Agenda item

Archwilio Ceisiadau Cynllunio ac Apeliadau a Rheoli Adeiladu

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau adroddiad, gyda’r diben o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Rheoli Datblygu am ganlyniadau archwiliadau diweddar o Geisiadau Cynllunio ac Apeliadau a Rheoli Adeiladu. Cynhaliwyd yr archwiliadau yn unol â Chynllun Archwilio Mewnol 2021/22.

 

Rhoddodd yr adroddiad wybodaeth gefndirol, sef mai diben yr archwiliad Ceisiadau Cynllunio ac Apeliadau oedd rhoi sicrwydd ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau rheoli mewnol, llywodraethu a rheoli risg mewn perthynas â Cheisiadau Cynllunio ac Apeliadau. Cynhaliwyd profion archwilio mewn perthynas â blynyddoedd ariannol 2020/21 a 2021/22. Roedd cwmpas yr Archwiliad yn cynnwys sicrhau bod y rheolaethau allweddol ar waith, fel y nodir ym mharagraff 3.2 yr adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr – Rheoli Adeiladu a Datblygu mai diben yr archwiliad Rheoli Adeiladu oedd rhoi sicrwydd ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau rheoli mewnol, llywodraethu a rheoli risg mewn perthynas â'r gwasanaeth hwn. Cynhaliwyd profion archwilio mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2020/21 a 2021/22. Roedd cwmpas yr Archwiliad yn cynnwys sicrhau bod y rheolaethau allweddol ar waith, fel y nodir ym mharagraff 3.4 yr adroddiad.

 

Yna, tynnodd paragraff 4.1 yr adroddiad sylw at y ffaith, ar gyfer yr Archwiliad Ceisiadau Cynllunio ac Apeliadau, y canfuwyd bod

system lywodraethu, rheoli risg a rheolaeth gadarn ar waith ar y cyfan. Rhestrwyd enghreifftiau o hyn yn yr adran hon o’r adroddiad. Yn ogystal, adlewyrchwyd cryfderau a meysydd arfer da ynghyd â materion eraill lle gellid gwneud gwelliannau, a fyddai'n cael eu gweithredu yn unol â hynny, eglurodd Rheolwr y Gr?p – Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu.

 

Ym mharagraffau 4.4 a 4.5 yr adroddiad cafwyd manylion am y prosesau a ddilynwyd o ran sut mae cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu’n gweithredu, gan gynnwys canfyddiadau'r archwiliad o hyn.

 

O ran archwiliad Rheoli Adeiladu, canfuwyd hefyd fod system lywodraethu, rheoli risg a rheolaeth gadarn ar waith ar y cyfan yn y maes gwaith hwn. Yn yr un modd â'r enghreifftiau uchod, mewn perthynas â meysydd eraill o waith Cynllunio a Datblygu a archwiliwyd, rhoddodd paragraff 4.8 o'r adroddiad enghreifftiau o gryfderau ac arfer da mewn perthynas â swyddogaethau Rheoli Adeiladu.

 

Teimlai Aelod y byddai o fantais i Aelodau'r Pwyllgor hefyd gael adborth gan aelodau o'r cyhoedd, megis ar ffurf Holiaduron, a fyddent, pe baent yn cael eu cwblhau a'u dychwelyd, yn adlewyrchu lefelau boddhad cwsmeriaid gyda’r gwasanaethau y mae'r Cyngor yn eu darparu mewn perthynas â gwaith Cynllunio a Datblygu.

 

Dywedodd Rheolwr y Gr?p – Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu fod data fel yma’n arfer cael ei ddarparu i'r Pwyllgor yn flynyddol fel rhan o'r Adroddiad Perfformiad Blynyddol (APR), fodd bynnag, ers y pandemig nad yw wedi bod yn ofynnol i awdurdodau cynllunio gyflwyno APRau. Hefyd, gyda lefelau staffio wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nid oedd digon o adnoddau o fewn yr Adran yn awr, i gasglu'r wybodaeth hon er mwyn ei chyflwyno i Aelodau o bryd i'w gilydd ac ynghyd ag awdurdodau cynllunio eraill yng Nghymru, cynhelir gwaith arolygu gan Uned Ddata Cymru. Gobeithio y bydd y gwaith hwn yn ailddechrau'r flwyddyn nesaf.

 

PENDERFYNIAD:                     Bod Aelodau'r Pwyllgor Rheoli Datblygu wedi nodi cynnwys yr Adroddiad hwn, yn ogystal â'i ganfyddiadau a'i argymhellion yn yr Adroddiadau Archwilio ar gyfer y ddau faes gwasanaeth a nodwyd.

 

Dogfennau ategol: