Agenda item

Adroddiad Hanner Blwyddyn Rheolaeth y Trysorlys 2021-22

Cofnodion:

Adroddodd y Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid gan gydymffurfio â gofyniad ‘Cod Ymarfer Rheoli’r Trysorlys yn y Gwasanaethau Cyhoeddus’ Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth: i gynhyrchu Adroddiadau Rheoli’r Trysorlys dros dro a Dangosyddion Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2021-22.   

 

Esboniodd y Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid mai Rheoli’r Trysorlys yw rheoli llifau arian y Cyngor, benthyciadau a buddsoddiadau, a’r risgiau cysylltiedig. Caiff rheoli'r Trysorlys yn y Cyngor ei gynnal o fewn fframwaith Rheoli’r Trysorlys yn y Gwasanaethau Cyhoeddus Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth: Cod Ymarfer Argraffiad 2017 (Cod CIPFA) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Rheoli Trysorlys (SRhT) cyn dechrau pob blwyddyn ariannol. Mae Cod CIPFA hefyd yn gofyn i’r Cyngor osod nifer o Ddangosyddion Rheoli’r Trysorlys, sef paramedrau sy’n edrych tua’r dyfodol ac yn galluogi’r Cyngor i fesur a rheoli i ba raddau mae’n agored i risgiau rheoli’r trysorlys, ac mae’r rhain wedi eu cynnwys drwy’r adroddiad hwn i gyd. At hynny, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru (LlC) Ganllawiau diwygiedig ar Fuddsoddiadau Awdurdodau Lleol ym mis Tachwedd 2019 sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Fuddsoddi cyn dechrau pob blwyddyn ariannol. Mae Strategaeth Gyfalaf y Cyngor 2021-22, gan gydymffurfio â gofynion CIPFA, yn cynnwys y Dangosyddion Darbodus, oedd wedi eu cynnwys yn y SRhT mewn blynyddoedd cynt, ynghyd â manylion ynghylch buddsoddiadau’r Cyngor y tu allan i’r trysorlys. Dylid darllen y Strategaeth Gyfalaf a’r SRhT ochr yn ochr am eu bod wedi eu rhyng-gysylltu gan fod cynlluniau cyfalaf yn effeithio’n uniongyrchol ar fenthyca a buddsoddiadau a’u bod wedi eu cymeradwyo gyda’i gilydd gan y Cyngor ar 24 Chwefror 2021. Cynghorwyr rheoli’r trysorlys yw Arlingclose. 

 

Adroddodd y Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Cyngor wedi cydymffurfio â’r gofynion deddfwriaethol a rheoliadol yn ystod hanner cyntaf 2021-22, gyda’r SRhT am 2021-22 wedi ei chymeradwyo gan y Cyngor ar 24 Chwefror 2021, a’r adroddiad Hanner Blwyddyn yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor ar 20 Hydref 2021. Cyflwynodd grynodeb o'r gweithgareddau rheoli trysorlys ar gyfer hanner cyntaf 2021-22 a hysbysodd y Cabinet fod gan y Cyngor arian dros ben ar gyfer buddsoddi. Balans y buddsoddiadau ar 30 Medi 2021 oedd £79.84 miliwn gyda chyfradd llog o 0.06% ar gyfartaledd, sy'n ostyngiad sylweddol o'r un amser y llynedd pan oedd y gyfradd gyfartalog yn 0.24%, oedd yn dangos effaith y gostyngiadau mewn cyfraddau llog o ganlyniad i'r pandemig. 

 

Hysbysodd y Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid y Cabinet nad oedd y Cyngor wedi cymryd benthyciad tymor hir ers mis Mawrth 2012. Rhagwelid y byddai angen i'r Cyngor fenthyca £30.37 miliwn yn ystod y flwyddyn, gan ragdybio y byddai gan y Cyngor £43 miliwn mewn cronfeydd defnyddiadwy wrth gefn y gallai eu defnyddio yn y tymor byr i ariannu gwariant. Dywedodd fod cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy y Cyngor ar 31 Mawrth 2021 yn £114 miliwn, cynnydd o’r £83 miliwn ar 31 Mawrth 2020, nad oedd wedi ei ragweld pan gymeradwywyd y SRhT. Derbyniodd y Cyngor £20.6 miliwn o Gronfa Caledi Llywodraeth Cymru, oedd yn fwy nag a ragwelwyd yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â grantiau ychwanegol pellach o £8.9 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn chwarter olaf 2020-21 a derbyniadau cyfalaf o £2.9 miliwn yn ystod y flwyddyn, fel yr adroddwyd wrth y Cyngor yn adroddiad Alldro Cyllideb Refeniw 2020-21 ar 23 Mehefin 2021. Hysbysodd hi’r Cabinet ei bod yn bwysig nodi, er bod defnyddio cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy yn lle cael benthyciad newydd yn ddarbodus, mai sefyllfa dymor byr ydoedd ac, wrth i’r cronfeydd wrth gefn gael eu defnyddio ar gyfer prosiectau penodol, y byddai'n dod yn angenrheidiol benthyca yn y dyfodol i ariannu gwariant Cyfalaf. Y disgwyliad oedd na fyddai angen benthyciad newydd tymor hir yn 2021-22.

 

Hysbysodd y Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid y Cabinet mai prif amcan rheoli ei ddyled yw sicrhau ei bod yn fforddiadwy yn y tymor hir. Dywedodd, yn dilyn cynnydd yn nifer yr awdurdodau lleol oedd yn cymryd benthyciadau gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus (PWLB) i brynu eiddo masnachol er mwyn elw, ac yn dilyn ymgynghoriad gan lywodraeth y DU, bod Trysorlys EM wedi cyhoeddi telerau benthyca diwygiedig ar gyfer benthyca PWLB gan awdurdodau lleol ym mis Tachwedd 2020. Fel amod o ddefnyddio'r PWLB, gofynnir i awdurdodau lleol gadarnhau nad oes bwriad i brynu asedau buddsoddi yn bennaf ar gyfer elw yn y ddwy flynedd ariannol gyfredol neu'r ddwy flynedd ariannol nesaf. Dywedodd y bydd yn ofynnol iddi hi fel Swyddog Adran 151 ardystio bod y cynlluniau gwariant cyfalaf yn gyfredol a bod y cynlluniau o fewn defnydd derbyniol o'r PWLB. Nid oedd hyn ynddo'i hun yn atal y Cyngor rhag buddsoddi mewn gweithgareddau masnachol, byddai buddsoddi mewn asedau er mwyn elw yn atal y Cyngor rhag cael mynediad at fenthyca PWLB. Dywedodd, o ystyried y gofyniad i fuddsoddi a benthyca i gefnogi'r Rhaglen Gyfalaf, fod y Cyngor yn annhebygol o ystyried unrhyw fuddsoddiadau mewn asedau masnachol yn bennaf er mwyn elw. Hysbysodd y Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid y Cabinet fod Cod CIPFA a Chanllawiau LlC yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor fuddsoddi ei arian yn ddarbodus gan dalu sylw i ddiogelwch a hylifedd ei fuddsoddiadau cyn ceisio'r gyfradd uchaf o ran enillion neu elw. Dywedodd mai amcan y Cyngor wrth fuddsoddi arian yw sicrhau cydbwysedd priodol rhwng risg ac enillion, gan gydbwyso'r risg o achosi colledion o ddiffyg taliadau yn erbyn derbyn incwm buddsoddi anaddas o isel. Y prif amcanion yn ystod 2021-22 oedd cynnal diogelwch; cynnal hylifedd a sicrhau'r elw ar fuddsoddiadau sy'n gymesur â'r lefelau priodol o ddiogelwch a hylifedd.

 

PENDERFYNWYD: 

Bod y Cabinet yn nodi gweithgareddau rheoli trysorlys y Cyngor ar gyfer 2021-22 am y cyfnod o 1 Ebrill 2021 hyd 30 Medi 2021 a Dangosyddion disgwyliedig Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2021-22.

Dogfennau ategol: