Agenda item

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2020/21

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant - Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2020/21 i’r Cyngor, gan ofyn i’r Aelodau nodi’r asesiadau a gyrhaeddwyd yn lleol ynghylch gwasanaethau gofal cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. 

 

Esboniodd mai hwn oedd unfed Adroddiad Blynyddol ar ddeg Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a'i fod yn seiliedig ar hunanasesiad yr Awdurdod o’r ffordd y cafodd y gwasanaethau gofal cymdeithasol eu cyflawni a’u darparu dros gyfnod o ddwy flynedd 2019/20 a 2020/21. Roedd yr adroddiad ynghlwm yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

 

Amlinellai’r adroddiad rywfaint o wybodaeth gefndir ac, yn dilyn hynny, nodai fod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 yn gosod pwyslais cryf ar hyrwyddo llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth a’r gofalwyr sydd angen cymorth. Roedd yn bwysig bod barn a lleisiau pobl a'u gofalwyr yn cael eu clywed, meddai’r adroddiad.

 

Mae'r canllawiau ar gyfer yr adroddiad yn trefnu’r adrannau yn ôl y chwe safon ansawdd genedlaethol ar gyfer llesiant. Y rhain oedd:

 

·      Gweithio gyda phobl i ddiffinio a chydgynhyrchu canlyniadau llesiant personol y mae ar bobl eisiau eu cyflawni;

·      Gweithio gyda phobl a phartneriaid i amddiffyn a hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol a lles emosiynol pobl;

·      Cymryd camau i amddiffyn a diogelu pobl rhag camdriniaeth, esgeulustod neu niwed;

·      Annog a chynorthwyo pobl i ddysgu, datblygu a chymryd rhan mewn cymdeithas;

·      Cynorthwyo pobl i ddatblygu a chynnal perthnasoedd domestig, teuluol a phersonol iach yn ddiogel;

·      Gweithio gyda phobl a'u cynorthwyo i ennill mwy o les economaidd, i gael bywyd cymdeithasol a byw mewn llety addas sy'n addas i’w hanghenion.

 

Rhydd yr adroddiad grynodeb o'r prif gyflawniadau yn 2019/20 a 2020/21 gan gymryd i ystyriaeth yr heriau a wynebwyd yn ystod pandemig Covid-19, ac mae'n cyfeirio at feysydd lle mae cynnydd wedi'i ohirio, neu lle bu angen newid blaenoriaethau o ganlyniad i'r pandemig byd-eang digynsail. Tynnai’r adroddiad sylw hefyd at y blaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yn 2021/22.  Mae’r dadansoddiad yn tynnu ar gynnydd yn erbyn y cynlluniau busnes, data perfformiad ar gyfer pob maes gwasanaeth ym maes gofal cymdeithasol oedolion a phlant, ynghyd ag adborth gan bobl, gofalwyr a staff.

 

Dangosai’r adroddiad hefyd, er gwaethaf heriau'r pandemig, fod y Cyngor, ynghyd â'i sefydliadau partner allweddol, wedi parhau i symud ymlaen gyda datblygiadau a gwelliannau gwasanaeth allweddol, ac wedi parhau i fod yn effeithiol wrth gefnogi'r rhai oedd angen gofal a chefnogaeth. Fodd bynnag, nodai ymhellach feysydd lle roedd angen gwella, a'r risgiau a'r heriau mwyaf sylweddol oedd yn wynebu’r Cyngor a'i randdeiliaid wrth symud ymlaen, a manylwyd ar y rhain yn y blaenoriaethau ar gyfer 2021/22.

 

Amlygodd yr adroddiad ymhellach, ym mis Tachwedd 2021, fod arolygiad rheoliadol llawn wedi ei gynnal o Wasanaethau Gofal Cartref y Cyngor, yr oedd ei ganlyniad yn gadarnhaol dros ben, fel y cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles.

 

Ym mis Ebrill 2021 roedd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cynnal gwiriad sicrwydd i weld pa mor dda yr oedd y Cyngor a phartneriaid, wedi sicrhau diogelwch a lles y bobl sy'n defnyddio neu y gallai fod angen iddynt ddefnyddio gwasanaethau, diogelwch y gwasanaethau y maent yn eu defnyddio, a diogelwch a lles y bobl sy'n gweithio yn y gwasanaethau hynny. Yn gyffredinol, roedd AGC wedi canfod bod yr awdurdod lleol wedi nodi'n glir ei fwriad strategol a gweithredol i gefnogi pobl ifanc, oedolion a gofalwyr bregus drwy gydol pandemig Covid-19.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles - fod yna rai blaenoriaethau gwasanaeth cyfan ac yna flaenoriaethau mwy penodol ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Gofal Cymdeithasol Plant, wrth symud ymlaen. Byddai'r Gyfarwyddiaeth yn gweithredu'r camau fel y'u nodwyd yng Nghynllun Busnes y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2021-22. Manylwyd ar yr 8 blaenoriaeth uchaf ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a lles yn 2021/22 ym mharagraff 4.11 o'r adroddiad a rhoddodd grynodeb o'r rhain er budd yr Aelodau.

 

Hefyd rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles - gyflwyniad pwynt p?er gyda chymorth cydweithwyr agos, oedd yn ymdrin â phrif feysydd allweddol Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol. Ategwyd hyn ymhellach â nifer o glipiau fideo byr gan weithwyr allweddol mewn lleoliadau Gofal Cymdeithasol, gan gydnabod y boddhad mewn swydd oedd yn dod yn sgil cynorthwyo'r rhai mwyaf agored i niwed.

 

Roedd Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol (COSC) ar 1 Medi 2021, a chadarnhaodd fod sylwadau ac awgrymiadau COSC a roddwyd gan Aelodau'r Pwyllgor, wedi cael eu hystyried yn y fersiwn ddiweddaraf o’r adroddiad.

 

Talodd y Maer deyrnged i bawb a oedd wedi cefnogi'r gwasanaeth gofal, yn enwedig dros y 18 mis diwethaf yn ystod Covid-19, yn enwedig y rhai oedd yn ofalwyr gwirfoddol a/neu ddi-dâl. Teimlai ef fod pob gofalwr wedi rhoi cefnogaeth amhrisiadwy yn ystod yr hyn a fu’n amser digynsail, na phrofwyd ei debyg erioed o'r blaen.

 

Cymeradwyodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan ychwanegu ei fod yn un o’r adroddiadau statudol pwysicaf yr oedd y Cyngor yn eu hystyried yn flynyddol. Diolchodd i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol am eu mewnbwn yn yr ystyriaeth flaenorol o'r Adroddiad Blynyddol, am lefel uchel y craffu a’r ffocws yr oeddent wedi'i roi iddo. Dymunai atgoffa'r cyhoedd a'r Aelodau fel ei gilydd, yn ychwanegol at yr Adroddiad Blynyddol, fod rheoleiddwyr wedi craffu'n ddwys ar Wasanaethau Cymdeithasol y Cyngor, ac wedi gwneud hynny fwy fyth os rhywbeth yn ystod y pandemig. Cydnabu’r ffaith fod AGC wedi cwblhau arolygiad llawn o Wasanaethau Gofal Cartref yr Awdurdod oedd wedi bod yn gadarnhaol iawn o ran ei ganlyniadau, er gwaethaf heriau parhaus y pandemig ar ben y gwaith arferol o ddydd i ddydd. Roedd hyn wedi bod yn destun gwiriad sicrwydd dilynol pellach ym mis Ebrill 2021, oedd yn ddadansoddi'r ffyrdd a'r dulliau y mae’r Cyngor a’i bartneriaid yn eu mabwysiadu, i gadw pobl yn ddiogel. Roedd hwn hefyd wedi bod yn adolygiad dilynol cadarnhaol iawn. Diolchodd yr Arweinydd i holl staff y rheng flaen yn y gweithlu gofal am eu hymdrechion di-ildio, oedd wedi rhoi eu hymrwymiad diflino i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, gan beryglu eu hiechyd eu hunain wrth wneud hynny, oedd, yn ei farn ef, yn ardderchog. Byddai'r Cyngor yn awr, wrth symud ymlaen, yn targedu'r wyth blaenoriaeth y manylwyd arnynt yn yr Adroddiad Blynyddol, ychwanegodd. Ategwyd y teimladau hyn gan y Dirprwy Arweinydd.

 

Gofynnodd Aelod beth oedd yn cael ei wneud yngl?n â recriwtio a chadw Gweithwyr Gofal.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles - fod gan y Cyngor Gynllun Gweithredu Recriwtio a Chadw manwl a chynhwysfawr iawn, yr oedd y Swyddogion yn cyfarfod yn wythnosol i’w wella a’i berffeithio ymhellach. Anogodd yr Aelodau hefyd, i roi hysbysrwydd i'r angen am Weithwyr Gofal drwy bethau fel eu cylchlythyrau ac ar y Cyfryngau Cymdeithasol. Yn yr un modd, roedd y Cyngor yn parhau i weithio gydag Adnoddau Dynol, Cyflogadwyedd Cymru a'r Adran Gyfathrebu i hybu'r swyddogaeth bwysig hon. Roeddent hefyd yn edrych ar hyblygrwydd mewn Contractau ar gyfer Gweithwyr Gofal, meddai, er mwyn annog pobl i ddod ymlaen ar gyfer y math hwn o waith.

 

Cyfeiriodd Aelod at y Gwasanaeth Cadw Babanod mewn Cof oedd yn canolbwyntio ar rieni newydd, yn enwedig yn ystod amser y pandemig. Roedd y cyfnod hwn wedi bod yn anodd iawn i rieni plant newydd eu geni. Gofynnodd sut roedd hyn yn dod yn ei flaen ac a oedd cefnogaeth yn dal i fod ar gyfer hyn, gyda rhieni â phroblemau eraill heblaw rhai o natur ariannol.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles - fod Prosiect Cadw Babanod mewn Cof yn rhagorol ac yn eithaf unigryw, yn yr ystyr ei fod yn rhywbeth nad oedd awdurdodau cyfagos eraill wedi ei ddilyn, a’i fod yn amhrisiadwy o ran cefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed, gan gynnwys y rhai newyddanedig yn ystod amser y pandemig. Roedd hwn yn wasanaeth a oedd y tu allan i faes y Gwasanaethau Cymdeithasol i raddau helaeth a mwy ym maes Cymorth Cynnar y Cyngor. Roedd y Gwasanaethau Cymorth Cynnar hefyd yn cynnwys Dechrau’n Deg yn ogystal â chefnogaeth barhaus drwy amryw ganolfannau oedd wedi eu lleoli ar draws y Fwrdeistref Sirol. Roedd ymweliadau iechyd wedi dal i gael eu cynnal hefyd yn ystod y pandemig, ychwanegodd. Gorffennodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles drwy gadarnhau y byddai’r Cyngor yn parhau i adolygu ymyriadau cyn genedigaeth hefyd yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:          Bod y Cyngor yn cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2020/21

 

Dogfennau ategol: