Agenda item

Adnewyddu Contractau mewn Gofal cymdeithasol i Oedolion

Cofnodion:

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod gan Dimensions UK ddau gontract gyda'r awdurdod ar gyfer Darparu llety Byw â Chymorth Arbenigol i bobl ag anabledd dysgu ac ymddygiad heriol cymhleth, gan gynnwys amodau sbectrwm awtistig (yn Condors Rest) ac ar gyfer Cytundeb Fframwaith Byw â Chymorth 2020-2024. Dywedodd fod Dimensions UK, yn dilyn ymarfer ailstrwythuro corfforaethol, wedi sefydlu Dimensions Cymru Cyfyngedig i’r diben o gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru a darparu gwasanaethau lleol a rhanbarthol yng Nghymru. Gwnaed cais i newid dau gontract o Dimensions-UK i Dimensions Cymru, er mwyn sicrhau bod yr holl faterion busnes a chytundebol yn dod o dan gyfrifoldeb Dimensions Cymru. Mae yn y ddau gontract ddarpariaeth sy'n caniatáu i'r darparwr drosglwyddo'r contract gyda chaniatâd y Cyngor.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles hefyd fod y Cyngor wedi ymrwymo o’r blaen i gytundeb lefel gwasanaeth (CLG) gyda Hafal ar gyfer darparu Gwasanaeth Seibiant ac Adferiad Tymor Byr i ofalwyr. Roedd Hafal wedi uno â thair elusen arall i ddod yn Adferiad Recovery Limited a gwnaed cais i newid y CLG i Adferiad Recovery Limited.


Dywedodd fod y CLG yn cynnwys darpariaeth sy'n caniatáu i'r darparwr drosglwyddo'r contract gyda chaniatâd ysgrifenedig y Cyngor.

 

Adroddodd fod diwydrwydd dyladwy wedi'i wneud ar Dimensions-UK (fel y Rhiant Gwmni) a Dimensions Cymru ac ar Adferiad Recovery Limited ac nad oedd unrhyw bryderon mewn perthynas â'r gwasanaethau a ddarperir gan Hafal a Dimensions Cymru Cyfyngedig ac nad ystyrid bod yna risgiau gweithredol wrth newid y CLG a'r Contractau.

 

Nododd Aelod y Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, wrth gymeradwyo’r cynigion i newid y CLG a’r contractau, fod y sefydliadau'n ymateb i newidiadau mewn deddfwriaeth yng Nghymru.

 

PENDERFYNWYD: 

Bod y Cabinet:

·      yn awdurdodi addasu'r contract presennol gyda Dimensions-UK mewn perthynas â darparu llety Byw â Chymorth Arbenigol yn Condors Rest trwy gydsynio i newid y contract hwnnw i Dimensions Cymru yn unol â CPR 3.3.4;

·      yn awdurdodi addasu'r contract presennol gyda Dimensions-UK mewn perthynas â’r Cytundeb Fframwaith Byw gyda Chymorth drwy gydsynio i newid y contract hwnnw i Dimensions Cymru yn unol â CPR 3.3.4;

·      yn dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles roi caniatâd ysgrifenedig i'r newidiadau uchod a gwneud gweithredoedd newydd gyda Dimensions-UK a Dimensions Cymru Cyfyngedig mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth Cyllid Dros Dro a Swyddog Adran 151 a Phrif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol ac i drefnu bod gweithredoedd newydd yn cael eu gweithredu ar ran y Cyngor, ar yr amod fod  awdurdod dirprwyedig o'r fath yn cael ei arfer mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol;

·      Yn awdurdodi newid y CLG ar gyfer darparu Gwasanaeth Seibiant ac Adferiad Tymor Byr i Ofalwyr o Hafal i Adferiad Recovery Ltd;

yn dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles roi caniatâd ysgrifenedig ar gyfer newid y CLG i ddarparu Gwasanaeth Seibiant ac Adfer Tymor Byr i Ofalwyr mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid a Swyddog Adran 151 a Phrif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol.     

Dogfennau ategol: