Agenda item

Model Darparu Gwasanaethau ar gyfer y Dyfodol

Gwahoddwyr:

 

Mark Shephard - Prif Weithredwr

Cynghorydd Hywel Williams - Dirprwy Arweinydd

Kelly Watson - PrifSwyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddiol

Debra Beeke - Rheolwr Gr?p - Adnoddau Dynol a Datblygu Trefniadaethol

Lisa Jones - Arweinydd Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol ac Arian Adfywio

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr a oedd yn cynnwys yr heriau yr oedd pob awdurdod lleol a sefydliad gwasanaethau cyhoeddus yn eu hwynebu wrth i’r cyfnod o adfer ddechrau yn sgil y pandemig.  Ar nodyn mwy cadarnhaol, roedd hefyd yn cyfeirio at y cyfleoedd sy’n bodoli ac am groesawu rhai o'r newidiadau a oedd wedi digwydd dros y deunaw mis diwethaf, ac am geisio eu hymgorffori mewn model sy’n addas i'r diben ar gyfer yr Awdurdod wrth barhau, ac un sydd, yn bwysicaf oll, yn dal i ddarparu gwasanaethau effeithiol i'r cyhoedd yn ogystal â gwireddu rhai o'r manteision a nodwyd yn yr adroddiad ynghylch cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, lles staff, cynhyrchiant uwch ac ôl troed carbon is.

 

Teimlai ei bod yn bwysig cydnabod nad mater i Ben-y-bont ar Ogwr yn unig yw hyn, ond bod Prif Weithredwyr eraill yng Nghymru hefyd yn gwneud gwaith tebyg ac yn archwilio atebion. Roedd yr adroddiad yn fwy manwl na’r adroddiad i’r Cabinet, a hynny er mwyn rhoi sicrwydd a’r manylion diweddaraf i'r Aelodau am y math o waith a oedd yn cael ei wneud. Roedd yn rhestru’r egwyddorion strategol yr oeddent yn gweithio arnynt i ddatblygu'r model a'r manteision a'r heriau a fydd yn bodoli wrth symud ymlaen, gan arwain tuag at fodel sy’n fwy cyfunol a hybrid. Dywedodd ei bod yn annhebygol y byddai'r Awdurdod yn dychwelyd i'w ffyrdd o weithredu cyn y pandemig, lle'r oedd y rhan fwyaf o staff yn gweithio pum niwrnod yr wythnos, 8:30-5:00pm, mewn amgylchedd swyddfa. Byddai'n llawer mwy tebygol y byddent yn y pen draw yn defnyddio model lle byddai rhai staff yn parhau i weithio gartref neu o bell lle bo’n briodol, ond roeddent yn awyddus i ychwanegu gwerth at hynny, ac yn wahanol i sut oedd pethau yn anterth y pandemig, maent am greu cyfleoedd i bobl weithio yn y swyddfa pan fo angen, a chreu gwell cyfleoedd i bobl weithio mewn timau pan fo angen, ac i archebu ystafelloedd i gyfarfod. Er bod llawer o bethau'n gweithredu’n effeithiol iawn dros Teams, mae rhai pethau'n gweithio yn well o lawer wyneb yn wyneb, ac roeddent yn ymdrechu i sicrhau'r cydbwysedd hwnnw rhwng cadw ac ymgorffori rhai o'r pethau sydd wedi gweithio'n dda, gan gynnwys darparu gwasanaethau a fu’n gweithredu’n rhithwir a’n ddigidol yn bennaf, ond gan gydnabod hefyd y bu rhai problemau a heriau gyda'u gweithrediad dros y deunaw mis diwethaf. Er enghraifft, maes o law, gallent greu canolfannau o gwmpas y fwrdeistref sirol, mewn llyfrgelloedd o bosibl, lle gallai pobl gael mynediad at wasanaethau'r Cyngor mewn ffyrdd gwahanol i'r rhai a ddefnyddiwyd yn y gorffennol. Roedd yn bwysig cydnabod bod ymatebion i'r arolwg wedi dangos bod llawer o'r boblogaeth yn hoffi cael mynediad at wasanaethau'n ddigidol ac ar y we, felly mae angen cadw hynny, ond gan ddeall hefyd fod rhai pobl angen cymorth â hyn. Rhoddodd sicrwydd i'r Aelodau fod llawer o waith yn mynd rhagddo, ond pwysleisiodd na fydd atebion yn cael eu canfod yn gyflym, er ei fod yn ddarn o waith enfawr a thyngedfennol i’n cenhadaeth. Dywedodd eu bod yn ymwybodol fod y gwaith cychwynnol yn cael ei wneud mewn cyfnod interim a fydd yn parhau tan y gwanwyn nesaf o leiaf, er ei fod ef ei hun yn credu y byddai'n cymryd llawer mwy o amser na hynny i'r system gyfan gael ei hymgorffori, gan fod sôn am newidiadau posibl o ran telerau ac amodau staff, trafodaethau gydag undebau llafur a newidiadau sylfaenol yn eu buddsoddiad mewn TG i alluogi pobl i weithio'n fwy effeithiol yn barhaol, ac unwaith y byddent wedi’u hymgorffori efallai bydd modd rhesymoli am y swyddfeydd a chael gofod swyddfa llai.  Eglurodd y Prif Weithredwr nad rhaglen arbedion ydoedd, a phe bai arbedion maes o law, gellid eu buddsoddi mewn mannau eraill.  Roedd yn bwysig cydnabod bod tair mil o staff yn gweithio mewn ysgolion, felly ni fyddai llawer o'r adroddiad yn berthnasol iddynt,  nac ychwaith i staff eraill a oedd yn gweithio mewn meysydd eraill fel gofal cymdeithasol neu mewn depos. Roedd yr adroddiad yn ymwneud yn bennaf â staff swyddfa, ond hyd yn oed wedyn roedd angen cydnabod bod gan bobl rolau gwahanol ag anghenion gwahanol o ran yr amser y maent eu hangen gyda’i gilydd mewn swyddfeydd. Daeth y Prif Weithredwr i'r casgliad bod y model yr oeddent yn ei ddatblygu wedi'i lunio gan ymatebion i’r arolwg staff ac adborth gan reolwyr yngl?n â'r ffordd orau o’u galluogi i wneud eu gwaith wrth symud ymlaen.

 

Nododd y Cadeirydd fod yr adroddiad yn dweud eu bod wedi cael cyfarfodydd mentora i adolygu cynnydd, a holodd a fyddai'n bosibl i'r Aelodau gael adborth o'r cyfarfodydd hynny.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y gellid darparu crynodeb o'r camau sy’n deillio o bob cyfarfod. Eglurodd ei fod yn cael ei redeg fel Bwrdd Rhaglen, ac mai ef oedd yn ei gadeirio'n fisol, ac y gallai'r camau gweithredu fod o fwy o ddiddordeb i'r Pwyllgor gan fod llawer o'r gwaith wedi'i wneud yn y ffrydiau gwaith yn hytrach na chan y Bwrdd. Eglurodd bod rhywfaint o ymchwil gan awdurdodau eraill wedi eu helpu i ddeall sut yr oedd eu modelau'n gweithio, e.e. roedd Sir Fynwy wedi gweithredu heb brif safle swyddfeydd am bump neu chwe blynedd, felly byddai modd dysgu rhywfaint ganddynt, ac yna roedd rhywfaint o waith manwl, mewn TG er enghraifft, i geisio deall lefel y buddsoddiad sydd ei angen i sicrhau, yn briodol ac yn barhaol, y gallai pobl weithio'n effeithiol o gartref, a byddai hynny’n berthnasol i Aelodau yn ogystal â swyddogion.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Prif Weithredwr a dywedodd yr hoffai i'r Pwyllgor gael rhagor o wybodaeth mewn adroddiadau yn y dyfodol gan gynnwys achosion busnes, y broses sefydlu, yr arbedion cost posibl, yr amserlenni a’r risgiau.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddent yn cyrraedd maes o law, er nad oeddent yn barod ar hyn o bryd, ond sylfaen yr holl beth fyddai creu gwahanol achosion busnes a fyddai'n dangos gofyniad buddsoddi er enghraifft – ac na fyddent yn gwneud penderfyniadau ar fuddsoddiadau heb ddeall yn iawn beth oedd yr achos busnes ac o bosibl beth oedd y costau a'r arbedion wrth symud tuag at fodel gwahanol.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at ddatganiad y Prif Weithredwr bod yr adroddiad yn seiliedig ar staff ac ar yr adborth a roddwyd gan staff yngl?n yr hyn yr oeddent ei eisiau, a’i fod yn cydnabod na fyddai gweithio gartref yn ymwneud â TG yn unig, byddai hefyd yn ymwneud â gweithleoedd staff yn y cartref, sef a oes ganddynt le cyfforddus i weithio ynddo, ac a yw costau cyfleustodau wedi'u hystyried.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr mai'r hyn a amlygwyd oedd rhai o’r pryderon a’r materion amrywiol y bydd yn rhaid iddynt eu datrys, felly o ran staff sy'n gweithio gartref, nid offer TG yn unig fyddai hyn, byddai'n golygu sicrhau fod y rhai a ddynodir i weithio o’u cartrefi yn barhaol leoliadau â gofod desg priodol sydd yn cydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch. Fel y rhan fwyaf o sefydliadau, bu’n rhaid iddynt ymateb yn gyflym dros y deunaw mis diwethaf, ac mae’n debyg na chafwyd cyfle i sefydlu’r un dull a fyddai’n cael ei ddefnyddio pe bai'n barhaol. Unwaith y gwyddent pa staff fyddai'n gweithio gartref yn barhaol neu'n o’u cartrefi yn bennaf, wedyn byddai'n rhaid iddynt wneud yr asesiad hwnnw o ran eu meysydd gwaith a'u lle. O ran y mater arall, un o'r pethau y byddai Rheolwr y Gr?p Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol yn ei drafod gyda'r Undebau Llafur yw beth fydd gweithio gartref yn ei olygu i staff yn y dyfodol, a sut y mae mynd i'r afael â hynny yn eu telerau a'u hamodau er enghraifft, ond teimlai'r Prif Weithredwr fod ganddynt ddealltwriaeth o’r darlun llawn, ar y naill law byddai arbedion i staff o ran costau teithio, parcio ceir, costau dibrisiant ar eu ceir, ar y llaw arall gallai costau ychwanegol fodoli hefyd.

 

Eglurodd Rheolwr y Gr?p Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol y byddai'n ddarn enfawr o waith, ac er eu bod wedi trafod y trefniadau dros dro gyda'r Undebau Llafur drwy gydol y pandemig, nid oeddent wedi cael y cyfle i roi sylw priodol i’r dyfodol yn benodol. Roedd hi wedi cynnig iddynt gyfarfod yn fisol, ar wahân i'r eitem sydd ar yr agenda, gan fod angen iddynt weithio trwy agenda mor fawr, ac roedd y Prif Weithredwr wedi ymrwymo i fynychu'r cyfarfodydd hynny yn ôl yr angen.

 

Eglurodd Rheolwr y Gr?p Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol fod pecyn cyfan o bethau ar gael o ran gweithio gartref, ac mae’n rhaid rhoi blaenoriaeth i sicrhau fod staff yn gweithio'n ddiogel, ond dyma faes lle maent wedi cael cyfnod prawf hir, pan fu staff yn gweithio gartref ac yn rhoi adborth am yr hyn sydd wedi gweithio'n dda a beth sydd angen ei wella. Roedd yn credu fod rhai pobl yn teimlo mai dim ond mater o wneud y gorau o’r hyn oedd ganddynt oedd hi, tra bod eraill â’r holl offer yr oeddent ei angen. Fodd bynnag, bydd y ffenestr yn parhau i fod ar agor pe bai rhywun angen unrhyw beth er mwyn gweithio'n ddiogel gartref. Dywedodd mai dyma'r pethau sydd angen eu sylw, gyda chynlluniau clir ar gyfer y model gweithio yn y dyfodol. Cyfaddefodd nad oes ganddynt bolisi drafft ar waith ar hyn o bryd, ond maent wedi dysgu o'u profiadau a chan eraill, ac roedd angen iddynt ystyried telerau ac amodau presennol a deddfwriaeth cyflogaeth. Er na allai gynnig atebion, dywedodd fod hynny’n rhan fawr o’u cynllunio, o ran taliadau lwfans gwaith cartref, costau gweithio hyblyg a theithio, a bod angen arwain hyn oll mewn rhyw ffordd, ond eu bod am ystyried dymuniadau ac anghenion staff, ond byddai angen iddo ffitio'r model darparu gwasanaethau. Roedd yn cydnabod a’n credu fod yr adroddiad yn gwneud hyn, a bydd y modelau hynny'n amrywio o wasanaeth i wasanaeth hefyd.

 

Gofynnodd Aelod sut mae galwadau ffôn a'r targedau ateb yn cael eu monitro pan fo pobl yn gweithio gartref, a holodd a oedd system yn bodoli pan oeddent yn y swyddfa ac a ddefnyddiwyd yr un system pan oedden nhw gartref? Eglurodd yr Aelod fod nifer o drigolion wedi cysylltu â hi i ddweud ei bod wedi cymryd cryn amser i’w galwadau gael eu hateb, felly bu pryder ynghylch nifer y bobl a oedd yn ateb y galwadau. Holodd hefyd am gofnodi amser y bobl hynny sy'n gweithio gartref.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod wedi dosbarthu dadansoddiad o’r ymateb i alwadau ffôn, ac er bod modd iddynt fonitro'r galwadau i’r staff gofal cwsmeriaid, lle’r oedd y gyfradd ateb a'r cynhyrchiant wedi gwella o'i gymharu â phan oeddent yn y swyddfa, nid oedd modd monitro cyfraddau ateb unrhyw alwadau at rifau ffôn uniongyrchol y Swyddogion, boed hynny yn y swyddfa neu wrth weithio gartref. Credai mai'r ateb yn hyn o beth oedd cyrraedd sefyllfa lle defnyddir ‘drws ffrynt’ i gael mynediad i'r Cyngor, yn hytrach na chysylltu â swyddog penodol. Eglurodd eu bod yn dweud wrth y staff y gallent weithio'n fwy hyblyg ac na fyddai unrhyw oriau swyddfa craidd, sef y cyfeiriad y maent yn ei ddilyn yn awr o bosibl, ac y byddai hyn yn golygu y gallai staff ddewis eu horiau gweithio, cyn belled bod canlyniadau i’w gwaith o ran cynhyrchiant, ac os ydynt yn gwneud y gwaith sy’n ofynnol efallai nad yw o bwys pryd fyddant yn gwneud hynny. Y broblem gyda hynny yw efallai na fydd y cyhoedd neu Aelodau etholedig yn gallu cael gafael arnynt wrth ffonio. Credai'r Prif Weithredwr bod rhaid iddynt gael system lle'r oedd galwadau ffôn i'r Cyngor yn mynd trwy'r ddesg flaen, fel bo modd ei reoli a'i fonitro. Eglurodd ei fod yn enghraifft o sut y gall newid model gweithredu'r Cyngor olygu bod angen newid y systemau sy'n bwydo i mewn i'r model hwnnw hefyd. O ran monitro'r oriau gwaith, dywedodd y Prif Weithredwr fod rheolwyr awdurdodau lleol fel arfer yn rheoli drwy fonitro presenoldeb, gyda'r rhan fwyaf o'r staff yn bresennol rhwng 8:30am a 5pm, ond teimlai eu bod yn symud fwyfwy tuag at system lle mai’r mesur yw cwblhau'r llwyth gwaith cywir ar gyfer yr oriau, a hynny yn effeithiol. Byddai hynny'n ffocws sy'n seiliedig ar ganlyniadau, rhywbeth heriol lle bydd angen hyfforddiant, ac a fyddai’n amrywio ar gyfer gwahanol swyddi. Dywedodd y Prif Weithredwr eu bod yn sôn am newid radical, ac mewn sgyrsiau â sefydliadau eraill a oedd eisoes wedi croesawu gweithio o bell a gweithio cyfunol, roedd angen seilio llawer mwy ar ganlyniadau ac allbwn. Mynegodd y byddai'n newid sylweddol o ran diwylliant, ond bod angen ei groesawu, a chydnabod nad presenoldeb yw popeth.

 

Cyfeiriodd yr Aelod at fenthyg staff i'r rhaglen frechu, a holodd faint o staff oedd yn dal i gael eu defnyddio gan y rhaglen, faint ohonynt oedd ar goll o'r swyddi o ddydd i ddydd, a hefyd a oedd y Cyngor yn gwneud unrhyw beth o ran brechu plant deuddeg i bymtheg oed. Holodd yr Aelod, ynghylch cyfraddau salwch, a oedd prinder staff yn y Cyngor ar hyn o bryd oherwydd Covid a'r angen i hunan-ynysu. Yn olaf, o ran lles staff, roedd gweld cymaint o bobl yn credu fod gweithio gartref yn ffordd bositif o weithio yn beth cadarnhaol, ond beth a oedd yn cael ei wneud o ran y rhai sydd wir angen ymgysylltiad ag eraill, os ydynt yn byw ar eu pennau eu hunain a’n mwynhau gweithio a bod gydag eraill yn y swyddfa er enghraifft.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd y ffigyrau ganddo o ran y staff sydd ar secondiad mewn mannau eraill neu mewn swyddi eraill, ond un o'r heriau oedd bod cred ymysg y cyhoedd bod y pandemig wedi darfod a phopeth yn ôl fel arfer, er bod nifer sylweddol o’r staff yn dal i wneud gwaith Profi ac Olrhain ac yn cynorthwyo gyda'r rhaglen frechu, yn ogystal â staff yn ynysu a rhai yn absennol gyda Covid hir. Bu'n rhaid symud nifer o staff i’r meysydd lle gwelwyd pwysau ychwanegol o fewn gwasanaethau yn sgil y pandemig, yn enwedig o fewn Gofal Cymdeithasol ond hefyd mewn Cymorth Cynnar, Digartrefedd ac mewn mannau eraill, felly roedd nifer o bethau'n rhoi straen ar niferoedd staff. Dywedodd mai’r darlun ehangach oedd hwn, a’i fod yn ceisio cael argraff gyffredinol o'r pwysau a'r heriau yr oedd y sefydliad yn ei wynebu. Mynegodd fod hyn yn cael ei ddwysáu gan anawsterau recriwtio mewn nifer o feysydd, a bod gofal cymdeithasol yn un o'r rheini, ond bod materion penodol hefyd megis recriwtio gyrwyr a gyrwyr HGV, boed dan gyflogaeth uniongyrchol neu dan gontract, ac roedd 160 o swyddi gwag yn y Gwasanaeth Arlwyo hefyd. Eglurodd ei fod yn gyfuniad o'r holl bethau hynny.

 

 Eglurodd y Prif Weithredwr, o ran brechu plant rhwng deuddeg a phymtheg oed, na allent orfodi pobl frechu eu plant, a’i bod yn amlwg o'r canllawiau ei fod yn wirfoddol, fel pob brechiad arall, ac nad oedd unrhyw un o’u gwasanaethau wedi dweud bod yn rhaid brechu pobl. Dywedodd y Prif Weithredwr fod niferoedd da wedi derbyn brechlynnau, ond nad oedd y ffigurau ganddo ar gyfer y plant rhwng deuddeg a phymtheg oed. Cyfaddefodd y bydd hyn yn her wrth barhau, ac mai’r gwaith oedd cyfleu bod manteision brechiadau yn drech nag unrhyw risgiau.

 

Dywedodd Rheolwr y Gr?p Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol fod y nifer a secondiwyd i’r rhaglen frechu a Phrofi ac Olrhain yn isel o gymharu â'r lefelau blaenorol. Fodd bynnag, roedd llawer o ryngweithio rhwng eu sefydliad a'r sefydliadau eraill dan sylw i sicrhau bod adnoddau yn y lle iawn, a bod hynny wedi bod yn her. Oherwydd y brigiadau mewn achosion ers mis Mawrth y llynedd, o ran lefel y gweithgaredd bu adegau lle'r oeddent wedi llwyddo i berswadio staff a rheolwyr i ryddhau staff dim ond i ganfod wedyn nad oedd eu hangen. Ar y llaw arall, byddai brig arall yn digwydd gan olygu bod angen symud staff ar frys. Mynegodd eu bod wedi cael llawer o gefnogaeth ar draws y Cyngor i geisio ateb y galw, bu TGCh yn arwain y trefniadau Profi ac Olrhain gan sefydlu trefniadau gwahanol i sicrhau bod yr amrywiad mewn cyflenwad a galw yn cael ei reoli'n well.

 

Cyfeiriodd Rheolwr y Gr?p Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol at y canllawiau newydd a olygai fod yn rhaid i lai o bobl hunan-ynysu, ond â phobl yn gweithio gartref nid oedd hynny wedi cael llawer o effaith mewn gwirionedd. Pe bai aelod staff â symptomau ac yn cael diagnosis, yna byddai angen iddynt fod gartref, ac mewn rhai achosion ni allent weithio oherwydd salwch. Roedd hi'n falch o ddweud bod y nifer o staff sydd â Covid hir yn gymharol isel, ond wrth gwrs byddent yn hapusach pe na bai neb â Covid hir. O ran lles, gweithredwyd llawer o bethau drwy gydol y pandemig i ganiatáu i staff gael gafael ar adnoddau i’w hunain ac i fod yn ystyriol o’r sefyllfa waith. Un o'r cynlluniau peilot a sefydlwyd oedd dyrannu desgiau penodol y gellid eu harchebu trwy gysylltu â rheolwyr os oedd aelodau staff yn wynebu heriau wrth weithio gartref. Dywedodd fod angen iddynt gadw llygad ar hynny gan nad oeddent am i bawb ddychwelyd i’r swyddfa pan nad oedd angen, gan y gallai hynny fynd yn groes i'r modelau yr oeddent yn eu cynllunio, byddai angen trefnu, a rhan o hynny yw sicrhau bod staff sydd mewn swyddfeydd yn gallu gweithio’n ddiogel.

 

Rhoddodd Rheolwr y Gr?p Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol ffigwr o ddeg aelod staff yn Ravens Court, a hynny am resymau lles, a'r adborth a gafwyd oedd bod y staff yn elwa o'r trefniadau hynny. Roedd dros 200 o leoedd desg wedi'u harchebu hyd at fis Medi hefyd. Y cynllun peilot nesaf yr oeddent am ei weithredu oedd un i greu mwy o gyfleoedd i gynnal rhagor o gyfarfodydd. Felly, er na ellid cynnal pob cyfarfod, byddai modd cynnal gweithdai angenrheidiol, neu hyfforddiant ynghylch lles sydd angen ei gynnal wyneb yn wyneb, felly bydd angen edrych ar gyfleoedd i bobl ddod ynghyd mewn ffordd ddiogel.

 

Cyfeiriodd yr Aelod at drawsnewid digidol a’i fod wedi cyflymu, ac roedd yn chwilio am rywfaint o eglurhad yngl?n â'r henoed nad oeddent â sgiliau TG cystal, a'r hyn y gellid ei wneud i'w cefnogi, ac nid drwy eu helpu i fynd ar-lein yn unig. Holodd yr Aelod hefyd pa arbedion a oedd yn cael eu gwneud ar hyn o bryd yn y Swyddfeydd Dinesig, gan eu bod ar gau neu â mynediad cyfyngedig, a sut y bydd hynny’n cael ei wrthbwyso gan bryniant offer i weithio gartref, gan ei bod yn tybio y byddai'n rhaid prynu offer. Er y dywedwyd bod hwn yn brosiect hirdymor,  a nodwyd y gellid gwerthu unrhyw safle sy'n eiddo i'r Cyngor o ganlyniad i symud tua 30% o staff i weithio gartref.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr, o ran y darn digidol, dros y dros y deunaw mis diwethaf wrth gwrs, fod y mwyafrif llethol o'u gwasanaeth wedi gorfod cael ei ddarparu mewn ffordd ddigidol, ac o ganlyniad bod y trawsnewidiad / symudiad tuag at gyflwyno pethau'n ddigidol wedi digwydd yn gynt nac y byddai pe bawn mewn sefyllfa wahanol. Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr Aelod wedi gwneud pwynt priodol yngl?n ag allgau digidol, a bod hynny'n rhywbeth yr oeddent wedi bod yn glir arno yn y prosiect, wrth symud ymlaen roedd angen iddynt sicrhau bod y rhai yr oedd angen cymorth wedi derbyn y cymorth hwnnw.  Roedd yn rhagweld y byddai’r rhai na allent gael mynediad at wasanaethau ar-lein yn parhau i allu archebu slot i rywun eu cynorthwyo. Byddai hynny’n debygol o ddigwydd yn y Swyddfeydd Dinesig yn y lle cyntaf, ond dyw hynny ddim yn wahanol i’r cyfnod cyn y pandemig. Mynegodd y Prif Weithredwr y byddai'n well, maes o law, pe na bai'n rhaid i bobl deithio i Ben-y-bont ar Ogwr i wneud hynny. Wrth symud ymlaen, hoffai weld canolfan leol lle gall pobl gael cymorth gan staff i lenwi ffurflenni neu i gael eu tywys trwy’r broses o’i wneud ar-lein. Eglurodd y Prif Weithredwr nad oedd am golli'r cynnydd a wnaed dros y deunaw mis diwethaf, ac iddo gael adborth o'r arolwg cyllideb a oedd yn dweud bod y mwyafrif helaeth o'r cyhoedd yn awyddus i gael mynediad i'r gwasanaethau ar-lein, ond byddai'n fater o gydnabod y bydd rhai ddim eisiau hynny neu ddim yn gallu, a bydd angen gwneud trefniadau amgen ar gyfer y bobl hynny, ac roeddent wedi ymrwymo i wneud hynny.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr, o ran amserlenni ac arbedion, ar yr adeg honno, fod yr arbedion yn gymharol gyfyngedig gan fod angen Ravens Court a'r Swyddfeydd Dinesig o hyd, ac roedd rhai staff ynddynt o hyd. Hefyd, mae Ravens Court yn ganolfan frechu dorfol ac maent wedi derbyn taliad am hynny gan y Bwrdd Iechyd. Dywedodd eu bod yn dal i dalu cyfraddau ac yn gofalu am Ravens Court a bod yr arbedion yn ymylol hyd yn oed yn y Swyddfeydd Dinesig, er bod yr adeilad yn llawer gwacach roeddent yn dal i'w lanhau, a hynny yn fwy trylwyr nag o'r blaen, ac roedd llawer o'r costau sefydlog y byddent wedi'u dalu o'r blaen yn dal i fodoli. Gan edrych ymlaen at 2024 er enghraifft, gyda system wahanol o weithio wedi’i hymgorffori, roedd y Prif Weithredwr yn rhagweld y byddai'r Cyngor o bosibl yn gallu rhyddhau Ravens Court neu rai rhannau ohono, neu gellir ei ddefnyddio'n wahanol. Dywedodd eu bod wedi bod yn siarad â'u partneriaid yn y sector cyhoeddus, megis y Bwrdd Iechyd, yr Heddlu a rhai o'r Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ynghylch a oedd model gwahanol o ran rhannu gofod a allai fod yn effeithiol o safbwynt partneriaeth, neu a ellid rhyddhau rhywfaint o'r adeilad hwnnw ar gyfer y sector preifat gan y byddai'n safle swyddfa gwych yng nghanol y dref. Dywedodd eu bod wedi ymrwymo i gadw’r Swyddfeydd Dinesig, gan ddweud fod teimlad ymhlith yr Arweinwyr Grwpiau Aelodau etholedig yn enwedig bod angen i'r Cyngor gadw ei Swyddfa Ddinesig am y tro gan ei fod yn weladwy ac yn ganolfan amlwg iawn yn y dref. Dyma’r ganolfan ddemocrataidd, felly byddai'r Siambr dal yno a chyfarfodydd yn cael eu cynnal yno, efallai trwy ddulliau hybrid, a byddai pobl yn gallu gweld presenoldeb y Cyngor o hyd. Y tu hwnt i hynny, ychwanegodd ei fod yn credu y bydd cyfle i ystyried eu gofod swyddfa yn gyffredinol pan fydd y model wedi'i wreiddio, a phan fyddent yn deall pa staff fydd angen mynediad rheolaidd i swyddfa. Byddai hynny, maes o law, naill ai'n creu derbyniad cyfalaf neu incwm rhent, a diwedd y broses fyddai’r adeg pan fyddai modd gweld rhai arbedion. Daeth y Prif Weithredwr i'r casgliad bod costau ychwanegol posibl hefyd o ran buddsoddi mewn TG a newidiadau posibl mewn amodau.

 

Mynegodd Aelod ei fod yn adroddiad da, ac roedd yn cydnabod y gwaith enfawr sy'n mynd rhagddo, ac a fydd yn parhau am nifer o flynyddoedd i ddod. Mynegodd siom nad oedd yr adroddiad yn sôn bod Cynghorwyr ac Aelodau etholedig yn rhan o'r model wrth symud ymlaen, nac yn crybwyll y ffyrdd y gallent weithio ac addasu i newid. Teimlai'r Aelod y gallai Cynghorwyr fod yn awyddus i ddychwelyd i’r Siambr, neu efallai i lolfa'r Aelodau i drafod rhywbeth neu i gyfarfod ag aelod o'r cyhoedd. Teimlai y gallai rhai pethau ddigwydd yn gynt, efallai i Aelodau ddychwelyd ac arwain y ffordd, gan ddangos y gall normalrwydd ddychwelyd ar rhyw ffurf. Fodd bynnag, ychydig iawn o sôn a gafwyd am hynny yn yr adroddiad a theimlai y dylai hynny fod yn rhan ohono, gan fod aelodau etholedig yn rhan o'r Cyngor. Roedd hefyd eisiau crybwyll y perygl o greu gweithlu dwy haen ar ddamwain, gan y soniwyd na fyddai staff depo, gweithwyr gofal, a’r bobl allan yno sy'n gwneud gwaith ymarferol yn gallu gweithio gartref. Roedd posibilrwydd o greu dwy haen, ac er y gallai fod yn wych i’r rhai sydd â'r manteision hyblyg a’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu a gofal plant, beth am y rhai na allant fanteisio ar weithio hyblyg, gallent deimlo dan anfantais. Yn olaf, holodd yr Aelod, er ei fod yn gobeithio ddim, a allai hyn droi’n sgandal yn y dyfodol, tebyg i’r un YTD, lle'r oedd cwmnïau'n disgwyl i ddechrau creu hawliadau i’w cyflwyno gan staff am nad oes ganddynt y desgiau a’r offer cywir adref. Roedd yn meddwl tybed beth y gellid ei wneud ar hyn o bryd i gofnodi'r hyn a wnaed gan ei fod yn si?r y gallai rhywun fynd ati i greu’r saga YTD nesaf.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr Aelodau'n rhan bwysig iawn o'r model. Dywedodd yn gyntaf, pan soniodd am swyddogion yn defnyddio model cyfunol a hybrid, mai'r ddelfryd fyddai y byddai’r Aelodau hefyd yn dweud beth yr hoffent ei weld mewn blwyddyn neu ddwy, fel bo ganddynt ddewis i fynychu cyfarfodydd yn bersonol neu ar-lein os na allent fod yn bresennol. Ar gyfer cyfarfodydd mwy, fel rhai’r Cyngor, byddai hynny’n gofyn am fuddsoddiad meddalwedd sylweddol nad oedd ar gael eto, ond yr oeddent eisoes yn cynnal rhai cynlluniau peilot cychwynnol, y Pwyllgor Safonau oedd y cyntaf i ddangos sut y gallai'r cyfan weithio, gyda rhai yn mynychu’r Ystafelloedd Pwyllgora a rhai yn cysylltu o bell. Roedd ar ddeall y gallent gyflwyno rhywbeth yn weddol gyflym ar gyfer rhai o'r cyfarfodydd llai.  Byddai angen i’r Aelodau, yn yr un modd â’r Swyddogion,  ddewis a fyddai'n well ganddynt ddod i’r cyfarfodydd hynny yn bersonol neu a fyddai'n well ganddynt beidio â gwneud hynny. Cynghorodd eu bod yn cael etholiadau lleol fis Mai nesaf, a’r tro diwethaf roedd yn credu y bu trosiant o tua 25-26 o ran Aelodau etholedig, a bydd cyfle am fodelau gweithio newydd ar ôl mis Mai. Aeth yn ei flaen i ddweud eu bod yn datblygu porth Aelodau, ac fel y soniwyd am y cyhoedd yn cael gafael ar lawer o wybodaeth ar-lein, hoffai feddwl y gallai Aelodau hefyd gael llawer mwy o wybodaeth ar-lein drwy’r porth hwn. Byddai'r newidiadau sylweddol yn y ffordd y maent yn gweithio yn berthnasol i Aelodau yn yr un modd â swyddogion. Ymddiheurodd i'r Aelod os nad oedd yr adroddiad yn trafod yr Aelodau cymaint ag yr hoffai, ac nad oedd hynny’n fwriadol.

 

Ymatebodd y Prif Weithredwr trwy ddweud nad oedd yn credu y byddai'r model yn arwain at weithlu dwy haen, a bod hynny ond yn gydnabyddiaeth bod staff yn gwneud gwahanol swyddi. Dywedodd na allech ddisgwyl i weithiwr gofal cartref gael yr un hyblygrwydd gan fod angen iddynt fod mewn lle penodol ac amser penodol, yn yr un modd ag y byddai arolygydd priffyrdd ac athro ysgol er enghraifft. Dywedodd y byddai angen ei reoli'n ofalus ac yn fedrus iawn, a byddai cyfathrebu'n bwysig iawn. Credai ei bod yn anochel i’r hyn a ddisgrifir fod yn berthnasol i rai swyddi ac nid eraill, ac nid oedd hynny’n wahanol i awdurdodau eraill a oedd ymhell ar y blaen. Eglurodd eu bod yn gyflogwr mawr iawn, gyda llawer o wahanol wasanaethau, a byddai angen cydnabod y bydd rhywfaint o'r hyn a weithredir yn berthnasol i rai swyddi ac nid i eraill.

 

Mynegodd y Prif Weithredwr fod y YTD yn bwynt diddorol, ac roedd Iechyd a Diogelwch yn rhan bwysig o'r hyn yr oeddent yn ei wneud wrth symud ymlaen. Gydag amgylchedd diogel hefyd, o ran caniatáu i bobl ddychwelyd i’r swyddfa gyda Covid, mae angen sicrhau nad yw pobl yn dychwelyd i amgylchedd lle y byddant mewn perygl. Cytunodd â'r Aelod fod risgiau Iechyd a Diogelwch eraill, a dyna pam y cydnabyddir yn gyffredinol i lawer o bethau fod yn amherffaith yn ystod y pandemig, gan fod yn rhaid iddynt ymateb yn gyflym. Mynegodd ei fod yn hynod falch o'r ffordd yr oedd y Cyngor a'i staff wedi ymateb i'r heriau. Unwaith y bydd staff yn uniaethu yn ffurfiol fel gweithiwyr cartref, dywedodd, yn hytrach na theimlo eu bod mewn gweithle arall o anghenraid, ac unwaith y byddant yn gweithio gartref ar sail tymor hwy, byddai hynny’n newid y rheolau mae'n debyg, ac y byddai'n ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud asesiadau o ergonomeg, y gweithle a'r holl bethau sy'n cyd-fynd â hynny. Roedd hwn yn waith sylweddol a hirfaith i ddeall a allent wneud hynny'n effeithiol, ac os na allant wneud hynny ym mannau gwaith rhai pobl, beth fyddai hynny'n ei olygu. A fyddent wedyn yn dweud bod rhaid iddynt fynd i'r swyddfa, neu a allent gofrestru eu dymuniad i weithio gartref gan gydnabod y risgiau, mae hyn oll yn rhan o'r her gan eu bod yn gwybod bod amgylchiadau gwaith pobl yn wahanol iawn, gan ddibynnu ar y math o d?/fflat y maent yn byw ynddo, gyda phwy y maent yn byw, a byddai angen ychwanegu'r holl bethau hynny hefyd, ac yna byddai nodi categorïau staff yn ddarn sylweddol o waith yn ei hun, gan fynd y tu hwnt i'w sgrin a'u gliniadur, gan gynnwys y gadair, y ddesg, y goleuadau o bosibl a'r holl bethau eraill sy'n cael eu cymryd yn ganiataol o fewn y swyddfa hefyd. Dywedodd fod yr holl bwyntiau'n ddilys, a'u bod yn bethau a oedd ar eu hagenda a’n bethau yr oedd angen iddynt weithio iddynt yn ofalus iawn.

 

Dywedodd y Prif Swyddog y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio fod yr holl faterion yn cael eu hystyried. O ran yr Aelodau, roeddent wedi cynnal cyfarfod prawf yn ystafelloedd y Pwyllgorau. Nid oedd y system electronig yn y siambr ar hyn o bryd yn gweddu â Teams, ond fodd bynnag roeddent wedi ceisio cyfarfod Hybrid yn yr Ystafelloedd Pwyllgora. Nid oedd yn ddelfrydol ond roedd yn gweithio, yn anffodus dim ond nifer fach allai fynychu gan mai dim ond naw o bobl allai fod yno oherwydd y rheoliadau Covid a'r asesiadau iechyd a diogelwch. Byddai angen i fwy o swyddogion fod yn bresennol i wasanaethu'r cyfarfodydd i roi cymorth technegol, felly yn realistig dim ond pump neu chwe Aelod allai fod yn yr ystafell ar un adeg.

 

Eglurodd y Prif Swyddog y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio fod yr ystafelloedd yn cael eu defnyddio ar gyfer clinig ffliw ym mis Hydref, ond unwaith y byddai hynny wedi darfod byddent yn ceisio cynnal cyfarfod peilot arall ym mis Tachwedd, ar ôl penderfynu pa Bwyllgor byddent yn cysylltu â hwy i weld pwy fyddai'n cytuno i fynd i mewn. Eglurodd eu bod wedi gwneud arolwg anffurfiol ysgafn iawn ychydig fisoedd yn ôl i fesur barn yr Aelodau ar ddychwelyd, ac nad oeddent wedi cael llawer o ymateb cadarnhaol, a bod yr Aelodau'n teimlo bod gweithio o bell yn gweithio ac y byddai'n well ganddynt gael amser i sefydlu proses briodol. Roedd achos busnes i'r staff pe bai'r Aelodau'n dymuno mynd i mewn ar gyfer cyfarfodydd, a gallent gysylltu â hwy i ddweud os oes rheswm penodol iddynt fynd i mewn. Mae'n ofynnol i staff gynnal asesiad risg ac roedd hwnnw ar gael i Aelodau hefyd, roedd Iechyd a Diogelwch yn edrych ar yr asesiad risg gan ystyried y newidiadau i'r rheoliadau. Fodd bynnag, pan ddosbarthwyd hwn i'r Aelodau, pe baent yn cael sgôr uwch na chwech y camau lliniaru roedd rhaid iddynt weithio gartref. Dywedodd fod y sefyllfa o ran achosion Covid yn y gymuned yn newid drwy'r amser, ac os oedd yr Aelodau'n teimlo bod ganddynt reswm busnes i fynd i mewn am gyfarfod anffurfiol gallent edrych ar hynny a’i wirio a chynnal asesiad risg.

 

O ran y YTD, dywedodd Prif Swyddog y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio eu bod yn ymwybodol bod cwmnïau yn ceisio cyflwyno hawlwyr, a dyna pam yr oeddent yn bod yn ofalus ac yn sicrhau bod asesiadau risg yn cael eu cynnal, a bod Iechyd a Diogelwch yn cymryd rhan a bod y rheoliadau a'r canllawiau presennol yn cael eu dilyn. Roedd yr holl staff wedi cael cyfle i wneud yr asesiadau DSE, ac roedd cryn dipyn wedi cael pecyn ychwanegol, fel cadeiriau a desgiau, roedd y cynnig yno ac roedd rhai pobl wedi derbyn, tra bod eraill wedi mynd i mewn i nôl eu hoffer eu hunain o'r swyddfa. Cadarnhaodd eu bod yn ymwybodol bod y cyfreithwyr YTD yn curo ar ddrysau pobl, ond roeddent yn gwneud popeth o fewn eu gallu i ddelio â hyn wrth i bethau newid, a pharhau i atgoffa pobl i wneud yr asesiad i gadw eu hunain yn ddiogel, a’u hatgoffa hefyd fod ganddynt ddyletswydd gofal i sicrhau bod eu staff a'u Haelodau yn ddiogel.

 

Mynegodd Aelod mai ei safbwynt ef, fel eiriolwr dros y cyhoedd, oedd y dylid edrych ar yr adroddiad ac ychwanegu llais a barn y cyhoedd. Nododd fod argymhellion yr adroddiad, ym mharagraff 9, yn dweud 'y wybodaeth a gynhwyswyd yn yr adroddiad ar y cynnydd a wnaed gan y Cyngor o ran y model gweithredu newydd', a tybed y gellid cynnwys rhywbeth yno i wahodd cyfraniad gan y Pwyllgor mewn perthynas ag adolygu'r model gweithredu newydd a fyddai wedyn yn dangos i'r cyhoedd fod Aelodau'n cymryd rhan yn y broses. Dywedodd yr Aelod fod llawer o'r materion yr oedd am eu codi eisoes wedi cael sylw ond roedd am ychwanegu, cyn iddynt symud ymlaen, y gallent edrych ar y presennol, ar yr hyn yr oeddent yn dda am ei wneud o ran eu gwasanaethau, a sut y gellir cynnal hynny, ac yna’r hyn nad oeddent yn ei wneud cystal.

 

Dywedodd fod nifer yr atgyfeiriadau gan Aelodau wedi cynyddu'n sylweddol, gan awgrymu bod cynnydd mewn anfodlonrwydd, felly sut y mae hynny’n cael ei nodi, a sut y maent yn sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu, ac efallai dylid edrych ar fodel darparu gwasanaethau a allai wella ar wasanaethau lle nodwyd bod anfodlonrwydd. Dywedodd yr Aelod ei fod yn cefnogi gweithio hyblyg, ond roedd am holi fodd bynnag pa gymorth oedd ar waith i staff, pa oruchwyliaeth fyddai ar waith a sut y byddent yn rheoli gweithio hyblyg. Aeth yn ei flaen i ddweud nad oeddent yn gweithio ar eu pennau eu hunain i ddarparu'r gwasanaethau hynny, a’u bod yn gweithio mewn partneriaeth â'r mudiad undebau llafur, gydag Aelodau a chymunedau a chyda phartneriaid statudol hefyd. Dywedodd ei fod eisiau sicrwydd mai'r rhain yw’r materion sy’n cael eu hystyried fel yr heriau i'r Awdurdod, a’u bod yn ceisio diwallu anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid a chymunedau y tu hwnt i’r alwad ffôn gychwynnol, roedd ganddo enghreifftiau lle'r oedd yr alwad wedi'i gwneud ond ni chafwyd cefnogaeth bellach i roi'r sicrwydd a'r hyder hwnnw. Hoffai weld y cyhoedd wrth wraidd yr adolygiad o'r gwasanaethau a ddarperir.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod un neu ddau o'r Cynghorwyr wedi sôn bod oedi gyda llawer o’r atgyfeiriadau, a’i bod yn cymryd cryn amser i ymateb, a bod yr Aelodau wedi bod ar y ffôn am amser hir cyn mynd drwodd.

 

Pwysleisiodd y Prif Weithredwr mai'r egwyddor bwysicaf mewn unrhyw fodel gweithredu oedd canolbwyntio ar gwsmeriaid, diwallu anghenion cwsmeriaid a bod yn arweinydd gwasanaeth. Er enghraifft, pe bai canlyniadau gwasanaeth gwael oherwydd bod pobl yn gweithio gartref, ni fyddent yn derbyn hynny, felly'r egwyddor gyntaf oedd bod hyn yn gweithio i'r cyhoedd, ac i holi a fyddai hyn yn caniatáu iddynt ddarparu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol gan mai dyna’r egwyddor gyffredinol. O ran ymgysylltu â'r cyhoedd, credai fod gan yr Aelodau rôl eithriadol o bwysig gan eu bod yn agos at y cyhoedd yn cael adborth bob dydd. Dywedodd fod ganddynt fethodolegau eraill hefyd; roeddent wedi holi cwestiynau drwy gydol yr ymgynghoriad ar y gyllideb, a'r llynedd er enghraifft roeddent wedi'i holi am wasanaethau digidol ac roedd y mwyafrif helaeth o'r cyhoedd wedi cefnogi'r symudiad hwnnw, felly roedd yr ymatebion hyn yn gymorth wrth eu lunio ac yn darparu gwybodaeth. Wrth symud ymlaen, pan fo edrychiad y model yn eglur, byddai angen iddynt ymgysylltu â'r cyhoedd eto i fesur eu barn amdano. O'r adborth hwnnw, gallent ddiwygio a llunio'r model ymhellach, yn dibynnu ar yr adborth. Rhoddodd sicrwydd iddynt fod ymgysylltu â'r cyhoedd yn gwbl hanfodol. Dywedodd, o ran rheoli perfformiad, y byddai gofynion gwahanol o ran hyfforddiant ac y byddai angen i reolwyr feddu ar sgiliau gwahanol i sicrhau bod eu staff yn cael cefnogaeth ac i sicrhau bod eu perfformiad yn cael ei reoli. Roedd yn credu mai allbynnau a chanlyniadau oedd yn bwysig yma, yn hytrach na bod pobl yn weladwy trwy gydol eu horiau, mynegodd ei fod yn newid sylweddol ac roedd yn cydnabod fod y manylion y tu ôl i hynny'n gymhleth, ond roeddent yn gweithio gyda chydweithwyr Adnoddau Dynol ar gefnogi a hyfforddi rheolwyr yn well yn ogystal â chyflwyno staff i amgylchedd gwahanol iawn.

 

O ran partneriaid, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai'n rhan bwysig o'r hyn yr oeddent yn ei wneud wrth symud ymlaen. Dywedodd fod llawer o’r adborth a gafwyd gan y cyhoedd yn y gorffennol yn ymwneud â hwyluso mynediad at amrywiaeth o wasanaethau, oll yn yr un lle neu trwy alw’r un llinell ffôn o bosibl. Mynegodd ei fod yn eithaf hoff o’r syniad o fannau cyhoeddus a rennir, gallai hynny weithio i'r cyhoedd gan nad ydynt wastad yn gallu gwahaniaethu rhwng ein cyfrifoldebau ni a chyfrifoldebau’r heddlu, er enghraifft. Dywedodd hefyd ei fod wedi cael sgyrsiau rhagarweiniol difyr gydag awdurdodau lleol eraill yngl?n â sut allai weithio ar sail gyfatebol, er enghraifft os ydych yn byw yng Nghaerdydd ond yn gweithio ym Mhen-y-bont ar Ogwr neu'r ffordd arall. Felly yn hytrach na theithio i Ben-y-bont ar Ogwr bob dydd, gellid cael mynediad at wasanaethau o ganolfan yng Nghaerdydd. Dywedodd ei bod yn ddyddiau cynnar iawn ac nad oedd am greu lefel o gymhlethdod nad oedd yn flaenoriaeth uniongyrchol. Daeth y Prif Weithredwr i'r casgliad eu bod ond yn bodoli i ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd, ac i wneud hynny'n effeithiol, ac ni fyddai am i neb feddwl nad yw’r newid hwn yn canolbwyntio ar y cwsmer, ac os yw cydbwysedd bywyd a gwaith a lles eu staff yn digwydd gwella o ganlyniad, yna byddai hynny'n wych. Ochr yn ochr â hynny, pe na baent yn gwneud hyn a bod llawer o'u cystadleuwyr yn gwneud, ni fyddent yn gallu bod yn gystadleuol yn y farchnad, pe bai pawb heblaw am y Cyngor â pholisïau hyblyg byddent dan anfantais, felly mae manteision i'r staff a llawer o fanteision amgylcheddol a chymdeithasol eraill, ond yn bennaf oll roeddent am ddarparu gwasanaeth cyhoeddus effeithiol.

 

 

Diolchodd yr Aelod i'r Prif Weithredwr a dywedodd ei fod wedi tawelu ei feddwl, ond roedd yn teimlo mai'r her fawr oedd y pellter rhwng ei safbwynt â’r gweithwyr sydd ar flaen y gad, a sut gellid sicrhau eu bod yn rhannu'r un gwerthoedd, yr un ffocws a’r un cymhelliant â'r Prif Weithredwr. Er nad oedd yn disgwyl ateb, teimlai y byddai'r cyhoedd yn ei weld yn esgeulus pe na allai ddweud eu bod yn gwrando ac yn cefnogi'r hyn y mae’n ei ddweud, ond yr her oedd sicrhau bod pawb sydd ar flaen y gad wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn rhannu'r un gwerthoedd, yr un weledigaeth a’r un ffocws, a gallai hynny fod yn rhywbeth y gallent ei fonitro.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr, o ran atgyfeiriadau, ei bod yn enwedig o heriol pan fo rhai aelodau o'r cyhoedd, a rhai Aelodau etholedig o bosibl, yn credu eu bod wedi dychwelyd i’r drefn arferol yn barod, ond nid yw ‘normal’ yn golygu’r un peth ag yr oedd ym mis Mawrth 2020, ac ni fydd yr un peth ychwaith. Un o'r heriau i’r sefydliad oedd y galw cynyddol ar nifer enfawr o'u gwasanaethau, yn enwedig gofal cymdeithasol, digartrefedd ac amrywiaeth o wasanaethau eraill. Mae’n storm berffaith o ran etholiadau'r flwyddyn nesaf, mae’r Aelodau etholedig yn awyddus i gael eu hailethol, ac mae mwy o alw i ddatrys ystod eang o faterion cymunedol yn gyflym a chyn mis Mai nesaf. Dywedodd fod ganddynt broblem enfawr o ran recriwtio a chadw staff, nid ym mhobman ar draws y sefydliad, ond yn sicr yn y swyddi gradd is lle ceir cystadleuaeth enfawr. Roedd ganddynt hefyd lu o gyfrifoldebau newydd a oedd wedi dod drwy ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru. Eglurodd nad esgus yw hynny, gan fod angen iddynt ddod o hyd i ffyrdd gwahanol o drefnu eu hunain i sicrhau eu bod yn ymatebol a’n mynd i’r afael â'r pethau pwysig. Mynegodd eu bod yn sefydliad mawr i’w symud o safle A i B, ac i osod eu hadnoddau yn y lleoedd cywir, gyda'r rhan fwyaf o'u hadnoddau'n cael eu blaenoriaethu i'r gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar iechyd y cyhoedd a phethau a oedd wedi'u blaenoriaethu yn ystod y pandemig, ac roedd hyn yn golygu bod rhywfaint o rwystredigaeth ynghylch rhai o'r gwasanaethau eraill, yn enwedig o fewn rhai o'r gwasanaethau gweladwy mewn cymunedau lle na chafwyd yr un lefel o fuddsoddiad a ffocws, a byddai'n sgwrs bwysig i'w chael gydag Aelodau wrth barhau gan y gall yr awdurdod lleol wneud y rhan fwyaf o bethau a'u gwneud yn dda, ond ni allai wneud popeth.

 

Roedd y Prif Weithredwr am sicrhau bod ymdrechion sylweddol yn cael eu gwneud i geisio datrys y materion yr oeddent wedi’u canfod, yn enwedig gyda'r system atgyfeirio. Dywedodd eu bod yn gweld dros fil yn fwy o atgyfeiriadau y flwyddyn, ac nad oedd ganddynt yr adnoddau i ddelio â'r atgyfeiriadau, dim ond i ymateb iddynt yn gyson, ac roeddent yn ceisio newid y broses o gwmpas hynny hefyd, gan y byddai angen rhywbeth yno i gynnig mwy o hunangymorth, lle byddai llawer o'r atebion ar gael i Aelodau mewn ffyrdd gwahanol, a swyddogion ddim yn gorfod treulio amser yn ymateb iddynt, ond pwynt y bwrdd oedd bod yn rhaid i'r awdurdod weithio mewn sawl ffordd wahanol a'u bod yn cael eu herio'n arbennig ar hyn o bryd, yn ogystal â gorfod delio â phethau yr oedd aelodau wedi'u dwyn i'w sylw a rhai o'u rhwystredigaethau wrth symud ymlaen, felly roeddent yn ceisio symud rhywfaint o adnoddau yn ôl i'r rhan honno o'r sefydliad yn ogystal ag ymateb i rai o'r materion o ddydd i ddydd.

 

Cyfeiriodd Aelod at y pwynt a wnaeth y Prif Weithredwr o ran gweithfannau a rennir, a holodd a oedd hyn yn rhywbeth y gallent ei gyflwyno i Craffu i edrych yn fanylach arno. Roedd o'r farn bod ymgorffori'r heddlu a gwasanaethau eraill yn gyfle gwych i newid y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu rhedeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Holodd yr Aelod a oedd hynny'n rhywbeth a allai fynd ar y flaenraglen waith yn y dyfodol.

 

Cytunodd y Prif Weithredwr, pe bai'r amseru'n iawn, y byddai'n bwnc diddorol iawn ac roedd yn gwybod ei fod yn rhywbeth y byddai eu cydweithwyr yn Valleys to Coast a’r Heddlu â diddordeb ynddo. Nid oedd y syniad wedi'i ffurfio'n llawn ond gallai sesiwn gyda Craffu fod o gymorth.

 

Gofynnodd Aelod iddynt fod yn ymwybodol nad oedd rhai Aelodau'n gallu cyrraedd y cyn-gyfarfodydd, er bod ei gwestiynau wedi'u hateb, ond gyda hynny mewn golwg holodd a oedd y Prif Weithredwr yn credu y byddai'n gyfle defnyddiol i edrych ar gyfarfodydd Cynghorwyr hefyd. Er enghraifft, gallai cyfarfodydd gyda’r nos fod yn anodd i rai pobl, a gallai fod yn gyfle i symleiddio’r cyfarfodydd sydd ganddynt eisoes.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr Arweinwyr y Gr?p wedi crybwyll mater yn ymwneud â'r Cyfansoddiad o bosibl, a'r pethau sydd wedi'u cynnwys mewn cyfarfod o'r Cyngor, megis cyhoeddiadau, y ddadl, a cheisio gwneud y cyfarfodydd hynny'n fwy ystyrlon a rhyngweithiol. Dywedodd fod adolygiad o'r Cyfansoddiad yn parhau a allai fod yn fwy perthnasol i’r weinyddiaeth nesaf ar ôl mis Mai.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod rhai Aelodau yn rhannu’r un heriau â llawer o'r swyddogion o ran eu cyfrifoldebau eraill, boed hynny’n blant neu’n gyfrifoldebau gofal, felly teimlai mai'r nod fyddai cyrraedd sefyllfa lle gellid ymuno â’r rhan fwyaf o gyfarfodydd ar-lein neu'n bersonol, yn ôl eu dewis. Fodd bynnag nid oeddent wedi cyrraedd y sefyllfa honno eto gyda’r cyfarfodydd mwy, a byddai hynny’n gofyn am fuddsoddiad yn y Siambr, ond roedd o’r farn y byddai'n ddatrysiad modern, datrysiad lle byddai modd ymuno â chyfarfod o’ch cartref pe bai'n anghyfleus i wneud yn bersonol, er ei fod yn deall na fyddai hynny'n addas i bob Aelod, ac yn yr achos hwnnw gallent ymuno yn bersonol fel yr oeddent wedi'i wneud o'r blaen. Nid oedd ganddo unrhyw reolaeth dros hyd y cyfarfodydd, gan y byddai'n dibynnu ar lefel a hyd y ddadl.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog, y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio eu bod yn gweithio tuag at ateb hybrid ac yna byddai'n fater o adael i’r Aelodau wneud eu penderfyniad eu hunain. Roedd hi'n gwerthfawrogi bod cyfarfod y Cyngor fis diwethaf wedi bod yn hir ac yn anodd i'r holl bobl ar yr alwad. Dywedodd y byddai e-bost yn cael ei anfon at bob Aelod pan gyhoeddir Agenda nesaf y Cyngor i geisio gwneud y broses yn fwy llyfn o ran pryd y caniateir iddynt ymuno â'r cyfarfod, i ymddiheuro, i gyrraedd y cyfarfod, ac o ran peidio â dweud wrth y Cadeirydd neu'r Gwasanaethau Democrataidd eu bod wedi cyrraedd neu yn gadael. O ran hyd y cyfarfod, cytunodd â'r Prif Weithredwr y byddai hynny yn nwylo'r Aelodau, roeddent yn ceisio bod yn sefydliad agored a thryloyw ac yn awyddus i'r cyhoedd gymryd diddordeb yn yr hyn y maent yn ei wneud, ac os oes gan Aelodau eitem sy'n bwysig iddynt hwy a'r cyhoedd, yna ni fyddai’r swyddogion am roi diwedd ar y ddadl honno, roedd angen treulio amser priodol yn ei thrafod. Wrth symud ymlaen byddai Prif Swyddog y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddiol yn eistedd ar gr?p cenedlaethol lle byddent yn ceisio adolygu'r Cyfansoddiad, ac roedd rhai gofynion yn y ddeddfwriaeth newydd a oedd yn golygu bod yn rhaid iddynt gael Cyfansoddiad a oedd yn addas i'r diben ac a fyddai'n cael ei adolygu'n genedlaethol, ond roedd yn rhaid iddynt hefyd gael canllaw i'r Cyfansoddiad sy’n hawdd ei ddeall, felly roedd gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu'r ddwy ddogfen, gyda'r bwriad o'u sefydlu erbyn mis Mai. Ar gyfer y weinyddiaeth newydd ym mis Mai a'r Aelodau newydd, byddent yn ystyried creu amserlen o gyfarfodydd ac unwaith eto byddent yn rhoi'r dewis i'r Aelodau ar gyfer cyfarfodydd cynnar neu hwyr, y byddent yn gweithredu'r hyn y mae'r rhan fwyaf o'r Aelodau'n cytuno arno.

 

Mynegodd yr Aelod ei fod yn falch eu bod yn ystyried yr amrywiaeth sy’n bodoli ymhlith yr Aelodau. Cyfeiriodd yr Aelod at y drafodaeth gynharach ynghylch rhannu mannau gwaith ac i swyddogion ddefnyddio swyddfeydd Cyngor arall, ac roedd yn credu ei fod yn ddifyr a’n meddwl tybed a fu unrhyw sgyrsiau gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, er enghraifft, am y maes gwaith hwnnw. Gwnaeth y pwynt hefyd y gallai leihau’r nifer o bobl sy'n teithio o Sir arall i’r gwaith, gan arbed allyriadau carbon ar eu cefnffyrdd a'u prif ffyrdd. Holodd yr Aelod am broffil eu swyddogion, ac os oedd darlun tebyg i’w gael yno, lle'r oedd llawer o bobl yn cymudo o awdurdodau cyfagos.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr, er nad oedd yr ystadegau hynny ganddo wrth law, fod y rhan fwyaf o weithwyr yn byw'n lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ond roedd llawer o bobl o awdurdodau cyfagos yn dod i mewn a llawer yn mynd i awdurdodau eraill. Pwysleisiodd mai delfryd oedd yr awgrym hwnnw, ac nid oedd yn credu eu bod wedi cyrraedd sefyllfa lle gallent agor mannau a rennir a chael mynediad i systemau TG ei gilydd, a byddai angen rhywfaint o waith rhwng yr adrannau TG perthnasol. Fodd bynnag, yn yr un modd, ni ddylid ei osod ar y silff o ran ceisio cynnig ateb a fyddai'n gweithio yn y ffordd honno, ond nid oeddent yn y sefyllfa iawn eto.

 

Dywedodd Rheolwr y Gr?p Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol ei bod yn deg dweud fod llinell ar ganolbwynt eu graddfeydd cyflog lle mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n teithio ar y lefelau uchaf, ac y gallai gyflwyno’r wybodaeth honno yn y dyfodol. Er nad oedd ganddi'r wybodaeth wrth law, byddai'n rhywbeth y byddent yn edrych arno o ran treuliau a'r costau, y dadansoddiad, y manteision a'r arbedion posibl pan fyddant yn mynd i waith manylach o amgylch y prosiect.

 

Cyfeiriodd Aelod at ddatganiad y Prif Weithredwr nad hwy oedd yr unig awdurdod lleol, ond pob un o’r ddau ar hugain ledled Cymru, ar draws y sector cyhoeddus ac i raddau amrywiol, yn wahanol i'r sector preifat er bod galwad yn ôl i'r swyddfa mewn rhai achosion. Cytunodd y byddai newid diwylliant ar y raddfa hon yn cymryd amser i'w gyflwyno a byddai'n rhaid iddynt weld beth sy’n digwydd ochr yn ochr â monitro a gwerthuso parhaus. Credai mai dyma gyfeiriad eu taith o ran model hybrid o weithio, ac yn ei swydd ddydd ei hun roeddent wedi rhoi’r gorau i wylio’r cloc ac yn defnyddio dull sy'n seiliedig ar ganlyniadau, ac roedd yn credu fod hynny wedi cynyddu cynhyrchiant a morâl yn gyffredinol, ond yn amlwg roedd anfanteision i hynny hefyd. Holodd yr Aelod am gydbwysedd iechyd meddwl eu gweithwyr ac am eu gallu i arloesi, gall edrych ar sgrin am gyfnodau hir fod yn flinedig yn gorfforol ac yn seicolegol, ac yn ôl pob tebyg roedd nifer o swyddogion ledled yr awdurdod yn teimlo’r un fath. Holodd beth oedd yn cael ei wneud i ystyried iechyd meddwl swyddogion, ac yn yr un modd, roedd yn meddwl am ddyfeisgarwch ac arloesedd. Aeth yn ei flaen i ddweud na allech gynllunio ar gyfer arloesedd, ac os nad ydych yn y swyddfa, ni fydd sgyrsiau'n digwydd yn y coridorau, ac roedd yn poeni y gallai hynny gael ei golli pe baent yn cynllunio cyfarfodydd. Roedd yr Aelod yn falch bod yr adroddiad wedi ystyried yr effaith ar ganol trefi yn ehangach, arferai cannoedd o staff weithio yn y Swyddfeydd Dinesig, gan brynu bwyd gan fanwerthwyr annibynnol a rhoi hwb mawr i'r economi. Roedd yn pryderu am ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr a'r effaith negyddol arno, byddai’r manwerthwyr annibynnol angen pob cymorth ar ôl deunaw mis ofnadwy.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at yr Aelod yn crybwyll newid diwylliant, ac o ran y model gweithredu gallent osod paramedrau a thermau bras o ran y ffordd y maent yn disgwyl i'r sefydliad weithio, ond credai y byddai rhai o'r pethau eraill yn digwydd yn fwy organig. Er enghraifft, eglurodd fod rhai timau neu grwpiau o unigolion eisoes (dau neu dri ohonynt) wedi mynd ati eu hunain i gyfarfod am goffi, nid yn y Swyddfeydd Dinesig ond mewn gwahanol leoedd o amgylch Pen-y-bont ar Ogwr neu fannau eraill. Y rhain wedyn fyddai'r mannau creadigol lle mae pobl yn cael y sgyrsiau hynny a ddisgrifiwyd gan yr Aelod. Credai mai dyna'r pethau y mae’r sefydliad yn hiraethu fwyaf amdanynt, nid y cyfarfodydd ffurfiol ond y rhai anffurfiol lle byddent wedi cael y cyfle i roi cefnogaeth, i siarad â rhywun yn sydyn i dynnu sylw at rywbeth, i sicrhau eu bod yn barod am eitem ar Agenda'r cyfarfod ffurfiol. Credai y byddai hyn yn rhywbeth na fyddent yn gallu ei roi ar waith, byddai'n digwydd yn organig a byddai timau neu reolwyr yn dod o hyd i'w ffyrdd eu hunain o geisio llenwi'r bylchau.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod ail bwynt yr Aelod yn un hollbwysig, ac y byddai angen rhywfaint o ymyrraeth yn y mater, ac er nad oeddent yn y sefyllfa honno eto eto, roedd pobl yn blino o fod ar-lein mewn cyfres o gyfarfodydd rhithwir trwy'r dydd. Unwaith eto, byddai pa mor aml y mae hyn yn digwydd hyn yn dibynnu ar eich swydd, ond gwyddai'r Prif Weithredwr o brofiad y bod yn rhaid bod yn ofalus i beidio gadael i un cyfarfod arwain yn syth i mewn i un arall, ac nid yw’r seibiant hwnnw a geir wrth gerdded i'r cyfarfod nesaf yn y Swyddfeydd Dinesig ar gael bellach. Dywedodd efallai y bydd rhaid iddynt ystyried hynny ac i ymyrryd, gan gyfyngu amser sgrin o bosibl, neu i sefydlu seibiannau awtomatig o bump i ddeng munud, mynegodd nad oedd yr holl atebion ganddo, ond mae'n deall y pwynt ac yn sicr roedd yn un o'r pethau y byddent yn ei ystyried wrth symud ymlaen.

 

Cynghorodd y Prif Weithredwr, o ran pwynt yr Aelod am lai o ymwelwyr yng Nghanol y Dref, ei fod yn ymwybodol iawn fod y mater yn cael eu drafod gyda charfan o bobl sydd, ar y cyfan, yn gefnogol i gyfeiriad eu taith, ond y byddai carfannau eraill o bobl na fyddai mor frwd. Teimlai y gallai ddweud yn gyffredinol, gan gydymdeimlo, y byddai masnachwyr canol y dref yn gorfod addasu beth bynnag, waeth beth a wnâi’r Cyngor, gan y byddent yn gorfod gweithio mewn amgylchedd gwahanol, felly er bod staff y Cyngor yn rhan bwysig o'u busnes, nid y Cyngor yn unig sy’n gwneud hyn, mae bron pob un sefydliad cyhoeddus neu breifat yn adolygu'r ffordd y maent yn gweithio a’n ystyried a oes angen iddynt fod yn y swyddfa mor aml. Eglurodd y byddai masnachwyr canol y dref yn gorfod addasu, ac os yw hynny'n golygu bod angen iddynt fuddsoddi mewn atebion ar-lein neu weithredu mewn ffordd wahanol, byddai’r Cyngor yn eu cefnogi i wneud y newidiadau hynny fel eu bod yn addas i'r diben wrth symud ymlaen. Gobeithiai nad oedd yn swnio’n rhy lym, gan fod y Cyngor yn gwneud popeth o fewn ei allu i gefnogi masnachwyr y dref, o ran cynnig y maes parcio, y consesiwn rhentu ac amrywiaeth o bethau eraill. Fodd bynnag, roedd angen iddynt dderbyn a chydnabod bod pethau wedi newid yn genedlaethol dros y deunaw mis diwethaf ac felly roedd angen i fusnes hefyd edrych ar sut y gallent addasu a newid wrth symud ymlaen. Daeth i'r casgliad bod swyddogion penodol yn ystyried sut y gallent helpu wrth symud ymlaen, ond nid oedd yn credu'n realistig y gallent orfodi staff i fynd i mewn i'r swyddfa a gweithredu fel o’r blaen. Roedd yn ddarn cymhleth ac roedd am iddynt gydnabod eu bod yn mynd i’r afael ag ef cymaint ag y gallent, ond credai nad cyfrifoldeb y Cyngor yn unig oedd hyn, a bod angen rhywbeth hefyd o ran sut y maent yn helpu ac yn cefnogi masnachwyr i weithredu mewn ffordd wahanol wrth symud ymlaen.

 

Gwnaeth y Pwyllgor yr Argymhellion canlynol:

 

1.    Dylid anfon crynodeb o'r camau gweithredu sy’n deillio o gyfarfodydd y Bwrdd Prosiect at yr Aelodau gan gynnwys cyfarfodydd parhaus wrth symud ymlaen.

 

1.   Dylid rhannu copïau o'r achosion busnes sy’n deillio o’r ffrydiau gwaith pan fyddant ar gael.

 

2.    Bod angen cyflwyno ystadegau mewn perthynas â phroffil y gweithlu.

 

Tynnodd yr Aelodau sylw at bwysigrwydd ymgysylltu ag Aelodau yn y broses, ac y dylent geisio ymgynghori ac ymgysylltu ag Aelodau wrth i'r prosiect symud ymlaen.

Dogfennau ategol: