Agenda item

Monitro Cyllideb 2021-22 – Rhagolygon Refeniw Chwarter 2

Cofnodion:

Adroddodd y Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid ar ddiweddariad ynghylch sefyllfa ariannol refeniw y Cyngor fel ar 30 Medi 2021. Hysbysodd y Cabinet fod y Cyngor yn ei gyfarfod ar 24 Chwefror 2021 wedi cymeradwyo cyllideb refeniw net o £298.956 miliwn ar gyfer 2021-22 ac fe wnaeth hi grynhoi’r gyllideb refeniw net a’r alldro a ragwelid ar gyfer 2021-22, oedd yn dangos tanwariant net o £2.084 miliwn, yn cynnwys £170 mil net o danwariant ar gyfarwyddiaethau a thanwariant net o £5.9108 miliwn ar gyllidebau ar draws y Cyngor, oedd yn cael ei wrthbwyso gan neilltuo swm net o £4.004 miliwn i gronfeydd wrth gefn wedi eu clustnodi. Dywedodd fod y tanwariant yn cuddio’r sefyllfa sylfaenol, sy’n golygu y bydd cronfa galedi Llywodraeth Cymru, er ei bod wedi ei hymestyn hyd 31 Mawrth 2022, yn cael ei thorri i lawr yn raddol gyda’r disgwyliad y bydd gwasanaethau yn dychwelyd i’w lefelau cyn y pandemig. Er bod pwysau ariannol yn bodoli mewn Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, Digartrefedd a Gwastraff. Mae’r Cyngor wedi llwyddo i hawlio £15 miliwn mewn gwariant a thros £5.5 miliwn drwy hawliadau incwm a gollwyd yn 2020-21. Dywedodd y bydd y Cyngor yn parhau i hawlio o’r Gronfa Galedi yn erbyn meini prawf cymhwyster ac y bydd cyfarwyddiaethau yn parhau i dderbyn y costau a achoswyd o ganlyniad i effaith barhaus pandemig Covid-19. Rhoddir diweddariadau i’r Cabinet yn adroddiadau chwarterol monitro’r gyllideb refeniw.  

 

Adroddodd y Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid am y sefyllfa gyda golwg ar gynigion gostyngiadau yn y gyllideb oedd yn dod i gyfanswm o £1.760 miliwn yn 2021-22, oedd ar hyn o bryd yn dangos diffyg amcangyfrifedig yn y targed arbedion o £65 mil. Dywedodd mai’r cynnig gostyngiad mwyaf sylweddol yn y gyllideb oedd yn annhebygol o gael ei gyflawni’n llawn oedd ail-leoli’r Ganolfan Ailgylchu Gymunedol o Landudwg i’r Pîl, fyddai’n arwain at ddiwedd taliadau prydles ar y safle presennol (£60,000). Bydd y safle newydd yn y Pîl yn agor unwaith y bydd y gwaith cysylltiedig o wella’r gyffordd a’r ffordd wedi ei gwblhau; caiff y ddau safle eu cynnal nes y bydd y safle newydd yn gwbl weithredol. Ni chaiff yr arbediad ei weld yn llawn tan 2022-23. Dywedodd y bydd y Cyfarwyddwyr yn dal i weithio gyda’r staff i gyflawni eu cynigion neu ddewisiadau gwahanol ac mae hyn wedi ei adlewyrchu yn yr alldro a ddisgwylir ar gyfer y flwyddyn. Hysbysodd hi’r Cabinet hefyd am y lefel uchel o swyddi gweigion a ddaeth i fod, oedd hefyd yn effeithio ar gyflawni gostyngiadau yn y Gyllideb.

 

Hysbysodd y Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid y Cabinet am adolygiad o’r cronfeydd wrth gefn sydd wedi eu clustnodi, lle mae’n ofynnol i’r Cyngor gynnal cronfeydd ariannol digonol wrth gefn i gwrdd ag anghenion y sefydliad. Dywedodd mai’r swm net a neilltuwyd i’r cronfeydd wrth gefn sydd wedi eu clustnodi yn ystod chwarter 2 yw £4.004 miliwn (£4.341 miliwn o ychwanegiadau sy’n cael eu gwrthbwyso gan £0.337 miliwn sydd wedi eu datod). Mae’r ychwanegiadau’n ymwneud yn bennaf â chronfa wrth gefn Cyfraniad y Rhaglen Gyfalaf a sefydlwyd er mwyn osgoi’r angen i’r Cyngor fenthyca, fyddai’n arwain yn ei dro at gostau benthyca i’r gyllideb refeniw, ac a ddefnyddir i gyllido cynlluniau o fewn y rhaglen gyfalaf, pwysau cyfalaf presennol ac yn y dyfodol hefyd. Hysbysodd y Cabinet am adroddiad diweddar gan Archwilio Cymru ar y defnydd o gronfeydd wrth gefn gan awdurdodau lleol, lle y nodir bod lefel cronfeydd wrth gefn y Cyngor yn tueddu i fod yn uwch o’i gymharu ag awdurdodau lleol eraill. Dywedodd y Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid fod yr awdurdod mewn sefyllfa dda gyda golwg ar lefel ei gronfeydd wrth gefn, a bod hynny’n ganlyniad cyllido doeth a dull gofalus o ymdrin â risgiau. 

 

Wrth ganmol yr adroddiad gwnaeth y Dirprwy Arweinydd sylwadau am yr heriau o wneud rhagolygon ariannol a bod yr awdurdod yn ddiolchgar am yr arian y mae wedi ei dderbyn o’r Gronfa Galedi. Dywedodd y bydd yr awdurdod yn symud ymlaen gyda gofal wrth gynllunio ei gyllideb.

 

Gofynnodd Aelod y Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol a oedd y swyddi gwag ymhlith staff oherwydd y tanwariant yn y gyllideb. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y lefel uchel o swyddi gwag yn destun pryder, yn enwedig yn rhai meysydd gwasanaeth lle mae nifer sylweddol o swyddi gwag a hynny’n effeithio ar y gwasanaeth a ddarperir, sy’n peri bod tanwariant yn annymunol. Dywedodd hefyd y byddai’n rhaid i’r Cyngor, lle bydd anhawster i recriwtio’n parhau, ddarparu gwasanaethau yn nhrefn blaenoriaeth a pheidio â darparu’r gwasanaethau hynny mor fuan ag o’r blaen. Hysbysodd y Cabinet fod gan y Cyngor brentisiaethau yn eu lle a chyfleoedd i raddedigion er mwyn tyfu ei staff ei hun. 

 

Hysbysodd yr Arweinydd y Cabinet fod y cyfarfod cyntaf ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru ac arweinwyr awdurdodau lleol yng Nghymru wedi cael ei gynnal yn ddiweddar, lle roedd trafodaethau wedi canolbwyntio ar y newid yn yr hinsawdd a’r angen i ddod o hyd i ddatrysiad cyllido cynaliadwy yn y tymor hir ar gyfer gofal cymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD: 

Bod y Cabinet yn nodi’r sefyllfa refeniw a ragwelir ar gyfer 2021-22.           

Dogfennau ategol: