Agenda item

Y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir

Gwahoddwyr:

 

Dave Holland - Pennaeth Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir

Cynghorydd Dhanisha Patel - Aelod Cabinet - Lles a Chenedlaethau Dyfodol

Kelly Watson - PrifSwyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddiol

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir (SRS) gyflwyniad ar waith y Gwasanaeth dros y deunaw mis diwethaf. Dywedodd fod y tri Cyngor wedi sefydlu’r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir pan oeddent yn ei chael hi'n anodd cyflawni eu Gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd a’u Safonau Masnach a Thrwyddedu oherwydd pwysau cyllidebol eithaf heriol. Eglurodd fod y syniad cydweithredol hwn o weithio yn unigryw yng Nghymru. Eglurodd eu bod wedi gosod pum blaenoriaeth, ac fe’u trafodwyd, ynghyd â'u gweledigaeth, fel rhan o'r cyflwyniad yn 2015.  Dywedodd fod cyfres newydd o ddigwyddiadau ar gyfer y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir wedi dechrau ym mis Mawrth 2020, pan ddechreuodd y cyfnod clo, gyda phobl ond yn gallu gadael eu cartrefi at ddibenion cyfyngedig, gan eu bod yn gyfrifol am iechyd cyhoeddus yr Awdurdod Lleol dros Ben-y-bont ar Ogwr a'r Ddeddf Iechyd Cyhoeddus. Ers mis Mawrth 2020 roeddent wedi alinio eu hadnoddau yn dair ffrwd waith allweddol: Profi Olrhain a Diogelu, Gorfodi Covid a Chyngor, a Niwsans a Materion Cymunedol, ynghyd â pharhau i gynnal ymyriadau ar faterion risg uchel, hylendid bwyd, a thai.

 

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir linell amser ar gyfer y Gwasanaeth dros y deunaw mis diwethaf o’r pandemig, disgrifiodd y meysydd eraill lle mae’r gwaith yn parhau a sylw’n cael ei roi, yn ogystal â’r dull gorfodi a'r hysbysiadau gwella a chau a gyflwynwyd. Ar wahân i’r materion coronafeirws, roedd y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir wedi bod yn Llys y Goron sawl gwaith yn 2021, a hynny oherwydd bod y Llysoedd wedi dechrau delio â'r ôl-groniad o waith.  Er bod llawer o staff y Gwasanaeth yn gweithio ym maes Profi ac Olrhain neu’n gweithio gyda'r Heddlu ar orfodi'r Coronafeirws, sicrhaodd y Pwyllgor fod Diogelwch Bwyd a Gwaith Iechyd y Cyhoedd wedi parhau gyda nifer o ymyriadau yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Dywedodd fod gwaith ar eiddo gwag a gwaith lles anifeiliaid wedi parhau. Eglurodd eu bod yn mesur sut yr oedd y gwasanaeth yn perfformio, a rhoddodd sylw i gr?p hynod alluog o swyddogion sy'n gweithio yn y Tîm, a bod pob un ohonynt yn frwd dros wneud gwaith da. Daeth i'r casgliad trwy ddweud bod eu heriau o ran colli adnoddau a'r angen i flaenoriaethu yn parhau, a byddai'n gweithio gyda'r Prif Weithredwr a Phrif Swyddog y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio i ddeall yr hyn y mae angen i Ben-y-bont ar Ogwr ei flaenoriaethu i ddarparu gwasanaethau. 

 

Mynegodd Aelod fod y gwaith yr oeddent wedi bod yn ei wneud wrth ymweld â'r holl safleoedd yn rhyfeddol, a’u bod yn mynd y tu hwnt i’w rolau blaenorol, ac roedd clywed bod y gwaith o ran diogelwch bwyd ac iechyd y cyhoedd yn parhau wedi tawelu ei meddwl. Gofynnodd am sicrwydd y byddai’r mater parhaus o geffylau yn yr ardal leol a’r problemau cyson gyda llosgi plastig mewn ardaloedd gwledig yn parhau i gael sylw, er mwyn diogelu anifeiliaid.

 

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir sicrwydd bod y gwaith yn mynd rhagddo, a byddai'r materion yn parhau i gael sylw.  Eglurodd fod gwaith yn ymwneud â phroblemau s?n a llygredd wedi cynyddu gan fod materion cymdogion swnllyd / annifyr yn fwy cyffredin wrth i bobl aros adref, ac roedd bygythiadau i Swyddogion wrth iddynt ymyrryd hefyd wedi cynyddu. Soniodd mai un o’r ffyrdd a ddefnyddiwyd i fynd i’r afael â hyn oedd trwy’r tîm gorfodi ar y cyd gyda’r Heddlu.

 

Dywedodd Aelod, gan gyfeirio at ymchwiliadau i fusnes am beidio â chydymffurfio â mesurau Covid, ei fod yn falch o weld eu bod yn blaenoriaethu cyngor ac addysg yn hytrach na chosbau ariannol. Fodd bynnag byddai rhai achlysuron pan fyddai'n rhaid iddynt orfodi cosbau ariannol, ac roedd yn meddwl tybed pryd y rhoddwyd y rhain, ac i ba raddau yr oedd y wybodaeth honno'n cael ei rhannu â chydweithwyr eraill yn y Cyngor e.e. y Tîm Grantiau Busnes, gan ei fod yn teimlo y byddai'n annerbyniol i fusnesau na chydymffurfiodd dderbyn grantiau cyn eraill.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir mai eu cred nhw yw y dylid dechrau gyda chyngor, cyn symud ymlaen at berswadio wrth i'r rheolaethau rheoleiddio symud trwy’r gwahanol lefelau, ond wrth i’r lefelau rhybuddio newid bu'n anodd i'r Asiantaeth Orfodi ddeall y newidiadau hynny a'u hymgorffori, ac i'r gymuned fusnes hefyd. Byddent yn gosod cosbau pan ddefnyddir arfer gwael yn gyson, a phob tro yr oeddent wedi ymyrryd roeddent wedi rhoi cyhoeddusrwydd i'r camau a gymerwyd yn erbyn y busnesau hynny ar wefan y Gwasanaethau Rheoleiddiol a Rennir, fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith.  Dywedodd eu bod yn arfer rhyngweithio’n amlach â chydweithwyr yn y Cyngor cyn y cyfyngiadau symud, ond ers gweithredu o bell efallai bod bwlch wedi agor ac y dylid archwilio hyn a mynd i'r afael ag ef.

 

Cyfeiriodd yr Aelod at y gwaith eiddo gwag a oedd yn digwydd, gwaith i ddarparu llety preswyl yn ei dyb ef, a gofynnodd a oedd unrhyw waith yn cael ei wneud i gymell pobl ddod â'r eiddo gwag hynny yn ôl at ddefnydd arferol. Ychwanegodd nad oedd yn cofio gorfod gwneud unrhyw atgyfeiriadau ar gyfer llygod mawr a fermin cyn y pandemig, ond ers y cyfyngiadau symud roedd wedi gwneud cryn dipyn. Roedd ar ddeall mai un o'r rhesymau am hyn oedd bod llawer o gaffis, bariau a bwytai canol y dref wedi cau, ac o ganlyniad roedd llygod mawr yn gorfod crwydro ymhellach i ganfod bwyd, a gofynnodd a oedd y nifer ddiweddaraf o gwynion yn parhau i fod yn uchel ers i fusnesau ail-agor.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir fod y gwasanaeth Rheoli Plâu yn cael ei ddarparu drwy drefniant contract gyda Mighty Organisation, ac nad oedd y wybodaeth honno ganddo.  Yn ystod y cyfnod clo, gwelwyd cynnydd mewn cwynion a oedd yn gysylltiedig ag eiddo gwag, natur yn ailfeddiannu ac adroddiadau am lygod mawr yn y safleoedd ac o'u hamgylch, felly byddent yn edrych ar hynny o dan y Ddeddf Atal Difrod gan Blâu. O ran y cartrefi gwag, roedd pecyn cyflawn wedi'i lunio gan ddefnyddio gorfodi'r gyfraith fel y prif fewnbwn.  Cynigiwyd y pecynnau gan y Cyngor er mwyn adfer eiddo a’i ddychwelyd at ddefnydd. Mynegodd ei fod yn elfen bwysig, nid yn unig o ran rhoi cartrefi i bobl ond i wella golwg cymunedau lleol hefyd. Dywedodd fod buddsoddiadau a busnesau lleol yn fwy tebygol o ddod i'r ardal os yw'r ardal yn edrych yn dda, ac mae cartrefi gwag yn aml yn edrych yn flêr.

 

Dywedodd y Prif Swyddog y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio nad oedd Rheoli Plâu Pen-y-bont ar Ogwr yn rhan o'r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir a dywedodd fod adroddiad diweddar wedi'i gyhoeddi i'r Cabinet gan fod y contract i fod i gael ei adnewyddu.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol fod amrywiaeth o becynnau cymorth ar gael ar y wefan ar gyfer pobl ag eiddo gwag. Eglurodd ei bod wedi gwneud cyhoeddiad yng nghyfarfod y Cyngor fis diwethaf yngl?n â chael landlordiaid preifat i'w rhentu iddynt, rhywbeth yr oeddent wedi'i wneud pan oedd pobl yn ei chael hi'n anodd rhentu eu heiddo. Dywedodd fod llawer o grantiau ar gael hefyd. Eglurodd fod yr adroddiad i'r Cabinet ynghylch Rheoli Plâu wedi digwydd ym mis Medi.

 

Diolchodd Aelod i'r tîm am y gefnogaeth a roddwyd i'w cymunedau drwy gydol y cyfnod, mae'n rhaid ei fod wedi bod yn gyfnod erchyll iddynt. Eglurodd bod un o sleidiau’r cyflwyniad wedi dangos bod mwy o hysbysiadau gwella wedi’u cyflwyno ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr nac yng Nghaerdydd. O ystyried y raddfa, gallai hyn awgrymu fod rhyw fath o anghymesuredd, ac y byddai rheswm penodol am hynny. Holodd yr Aelod sut yr oeddent yn asesu'r galw o ran parhad busnes, a hwythau â chymaint o gyfrifoldeb amlddisgyblaeth, â chymaint o flaenoriaethau a oedd yn cystadlu â'i gilydd, a holodd sut y gallent gyflawni eu rhwymedigaethau i'r holl ddisgyblaethau hynny ar adeg pan fyddai llawer o flaenoriaethau cystadleuol.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Rheoleiddio fod adegau pan oeddent wedi teimlo eu bod yn cael eu tynnu i sawl cyfeiriad a dyna pam yr oeddent yn parhau i gael deialog am yr hyn y mae Pen-y-bont ar Ogwr ei angen, a dyma pam eu bod yn cael deialog â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan am eu blaenoriaethau. Byddai'n broses o resymoli a phenderfynu ble y gallent gael yr effaith fwyaf a darparu'r manteision mwyaf. Roedd eu gwaith Coronafeirws wedi amlygu bod angen iddynt fod yn y cartrefi gofal ac o'u hamgylch, gan mai yno mae’r rhai mwyaf agored i niwed yn y gymuned, roedd yn amlwg bod angen iddynt helpu'r Tîm Iechyd a Diogelwch o amgylch ysgolion, a’r bobl ifanc agored i niwed yno a'r potensial i gyfyngu ar ledaeniad y feirws. Mae bwyd yn cael effaith uniongyrchol ar ein hiechyd, ond mae llety a thai'n cael effaith arafach, a phe na baent yn delio â thai o ansawdd gwael gallai hyd oes pobl ddisgyn yn sylweddol. Dywedodd ei fod yn ailasesiad parhaus o'r angen a pha feysydd y gallent gael yr effaith fwyaf a ble fyddai orau i osod eu hadnoddau. O ran nifer yr hysbysiadau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, dywedodd fod tri swyddog, un sy’n gweithio ym Mhen-y-bont ar Ogwr, un ym Mro Morgannwg, ac un yng Nghaerdydd, ac maent yn cyfarfod yn rheolaidd er mwyn bod yn gyson yn eu gweithrediad ac yn eu hymateb i'r hyn y maent wedi'i ganfod. Aeth yn ei flaen i ddweud nad oedd wedi disgwyl cysondeb o ran hysbysiadau, roedd Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod ychydig yn uwch ond roedd hynny'n adlewyrchu'r hyn a ganfuwyd a'r ymateb gan rai o'r busnesau, gyda nifer ohonynt yn herio'r hyn yr oedd yr hysbysiadau hynny'n ei ofyn. Roedd yn hyderus bod gwaith da wedi'i wneud ac na fyddai'n darogan gormod o'r hysbysiadau, yn y pen draw credai y byddent yn gweld bod y gymuned fusnes yn cydymffurfio'n weddol dda gan gymryd ei chyfrifoldeb o ddifrif.

 

Dywedodd yr Aelod fod ei bryderon o ran y nifer anghymesur wedi’u lleddfu, ac roedd ganddo ddiddordeb gwybod pa asesiadau lleol a gynhelir cyn iddynt ymgysylltu ag SRS.

 

Diolchodd Aelod am yr holl waith cyn Covid a thrwy gydol y pandemig, a gofynnodd am y sefyllfa bresennol gyda Phrofi ac Olrhain, o ran sut roedd tafarndai'n ymateb ac yn delio â phethau. Soniodd am ymweld â dwy dafarn, un lle'r oedd 100 o bobl yno a neb yn gwisgo mygydau, ac mewn cyferbyniad aeth i un arall am ginio lle gwelodd fygydau’n cael eu gwisgo a manylion olrhain yn cael eu cofnodi. Pryder yr Aelod oedd y dryswch amlwg sy’n dal i fod ynghylch sut mae tafarndai a chlybiau'n delio â hyn ac ag olrhain pobl.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Rheoleiddio fod y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau gymryd camau rhesymol i atal lledaeniad y feirws o’u sefydliadau ac o fewn eu sefydliadau, ac wrth i'r gyfradd heintio godi newidiwyd y mesurau rhesymol hynny o gymharu â phan oedd y gyfradd heintio yn is. Un o'r mesurau hynny oedd bod angen casglu manylion y rhai ar y safle, er iddo gynghori nad yw pob busnes yn gwneud hynny, a'r her oedd adnabod y pwynt lle credir bod busnes wedi bod yn afresymol wrth beidio â gwneud rhai pethau, ac a fyddai angen iddynt ymyrryd. Mynegodd Pennaeth y Gwasanaeth Rheoleiddio pa mor abs?rd oedd y rheolaethau, gyda phobl bellach yn cael bod yn eithaf agos heb unrhyw fygydau ac eto roedd gofyniad o hyd i wisgo un wrth fynd i siop.  Roedd yn fater polisi a oedd yn cael ei adolygu'n rheolaidd gan Lywodraeth Cymru.

 

Canmolodd Aelod y Tîm gan iddo dderbyn ymatebion amserol, effeithiol, defnyddiol a chydymdeimladol i’w negeseuon. Roedd hefyd wedi cael ei ddiweddaru'n aml heb orfod mynd ar drywydd rhai o'r materion mwy cymhleth, ac yntau’n atgyfeiriwr ar lawer o faterion o fewn ei faes ac yn gysylltiedig â'r ganolfan gymunedol a oedd yn gorfod trafod cymhlethdodau gofynion Covid yn arbennig yn ogystal â gweithgareddau lluosog y ganolfan gymunedol honno.

 

Mynegodd Pennaeth y Gwasanaeth Rheoleiddio fod sefyllfa canolfannau cymunedol yn ddifyr y llynedd, gan fod anghysondebau yn bodoli, gallai tri deg o bobl fod yno mewn dosbarth ymarfer corff ond ni chai pump o blant ifanc ymarfer y recorder neu offerynnau pres, ac roeddent wedi gwneud eu gorau i geisio cyfleu hynny.

 

Roedd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol am ddiolch i'r Pwyllgor am eu holl sylwadau cadarnhaol. Roedd yn ymwybodol nad oedd SRS yn aml yn bresennol ym Mhwyllgorau Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd hefyd am gofnodi ei diolch i'r staff yn SRS a oedd wedi dod draw i helpu'r ymateb pandemig ar yr ochr Profi ac Olrhain. Eglurodd fod y staff wedi gorfod ysgwyddo tipyn o faich fel y soniwyd eisoes, roedd yr SRS yn hyfforddi eu staff yn dda ac roedd llawer o waith wedi mynd ymlaen y tu ôl i'r llenni i sicrhau nad oedd y perfformiad yn gostwng. Dywedodd fod angen iddynt fod yn ystyriol gan fod recriwtio yn broblem ar draws yr Awdurdod Lleol.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Rheoleiddio mai Prifysgol Metropolitan Caerdydd yw’r brifysgol sy’n hyfforddi Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd, a bod y niferoedd ar y cwrs wedi lleihau'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ond fel rhan o'u hymdrechion i ddelio â heriau'r coronafeirws a pharhau â'r gwaith y maent yn gyfrifol amdano, cafodd 25-30 o'r myfyrwyr hynny eu recriwtio dros y misoedd i helpu gyda'r gwaith hwnnw. Gan fod swyddogion wedi gadael y gweithlu parhaol roedd rhai o'r myfyrwyr hynny wedi ymuno â nhw'n barhaol, felly roedd llif o staff i mewn i'r sefydliad i gael eu hyfforddi a’u datblygu. Cyfaddefodd ei bod yn her barhaus i gael pobl ifanc i mewn i'r gwasanaeth ac i ennill y sgiliau yr oeddent eu hangen, ac roeddent yn awyddus i recriwtio'r mathau cywir o unigolion, rhai a allai ymgysylltu â'r gymuned. Diolchodd i Bennaeth y Gwasanaeth Rheoleiddio am wneud gwaith rhagorol.

 

Gwnaeth y Pwyllgor yr Argymhellion canlynol:

 

1.    Bod angen ymateb ysgrifenedig mewn perthynas â sut mae blaenoriaethau'n cael eu hasesu'n lleol er mwyn ymgysylltu â gwasanaethau SRS.

 

2.    Holodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth ynghylch unrhyw gynnydd yn nifer y llygod mawr, er mwyn penderfynu a oedd hwn yn fater lleol.

 

Argymhellodd yr Aelodau y dylid rhannu data ar ddyfarnu grantiau yn fewnol, ar gyfer busnesau nad ydynt yn cydymffurfio.

Dogfennau ategol: