Agenda item

Diweddariad ar Beilot Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar (ECEC)

Cofnodion:

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chefnogaeth i Deuluoedd ar ddiweddariad ynghylch peilot arfaethedig Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar (ECEC), lle roedd y Cabinet yn ei gyfarfod ar 25 Chwefror 2020 wedi penderfynu darparu 30 awr o ddarpariaeth ar gyfer rhieni pob plentyn 3 a 4 blwydd oed yn unrhyw leoliad, o'r tymor ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 3 oed am 48 wythnos (h.y. 39 wythnos o ddarpariaeth yn ystod y tymor a 9 wythnos o ddarpariaeth gwyliau ysgol).   Roedd cyllid o hyd at £3.5 miliwn y flwyddyn ar gael gan Lywodraeth Cymru i gefnogi peilot. 

 

Hysbysodd ef y Cabinet fod Rheolwr ECEC, yn ystod y prosiect peilot, wedi sefydlu nifer o grwpiau ffocws a gweithgorau i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ar draws sector y blynyddoedd cynnar a gynhelir ac nas cynhelir. Nod y peilot oedd cael gwared ar rwystrau sy'n bodoli rhwng addysg a gofal, er mwyn sicrhau y gallai unrhyw leoliad, boed yn ysgol neu'n ofal plant preifat / gwirfoddol, gynnig darpariaeth ECEC.   Dywedodd fod y rhwystrau posibl yn sylweddol, yn cynnwys absenoldeb fframwaith arolygu ar y cyd rhwng Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru a fyddai'n cynnwys y sector meithrin a gynhelir a gwarchodwyr plant. Y rhwystr mwyaf allweddol oedd y diffyg lle priodol oedd ar gael ar safleoedd ysgolion ar gyfer datblygu gofal plant ECEC a fyddai'n cydymffurfio â chyrraedd y Safonau Gofynnol Cenedlaethol a nodwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Roedd diffyg cyllid cyfalaf hefyd o fewn dyraniad ECEC, gan ei gwneud yn anodd i ysgolion addasu lle i gyrraedd y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ac i'r sector a gynhelir ehangu eu hadeiladau i wneud lle i niferoedd mwy o blant.

 

Adroddodd fod Llywodraeth Cymru wedi dweud, er ei bod wedi ymrwymo i raglen drawsnewid ddeng mlynedd i ddatblygu athroniaeth ECEC, bod ei blaenoriaethau, ers yr etholiad ym mis Mai 2021, wedi newid mewn ymateb i’r pandemig a’r rhaglen adfer a gynlluniwyd ac y bydd y peilot yn cael ei derfynu. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i ariannu cefnogi gweinyddiaeth peilot ECEC am flwyddyn ariannol 2021-22, er mwyn gwneud strategaeth ymadael briodol a chynlluniedig yn bosibl, ochr yn ochr â gwerthusiad trylwyr o'r gwaith hyd yn hyn. Dywedodd wrth y Cabinet y bydd rhai ymchwiliadau a pheth gwaith rhychwantu yn parhau yn y flwyddyn ariannol hon er mwyn cofnodi a dod ag eglurder ynghylch y problemau a'r rhwystrau ac yn wir er mwyn cynnig atebion posibl. Roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddant yn parhau i ddatblygu ymhellach y ddealltwriaeth o'r problemau a nodwyd gan Ben-y-bont ar Ogwr er mwyn datblygu unrhyw ddull ECEC pellach yng Nghymru yn llawnach ac yn fwy addas.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chefnogaeth i Deuluoedd fod swyddogion wedi nodi gweithgareddau oedd yn berthnasol i wasanaethau blynyddoedd cynnar ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac wedi canfod llawer o feysydd i'w datblygu. Roedd hefyd wedi ennill mwy o wybodaeth ar draws sector y blynyddoedd cynnar ac addysg gynnar a bydd hyn yn cyfoethogi ac yn gwella ymhellach yr Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant sydd ar ddod a'r goblygiadau ar gyfer moderneiddio ysgolion gan gynnwys adeiladau newydd.

 

Diolchodd yr Aelod dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol i dîm y blynyddoedd cynnar am eu gwaith ar y prosiect peilot a dywedodd, er bod Llywodraeth Cymru wedi dod â'r peilot i ben, ei bod yn hanfodol na fyddai unrhyw effaith negyddol ar deuluoedd. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chefnogaeth i Deuluoedd na fyddai effaith negyddol ar deuluoedd ac y bydd gwasanaethau blynyddoedd cynnar presennol yn aros yn eu lle. Diolchodd yr Arweinydd i Reolwr y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant a'i thîm am eu gwaith ar y prosiect peilot ac roedd yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru’n ailedrych ar y prosiect pan fyddai ganddynt y gallu i wneud hynny. Dywedodd Aelod y Cabinet, Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, er ei fod yn siomedig bod y prosiect yn dod i ben, fod y Cyngor yn dal yn gwbl ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau blynyddoedd cynnar i deuluoedd.

 

PENDERFYNWYD: 

Bod y Cabinet:

wedi ystyried yr adroddiad;

yn cytuno bod Cyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn dod â gwaith peilot ECEC i ben, yn dilyn camau diogel ac effeithiol o gwmpas y strategaeth ymadael arfaethedig a datblygu adroddiad gwerthuso terfynol i’w roi i Lywodraeth Cymru; ac

yn cytuno i ystyried yr adroddiad gwerthuso yn dilyn y peilot a’i ganfyddiadau pan fydd hwn wedi ei gwblhau.        

 

Dogfennau ategol: