Agenda item

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad oedd yn sôn am ganlyniad yr astudiaeth ddichonoldeb mewn perthynas â lleoli Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig newydd gyda 2 ddosbarth derbyn arfaethedig, ynghyd â meithrinfa gyda 75 o leoedd, ar y safle iau; a gofynnai am gymeradwyaeth i ymgymryd â phroses statudol mewn perthynas â'r cynnig.

 

Adroddodd fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ym mis Medi 2020, wedi cymeradwyo cynnal astudiaeth ddichonoldeb ar safle newydd ar gyfer Ysgol Iau Mynydd Cynffig. Daeth yr astudiaeth ddichonoldeb i'r casgliad mai'r fantais fwyaf nodedig o ddatblygu'r safle yw bod y cyfan ym mherchnogaeth y Cyngor. Dywedodd fod potensial i gynyddu'r rhan y gellir ei datblygu drwy ymgorffori gerddi rhandiroedd cyfagos a rhannau sydd ar brydles, ar yr amod fod y cyfleusterau hyn yn cael eu hadleoli.   Gallai'r darnau hyn ychwanegu 1.85 acer bosib at y safle, gan sicrhau ei fod o faint digonol i ddarparu ar gyfer ysgol uchelgeisiol gyda dau ddosbarth derbyn. Defnyddir un safle gan Gorfflu Hyfforddi’r Llu Awyr, sy'n destun prydles ac mae’r ail safle, sef gerddi rhandiroedd, yn cael ei ddefnyddio gan Gymdeithas Rhandiroedd Pwll-y-garth dan gytundeb.  

 

Dywedodd na fydd cyfamodau cyfyngol sy’n effeithio ar y tir yn atal datblygu ysgol newydd. Mae cofrestriad llain o dir, sydd wedi'i leoli rhwng adeilad yr ysgol a'r cae chwarae, bellach wedi'i gwblhau ac mae'r Cyngor wedi cael teitl meddiannol iddo. Mae angen gwaith o hyd i ddileu hawliau’r briffordd ar y tir ac mae angen gorchymyn stopio ac mae ymgynghorwyr wedi'u cyflogi i gynnal asesiad trafnidiaeth. Dywedodd hefyd fod ymchwiliad safle wedi'i gynnal ac nad oes unrhyw bryderon mewn perthynas â chyflwr y tir a dim ond mân faterion halogiad.

 

Adroddodd fod swyddogion wedi nodi’r angen am 60 o leoedd meithrin. Fodd bynnag, mae angen darparu 15 lle meithrin cyfwerth ag amser llawn ychwanegol ar gyfer plant 3 oed sy’n dod i fyny. Dywedodd yr ystyrid bod safle iau Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig yn cyflwyno lleoliad priodol a buddiol ar gyfer datblygu'r ysgol gynradd arfaethedig. Roedd yn gwneud datrysiadau addas yn bosibl i faterion hollbwysig, sef safle digonol i'w ddatblygu a mynediad priodol i'r safle, ac roedd swyddogion technegol o'r farn y gellid dod o hyd i atebion i faterion eraill hefyd y deuir o bosibl ar eu traws. 

 

Dywedodd fod £10.2 miliwn wedi'i ddyrannu yn y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer y prosiect hwn ac mai  65% oedd cyfradd ymyrryd Llywodraeth Cymru. Byddai angen ariannu’r 15 lle ychwanegol cyfwerth ag amser llawn ar gyfer plant 3 oed oedd yn dod i fyny allan o gyfalaf a byddent yn rhan o gyfanswm costau’r prosiect. Dywedodd y gallai'r cynllun gynhyrchu arbedion cost refeniw o ganlyniad i symud o nifer o safleoedd i un safle.

 

Dywedodd yr Arweinydd mai'r cynnig hwn oedd yr un buddsoddiad mwyaf mewn addysg ym Mynydd Cynffig a’i fod yn edrych ymlaen at glywed sylwadau'r holl randdeiliaid ar y cynlluniau ar gyfer yr ysgol newydd, fyddai'n destun ymgynghoriad. Diolchodd i lywodraethwyr ac uwch dîm arweinyddiaeth yr ysgol am eu hymrwymiad i'r prosiect.

 

PENDERFYNWYD: 

Bod y Cabinet:

·     yn nodi canlyniad yr astudiaeth ddichonoldeb; ac

yn cymeradwyo cychwyn proses ymgynghori statudol i ehangu Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig yn ysgol fydd â dau ddosbarth derbyn, ynghyd â 75 o leoedd meithrin, i gael ei lleoli ar y safle iau ac agor ym mis Medi 2025.              

Dogfennau ategol: