Agenda item

Diweddariad ar y Rhaglen Gyfalaf Chwarter 2, 2021-22

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid  adroddiad i gydymffurfio â gofyniad Cod Darbodus Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol; rhoddodd ddiweddariad ar y sefyllfa gyfalaf ar gyfer 2021-22 fel ar 30 Medi 2021; gofynnodd am gytundeb i gyflwyno adroddiad i’r Cyngor am ei gymeradwyaeth i raglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2021-22 i 2030-31 ac i nodi’r Dangosyddion Darbodus ac eraill a ragamcennir ar gyfer 2021-22.

 

Adroddodd y Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid ar ddiweddariad i raglen gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2021-22 ers i’r gyllideb gael ei chymeradwyo ddiwethaf gan y Cyngor, oedd yn ymgorffori unrhyw gynlluniau newydd a grantiau a gafodd eu cymeradwyo. Roedd y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2021-22 ar hyn o bryd yn rhoi cyfanswm o £76.600 miliwn, ac mae £54.378 miliwn o hyn yn dod o adnoddau’r Cyngor ei hun,

gan gynnwys derbyniadau cyfalaf, cyfraniadau refeniw o gronfeydd wrth gefn sydd wedi eu clustnodi ac o fenthyciadau, gan gynnwys y Grant Cyfalaf Cyffredinol. Fe wnaeth y Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid dynnu sylw at y sefyllfa fesul Cyfarwyddiaeth.  Rhoddodd grynodeb o’r rhagdybiaethau cyllido cyfredol ar gyfer y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2020-21 a dywedodd fod adnoddau cyfalaf yn cael eu rheoli er mwyn sicrhau bod y budd ariannol mwyaf yn deillio i’r Cyngor, a all gynnwys ailalinio cyllid i gynyddu grantiau’r llywodraeth. 

 

Rhoddodd y Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid fanylion ynghylch y cynlluniau a nodwyd y byddai arnynt angen gweld y gyllideb yn llithro i flynyddoedd i ddod, sy’n gyfanswm o £12.826 miliwn. Dywedodd fod nifer o gynlluniau oedd yn cael eu cyllido’n allanol, oedd wedi cael eu cymeradwyo, ynghyd â chynlluniau oedd yn cael eu cyllido’n fewnol, wedi cael eu hymgorffori yn y rhaglen gyfalaf, oedd yn cynnwys: 

 

  • Cronfa Teithio Llesol
  • Ail-leoli Coleg Pen-y-bont ar Ogwr
  • Canolbwynt Cymunedol Ysgol Gynradd Abercedin
  • Maes Chwaraeon Amlddefnydd Ysgol Gyfun Brynteg
  • Gwelliannau i Hygyrchedd a Diogelwch ar y Ffyrdd
  • Gweithiau bychain
  • Pentref Iechyd a Lles.
  • Neuadd y Dref Maesteg - To Deheuol yr Anecs; Llygredd yn y Tir a’r Nenbontydd
  • Prosiect WiFi Camerâu Cylch Cyfyng

 

Adroddodd y Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid hefyd ar fonitro Dangosyddion Darbodus ac eraill ar gyfer 2021-22 i 2023-24 ynghyd â rhai dangosyddion lleol. Bwriad y Strategaeth Gyfalaf yw rhoi trosolwg ar y ffordd y mae gwariant cyfalaf, cyllido cyfalaf a rheolaeth y trysorlys yn cyfrannu’n weithredol i ddarparu gwasanaethau yn ogystal â throsolwg ar y ffordd y mae’r risgiau cysylltiedig yn cael eu rheoli a’r goblygiadau ar gyfer cynaladwyedd yn y blynyddoedd i ddod. Roedd nifer o ddangosyddion darbodus wedi eu cynnwys, a’u cymeradwyo gan y Cyngor. Yn unol â gofynion y Cod Darbodus, mae’n ofynnol i’r Prif Swyddog Cyllid sefydlu gweithdrefnau ar gyfer monitro perfformiad yn erbyn yr holl ddangosyddion darbodus sy’n edrych i’r dyfodol a’r gofyniad penodedig. Rhoddodd fanylion y dangosyddion gwirioneddol ar gyfer 2020-21, y dangosyddion amcangyfrifedig ar gyfer 2021-22 a nodwyd yn Strategaeth Gyfalaf y Cyngor a’r dangosyddion rhagamcanol ar gyfer 2021-22, yn seiliedig ar y Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig, oedd yn dangos bod y Cyngor yn gweithredu yn unol â’r terfynau a gymeradwywyd.

 

Adroddodd y Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Strategaeth Gyfalaf hefyd yn galw am fonitro buddsoddiadau nad ydynt yn cael eu rheoli gan y trysorlys a rhwymedigaethau tymor hir eraill.  Dywedodd fod gan y Cyngor bortffolio buddsoddiadau presennol sydd wedi ei seilio 100% o fewn y Fwrdeistref Sirol ac yn bennaf yn sectorau swyddfeydd a diwydiant. Mae’r ffrydiau incwm wedi eu taenu rhwng y buddsoddiadau swyddfeydd sengl ac aml-osod ar Barc Gwyddoniaeth Pen-y-bont ar Ogwr, yr ystadau diwydiannol aml-osod a’r buddsoddiadau rhent tir rhydd-ddaliadol. Roedd cyfanswm gwerth yr Eiddo Buddsoddi yn £5.090 miliwn ar 31 Mawrth 2021. Hysbysodd y Cyngor fod ganddo nifer o Rwymedigaethau Tymor Hir Eraill oedd wedi eu cynnwys yn y Strategaeth Gyfalaf.

 

Wrth gymeradwyo’r diweddariad i’r rhaglen gyfalaf dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod y rhaglen yn cynnwys pob agwedd ar wasanaethau’r Cyngor a’i fod ef yn frwdfrydig ynghylch Prosiect WiFi Camerâu Cylch Cyfyng, fydd yn gymorth i greu economi ddigidol fywiog. Roedd Aelod y Cabinet dros Gymunedau yn falch i weld cyllid ar gyfer gwelliannau i hygyrchedd a diogelwch ar y ffordd oedd i gael eu gwneud o Broadlands i Gaeau Newbridge. Roedd yr Arweinydd hefyd yn falch o’r cyllid yn y rhaglen gyfalaf i greu Ysgol Gynradd Abercedin fydd yn canolbwyntio ar y gymuned a maes chwaraeon aml-ddefnydd newydd i gynnwys llifoleuadau yn Ysgol Gyfun Brynteg.

 

PENDERFYNWYD: 

Bod y Cabinet:

·      yn nodi diweddariad Chwarter 2 i Raglen Gyfalaf y Cyngor 2021-22 hyd 30 Medi 2021 (Atodiad A)

·      yn cytuno bod y Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig a gytunwyd (Atodiad B) i gael ei chyflwyno i’r Cyngor am ei gymeradwyaeth

yn nodi’r Dangosyddion Darbodus ac Eraill a ragwelir ar gyfer 2021-22 (Atodiad C).          

Dogfennau ategol: