, a Pharc Derwen, Coety.

 

Yna ymdriniodd Swyddogion V2c â Chynllun Cyflenwi Rhaglen (CCRh) Grant Tai Cymdeithasol (GTC) 2021, gyda gofyniad Grant oedd yn gyfanswm o £32,478,981. Mewn perthynas â hyn, ystyriwyd Cyflwyniadau Cynlluniau Datblygu Rhaglen ar gyfer: -

 

Heol y Groes, Pencoed - 24 Cartref

Ffordd yr Orsaf, Porthcawl - 20 Cartref

Llys Rhydychen Parth 1, Cwm Ogwr - 6 Cartref

Safle Ysgol Gynradd Blaen Llynfi, Caerau - 23 Cartref

Cartref Gofal Glanyrafon, Ynysawdre - 35 Cartref (caffael yn unig)

Safle DCWW, Cefn Cribwr - 16 Cartref (caffael yn unig)

15nr o Gaffaeliadau oddi ar y silff - 15 cartref

Sunnyside House, Pen-y-bont ar Ogwr - 31 Cartref

Arcêd Nolton, Pen-y-bont ar Ogwr - 43 Cartref

Sax, Pen-y-bont ar Ogwr - 36 Cartref

 

Tynnodd cynrychiolydd V2c sylw hefyd at gyfnewidiad tir newydd y sefydliad gyda’r Cyngor, fel rhan o Brosiect Ysgol Marlas.

 

Yn dilyn hyn, rhoddodd Prif Weithredwr V2c grynodeb o Adroddiad Adolygiad Blynyddol V2c, oedd yn rhoi manylion Datganiadau Ariannol ac Adolygiad Strategol V2c.

 

I gloi, roedd ffocws cyfredol Prif Weithredwr V2c yn ymwneud â:

 

  • Grant Tai Cymdeithasol o £15.8 miliwn ar gyfer adeiladu 100 cartref ar gyfartaledd bob blwyddyn ym Mhen-y-bont ar Ogwr am y dyfodol rhagweladwy
  • £9.1 miliwn i'w wario ar atgyweiriadau a gwelliannau cynlluniedig

 

Esboniodd fod gweithio mewn partneriaeth, megis gyda Chadw Cymru’n Daclus ac ar gyfer darparu cynlluniau plannu coed mewn datblygiadau tai, yn allweddol i'r Gymdeithas Dai wrth symud ymlaen.  Yn yr un modd, roedd darpariaeth barhaus Banciau Bwyd, yn ystod y pandemig.

 

Gofynnodd Aelod beth oedd y sefyllfa gyfredol mewn perthynas ag effeithlonrwydd ynni oedd yn cael ei ddarparu mewn cartrefi, yn enwedig mewn Tai Cymdeithasol yr oedd y deiliaid oedd yn byw ynddynt yn aml ar incwm isel.

 

Cadarnhaodd cynrychiolydd V2c fod rhaglen wedi'i chynllunio i wella effeithlonrwydd ynni yng nghartrefi V2c a'u bod yn rhan o gr?p cydweithredol oedd yn cael eu cefnogi drwy arian grant gan Lywodraeth Cymru i’r diben hwn ac mewn ffordd gost-effeithiol er budd deiliaid yr eiddo. 

 

Gofynnodd Aelod am yr 16 o fflatiau Rhent Cymdeithasol a’r 7 eiddo oedd yn mynd i gael eu hadeiladu ym Mharc Derwen. Gofynnodd pryd y byddai'r rhain yn barod i'w meddiannu a hefyd a fyddai'r fflatiau'n cael eu dyrannu yn unol â rhestr aros am dai y Cyngor.

 

Cadarnhaodd cynrychiolydd V2c y byddai'r holl anheddau hyn yn barod i'w meddiannu erbyn diwedd y flwyddyn ac y byddai'r fflatiau'n cael eu gosod ar yr un sail â rhestr aros y Cyngor.

 

Tynnodd Aelod sylw at y ffaith fod preswylwyr oedd yn achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol yn difetha llawer o eiddo V2c ar safleoedd datblygu lle roedd pobl yn byw, oedd yn achosi niwsans ac weithiau'n creu gwrthdaro gyda thrigolion eraill oedd yn byw mewn eiddo mewn ystadau a datblygiadau cyfagos. Weithiau, roedd hyn wedi arwain at yr Heddlu’n ymchwilio ac ymyrryd. Teimlai ef y dylai V2c roi mwy o gefnogaeth mewn achosion fel hyn.

 

Dywedodd cynrychiolydd V2c fod y cyfnod clo o ganlyniad i Covid-19 wedi dwysáu problemau fel y rhai uchod, gan fod pobl wedi cael eu cyfyngu yn eu heiddo a bod y pandemig hefyd wedi achosi i'r gwasanaethau a'r gefnogaeth gael eu tynnu’n ôl ar y dechrau. Fodd bynnag, roedd y Gymdeithas yn cymryd materion fel hyn yn ddifrifol iawn ac roedd yn gweithio gyda phobl fel y Cyngor, yr Heddlu a Rheoli Troseddwyr i geisio lleihau'r achosion hyn. Bu swyddogion o V2c hefyd yn ymgysylltu â'r trigolion, er mwyn eu hannog i roi gwybod am unrhyw broblemau o'r fath. Pe bai unrhyw gwynion o'r fath yn parhau ar ôl i denantiaid gael eu rhybuddio am eu hymddygiad gwrthgymdeithasol, yna byddent yn dilyn achos cyfreithiol. Yn anffodus, roedd iechyd a lles pobl wedi dioddef ers dechrau Covid-19, oedd wedi peri i iechyd pobl oedd yn dioddef o gamddefnyddio alcohol neu sylweddau a phroblemau iechyd meddwl ddirywio. Mewn achosion fel hyn, serch hynny, roedd preswylwyr o'r fath yn cael eu hatgyfeirio i gael cefnogaeth broffesiynol ar gyfer y problemau hyn.  Anogai hi unrhyw Aelod i ddod â chwynion yr oedd wedi eu derbyn mewn perthynas â'r materion hyn i sylw V2c.

 

Daeth y ddadl ar yr eitem hon i ben gyda’r Aelodau yn annog V2c i ymateb yn gyflymach i gwynion o bob math a natur pan gaent eu gwneud ac i barhau i wella ffyrdd o ymgysylltu â Chwsmeriaid, gan gynnwys mewn cymunedau a ystyrid yn 'unig', h.y. Ynysawdre a thenantiaid h?n, mwy anodd eu cyrraedd.                     

 

PENDERFYNWYD:    (1) Bod y Cyngor yn nodi y bydd rhaglen o gyflwyniadau yn cael ei darparu gan bartneriaid y Cyngor a Swyddog S151 y Cyngor, fel y cyfeiriwyd ym mharagraff 4.2 o'r adroddiad, yn ystod 2021/22.

                                                 (2) Ei fod yn nodi ymhellach y cyflwyniad a roddwyd heddiw gan Brif Weithredwr ac aelodau tîm V2c. 

 

Dogfennau ategol: