Agenda item

Cyllid Cyrchfan Denu Twristiaeth y Cosy Corner

Cofnodion:

Adroddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau ar ddiweddariad i sicrhau cyllid drwy'r Rhaglen Cyrchfan Denu Twristiaeth i symud ymlaen gyda phrosiect ar y Cosy Corner, Porthcawl, ac i dderbyn cynnig o gyllid a gwneud y cytundebau gofynnol.

 

Dywedodd hi, yn dilyn bwriad Elusen Credu Cyfyngedig i benodi gweinyddwyr a thynnu cyllid yn ôl ar gyfer prosiect y Ganolfan Forwrol, a ariannwyd drwy'r Rhaglen Cyrchfan Denu Twristiaeth Croeso Cymru (TAD), fod y Cyngor wedi terfynu'r cytundeb ar gyfer y brydles oedd yn ymwneud â'r Ganolfan Forwrol ar safle Cosy Corner. Dywedodd fod Swyddogion wedi cynnal arfarniad amlinellol o'r dewisiadau tymor byr i ganolig oedd ar gael i'r Cyngor i geisio cael gafael ar arian posibl drwy raglen TAD ar gyfer Cosy Corner. Pe bai'r cyllid yn dod ar gael, ac yn dibynnu ar adnoddau, cynigid gwneud gwelliannau ar gyfer sefydliadau cymunedol; yr economi leol a’r cynnig twristiaeth; defnyddwyr y marina ac ar gyfer y gymuned ehangach.

 

Adroddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau, yn dilyn awdurdodiad gan y Cabinet ym mis Rhagfyr 2020 i gyflwyno cais am welliannau i Cosy Corner drwy'r rhaglen TAD, fod Swyddfa Ariannu Ewropeaidd Cymru (WEFO) wedi cwblhau asesiad o chwech o'r naw maen prawf. Roedd WEFO hefyd wedi gofyn am wybodaeth bellach ar gyfer y camau asesu oedd yn weddill a chadarnhad o arian cyfatebol a sicrwydd cymorth gwladwriaethol. Yn ei gyfarfod ym mis Mawrth 2021, rhoddodd y Cabinet awdurdod i fynd ymlaen â'r datblygiad mewn perygl ac i ddefnyddio cyllid cyfatebol o £384,615 er mwyn sicrhau grant posibl o £1 filiwn. Penodwyd penseiri yn dilyn ymarfer caffael er mwyn symud y prosiect yn ei flaen.  

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod cronfa wrth gefn  o £500 mil wedi'i chlustnodi wedi cael ei sefydlu ar gyfer y prosiect, gan gynyddu cyllideb y prosiect cyfalaf i £1,884,615, gyda £230 mil pellach wedi'i ychwanegu o'r Gronfa Adfywio Strategol ar gyfer newidiadau mewn prisiau. Erbyn hyn, cafwyd cadarnhad o gynnig o gyllid o £1 filiwn gan WEFO a Llywodraeth Cymru, gyda'r cyllid oedd yn weddill o £1,114,615 yn cael ei ariannu o adnoddau'r Cyngor. Dywedodd fod yn rhaid cwblhau'r prosiect erbyn mis Rhagfyr 2022 a gofynnid am awdurdodiad i dderbyn y cynnig o gyllid ac i wneud y cytundebau gofynnol i symud y prosiect yn ei flaen.

 

Wrth ganmol y cynigion ar gyfer Cosy Corner, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio, er bod y prosiect ar wahân i ddatblygiad y Llyn Halen, y byddai'n integreiddio ag ef. Dywedodd y bydd y weledigaeth ar gyfer Cosy Corner yn ddefnyddiol fel cyrchfan dwristiaeth, bydd gwelliannau i lun y stryd yn cyd-fynd â'r ardal sy'n eiconig. Diolchodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau i'r Tîm Adfywio am y gwaith yr oedd wedi'i wneud hyd yma ar y prosiect ac roedd yn edrych ymlaen at ei weld yn cael ei gwblhau. Roedd yr Arweinydd yn croesawu’r prosiect hefyd, oedd yn gweithredu yn erbyn amserlenni tynn ac edrychai ymlaen at ei weld yn dod i fod.

 

PENDERFYNWYD: 

Bod y Cabinet:

yn dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau, mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol a'r Prif Swyddog Dros Dro, Cyllid, Perfformiad a Newid i dderbyn y cynnig o gyllid i gyflawni prosiect Cosy Corner fel rhan o Raglen Cyrchfan Denu Twristiaeth Croeso Cymru.  

Dogfennau ategol: