Agenda item

Llunio dyfodol Pen-y-bont – Trafodaethau Cyllideb 2021 Ymwneud â Chynghorau Tref a Chymuned

Cofnodion:

Adroddodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb ar y broses ymgynghori yngly?n â’r ymgynghoriad am y gyllideb, gyda’r bwriad o sicrhau ymgysylltiad effeithiol gyda Chynghorau Tref a Chymuned a thrigolion lleol. Eglurodd y bydd cyflwyniad yn cael ei roi i’r Fforwm yn ymwneud â Strategaeth Ariannol Tymor Canolog, a fydd yn gosod y sail ar gyfer anghenion cynilo a phwysau cyllidol i’r dyfodol.

 

Rhoddwyd cyflwyniad i’r Fforwm gan Reolwr y Gr?p Cynllunio Ariannol a Rheoli Cyllideb ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) er mwyn creu darlun o anghenion cynilo a phwysau cyllidol i’r dyfodol. Hysbysodd y Fforwm fod chwarter 1 yn rhagweld dangos gorwariant o £904k. Tanlinellodd effaith ariannol Covid-19 ar y Cyngor, a oedd wedi arwain at bwysau costau ychwanegol, colli incwm megis parcio, cinio ysgol a ffioedd cynllunio. Mae’n bosib na fydd modd sicrhau arbedion Strategaeth Ariannol Tymor Canolig o £1.760m yn ystod 2021-22 ac mae’n bosib y bydd diffyg yng nghasgliadau Treth y Cyngor. Serch hynny, cafwyd ambell arbediad annisgwyl gan fod y ddarpariaeth gwasanaeth wedi lleihau ychydig neu wedi dod i ben, yn ogystal ag arbedion costau teithio oherwydd llai o gyfarfodydd wyneb yn wyneb.

 

Darparwyd cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru drwy’r Gronfa Caledi Covid, sydd bellach wedi’i hesgyn tan 31 Mawrth 2022. Tanlinellodd y senarios cyllidebol posib yn Strategaeth Ariannol Tymor Canolig Chwefror 2021, gyda lleihad o £6.959m yn 2022-23 yn cael ei amlygu fel y senario cyllidebol mwyaf tebygol a hysbysodd y Fforwm po uchaf y cynnydd yng Nghyllid Allanol Agregau a'r cynnydd yn Nhreth y Cyngor, lleiaf i gyd fydd y toriadau cyllidebol gofynnol. Pwysleisiodd hefyd yr effaith y byddai cynnydd o 2% yng nghyllid Llywodraeth Cymru yn arwain at dargedau cynilo gwahanol ar gyfer lefelau gwahanol o gynnydd yn Nhreth y Cyngor.

 

Amlinellodd Rheolwr y Gr?p Cynllunio Ariannol a Rheoli Cyllideb y pwysau’n wynebu’r Cyngor megis effaith hir dymor Covid-19 wrth gyrraedd y cyfnod adfer ac ansicrwydd yngly?n lefelau cyllido; effaith Brexit ar gostau ‘ prisiau; costau staffio – cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol, Cyflog Byw Go Iawn, a chodiadau cyflog anhysbys; pwysau chwyddiant, gyda’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) cyfredol yn 3.2%, yn codi’n gyflym a phwysau demograffig. Dywedodd fod y blaenoriaethau posib yn cynnwys Busnes a’r economi’ Digartrefedd; Iechyd a lles; Digideiddio; Datgarboneiddio a lefelau Treth y Cyngor a gesglir.

 

Hysbyswyd y Fforwm gan Reolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Cydraddoldeb o’r nifer o drigolion oedd wedi ymgysylltu yn y broses ymgynghori ynly?n â’r gyllideb, gyda 5,000 yn ymgysylltu yn 2018 a 7,500 yn ymgysylltu yn 2019.  Er gwaethaf y pandemig, a oedd yn rhwystro ymgysylltiad wyneb yn wyneb, roedd 1,831 enghraifft o ryngweithio yn 2020 drwy gyfrwng cyfuniad o gwblhau arolygon, ymgysylltiad mewn sawl cyfarfod, y cyfryngau cymdeithasol ac ymgysylltiad â chyfathrebu digidol drwy Banel Dinasyddion yr awdurdod lleol. Eglurodd mai bwriad yr ymgynghoriad (a aeth yn fyw y prynhawn yma) yw i drafod mor eang â phosib a’r gobaith oedd dyblygu ymgynghoriadau wyneb yn wyneb a chyfarfodydd byw yn 2021.  Bydd dolen i’r ffurflen electronig a phosteri’n cael eu hafnon at bob Cyngor Tref a Chymuned. Bydd y tîm Ymgynghori ac Ymgysylltu’n ymgynghori’n uniongyrchol â Chynghorau Tref a Chymuned i drefnu mynychu cyfarfodydd. Hysbysodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb y bydd y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a’r Adroddiad Ymgynghori ar y Gyllideb yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet ym mis Rhagfyr.

 

Cyfeiriodd aelod o’r Fforwm at ofyn i Gynghorau Tref a Chymuned gymryd cyfrifoldeb dros weithrediadau a gwasanaethau oddi wrth y Fwrdeistref Sirol gan holi ai cynilion i’w bancio neu doriadau fyddai’r rhain. Eglurodd Rheolwr y Gr?p Cynllunio Ariannol a Rheoli Cyllideb fod y Cyngor yn defnyddio sawl dull i sicrhau arbedion y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, e.e. creu incwm a helpu i ddod o hyd i gymaint o doriadau yn y gyllideb â phosibl drwy ddefnyddio adnoddau’n fwy effeithlon yn hytrach na thorri lefelau gwasanaeth. Dywedodd yr Arweinydd y byddai’r Cyngor bob amser yn gwneud eu gorau i ddarparu’r gwasanaeth gorau, er y byddai’n debygol mai ar ffurf toriadau yn y gyllideb i’r dyfodol y byddai’r gyfradd helaethaf o arbedion i’w gweld.

 

CYTUNWYD:           Fod y Fforwm Cyngor Tref a Chymuned wedi derbyn ac ystyried yr adroddiad gan roi ystyriaeth i ymgysylltiad yn ystod y cyfnod byw.  

Dogfennau ategol: