Agenda item

Newidiadau a Gynigiwyd i Strwythur Uwch-Reoli y Cydgyngor Trafod Telerau (CTT)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad, yn gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor i welliant a gynigiwyd i’r strwythur uwch-reoli, ac i gychwyn ar ymgynghoriad ffurfiol gyda swyddogion perthnasol y CTT gyda golwg ar strwythur uwch-reoli arfaethedig y CTT.

 

Atgoffodd yr Aelodau, fel gwybodaeth gefndir, fod y Cyngor wedi cymeradwyo strwythur Tâl a Graddio CTT newydd ym mis Tachwedd 2017.

 

Yn dilyn hynny, gwnaed newidiadau a diwygiadau pellach i hyn gan aelodau, a'r olaf ohonynt ym mis Hydref 2019, fel y cyfeirir ato ym Mharagraff 3 yr adroddiad.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod recriwtio pellach wedi digwydd ers hynny mewn perthynas â swyddi CTT, sef y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau, Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ac, yn fwy diweddar, penodi Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid.

 

Dywedodd y byddai’r Aelodau’n cofio, yn yr adroddiad blaenorol, i’r Cyngor ym mis Hydref 2019, yn dilyn adolygiad o Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol, bod y Gwasanaeth wedi cael ei symud fel ei fod yn adrodd i’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio ar y pryd, a bod y swydd honno, o ganlyniad, wedi cael ei hailddynodi’n Brif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio. Fodd bynnag, ni fu unrhyw newid yng ngraddiad y swydd hon, er bod sgôr y swydd wedi cynyddu. 

 

Yn ogystal â dyletswyddau a chyfrifoldeb y swydd hon, yn ystod pandemig Covid-19 mae deiliad y swydd hefyd wedi ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol pwysig a sylweddol o ran cynrychioli'r Cyngor ar y Gr?p Goruchwylio Strategol Rhanbarthol (GGSRh) amlasiantaethol. Mae hon yn rôl strategol a chorfforaethol lefel uchel, sy'n gofyn am awdurdod ac atebolrwydd digonol i wneud penderfyniadau ar ran y Cyngor yn gyflym, a defnyddio adnoddau yn unol â hynny. Yn achos pandemig Covid-19 a'r cyfnod adfer ac ymateb dilynol, mae deiliad y swydd hefyd yn cynrychioli'r Cyngor ar Dîm Rheoli Digwyddiadau Cwm Taf Morgannwg (IMT), yr oedd ei rôl yn cynnwys sefydlu a gweithredu'r rhaglen brofi ac olrhain a diogelu, cyswllt agos â'r Bwrdd Iechyd i ddatblygu a sefydlu canolfannau profi yn lleol a'r rhaglen frechu ac ymatebion eraill i gyngor, arweiniad a deddfwriaeth y llywodraeth wrth iddynt ddod i'r amlwg. Daeth yn amlwg nad yw'r cyfrifoldebau ychwanegol hyn wedi'u cyfyngu i bandemig Covid ac wrth inni gyrraedd cyfnod endemig maes o law, bydd gofyn parhaus am rywun ar lefel Prif Swyddog i gyflawni'r swyddogaeth gorfforaethol a strategol hon a chynrychioli'r Cyngor lle mae bygythiad neu berygl buan i ddiogelwch y cyhoedd. Mae'r rôl yn gofyn am arweinyddiaeth gref a gwaith corfforaethol agos drwy'r sefydliad ac alinio â gwaith y tîm cynllunio brys.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr, am y rhesymau a amlinellir ym mharagraff 4.6 o'r adroddiad, gan gynnwys y gofynion y mae Covid wedi'u gosod ar awdurdodau lleol nid yn unig ddoe a heddiw, ond yn y dyfodol hefyd, yr ystyrid y dylid gosod Uned Bolisi a Materion Cyhoeddus newydd ym mhortffolio Prif Swyddog y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio. Byddai hyn yn gwneud newid yn angenrheidiol ac felly yr argymhellir bod swydd y Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio - yn cael ei hailddynodi fel Prif Swyddog y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol. Mae'r dyletswyddau a rhychwant y cyfrifoldebau y bydd deiliad y swydd bellach yn eu cyflawni (fel y nodir ym mharagraffau 4.3 i 4.4 yr adroddiad) wedi'u hailwerthuso mewn disgrifiad swydd diwygiedig sy'n ymgorffori'r ystod ehangach o gyfrifoldebau gan ddefnyddio cynllun Gwerthuso Swyddi cymeradwy'r Cyngor, ac awgrymir newid o ganlyniad yn y radd i'r swydd arfaethedig fel a ganlyn: Mae gan rôl bresennol Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio ystod cyflog o £81,287 i £86,815. Mae gan rôl arfaethedig Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol ystod cyflog o £93,626 i £100,149. Byddai'r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r swydd newydd yn cael eu talu o'r cyllidebau presennol.

 

O ystyried y newid i'r portffolio a’r cyfrifoldebau ychwanegol, byddai angen ymgynghoriad statudol â deiliad cyfredol y swydd. Câi hwn ei arwain gan y Prif Weithredwr ac Adnoddau Dynol a gallai arwain at fân newidiadau yn y Disgrifiad Swydd.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr sylw’r Cyngor at y strwythur CTT cyfredol yng Nghyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr fel y nodir yn Atodiad A, gyda'r strwythur arfaethedig wedi'i nodi yn Atodiad B i’r adroddiad eglurhaol.    

 

Gofynnodd Aelod pryd y byddai'r newidiadau fel yr argymhellir yn yr adroddiad yn cael eu gweithredu, pe baent yn cael eu cymeradwyo.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai hyn o'r dyddiad y rhoddid cymeradwyaeth i greu'r swydd ddiwygiedig newydd a bod y broses ymgynghori'n cychwyn er mwyn sefydlu'r Uned Bolisi a Materion Cyhoeddus arfaethedig newydd.

 

PENDERFYNWYD:     Bod y Cyngor:

           

i.       Yn cymeradwyo'r cynnig i ailddynodi swydd Prif Swyddog Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Rheoleiddio yn Brif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol;

ii.     Yn awdurdodi'r Prif Weithredwr i gychwyn ymgynghoriad ffurfiol gyda swyddogion CTT perthnasol yng Nghyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr ac i gymeradwyo mân welliannau i'r Disgrifiad Swydd;

iii.    Yn awdurdodi’r Prif Weithredwr ymhellach i benderfynu ar y strwythur newydd a gweithredu'r newidiadau sy'n deillio o hyn yn dilyn yr ymgynghoriad;

iv.    Yn awdurdodi mân welliannau i Gyfansoddiad y Cyngor a'r Cynllun Dirprwyo Swyddogaethau mewn perthynas â chyfeiriadau at y portffolio a theitl y swydd.

 

Dogfennau ategol: