Agenda item

Diweddariad Cynllunio’r Cynllun Datblygu Lleol, y Polisi Cynllunio Cenedlaethol a Chreu Lleoedd

Cofnodion:

Rhoddwyd cyflwyniad i’r Fforwm gan Reolwr Gr?p – Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu ar y Cynllun Datblygu Lleol, y Polisi Cynllunio Cenedlaethol a Chreu Lleoedd.

 

Eglurodd Rheolwr y Gr?p – Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu fod y Cynllun Datblygu Lleol (LDP) yn strategaeth statudol, lefel uchel y mae angen paratoi ar ei chyfer ac sy’n nodi telerau defnydd tir a blaenoriaethau ac amcanion y Cyngor. Mae’r Cynllun Datblygu Lleol cyfredol yn dirwyn i ben ac mae cynlluniau ar gyfer cynllun newydd ar waith. Eglurodd fod y cynllun mewn man allweddol a bod y Cyngor wedi cyhoeddi Blaen Ddrafft o Gynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer y cyhoedd, gydag ymgynghoriad 98 wythnos wedi’i gynnal yn ystod yr Haf.  

 

Hysbysodd y Fforwm fod y Blaen Ddrafft yn adeiladu ar y Strategaeth Ddewisol, yr ymgynghorwyd yn ei chylch yn 2019. Diben yr ymgynghoriad yw ceisio barn pob un o’n cymunedau ar gam nesaf y broses Cynllun Datblygu Lleol. O’i gwblhau a’i fabwysiadu, bydd y Cynllun Datblygu Lleol Newydd yn cymryd lle’r Cynllun Datblygu Lleol cyfredol (2006-2021) fel Cynllun Datblygu statudol ar gyfer y Fwrdeistref Sirol a hynny tan 2030. Eglurodd fod y Blaen Ddrafft yn cynnwys Datganiad Ysgrifenedig sy’n amlinellu polisïau cynllunio lleol, dosraniadau defnydd tir a chyfiawnhad cysylltiedig ar sail tystiolaeth gefnogol. Mae’r Map Cynllun yn dangos y dosraniadau defnydd tir, ffiniau aneddiadau a dynodiadau cynllunio sy’n cael eu hawgrymu yn y Cynllun Datblygu Lleol ar ffurf cynllun.

 

Hysbyswyd y Fforwm gan Reolwr y Gr?p – Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu o’r 4 amcan strategol, oedd yn ceisio adlewyrchu’r polisi a’r ddeddfwriaeth genedlaethol ac ymdrin â’r materion oedd yn wynebu’r Fwrdeistref Sirol. Dywedodd fod yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Blaen Ddrafft wedi rhoi cyfle i bob aelod o’r gymuned a rhanddeiliaid allweddol i gynnig barn, gyda 1200 ymateb wedi’u derbyn. Roedd yr ymatebion yn cael eu hystyried gan swyddogion cyn penderfynu oedd angen gwneud newidiadau i’r Blaen Ddrafft. Byddai Cytundeb Cyflawni wedyn yn cael ei baratoi, gyda Llywodraeth Cymru’n argymell amserlen addas o safbwynt mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd yn ffurfiol.

 

Eglurodd Rheolwr y Gr?p - Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu egwyddorion Cymru’r Dyfodol 2040 (Y Cynllun Cenedlaethol), sef Cynllun Datblygu defnydd tir cenedlaethol ar gyfer Cymru, sy’n cymryd lle Cynllun Gofodol Cymru. Amlinella lle dylid buddsoddi mewn isadeiledd a datblygiad er lles Cymru gyfan a’i phobl mewn cysylltiad â’r Ddeddf Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol. Fframwaith ydyw sy’n seiliedig ar y Cynlluniau Datblygu Strategol (SDPs) ar lefel ranbarthol a Chynlluniau Datblygu Lleol (LDPs) ar lefel awdurdod lleol, y mae angen iddyn nhw gydymffurfio â Cymru’r Dyfodol. Dywedodd fod y Cynllun Cenedlaethol yn ogystal â Pholisi Cynllunio Cymru 11 (PPW11) yn rhoi pwyslais mawr ar gynllunio rhanbarthol drwy Gynlluniau Datblygu Lleol a mwy o bwysau ar greu lleoedd. Ystyrir Cymru’r Dyfodol 2040 gan Lywodraeth Cymru fel y cynllun datblygu cenedlaethol cyntaf. Diffinnir ardaloedd o dyfiant cenedlaethol, gyda Phen-y-bont yn cael ei hadnabod fel lleoliad strategol pwysig a thref allweddol o fewn y rhanbarth yn ogystal â bod yn rhan o Ardal Tyfiant Cenedlaethol De Ddwyrain Cymru.

 

Amlinellodd Rheolwr y Gr?p – Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu fod gan y cysyniad o Greu Lleoedd, sef y modd y mae lleoedd yn cael eu cynllunio, eu dylunio a’u rheoli, y potensial i lunio mewn modd cadarnhaol sut a ble mae pobl yn byw, yn gweithio, yn cymdeithasu, yn symud ac yn ymgysylltu. Mae’n ymwneud hefyd â sicrhau fod pob datblygiad newydd yn cyfrannu’n gadarnhaol at greu neu gyfoethogi’r amgylchedd, er mwyn i bobl, cymunedau, busnesau a natur allu ffynnu. Dywedodd fod y cysyniad wedi’i ddatblygu mewn ymateb i’r syniad o fod yn ‘ddi-le’ o fewn amgylched adeiledig, lle mae datblygiadau newydd yn ddiffygiol o safbwynt hunaniaeth, cymeriad, synnwyr cymuned neu gydberchnogaeth. Mae’n ymwneud â gwneud pethau’n well, creu cymunedau bywiog, cynaliadwy, o ansawdd da a gwella safon cynllunio’n gyfan gwbl gyda phobl yn ganolog i’r broses. Dywedodd Rheolwr y Gr?p – Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu mai’r awdurdod cynllunio lleol sydd yn y sefyllfa orau i reoli a gwella datblygiad ac ymyrryd yn briodol er budd pawb a bod modd cyflawni hyn drwy’r Cynllun Datblygu Lleol a thrwy uwchgynllunio cadarn. Bydd y system rheoli datblygiad yn herio datblygwyr drwy geisio gwelliannau ac ansawdd uwch. Eglurodd fod gan greu lleoedd gefnogaeth sylweddol drwy’r polisi cenedlaethol a’i fod yn cydymffurfio â strategaethau’r Cyngor, megis y strategaeth ddatgarboneiddio.

 

Dywedodd wrth y Fforwm fod y Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol wedi lansio Siartr Creu Lleoedd Cymru, wedi’i ddatblygu ar y cyd â rhanddeiliaid o fewn yr amgylchedd adeiladu a naturiol. Eglurodd y gallai Cynghorau Tref a Chymuned arwyddo’r siarter.

 

Cyfeiriodd aelod o’r Fforwm at y 1,200 o ymatebion i fersiwn ddrafft y Cynllun Datblygu Lleol gan ofyn a oedd y gyfradd ymateb yn gyfartal ag ymgynghoriadau eraill ar sail y Cynllun Datblygu Lleol. Hysbyswyd y Fforwm gan Reolwr y Gr?p – Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu fod yr ymatebion i fersiwn ddrafft y Cynllun Datblygu Lleol dipyn yn uwch nag yn achos y Cynllun Datblygu Lleol blaenorol, sef y Cynllun Datblygu Lleol cyntaf.

 

Tanlinellodd aelod o’r Fforwm enghraifft o greu lleoedd ar safle hen Ysgol St John’s lle y cwtogwyd ar y nifer o unedau preswyl a diolchodd i Hayley Kemp, y Prif Swyddog Cynllunio am ei rôl wrth sicrhau fod datblygiad safonol yn cael ei adeiladu ar y safle.

 

Holodd aelod o’r Fforwm a oedd unrhyw dir o eiddo’r awdurdod yn gynwysedig yn y Cynllun Datblygu Lleol. Hysbyswyd y Fforwm gan yr Arweinydd fod yr awdurdod yn cynnig nifer o safleoedd posibl fel rhan o’r broses Cynllun Datblygu Lleol. Eglurodd Rheolwr y Gr?p – Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu wrth y Fforwm fod yn rhaid cyfiawnhau’r safleoedd sy’n cael eu cynnig yn llawn ac y bydd y Cyngor yn dilyn yr un broses ag yn achos tir mewn perchnogaeth breifat. Holodd aelod o’r Fforwm a fyddai safleoedd ysgolion gwag yn cael eu gosod ar y Cynllun Datblygu Lleol. Eglurodd Rheolwr y Gr?p – Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu na fyddai safleoedd llai nad oedd yn cael eu diffinio fel bod yn strategol o reidrwydd yn cael eu gosod ar y Cynllun Datblygu Lleol, ond gellid eu dynodi fel safleoedd adfywio neu gael eu hystyried fel ar gyfer datblygiad o fewn ffiniau’r anheddiad. Tanlinellodd yr Arweinydd enghraifft Ysgol Gyfun Maesteg a fu’n destun proses gadarn cyn ei ddatblygu fel adnodd gofal ychwanegol. Hysbyswyd y Fforwm gan Reolwr y Gr?p – Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu fod datblygiadau mawr o dros 10 o dai a gynigiwyd fel safleoedd posibl yn cael eu hasesu’n fanwl cyn cael eu cynnwys ar ddrafft terfynol y Cynllun Datblygu Lleol. Sicrhawyd y Fforwm gan yr Aelod Cabinet Cymunedau y byddai safleoedd posibl yn mynd drwy broses drylwyr ac mai’r ymatebion i’r Cynllun Datblygu Lleol drafft oedd y nifer fwyaf eto a diolchodd i’r swyddogion cynllunio am eu hymdrechion wrth gyflwyno’r drafft o’r Cynllun Datblygu Lleol. Pwysleisiodd yr Arweinydd fod y Cynllun Datblygu Lleol yn broses statudol ac y byddai’n cael ei ystyried gan Arolygydd Llywodraeth Cymru ac mae gwaith y Cyngor oedd gwneud penderfyniadau yn ymwneud â’r Cynllun Datblygu Lleol.

 

Holodd aelod o’r Fforwm beth oedd yr amserlen o safbwynt adroddiad yr Arolygydd. Hysbyswyd y Fforwm gan Reolwr y Gr?p - Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu mai’r cam nesaf yn y broses yw llunio adroddiad ymgynghorol i drafod unrhyw newidiadau i’r cynllun ar sail tystiolaeth, yn ogystal ag adolygu’r cytundeb cyflwyno. Dywedodd y byddai angen ystyried llwyth gwaith yr Arolygydd  a byddai angen ychwanegu’r Cynllun Datblygu Lleol at y llwyth gwaith hwnnw. Hysbysodd y Fforwm fod y pandemig wedi arafu’r gwaith o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol a gallai fod angen 6 mis arall i gwblhau’r broses gan fynd â’r gwaith hyd at ganol 2022.

 

Holodd aelod o’r Fforwm a oedd effaith y pandemig wedi effeithio ar y Cynllun Datblygu Lleol a newid arferion gwaith. Dywedodd Rheolwr y Gr?p – Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu fod y pandemig wedi effeithio ar rai o’r polisïau ac y byddai hynny’n cael ei adlewyrchu yn y Cynllun Datblygu Lleol. Eglurodd fod y Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei adolygu’n barhaus er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni.

. 

 

CYTUNWYD:               1. Fod y Fforwm Cyngor Tref a Chymuned wedi nodi’r adroddiad.

 

2. Y dylid trefnu adroddiad cynnydd ar y Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer cyfarfod o’r Fforwm i’r dyfodol.  

Dogfennau ategol: